Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod III

Oddi ar Wicidestun
Penod II Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Penod IV

PENOD III.
Cychwyniad Mr. Richard gyda gweinidogaeth yr efengyl, yn nghyda'i ymlwybriad am amryw o'i flynyddau boreuol.

Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfnod newydd, ac un pwysig iawn, yn mywyd Mr. Richard, am yr hon yr ydym yn bwriadu iddo gael dyweyd llawer iawn ei hun. Yn gymaint a bod ei ddyddlyfr yn cynwys hanes ei bregethu, ei deithio, a'i deimladau gyda'r gwaith, nid ydym yn gweled y gwnawn gyfiawnder ag ef, nac â'n darllenwyr, heb ei roi yn lled gyflawn fel y darfu iddo ef ei gyfansoddi; ond yn unig y carem wneyd ychydig o sylwadau rhagarweiniol.

Chwi welwch wrth y dyddlyfr crybwylledig, iddo ddechreu ar waith y weinidogaeth pan yn ugain oed, rhyw bump neu chwech mlynedd wedi ei gychwyniad gyda chrefydd. Wrth ddarllen y dyddlyfr hwn yn ystyriol a meddylgar, bydd llawer o'r dirgelion ag sydd yn cyfansoddi pregethwyr mawr yn cael eu hegluro; daw y pwnc hwnw i oleuni llachar, tebygem, wrth ddylyn Mr. Richard yn fanol ac ystyriol yn rhoi, mewn dull syml a diaddurn, ei hanes ei hun. Bydd pobl yn deall rhyw bethau am bregethwr mawr; eithr y pethau hyny lle y mae ei nerth aruthrol a chuddiad ei gryfder sydd yn aros iddynt hwy yn ddirgelwch anamgyffredadwy. Y mae pobl yn deall fod pregethwr mawr yn gallu siarad yn weddol dda; fe allai fod gydag ef lais purion, ac fe allai nad yw gystal; ei fod yn ddyn go gall, nad ydyw byth yn gallu siarad rhyw lawer o ffolineb, a phethau cyffelyb. Bydd y pethau uchod yn ymddangos ar y wyneb, yn ngolwg pob dyn; eithr beth am y lleill? nid dyna y cwbl, na'r haner ychwaith. Yr ydys yn gwybod am eraill yn gallu siarad yn burion, yn medru lleisio yn dda; rhai yn canu, eraill yn ocheneidio, ac yn y blaen, yn ol fel y dygwyddo i bethau fod; eithr wedi hyny nid yw y pregethwr mawr yno. Yn mha le y mae y pregethwr mawr? Dyna lais pregethwr mawr, clem pregethwr mawr, tôn pregethwr mawr, ocheneidiau pregethwr mawr; pob peth pregethwr mawr, tebygem ni; ac eto nid yw y pregethwr mawr yno yn rhyw fodd.

Yr oedd gan Mr. Richard lawer o edmygwyr mewn pregethwyr pan oedd yn ddyn ieuanc, y rhai oeddynt yn ei ddynwared yn lled dda mewn siarad ac ystumiau; a byddai y bobl yn eu clywed yn geirio, yn lleisio, ac yn ystumio yn debyg iawn i Tommy; ond wedi hyny nid oedd efe yno. Ymholai y bobl mor ddifrifol, Pa le y mae Tommy? Yr oeddent yn bur debyg yn y pwnc hwn fel yr oedd Isaac yn nghylch Jacob ac Esau; nid oedd yn bosibl a pherswadio yr hen wr mai Esau oedd yno, er gwisgo y blew a gwneyd pob peth fel Esau; ac fe ddarfu iddo roi y fendith pan oedd eto ar dir amheus yn nghylch y mater. "Pwy wyt ti, fy mab?" ebe yr hen wr. "A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntafanedig; gwnaethum fel y dywedaist wrthyf; cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithi. Ac Isaac a ddywedodd, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan a hyn? Ai Esau ydwyt mewn gwirionedd? Tyred yn nes yn awr, fel y'th deimlwyf, fy mab, ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e. A nesaodd Jacob at Isaac ei dad; yntau a'i teimlodd, ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob, a'r dwylaw, dwylaw Esau ydynt." Er fod yr hen wr yn ddall, yr oedd yn amheus iawn yn nghylch y peth, canys yr oedd y llais yn llais Jacob o hyd, er fod y dwylaw wedi eu gwneyd yn flewog fel dwylaw Esau. Yr oedd yn haws ffugio y dwylaw na'r llais; gallesid rhoi blew am y dwylaw, ond nis gallesid ffugio y llais cystal. Gwnewch fel y mynoch, y mae yn anmhosibl gwneyd un dyn fel un arall, nes y bydd yn anmhosibl adnabod y naill oddiwrth y llall, oddieithr fod dyn yn ddall, neu wedi colli ei reswm. Y mae yr annhebygolrwydd yn fwy rhwng y peth y mae Ysbryd Duw yn ei wneyd ar feddwl dyn a'r peth y mae dyn yn ceisio gwneyd er mwyn ei efelychu. Y gwahaniaeth hyn sydd gymaint ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear. Gwelir rhyw fath o ffurf, y mae yn wir, ond beth yw hyny at y sylwedd a'r bywyd ei hun?

