Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod II

Oddi ar Wicidestun
Penod I Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Penod III

PENOD II.
Dychweliad Mr. Richard at grefydd.

Y MAE yn dyfod yn helynt bwysig yn awr am grefydd, a mater bywyd tragywyddol; a pha le, tebygech, y mae yn troi am gyfarwyddyd? Ah, at ei anwyl fam; y fam hono fu yn ymdrechu ei gael i'r odfaon, yr hon a wylodd allan ei chalon dyner, ac yntau yn galed a dideimlad; yr hon a ymbilodd mewn gweddi ar Dduw drosto, ac yntau yn "ymladd fel dylluan," fel y dywed, gan ymosod yn erbyn ei chymhellion tyner. Eithr pan ddaeth yn deimlad ofnadwy am gyflwr, pan y gwelodd ei fod yn sefyll mewn peryglon tragywyddol, pan agorodd uffern ei safn yn anferth, a phan edrychwyd yn ei wyneb gan Farnwr y byd, dacw ef yn gostwng ei ben. yn cuddio ei wyneb â'i ddwylaw, ac yn rhedeg am gyfarwyddyd at fynwes mam dyner. Y mae yn debyg, o herwydd gwylltineb ac anufudd-dod, ei fod wedi tynu gwg ei dad, a bod ei dad wedi myned i gadw draw oddiwrtho, gan ymddwyn tuag ato yn hytrach yn sarug; felly yr oedd yn teimlo yn bur yswilgar ac ofnus i nesu at ei dad. Ond ei fam, pan oedd yn nghanol ei wylltineb mwyaf, ni chadwai draw oddiwrtho; eithr tynai ei ben ati, a gwasgai yn ei mynwes gynes; a chan chwareu a'i wallt a'i llaw, dywedai a chalon dyner a llygaid yn llawn o ddagrau, "Tommy bach, paham y byddwch yn fachgen drwg?" Pan y daeth yn galed arno, gan hyny, pan y daliwyd ac y rhwymwyd ef å chadwynau newyddion, ac yntau yn ceisio ymysgwyd, ac heb wybod pa beth i wneyd, gwyddai fod mynwes gynes a groesaw calon iddo mewn mam dyner; ac yno y mae yn troi i geisio nodded. "Llawenydd mwy na hwn" nis gallasai hithau byth gael tu yma i'r nefoedd, sef gweled fod ei mab cyndyn ac anufudd yn ymgais am rodio yn y gwirionedd. Dyma yr had ag y bu er ys ychydig yn ol yn ei hau mewn dagrau, nid yn unig yn dechreu tyfu, eithr yn dechreu addfedu, a hithau yn cychwyn ar "fedi mewn gorfoledd." Pan yr ydych yn hau had gwerthfawr yn meddyliau y plant, ni wyddoch pa mor gynted y rhydd Duw yr anrhydedd i chwi ddychwelyd ar hyd y grynau yna, i gasglu ysgubau y ffrwyth toreithiog.

Rhaid i ni eto droi i'r dyddlyfr, gan adael iddo ef ddyweyd yr hanes yn ei ffordd ei hun. "Pan yn bedair ar ddeg oed y dechreuwyd sobri fy meddwl, nes gorfod arnaf amlygu hyny i fy mam, er nas gwyddai neb; ac yr oeddwn am le yn mhlith y brodyr. Ond nis gwyddwn pa fodd i'w amlygu i'm tad, am fy mod yn ofni ei anfoddlonrwydd oblegyd fy nrygioni." Y mae yr ychydig eiriau yna yn dyweyd llawer. Gellir casglu yn naturiol nad oedd ryw lawer o gymdeithas gariadus rhwng y tad a'r mab, ac nid oedd yn ddichonadwy iddi fod ar y tir ag yr oedd Tommy wedi bod yn rhodio hyd yn hyn. Eithr pan hysbysodd y fam i'r tad y teimlad newydd hwn, a bod y bachgen mewn tywydd garw am ei gyflwr, a chwant ymwasgu at y dysgyblion, braidd y gwyddai yn mha le y safai; yr oedd yn orlawn o lawenydd; nid oedd dim gorchest i faddeu i Tommy ei holl anufudd-dod a'i ystyfnigrwydd; y mae gwawr byd newydd yn codi mewn mynyd. Yr oedd yr hen Henry Richard, y pregethwr a'r amaethwr, yr un peth yn union a thad yr afradlon yn y ddameg; yr oedd yn anmhosibl iddo fod yn debycach; yn wir, am ddim a wyddom ni, fe allai mai Henry Richard oedd hwnw; canys mor gynted ag y gwelodd ei dad y teimlad hwn, dyma fe yn maddeu y cwbl iddo mewn moment, yn rhedeg i'w gusanu, yn foddlon iddo gael y peth goreu oedd yn ei feddiant, "y wisg oreu;" ac er ei fod wedi cilio oddiwrtho mewn mesur, y mae yn ail adnewyddu y gyfeillachyn gwneyd cyfamod newydd, ac yn rhoi y fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; lladdwyd y llo pasgedig, a dechreuwyd bod yn llawen. Ai nid Henry Richard oedd y tad yn y ddameg, wys? Y maent yr un peth yn eu teimladau yn union, bid a fyno. Beth bynag, yr oedd yn ddigon naturiol i'r tad a'r fam lawenychu yn nghyd, gan eu bod o'r un teimladau crefyddol wrth weled cyfnewidiad yn cymeryd lle yn y bachgen gwyllt; nid yw hyn ond y peth y gallesid ddysgwyl.

