Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Galareb Fuddugol

Oddi ar Wicidestun
Penod XXVI Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

GALAREB FUDDUGOL AR OL Y PARCH. T. RICHARD.

FEL angel yn rhodio dros fwa y cwmwl,
A'i fys yn cyfeirio yn union i'r nef,
A'i fantell fel borau o aur ar y nifwl,
A nerthoedd y nefoedd i gyd wrth ei lef:
Fel hyny y rhodiai y penaf areithydd
Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed
A roed i rychwantu y duon wybrenydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed.

Dyrchafiad ei lais oedd yn arwydd i filoedd
Annghofio eu gofid, a gado y byd,
Ei bechod, ei wae, ac ofnadwy ddyfnderoedd
Marwolaeth, eu gado o danynt i gyd.
Fel angel ymaflai yn udgorn y nefoedd,
Fel angel ehedai trwy ganol y nef,
A'r dydd Jubiliaidd gyhoeddai i filoedd,
A bywyd ei hunan oedd adsain ei lef.

Ni cheisiai ogoniant tu yma i'r nefoedd,
Na dim ond hynodrwydd ei Arglwydd, y groes:
Na ser i oleuo ei enw i'r oesoedd,
Ond ser cadwedigion casgledig ei oes.

Canfyddaf dy dystion, O Ymadawedig,
Pur dystion dy lafur yn ol ac yn mlaen;
Tu yma, tu acw i derfyn gwywedig
Marwolaeth; O gwynfa ei hun yw eu sain!
A ydwyt yn rhodio ar lanau y nefoedd,
Ar lanau y moroedd tragwyddol o hedd,
A'th fonwes yn chwyddo, gan ddysgwyl dy luoedd
I araf ddod allan o gysgod y bedd?

Fe godai iachawdwriaeth o'i ffynonau,
Gan ddwyn llaeth bywyd o'r tragwyddol fronau.
A'r elfen fawl a gaed o dano ef
Dan ddylanwadau'i areithyddiaeth gref?

Yn donau cynhyrfedig hyd y nef:
Ei ddawn a gaed yn agor fel y borau,
Ac yn y pellder wawr y gwell ororau,
Ryw gilagoriad o'r tragwyddol ddorau!
Yr oedd ei bregeth yn ei mawredd chwyddol
Yn codi ar y dyrfa annedwyddol
Fet Horeb dan gymylau'r farnol hynt,
A'i lais fel udgorn y digofaint gynt;
A chrynai miloedd dan fygythion nef,
A siglent fanau'i areithyddiaeth ef;
Euogrwydd fel daeargryn gipiai'r llu
I glyw taraniad Anfeidrol fry.
Fel angel Duw, yn uchel yn y nef,
A'i udgorn yn ei law, y galwai ef
Euogion ger ei fron, ac archai mwy
Faith adgyfodiad o'u gweithredoedd hwy:
O feddau duon amser pan y doent,
Pan am yr enaid syn yr ymgrynhoent,
Pwy allai mwy ymgynal dan y llid,
A dal ymgroniad ei bechodau 'nghyd?
Pan rhyferthwyent yn eu llawnder erchyll
O fyrdd o oriau ac adgofion tywyll,
Pan gronid bywyd mewn un awr o wae,
Pan gaed bodolaeth fel yn ymgulhau,
Hyd at ddymuniad am ddyddimiad braidd,
A'r enaid oll yn gwywo hyd y gwraidd;
O, nefol enyd, pan y dygai ef
Y groes i'r golwg, a phell lanau'r nef!
Ei ffurf ymgodai fel i herio'r bedd,
Ac edrych drosto gyda thawel hedd,
A gwên o fuddugoliaeth ar ei wedd.
Fel toriad bywyd oedd ei floedd yn awr,
Na chollid fyth ond ar fôr-floedd y dyrfa fawr,
Pan na chaed dyben i fodolaeth mwy,
Ond moli, moli byth yr Oen a'u prynodd hwy.

O, llawer gwaith adseiniai'r wlad a'r dref
I rymus floedd ei alwedigaeth ef.
Yr oedd y creigiau ar y bryniau pell
Yn adsain oll i'r gwahoddiadau gwell,
A'u hadsain yn dychwelyd ar y llu
Fel galwad arall, galwad natur gu.

Llifddorau teimlad filoedd gaed yn awr
Yn cydymollwng dan y llawnder mawr.
Y llawnder o orfoledd yn ei ran,
A wnai i'r enaid dori dros bob glan,
Pob caer o ddefod ac o ffurfiol foes,
Yn ngolwg llawn y ddyrchafedig groes.
Rhy fychan yr addoldy danat ti !
Fe lanwyd llawer wybren, llawer llu
A'i llanwodd â'u haddoliad, pan y caed
Y maes yn symud-symud dan eu traed.