Mor ddiflas yw gweled y bobl yn troi ymaith oddiwrth ryw efelychwr cywraint, gan ddywedyd, "Pw, pw, nid yw Thomas yno; pa le y mae, dywedwch?" Yr oeddent yn holi am Tommy er nad oedd neb o honynt å drychfeddyliau goleu yn nghylch y pethau ag oedd yn ei wneyd yn Tommy. Gall dyn annuwiol gyfansoddi yn gampus, traddodi yn brydferth, dechreu a dybenu yn weddus, a llawer math o wrandawyr yn siarad yn lled uchel am y pregethau, fel yn gryno, yn ddestlus, yn feddylgar, ac yn gyson, eithr nid ydynt yn myned nemawr pellach. Pellach? Beth sydd i ddyweyd yn mhellach? O oes, llawer hefyd; nid yw cymaint a yna ond ychydig o'r allanol, nid oes yna ond dwylaw Esau, a'r rhai hyny hefyd wedi eu ffugio; oddiallan, y llais sydd fel llais Jacob o hyd, yr hwn ar hyny o bryd oedd y twyllwr. Ah! nid yw Tommy yno; nid oes yno ond ei lun, a hyny yn bur anmherffaith. Nid ydym yn amheu nad yw dynion annuwiol yn pregethu, a dynion bychain mewn crefydd yn pregethu; ond ni phregethodd dyn annuwiol erioed, na dyn bach mewn crefydd erioed fel Tommy. Paham? Wel, cewch y dirgelwch allan yn fuan, yr ydym yn meddwl, wrth ddarllen ei ddyddlyfr. Gwnawd Ioan Fedyddwyr mor debyg i Elias yr Hebread, fel y gelwid ef yn Elias, yr hwn oedd i ddyfod yn ysbryd a nerth y prophwyd hwnw. Duw, cofiwch, oedd wedi ei wneyd yn debyg; nis gallasai neb arall ei wneyd. Gallasai wisgo'r "dillad o flew camel, a gwregys am ei lwynau;" eithr ni thalai hyny, heb allu rhoddi tystiolaethau grymusach na gwregys a blew; yr oedd yn rhaid dangos yr "ysbryd a'i nerth." Ni fuasai y byd yn derbyn dim fel credentials o genadwri ddwyfol ond hyn. "Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth." Fe wna ryw beth fydd yn tystiolaethu i ddwyfoldeb ei ddanfoniad, fydd yn sel nefol wrth ei genadwri mai o'r nef, ac nid o ddynion ydyw. oedd gan brophwydi Baal dduwiau; yr oeddent yn gweddio yn daer arnynt; yr oeddent yn tori eu hunain â chyllill, ac yn gwneyd pob ystranciau yn y byd; eithr difa eu hunain oeddent, nid difa yr aberth, a lleibio y dwfr. Elias yn unig oedd yn gallu tynu tân o'r nef i wneyd yr holl bethau hyny. Nid oedd gweddi Elias yn hir, nid oedd yn ymddangos yn ddim gorchestol; er hyny dyna y weddi oedd yn esgyn i fyny, ac yn tynu tân Duw i lawr o'r nef. O dan y gwregys croen am y lwynau a'r dillad blewog yr oedd nerth ofnadwy yn cartrefu, nad oedd dim posibl ei efelychu. Ni efelychwyd ef erioed, ac ni efelychir ef byth; y mae naill ai yr un ysbryd a'r un nerth, neu nid ydyw yn ddim ond yn dwyll a chelwydd.