Ar foreu y gyfeillach neillduol, neu y society, fel y gelwid y cyfarfod, gwelwn Henry Richard ac Hannah ei wraig yn ymddyddan å Tommy bach, ac yn ei galonogi a'i gysuro, ac yn rhoddi pob cyfarwyddiadau angenrheidiol iddo i fyned yn y blaen. Y bachgen yntau nid yw yn dyweyd yr un gair, canys y galon sydd fel yn chwyddo yn y fynwes, yn myned yn rhy fawr, fel y gellid meddwl ei bod yn codi i'r gwddf, a bron yn ei dagu, a'r llygaid yn methu gweled yn glir gan ddagrau. Y tad a'r fam anwyl ydynt yn sefyll uwch ei ben, yn cydymdeimlo, ac yn fynych yn cydwylo, gan geisio yn mhob rhyw fodd ei gysuro, a'i arwain allan o'i ofnau a'i ddyryswch, trwy ddangos Crist wedi marw dros bechaduriaid, a bod maddeuant i'r pechaduriaid penaf trwy ei waed. Y maent oll yn ymostwng ar eu gliniau ger bron Duw, ac y mae Henry Richard yn cyfarch yr orsedd, ac yn cario Tommy yn neillduol yn mreichiau ei weddiau at "waed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Wedi hyn, yn gymaint a bod amser y cwrdd eglwysig yn agosâu, dacw Hannah ei fam yn ei gymeryd yn ei llaw, gan ddywedyd, "Tyr'd gyda mi, i gael ymolch dy wyneb, Tommy bach, ac i rói siaced arall am danat i gael myned i'r cwrdd." Yn llonydd a marwaidd y gwelir ef yn awr yn dylyn ei fam, i'w barotoi i fyned i'r cyfarfod; nid gwaeddi ac ysgrechian ar wastad ei gefn, yn ei gwrthwynebu fel cynt; na, gwelir cyfnewidiad mawr ynddo heddyw; beth bynag ydyw, amser yn unig a ddywed. Wedi ei ymolch a rhoi rhyw beth yn ei gylch, dacw Hannah anwyl yn ymaflyd yn ei law, gan ei ddwyn ef gyda hi, "fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo yno byth." Tra yr ydym yn myned yn y blaen, cedwch eich golwg ar y bachgen, canys y "bachgen yw tad y dyn." Peidiwch a meddwl, os gellwch, am y Parchedig Thomas Richard, Abergwaen, eithr am Tommy bach yn myned yn llaw Hannah ei fam i dŷ yr Arglwydd, a'i galon dyner yn rhy friwedig i'w chyffwrdd. Peidiwch a meddwl am hyawdledd Mr. Richard, fel y clywsoch ef yn Nghymanfaoedd Cymru; eithr edrychwch am dipyn bach ar y bachgen Tommy yn fud o flaen hen flaenoriaid eglwys Trefin, mewn ofn a braw yn methu dyweyd dim. Edrychwch yn weddol fanol ar y bachgen cyn dyfod at y dyn; fe allai y byddwch yn alluog i adnabod y dyn yn well o hyny. Yr oedd cysylltiad agos, fel y gwyddoch, rhwng y "bachgen Samuel" a'r prophwyd Samuel. Yr oedd y prophwyd Samuel yn adnabyddus "o Dan i Beerseba," mai "prophwyd ffyddlon i'r Arglwydd ydoedd;" eithr ychydig iawn o'r holl werin hyny wyddai nemawr am y bachgen Samuel, am yr hwn y gweddiodd Hannah, yr hwn a ddygwyd ganddi i fyny i dŷ yr Arglwydd yn Siloh, gyda thri bustach, un epha o beilliaid, a chostrelaid o win, yn offrymau. Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu yr Arglwydd ger bron Eli, cyn bod y prophwyd Samuel yn adnabyddus o Dan i Beerseba. Cyn bod Cymru, o Gaerdydd i Gaergybi, yn adnabod y Parch. Thomas Richard, yr oedd iddo fywyd annghyhoedd mewn cysylltiad a thad a mam dduwiol; ac y mae perthynas agos rhwng Tommy yn myned yn llaw Hannah ei fam i'w gyflwyno i eglwys Trefin, â'r Parch. Thomas Richard, Abergwaen, a adnabyddwyd wedi hyny fel prif bregethwr Cymru. Ond dyna, gadawn bob peth yn llonydd, nes y byddont yn dyfod i'n golwg yn naturiol, canys y mae ffrwyth anaddfed yn gyffredin yn afiachus.

