Bydd di gysurus yn dy Dduw
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Bydd di gysurus yn dy Dduw, yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Bydd di gysurus yn dy Dduw,
Ti gei bob gwiw ddymuniad;
Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilys,
Fe rydd d'ewyllys atad.
Cred ynddo ef, fe'th ddwg i'r lan,
Myn allan dy gyfiawnder;
Mor oleu a'r haul ar hanner dydd,
Fel hynny bydd d' eglurder.
Fe edwyn Duw ddyddiau a gwaith
Pob rhai o berffaith helynt;
Ac yn dragywydd Duw a wnaeth
Deg etifeddiaeth iddynt.
Efe a'u ceidw hwynt i gyd,
Ni chânt ar ddrygfyd w'radwydd;
Yn amser newyn, hwy a gânt
O borthiant ddigonolrwydd.
Ystyria hefyd y gŵr pur,
Ac edrych dŷ'r cyfiawnedd;
Ti a gei weled gyfryw ddyn,
Mai 'i derfyn fydd tangnefedd.