Yr ydym yn cyffesu fod graddau yn hyn; ar yr un pryd, lle y mae ychydig y mae yn ddarllenadwy mewn cenadwri, a bydd y byd yn teimlo ar brydiau ychydig nerth. Eithr lle byddo llestr mawr, etholedig at gyrhaedd dybenion goruchel, rhaid tymheru hwnw â phethau cyfaddas i ddal ac i gyfranu y trysor i'r byd. Llestr etholedig oedd Paul i dderbyn y gras gweinidogaethol, ac i bregethu y gras hwnw yn mysg yr holl genedloedd. I roi y cymhwysder angenrheidiol i ddal y poblogrwydd a'r defnyddioldeb yr etholwyd ef iddynt, bu yn aml mor isel a phorth uffern, ac oddiyno yn ol ac yn y blaen, hyd nes codi weithiau cyfuwch a'r drydedd nef, a gweled a chlywed "pethau annhraethadwy." Eilwaith disgynai fel yn bendramwnwgl o'r nefoedd fry oddiwrth bethau tra gogoneddus i blith yr ellyllon haerllug, y rhai a'i symbylent ef yn ddidrugaredd, ac a'i cernodient mewn llid dieflig. Yr oedd efe yn gweled tipyn o waethaf pob peth, fel y gallai fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd.

Ni wnawd un Tommy Richard erioed yn Rhydychain nac un Rhyd arall; ac ni wneir un byth, canys llaw Duw yn unig sydd yn ei wneyd. Y mae athrofeydd yn gymhwysder ychwanegol os bydd gwir bregethwr yno eisoes, wedi ei wneuthur gan law Hollalluog; eithr ceisio gwneyd gwir bregethwr trwy y pethau a ddysgir yno sydd yn ynfydrwydd. Gwelir llawer o'r ysgolheigion goreu yn y deyrnas y pregethwyr gwaelaf yn y deyrnas; nichlywyd erioed eu diflasach; nid ydynt mewn gwirionedd yn werth dim yn y pwlpud. Gallent fod o werth mawr i ryw beth arall, eithr i bwlpud nid ydynt yn werth rhoi bwyd iddynt, a gadael fod hwnw yn lled wael. Y mae holl ddysgeidiaeth yr Aipht yn wir dda i wlad Canaan, os bydd Moses o dano; ond os na fydd yno Moses yn sail i adeiladu arno, ni bydd dysgeidiaeth yr Aipht ond tywyllwch yn ngwlad yr addewid. Yr oedd Mr. Richard yn ddysgedig yn ei gylch; ond y mae yn wir fod y cylch hwnw yn gymhariaethol fach; a phe buasai yn fwy buasai yn fantais iddo ef, beth bynag am ei wrandawyr.