Y mae y bachgen yn myned i'r society, ac yno yn sefyll yn fud, heb allu dyweyd un gair. Y dyn welwyd wedi hyny heb ddiwedd ar ei ffraethineb yn manau mwyaf cyhoeddus Cymru, sydd yn awr yn methu gan deimlad a thywyllwch ag agor ei enau. "Pwy a ddiystyra ddydd y pethau bychain?" Gellid meddwl fod digon o brofion bellach mewn hanesyddiaeth fod pethau bychain yn cynwys ynddynt hadau pethau mawrion, ac y dylai hyny fod yn ddigon o reswm i beidio eu diystyru. Pwy yn y byd fuasai yn meddwl y diwrnod yr oedd Tommy yn myned yn llaw Hannah i dŷ yr Arglwydd, y diwrnod yr oedd yn sefyll yn fud o flaen y rhai oedd yn ei holi, yn methu gwneyd dim ond wylo, mai hwnw fyddai y Parchedig Thomas Richard, Abergwaen? Mor ychydig yr ydym yn ei wybod; "na fernwch ddim cyn yr amser," ac na chymerwch arnoch eich bod yn brophwydi, rhag eich cael yn gelwyddog. Y mae yn bosibl y byddai yn ddewisol gan ein darllenwyr i roi ychydig o'i eiriau ef ei hun ar y mater hwn, canys yr ydym yn bwriadu iddo gael dyweyd drosto ei hun gymaint ag sydd yn bosibl yn y Gwaith hwn. "Aethum i'r cyfarfod; a phan dechreuwyd fy holi, yn ol trefn y Corph, nid oedd genyf ond ychydig iawn i ateb gan fy ofn, canys yr. oedd hi i mi fel lladdfa; felly y treuliais lawer o fy amser mewn tywyllwch ac anwybodaeth dan amrywiol fath ar dywydd." "Yr oedd i mi fel lladdfa." Ystyriwch y frawddeg yna yn fanol; y mae rhyw beth ynddi, ac fe ddaw rhyw beth mawr o honi, chwi gewch weled. "Yr oedd i mi fel lladdfa." Ië, lladdfa oedd hi hefyd; ac nid oes nemawr o ddaioni yn nghrefydd neb os na ddechreuodd mewn lladdfa. Mewn lladdfa y mae egin byw byth yn ymwreiddio; mewn lladdfa y bydd gwraidd defnyddioldeb mawr yn ymledu; mewn lladdfa y gwelir cydymdeimlad crefyddol yn cael bod; ac mewn lladdfa y gwelir datguddiad o ddiangfa yn dyfod i'r golwg. Dynion cyfain, hunanol, penuchel, hunan-ddoethion yw y dynion sydd heb fod yn y lladdfa, yn siarad llawer, ac yn gallu gwneyd dim. Pan y dygir dyn i'r lladdfa, daw i ddeall rhyw beth wedi hyny, a bydd yn debyg o fod â rhyw beth i ddyweyd wrth bechaduriaid. Mawr y cyfnewidiad oedd yn Saul yr erlidiwr wedi bod yn y lladdfa ar y ffordd i Damascus. Yr oedd yn dyfod allan o honi yn ddyn arall; lladdwyd Saul yr erlidiwr, a chladdwyd ef am byth; ni chlywyd son am dano mwyach; a daeth Paul yr apostol yn fyw i fyny o'r llwch. Daeth y gorchymyn, fe adfywiodd pechod, ac yntau a fu farw; fe fu yn y lladdfa; a dyma y rheswm ei fod yn gallu dyweyd cystal wrth eraill am yr amgylchiad mewn amser dyfodol. Nid oes neb all ddweyd gystal am wahanol leoedd a'r sawl fu yno, nac am amgylchiadau fel y sawl fu ynddynt. Ni a welwn fod crefydd Tommy yn dechreu yn dda; nid ychwanegu at yr hen fywyd, neu adeiladu ar yr hen sylfaen, ydyw; ond yn lladd pob bywyd blaenorol, ac yn rhoi bywyd newydd, calon newydd, anian newydd; a malurio yr hen sylfaen yn llwch, ac yn gosod sylfaen newydd, gan adeiladu pob peth o'r newydd ar y sylfaen hyny. Nid oes dim hen ddefnyddiau i fod yn yr adeilad newydd, canys dinystrir yr hen yn hollol, fel na fydd maen ar faen a'r nis datodir, a chodir y newydd ar sail ac o ddefnyddiau newyddion. Y grefydd sydd yn dechreu mewn lladdfa, sydd yn sicr yn y diwedd o ddybenu mewn bywyd.