Fy nhadau! ardderchocaf weision Duw!
Eu cofio yn eu beddau, hyfryd yw.
Ser boreu y diwygiad unwaith fu
Yn ysgwyd Cymru o afaelion du
Marwolaeth annherfynol, ac yn dwyn
Ar fil o fryniau wawr efengyl fwyn.
Fel engyl Duw ehedech trwy y wlad,
Ac yn eich llaw allweddau y rhyddhad,
A'r oll a geisiai dyn, a goleu'r nef
Yn llifo ar eich ol. Llangeitho gref,
A Morris y taranau, wisgai'r wawr
A'r nefoedd am ei weinidogaeth fawr!
Gwregysid hwy â gallu fel â gwisg,
A'u nerth aruthrol waradwyddai ddysg.
Rhyfelwyr cedyrn oeddent, ond ni chaed
Fyth ar eu hol ond arwydd dwyfol waed,
A gwywedigion filoedd yn codi ar eu traed.
Symudai'r nef fel awyr gyda hwy,
A'r dylanwadau uwch y miloedd mwy.
Rhoed Horeb a Chalfaria yn yr un
Waredol gadwyn, a ffordd fawr i ddyn
Ar hyd-ddynt hyd orseddfainc Ior ei hun.
Elias, yr anfarwol, O tydi
Y crogai Cymru ar dy amnaid gu,
Fel colfen yn y nef, dan ddwyfol wlith,
Yn barod i lesgâu neu chwyfo byth.
Yr oeddych chwi yn santaidd fel y ser
Goruwch y byd, anwylaf dystion Ner!
Ni allai'r annuw edrych ar eich gwedd,
Heb gofio Duw, ac ymbil am ei hedd.

Ofnadwy oedd eich enwau ar bob rhyw,
Fel tywysogion a rhyfelwyr Duw.
Gorphwysa dithau'n dawel gyda hwy,
A dos i mewn, i mewn i'w gwleddoedd mwy.
I mewn ac allan rodiaist yn eu plith,
Y cydlafurwr llon, y brawd heb rith!
Pan oedd yr eglwys yn oleuni'r byd,
Fel llu banerog o ofnadwy bryd,
Pan weddnewidid wyneb Cymru oll,
Pan elai'r cwbl ond enaid dyn i goll.
O, pan helaethai purdeb hon o hyd,
Pob dydd yn ddydd o farn ger bron y byd,
A'r annuwiolion eisoes oll yn fud,
Yr oeddit ti yn mhlith y blaenaf gaed
Yn arwain lluoedd y pryniawdol waed.

Ar uchel fryn ei areithyddiaeth ffraeth
Llywyddai holl weddnewidiadau iaith;
A gwasanaethai geiriau arno fyth,
Fel lliwiau'r nefoedd ar y boreu wlith,
Neu'i hamryliwiau ar yr enfys gain;
A dygai yr un meddwl mawr o'n blaen
Olynol drefn, yn holl arwisgoedd iaith,
Fel angel gweddnewidiol ar ei daith,
Nes rhoed i anwybodaeth bwl ei hun
Ei ganfod ar ryw dro, ar ryw ddychweliad cun.

Yr oedd ei areithyddiaeth fyth fel môr,
Na chyfaddefai derfyn, glan, na dor,
Nac ynys seibiol ar ei lif, na dim
Ond dyfnder, dyfnder, a diderfyn rym.
Dylifai'i ddawn dan ysbrydoliaeth hedd,
Fel afon o lydanol wyrddol wedd,
A golygfeydd newyddion ar bob tro,
Ryw gerub-fryn, ryw baradwysaidd fro.
Pwy amlach ei fyfyrion! eto, pwy
Allasai, fel efe, eu hebgor hwy,
A byw ar ysbrydoliaeth yr eiliadau,
Ac arwain amser wrth ei darawiadau ?
Ni wyddai ei eangder fwy na'r nef,
Na'i gyflawn aden fwy na'r awel gref.

Caed bythol wanwyn ar ei enaid mawr,
Ryw ymagoriad newydd ar bob awr;
Ni ddygodd bywyd auaf yn ei gol,
A allai yru ffrwd o'i ddawn yn ol,
Na pheri sychiad ar ffynonau hon,
Nes sychodd ffynon bywyd dan ei fron.
—ISLWYN.








J. ROSSER, ARGRAFFYDD, HEOL HEATHFIELD, ABERTAWY.

Nodiadau

[golygu]