Nid yw yn bosibl i ddyn fod yn bregethwr mawr fel Mr. Richard, heb fod yn ddysgedig mewn duwinyddiaeth, a phethau eraill sydd yn gymydogol i hyny, canys nid yw o bwys pa fodd y mae dyn yn cyrhaedd ei ddysgeidiaeth, pa un ai trwy gynorthwy athraw, ai heb athraw, -trwy hunanymroddiad. Y mae llawer wedi bod yn Nghymru, er na fuont erioed mewn athrofa, er hyny wedi cyrhaedd tir uchel trwy lafur diflino, ac ymroad annghredadwy. Felly gellwch edrych ar Mr. Richard yn ddysgedig yn y cylch y darfu iddo ef lafurio; er ar yr un pryd, pe buasai y cylch yn eangach, fel y dywedasom, digon tebyg y buasai yn well, canys nid oes gormod o wybodaeth; ac unwaith y delo o dan lywyddiaeth gras, gellir gwneyd defnydd mawr o hono. Yr oedd Mr. Richard yn llafuriwr mawr dros ei oes, a chasglodd lawer; gwnaeth y goreu o'i amser o dan anfanteision lawer; ond gogoniant y cwbl ydyw gweinidogaeth fywiol oddiwrth Dduw at ddynion yn yr enaid; ac yr oedd hyny yn cyrhaedd eneidiau dynion eraill. Nid dyweyd rhyw beth oedd efe; ond dyweyd y peth oedd eisiau; nid dyweyd er mwyn dyweyd, ond dyweyd a dyben wrth ddyweyd; a dyweyd nes cyrhaedd y dyben hwnw. Yr oedd yn dyweyd nid yn unig am ddynion, ond wrth ddynion; a dywedai nes y clywent. Bydd rhai yn treulio amser mawr i ddysgu elocution, ac yn y diwedd nid oes ganddynt ddim i ywddeyd; peth cryn ddwl yw hyny, fod dyn ag eisiau deall hyawdledd, ac yn y diwedd dim i siarad. Y mae peth felly fel pe byddai dynion yn tori y ffordd i ddwy neu dair afon i ddyfod yn nghyd at rod melin, a dim ganddynt i falu wedi y cwbl. Y peth goreu i ddysgu dyn i ddyweyd yw fod ganddo ryw beth i ddyweyd, ac yn teimlo cymhelliad cryf i'w ddyweyd; nid yn aml y bydd y cyfryw yn methu. Fe fyn y dwfr sydd yn croni le i fyned i ryw le, serch myned â'r cwbl o'i flaen. Yr oedd gan Tommy beth i ddyweyd, a theimlad angerddol i'w ddyweyd; am hyny fe ddysgodd elocution yn y ffordd yna, a hyny yn lled berffaith hefyd. Yr oedd yn pregethu, ys dywed Mr. Jones, Llangan, fel angel pan oedd o ugain i ddwy ar ugain oed, ac felly y parhaodd. Ond yn gymaint a'n bod yn meddwl gwneyd rhyw sylw o hono fel pregethwr ar ol ei weled yn myned trwy y dyddlyfr, nid awn yn mhellach ar y ffordd hono.

Y peth yr oeddem am alw eich sylw ato yn benaf mewn cysylltiad a'r dyddlyfr, oedd ei fod yn egluro y dirgelwch mawr paham yr oedd Mr. Richard yn bregethwr mawr, a pha fodd yr oedd yn gallu tynu pobl ar ei ol, ac ymddyddan â'u calonau. Y mae hyn yn ddirgelwch, ac yn beth na ddysgwyd yn holl golegau y byd. Rhyw beth yw hyn sydd yn cael ei ddysgu "nid gan ddyn, eithr gan Dduw;" a'r ffordd y bydd Duw yn dysgu hyn yw trwy drwytho y meddwl yn dda yn mhrofedigaethau y byd, helbul yn nghylch achos yr enaid, a gofal am waith Duw. Gwelir llawer yn ymburo fel aur trwy y pethau hyn, ac yn dyfod allan yn y diwedd fel "aur wedi ei buro seithwaith." Pan edrychwch ar Tommy yn llanc ieuanc yn dechreu ei daith yn y weinidogaeth yn obeithiol, ac yn mhen ychydig yn nerthol, nis gellwch gyfrif am hyny yn dda nes yr ymgydnabyddir a'i fywyd dirgelaidd. Pan y gwelir fod y llanc ieuanc yn y fath bryder yn nghylch ei bregethu, yn gwneyd y fath sylw ar lwydd ac aflwydd ei ysbryd, yn nodi gwres ac oerfel y dwfr gyda'r fath fanylwch, nid rhyfedd fod pethau mawrion yn dyfod i'r golwg. Bydd yn trin yr achosion rhyngddo a Duw cyn eu trin rhyngddo a dynion, o ganlyniad y mae yn genad gwirioneddol yn dyfod allan oddiwrth Dduw at ddynion.