Yr ydym yn gweled, wrth ddarllen yn y blaen yn y dyddlyfr, mai o laddfa i laddfa y bu am dymhor maith. Er iddo fyned at grefydd, a chael pob tynerwch oddiar ddwyław y cyfeillion crefyddol, ni ddarfu iddo dawelu, eithr yn hytrach myned waethwaeth. Y mae yn rhyfedd gweled bachgen pedair ar ddeg oed yn myned trwy gymaint o dywydd meddwl; ond pan edrychwn ar amcan y Brenin mawr, yr hyn a ddaeth i'r golwg yn amlwg wedi hyny, esbonia yr holl ddirgelwch ar unwaith. Yr ydoedd yn cael ei ddarparu gan law Duw ei hun, yn llestr cymhwys i ddal gweinidogaeth yr efengyl, a'i phregethu i'w gydwladwyr. Yr oedd y goruchwyliaethau dwyfol y dygwyd ef drwyddynt yn ei gaboli, ac yn ei harddu a'i brydferthu erbyn amser dyfodol. Ni fuasech byth yn gweled ac yn clywed y Parch. T. Richard, Abergwaen, oni buasai fod Tommy wedi bod yn y lladdfa; ac o laddfa i laddfa am hir amser hefyd. Y brofedigaeth gyntaf a ymosododd yn ddirfawr ar ei feddwl wedi dyfod at grefydd, oedd ofni nad oedd wedi ei ethol. Yr oedd hyn yn gwasgu ei enaid i lawr, nes ymylu anobaith; a digon tebyg hefyd fod y gelyn yn gwneyd y defnydd goreu o'r amgylchiad i'w demtio i ddigalondid, neu ei ddyrysu a'i wneyd yn ddiddefnydd. Gadewir iddo ddyweyd eto drosto ei hun:—"Bum yn ofni na'm hetholwyd; ond oddiwrth hyn fe'm gollyngwyd trwy y gair hwn a'r cyffelyb: Ioan vi. 37, 'Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi a ddaw ataf fi; a'r hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Yr oedd y bachgen yn dechreu adnabod ei lais ef eisoes, ac yn teimlo pan lefarai Duw fod ei holl gadwynau yn myned yn rhyddion. Yr ydym yn cael yn fuan wedi iddo gael ei ryddhau o brofedigaeth yr ethol, ei fod yn cyfarfod ag un arall, yr hon fu yn danllyd iawn, ac a lynodd yn ei feddwl yn hir. Yn y lladdfa yr oedd y llanc; yr oedd y gyllell yn ei wddf, a byddai yn ei theimlo yn tori yn awehus yn aml; a thori a wnaeth, nes gollwng yr holl hen waed allan yn llwyr. Y brofedigaeth y cyfeiriasom ati oedd, iddo yn fuan syrthio i ofn dirfawr fod ei bechodau yn anfaddeuol. Bu mewn tywydd garw a helbul nid bychan yn nghylch y mater hwn; yr oedd wedi gwasgu cymaint ar ei feddwl, fel yr oedd wedi ei annghymhwyso at bob peth y bywyd hwn dros dro. Yr oedd y cyfnod hwn eto o'i fywyd yn rhyw gymhwysder erbyn amser i ddyfod i drin profedigaethau y saint, a chymhwyso y feddyginiaeth briodol atynt. Pwy allasai drin hyn o glwyf yn fedrus, ond rhyw hen "gydymaith mewn cystudd?" Byddai y pregethwr enwog wedi hyn (clywsom ef lawer gwaith) yn cymeryd y drafferth fwyaf i drin profedigaethau ac amheuon y saint, gan gymhwyso atynt dystiolaethau ac addewidion balmaidd yr efengyl, nes lloni y galarus, dyddanu y gwan eu meddwl, a pheri i dafod y mudan seinio cân yn nghanol holl brofedigaethau y byd. Byddai llawer yn rhyfeddu pa fodd yr oedd y pregethwr mawr, yr hwn a dybid ei fod yn byw uwchlaw hen wýr a hen wragedd yn y dyfnder, yn gwybod am holl helyntion mân profedigaethau a themtasiynau satan, grym llygredigaethau y galon, "a thwyll pechod." Edrychwch i'r dyddlyfr, a chewch weled ei fod "wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a chwithau;" ac fe allai yn helaethach na'r cyffredin, "fel y gallai gynorthwyo" yn ei weinidogaeth "y rhai a demtir." Bu y geiriau "ni faddeuir iddo" yn ei ddylyn yn ddidor am amseroedd, ac yn swnio yn ei feddwl fel cloch farwol bob dydd. Beth bynag a wnelai, pa un ai darllen neu weddio, myned i wrando pregeth neu i'r gymdeithas neillduol, nid gwaeth beth, yr un swn fyddai yn treiddio trwy ei feddwl o hyd, — "Ni faddeuir iddo."

Pan yn yr helbul mawr a'r tywydd garw hyn, a'r geiriau "ni faddeuir iddo" yn swnio yn ei glustiau, aeth i Dyddewi i ymweled â hen fodryb iddo, yr hon oedd yn wraig dduwiol iawn, a'r hon yn llaw Duw fu yn offerynol i'w waredu allan o'r brofedigaeth, canys dychwelodd adref wedi iachau yn ei gorph a'i ysbryd. Y mae Tyddewi, fel y gwyddoch, wedi bod yn lle enwog iawn am saint, ac y mae yn enwog eto am ddim a wyddom ni; ond yn mhlith y lleill, bydded son am yr hyn a wnaeth hon hefyd hyd ddiwedd y byd; eithr am dragywyddoldeb, y mae son yn sicr o fod yno, canys byd ydyw hwnwuwchlaw annghof. "Nid yw Duw yn annghyfiawn, fel yr annghofio eich gwaith;" na, bydd y "cyfiawn byth mewn coffadwriaeth." Wel, bydded hon yn "fendigedig yn mhlith gwragedd" tra fyddo y byd; canys gwnaeth weithred dda ar ei nai, hi a'i hachubodd ef, yn offerynol, "rhag disgyn o hono i'r clawdd." Aeth ymddyddan rhyngddo a'i fodryb am ei ofnau; ac y mae yn debyg fod yr hen Gristionoges wedi bod yn yr un blinderau yn nhir y gelyn, ac felly yn hen ddysgybles wedi ei dysgu i deyrnas Dduw, ac yn gyfarwydd ac yn fedrus i "lefaru gair yn ei bryd wrth yr enaid diffygiol." Mor dda yw gair yn ei amser. Mae fel "afalau aur mewn gwaith edau cerfiedig; megys oerder eira yn amser cynhauaf, yw cenad ffyddlon," y mae yn esmwythau, yn lloni, ac yn dadluddedu. Arweiniodd rhagluniaeth ddwyfol y llanc i'r lle iawn am feddyginiaeth, a bu hyny yn waredigaeth iddo.

Dywedir yn awr gan y doethion fod y meddygon yn lladd wrth geisio gwella lawn gymaint, os nid rhagor, nag y maent yn eu gwella. Nid oes genym nemawr i ddyweyd am y meddygon naturiol, eithr eglur yw fod y meddygon ysbrydol yn aml yn hytrach yn annghelfydd yn trin doluriau a chlwyfau ysbrydol. Yr ydym yn darllen am y diweddar Dr. Williams o Rotherham, pan yn llanc yn Nghymru yn yr ysgol gydag offeiriad, yn cael ei gymhwyso at y swydd hono, iddo syrthio mewn profedigaeth arw wrth gael ei gam—gyfarwyddo trwy anwybodaeth y person. Y mae yn ymddangos nad oedd y person wedi ei ddysgu yn fanwl i deyrnas Dduw; ac o ganlyniad ei fod yn lled annghyfarwydd i ddysgu eraill. Yr oedd rhieni y bachgen am wneyd offeiriad o hono, ac yntau yn tueddu yn hytrach ffordd arall, fel nad oedd pethau yn myned yn y blaen yn hwylus yn y byd. Ond i fod yn fyr ar hyn o beth, y mae yn debyg fod meddwl Williams ieuanc yn myned o dan gyfnewidiad mawr iawn ar y pryd; yr oedd wedi bod yn gwrando pregethau tanllyd yr Annghydffurfwyr, y rhai oedd wedi gwneyd argraff ddofn ar ei feddwl. Yr oedd pechod yn dechreu ymddangos, nid yn rhyw wendid bychan yn y ddynoliaeth, eithr mewn lliwiau mwy dychrynllyd, yn "dra phechadurus," ac yn ddamniol. Aflonyddwyd ei feddwl gymaint nes ydoedd bron yn wallgof; ac yn gymaint ag nad oedd yn canfod un ffordd o ddiangfa, dywedodd ei gwyn wrth y person parchedig. "Pw, pw," ebai hwnw, "peidiwch a meddwl am bethau fel yna; byddwch yn galonog ac yn chwareugar; beth dâl meddwl am ryw bethau fel yna? meddyliwch am ryw beth arall." Dyna gynghor person i ddyn o dan argyhoeddiad; ond nid un o'r personiaid goreu, cofiwch, oedd hwnw, eithr y gwaethaf yn hytrach. Pe baech yn cyfarfod â'r goreu, caech gyfarwyddiadau cystal ag sydd i'w cael yn y byd hwn. Ond dyna—aeth y person yn y blaen i'w gyfarwyddo i ddarllen o dan y fath helbul meddwl; cynghor da iawn oedd hwnw. Ond dyna lle y collodd yr offeiriad hi, tebygem ni,—yn lle ei gyfarwyddo i ddarllen Bibl, cynghorodd ef i ddarllen "Tale of a Tub," rhyw chwedl ddigrif o eiddo Dean Swift. Pwy fuasai yn meddwl am gynghori dyn o dan argyhoeddiad i ddarllen "Tale of a Tub," meddwch chwi? Wel, felly y bu mewn gwirionedd; nid oedd yr offeiriad hwnw yn rhyw un celfydd iawn yn nghylch teyrnas Dduw; ymddangosai yn gyfarwydd a chartrefol yn nghylch teyrnas y diafol. Yr oedd hen wraig Tyddewi yn well doctores ganwaith at ysbryd cystuddiedig nag efe; un dda oedd yr hen fenyw hon; yr oedd wedi treulio llawer o flynyddau yn y clafdy ysbrydol, ac wedi teimlo iechyd yn ei hysbryd, yn ganlyniad i'r moddion a ddefnyddid yno. Hon, yn llaw Duw, nid y pregethwr mawr, a ddefnyddiwyd i fod yn waredigaeth i'r bachgen ieuanc a thyner rhag un o brofedigaethau llymaf ei fywyd crefyddol.

Dychwelodd o Dyddewi wedi cael iechyd yn ei ysbryd, a Haul Cyfiawnder yn tywynu arno. Rhoddwn yma eto ychydig o'i eiriau ei hun ar y mater hwn; bydd yn dda gan lawer o'r saint eu clywed;—"Aethum i ofni ddarfod i mi bechu yn erbyn yr Ysbryd Glân y pechod anfaddeuol. Yn wyneb hyny deuai y geiriau hyny i fy meddwl, 'A gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod,' 1 Ioan i. 7. Yn wyneb hyn yr oedd y gair hwn eilwaith yn dyfod i'r meddwl fel taran-follt, Ni faddeuir iddo;' yr hyn a gynyrchai aeth drom. Ond fe ddygwyddodd i mi fyned i dref gerllaw y lle yr oeddwn yn byw, a elwir Tyddewi, at hen fodryb i mi, chwaer fy mam, yr hon oedd hen wraig dduwiol iawn, ac a wyddai lawer am rym crefydd, a rhyfel ysbrydol y Cristion; ond wrth ymddyddan am bethau crefydd, hi adroddodd iddi hithau gael ei churo yn nghylch y pechod anfaddeuol, yr hyn fu yn ofid mawr iddi; ond aeth i wrando un yn pregethu, ac ar ei bregeth dywedai nad oedd neb wedi ei bechu ag oedd yn ofni hyny; yna fe'm rhyddhawyd oddiwrth y brofedigaeth hono yn ail adroddiad y bregeth gan fy hen fodryb." Y fath drugaredd annhraethol iddo yn y brofedigaeth lem hon i gael ei arwain at yr hen fodryb yn Nhyddewi; gallasai gyfarfod â llawer canon yn Nhyddewi yn y dyddiau hyny fuasai yn cynyg "The Tale of a Tub," fel meddyginiaeth; canys yr oedd crefydd yn isel iawn yn y dyddiau hyny, ac hyd yn oed swyddogion eglwysig yn mhlith pob enwad yn lled dywyll, yn wahanol iawn i'r hyn yw yn bresenol. Byddai yn anhawdd i chwi gael yr un offeiriad yn awr, na phregethwr ychwaith, a gynygai i ddyn o dan argyhoeddiad dwfn y fath lyfr a hwnw. Beth bynag, ni a welwn fod goruchwyliaethau Duw yn rhyfedd, canys darperir ganddo y naill beth ar gyfer y llall; pan y mae yn clwyfo, trefnir y feddyginiaeth hefyd; ac ar gyfer pob temtasiwn y mae diangfa hefyd, fel y gellir ei dwyn. Trefnir cigfrain ar gyfer angenion Elias; a hen wraig yn Sarepta wed'yn pan y darfyddodd gweinidogaeth y rhai hyny; ac ni a welwn ddarparu o hono hen wraig yn Nhyddewi i dynu y swmbwl o gnawd ac ysbryd Tommy.

Dychwelodd adref yn ddyn arall, gan ddiolch i Dduw a chymeryd cysur, ac ymuno â'i dad i gario yn y blaen gorchwylion amaethyddol. Tybiodd y llanc, fel y bydd lianciau yn dueddol o dybied, fod y tywydd garw wedi myned heibio, y gauaf wedi diflanu, ac nad oedd dim ond blodau i fod ar y ddaear mwy. Pan yn y cadwynau gan yr ofnau o bechu yn erbyn yr Ysbryd Glân, canai yr hen benill,—

"Tebygwn pe bai 'nhraed yn rhydd
O'r blin gaethiwed hyn,
Na wnawn ond canu tra f'wyf byw
Am ras Calfaria fryn."


Dechreuodd ar ganu yn hwylus wedi iddo gael ei ollwng yn rhydd, ac yn meddwl yn y gwres hwnw na fuasai y gân yn darfod byth; eithr yn fuan y dysgodd profiad bethau eraill iddo, "fod rhwymau yn ei aros yn mhob dinas;" ac mai "trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw." Yn fuan gorfu iddo newid y gân, symud o'r gorfoleddus i'r galarus, a dywedyd,—

"Swn y frwydr, swn y frwydr
Ydyw'r man 'rwyf eto'n byw."


Wedi i brofedigaeth y pechod anfaddeuol fyned heibio, ac y daeth i gredu yn ddiysgog fod ei iachawdwriaeth yn bosibl yn wyneb yr efengyl, y mae y brofedigaeth yn cymeryd ffurf arall. Aeth i ofni, er fod ei bechodau yn faddeuadwy, ei fod heb dderbyn yn rhinweddol gyfiawnhad a maddeuant oddiwrth Dduw fel Barnwr cyfiawn; ei fod eto yn annuwiol. Bu mewn terfysg aruthrol am hir amser yn y brofedigaeth hon, yn ol ac yn y blaen, i lawr, ac weithiau ond yn anaml i fyny; ymdrybaeddu ydoedd mewn pridd tew a chlai tomlyd. Ymdrechai Henry Richard ei gyfarwyddo yn mhob dim, ac nid oedd dim yn ol yn yr anwyl Hannah i geisio ei gysuro, a chodi ei feddwl o'r dyfnder; yn fynych gwasgai ei ben at ei mynwes gan ddywedyd â dagrau," Ymgysura di, Tommy bach, 'canys trugarog iawn yw yr Arglwydd, a thosturiol." " Ni chuddiodd efe ei wyneb yn hir erioed oddiwrth y rhai ag oedd yn ei geisio; "dros brydnawn yr erys wylofain, erbyn y boreu y bydd gorfoledd." Fel hyn y byddai yr hen bobl yn ymdrechu yn mhob modd i'w gysuro yn ei brofedigaethau, canys yr oeddent yn ei weled ef mewn tywydd garw iawn, yn mhell y tu hwnt i'r cyffredin; ac ofnent yn aml y suddai o dan ei brofedigaethau i afiechyd ac angau.

Gadewch i ni ei glywed ef ei hun yn dyweyd gair neu ddau ar hyn, canys gwyddom fod ein darllenwyr yn teimlo groesaw calon iddo siarad drosto ei hun bob amser:—"Bryd arall y clywn och yn fy meddwl nad oeddwn wedi fy nghyfiawnhau, ać oblegyd hyny nad oeddwn yn gymeradwy, na dim ag oeddwn yn ei wneuthur, yr hyn a'm mawr ofidiai, ac a'm gwnelai i edrych ar Dduw fel un dig wrthyf, hyd nes i mi gael nerth i gredu ac ymddiried ynddo. Fel hyn y treuliais fy nydd terfysglyd, nid dydd ac nid nos dywyll, ond ychydig o oleuni rhwng y cymylau. Yr oeddwn yn dra anwrol mewn ffydd, gan amheu pob peth, ac yn treulio llawer o fy amser ar lwybr yr hen gyfamod. Ond o radd i radd fe oleuwyd ychydig ragor ar fy neall mewn pethau crefyddol, sef athrawiaeth, profiad, a dysgyblaeth. Hyn oedd fy helynt yn fyr hyd yr amser yr aethum i'r weinidogaeth." Nid oedd y daith yn hir o'r argyhoeddi i'r weinidogaeth, eithr yn arw ac yn anhygyrch dros ben. Yr oedd ei argyhoeddiad yn drwm; lladdfa oedd hi, fel y dywed ef ei hun; yr oedd mor amlwg fel y gallai pob dyn ganfod y cyfnewidiad yn ddigon hawdd. Profedigaethau tanllyd oedd ei brofedigaethau; aeth drwy gymaint yn y pump neu chwech mlynedd rhwng ei argyhoeddiad a dechreuad ei weinidogaeth ag y mae llawer mewn haner cant, a'r rhai hyny yn ddynion da hefyd. Yr oedd hyn yn angenrheidiol er ei ddarparu yn fuan at weinidogaeth yr efengyl, a gweinidogaeth annghyffredin hefyd.

Y mae llawer yn pregethu yr efengyl—yn siarad geiriau pregethwr bid a fyno—heb deimlo dim triniaethau o'r natur hyn, ac nid oes neb yn teimlo rhyw lawer o danynt. Pregethu adroddiadol ydyw, yn rhyw beth tebyg i hogyn yn adrodd penod, yr hwn sydd heb ei deall, na'i theimlo; os ei hadrodd yn foddhaol, dyna y cwbl o'i ddybenion ef wedi ei gyrhaedd. Y mae y bobl yn gwybod nad ydyw y dyn yn teimlo dim, ac y maent yn barod i droi eu cefnau arno tra y mae efe yn siarad. Gall fod yno synwyr, gall fod yno ddawn, eithr nid oes yr un genadwri; y mae y pregethwr yn farw i weinidogaeth yr efengyl. Dyn ydyw hwn heb fod yn y lladdfa; dyn heb ollwng yr hen waed allan; dyn heb fod yn cael ei ysgwyd uwchben uffern; dyn heb weled y tân anniffoddadwy; dyn heb glywed bloeddiadau erchyll damnedigion; dyn heb ei gipio i baradwys, a gweled a chlywed pethau annhraethadwy; dyn heb deimlo anobaith o herwydd pechu yn erbyn yr Ysbryd Glân; dyn heb fyw misoedd yn swn y geiriau "ni faddeuir iddo;" dyn heb ei ollwng yn rhydd o'r cadwynau hyn trwy yr efengyl, dyn heb deimlo, ο herwydd hyny, fawl i Dduw yn dyrchafu ei enaid i fyny i'r nefoedd; dyn heb ei ddal gan ofn ei fod yn annghymeradwy gyda Duw, a bod y cwbl y mae yn wneyd yn annghymeradwy, ac yn haeddu digofaint byth; dyn heb ei waredu, trwy ffurfio gobaith bywyd tragywyddol yn ei galon, yn swn geiriau Duw yn dyfod yn genadwri ato, gan ddywedyd, "Gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Mae efe yn gwneyd pregeth fel dyn yn gwneyd erthygl ar fferylliaeth neu ryw beth arall, heb ystyriaeth fod ysbrydoliaeth ddwyfol er achub a chysuro pechaduriaid yn yr efengyl. Dyn marw ydyw hwn, a gweinidogaeth farw ydyw ei weinidogaeth. Y mae dirgelwch yn y mater hwn i'r byd, ond fe allai mai dirgelwch a ellir ei egluro ydyw. Paham y mae rhai yn gallu pregethu, nes y mae tystiolaeth yn mhawb mai pregethu ydyw, fod y fath bregethu yn cymeryd gafael ar feddyliau dynion yn mhob sefyllfa ac agwedd, ac yn eu trafod, gan adael tystiolaeth yn y mwyaf annuwiol fod rhyw beth sydd yn fwy na dynol yn hyny, ac mai gweision y Duw goruchaf ydynt? Sylwch ar dywydd garw Mr. Richard yn nechreu ei grefydd; edrychwch fel yr oedd Ysbryd Duw yn ei arwain trwy y profedigaethau, i beri iddo ddeall; edrychwch arno yn y lladdfa, ac yn y ddiangfa, a chewch weled fod hyny yn ei ffurfio i gydymdeimlad a'r efengyl, nes y mae y naill yn ymdoddi yn y llall, a gweinidogaeth fywiol yn ymgodi ac yn dylifo o'r undeb hyn. Ond, yn gymaint ag y bydd yn rhaid i ni ymdrafod yn helaethach a'r cwestiynau hyn eto wrth fyned yn y blaen, gadawn hwynt yn awr ar gymaint a hyny.

Gallwn edrych ar yr ychydig flynyddoedd hyn, sef o'r argyhoeddiad i ddechreuad ei weinidogaeth, yn rhai ystormus iawn, eto y maent, o dan lywyddiaeth y Llywydd dwyfol, yn ddarpariaeth iddo ef, yn gymhwysder at waith mawr, ac yn lles i Gymru, fe allai, hyd ddiwedd y byd. Ymddengys y daith fechan hon fel pe safech ar ben y creigydd uwchben y môr yn Drefin, yn edrych ar long fechan wedi cychwyn allan o borthladd cyfagos, yn dechreu ymdrechu mewn difrif â thywydd garw. Ah, dacw hi fel pe bai wedi ei chuddio yn hollol rhwng y tonau yn y dyfnder mawr, y rhai sydd yn fwy tebyg i fynyddau Alpaidd na thonau Culfor St. Sior. I'r lan eilwaith y mae yn codi, nid yn araf, eithr yn saethu megys bollt o'r dyfnder, rhwng y tonau i'r cymylau duon uwchben, pryd y bydd y gwynt ystormus yn ei gyru yn y blaen fel ar encil tragywyddol; y mae y gwynt fel pe bai yn rhuo mewn cynddaredd arni, y cymylau yn gwneyd golwg guchiog, a'r nefoedd fel wedi penderfynu ei chwalu yn yfflon. Yn mhen tipyn, dacw y gwynt yn ymgyfarfod yn rhyw fodd, a throell sydyn yn cymeryd lle, nes y gwelir y llong fechan yn "ymdroi ac yn ymsymud fel meddwyn," a holl ddoethineb y llywydd yn pallu. O'r diwedd, yn y tywydd garw y mae calon y morwr gwan yn pallu, y mae ei enaid eiddil yn suddo, ac yna yn ymollwng i farw. Ond, wedi iddynt ddarfod gobeithio cael byw trwy ddim a allasent wneyd eu hunain, dacw hwynt yn "galw ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder." Gyda hyn wele y cymylau duon yn dechreu troi yn leision, y gwynt chwerw fel baban tyner yn myned i gysgu yn dawel yn ei gryd, yr haul yntau yn estyn ei wddf i yspio beth sydd yn bod, ac yn taflu gwên dawel ar y llong fach, fel pe bai yn dywedyd, "Cymer gysur, myfi yw." Daew y cadben yn rhoi y llywyddiaeth i fyny i ddwylaw Arglwydd nef a daear, Llywodraethwr yr holl elfenau, a'r morwyr yn gwneyd eu dyledswyddau, gan ddysgwyl wrtho; ac wele yr un fechan yn dechreu hwylio yn dawel ar frig y don, gan chwareu fel pysgodyn yn y weilgi dwfn, a'i chyfeiriad at yr hafan draw, lle y mae y dwr yn llonydd, lle y gall orphwys ar wely tawel, a lle y mae y creigydd oesol, fel caerau a rhagfur, yn ddyogelwch rhag tywydd garw. Dacw hi yn dyfod, y mae yn ymwneyd yn frysiog am y porthladd; hi fydd yn trigo mewn dyogelwch eto yn y man, er yr holl helynt mewn môr garw ac ystormydd chwerwon. Hi ddaeth i mewn i'r "hafan a ddymunwyd," ac nid oes neb all ddyweyd yn well am natur y môr yma a'r peryglon na'r rhai a waredwyd. Mordaith fer ydoedd, y mae yn wir, ond gerwyn anferth. Rhyw beth tebyg i hyn oedd helynt Tommy; ond ymddengys fod hyn wedi ei weithio i'r un penderfyniad a llywydd y llong fach, o roi y llywyddiaeth i fyny byth mwy i'r Hwn sydd ag awdurdod ganddo yn y nefoedd uchod, a'r ddaear isod, y môr, a'r hyn oll sydd ynddo. Daeth "trwy y tân a'r dwfri le diwall," a dechreuodd deimlo iachawdwriaeth Duw yn gaerau ac yn rhagfur o'i amgylch yn nghanol pob ymosodiadau. Yr ydym yn ei gael bellach yn ymgysuro llawer, er nad heb dywydd garw; ond fod trefn achub wedi dyfod yn fwy goleu i'w feddwl, ac yntau wedi ei gynorthwyo i ddeall yr efengyl yn well.

Nodiadau

[golygu]