Chwi welwch wrth ei ddyddlyfr ei fod yn dysgu ufudd-dod yn ieuanc, trwy y pethau yr oedd yn myned trwyddynt. Dysgodd oddiwrth odfaon trwm a chaled mai Duw oedd gwrthddrych ymddiried; ac oddiwrth odfaon da a hwylus ei fod yn haeddol o fawl. Yr ydym yn ei weled yn cael ei glwyfo a'i feddyginiaethu yn aml gyda'r pregethu, fel yr oedd pob pregeth yn ddysgyblaethol iddo; yr oedd yn dysgu mwy am bregethu wrth bregethu nag oedd yn bosibl yn holl lyfrau y byd. Pe bai holl bregethwyr ieuaine y byd yn myned allan i bregethu o dan ddylanwad y pump ofn a ganlyn, byddai y byd yn sicr o fod yn well o'r pregethu: - "Yn 1. Yr wyf yn ofni rhag myned heb fod a galwad. Yn 2. Ofni cael myned heb yr iawn genadwri. Yn 3. Ofni na byddai i Dduw ei harddel hi. Yn 4. Ofni na byddai i'r eglwys gael bwyd a'i hadeiladu. Yn 5. Ofni, er y gallwn fod yn rhyw beth i'r eglwys, na fyddai fy enaid fy hun ddim gwell."

Onid yw y pethau yna yn dyweyd llawer i gychwyn, pan ystyriwn mai profiad llane dwy ar ugain oed ydynt, yn cychwyn ei daith gyntaf i Sir Aberteifi? Y mae llawer, ysywaeth, yn cychwyn fel meirch i'r frwydr, heb ystyried dim ond myned, a gwneyd rhyw fwstwr am danynt eu hunain; heb feddwl ond ychydig iawn am eu heneidiau eu hunain, nac eneidiau neb arall. Yn awr, er mwyn i chwi gael gweled yn mha le yr oedd cuddiad cryfder Mr. Richard, rhoddwn y dyddlyfr ger bron yn lled helaeth; ac ar ol craffu arno dipyn yn fanwl trwy hwnw nes claddu ei fam, byddwn yn gwneyd ychydig o sylwadau pellach.

"Hyn oedd fy helynt yn fyr hyd yr amser yr aethum i'r weinidogaeth, yr hyn oedd yn y flwyddyn 1803, yr hyn oedd yr ugeinfed flwyddyn o'm hoed, yn y lle y'm ganwyd, ar foreu dydd Sabbath, pryd nad oedd neb yno i bregethu. Fe'm hanogwyd i gymeryd y Bibl; hyny a wnaethum, ac a ddarllenais y gair hwn yn destun, Job xvi. 21. Y tro hwn fe'm cadwyd rhag dywedyd o'm lle, er boddlonrwydd i'r bobl. Ar ol hyn goddefais gystudd meddwl yn fawr. Fe'm hanogwyd gan y brodyr yr ail waith. Mi gymerais yn destun Num. xi. 6. Hon a dreuliwyd dan lewyrch i ryw raddau. O hyn allan cefais sirioldeb a gwen y brodyr. Erbyn hyn yr oeddwn yn agored i amryw brofedigaethau, neu demtasiynau satan. Ond, moliant i Dduw, fe'm cadwyd rhag i bethau gwaradwyddus dori allan, er maint yr anffyddlondeb a'r anonestrwydd oddifewn, ond nid yn ddiofid o'u herwydd; ac nid heb ryw faint o arddeliad. Diolch i Dduw am hyny.

"1805.—Dygwyddodd i mi, ar ddeisyfiad y brodyr, fyned trwy Sir Aberteifi, yn yr eilfed flwyddyn ar ugain o'm hoedran. Yna yr oeddwn gadarn trwy Dduw. Pan y byddwn ar y llawr, dyna y pryd yr eglurhäai Duw ei hun. Pan y byddwn gryf, dyna y pryd y cawn dreio fy hun. Ond erbyn yr ail odfa, mi fyddwn ar lawr wedi'n. Ond, O ryfedd Dduw, a Duw o ddaioni, Duw fel tad at ei blentyn, yn cynesu ac yn ymgeleddu. Llawer gwaith y bum mor ffol, wedi i Dduw arddel rhyw wirionedd, i feddwl mai hwn dal'sai ei ddyweyd mwy, ac nid dim arall; ond oblegyd tybied hyny, erbyn myned i'r pydew yr ail dro, pydew wedi sychu fel hyn, y'm dysgwyd i ymddiried mwy yn Nuw a llai ynof fy hun, ac i weled mai yr arddeliad yw coron y gwaith, ac nid rhyw ran o'r gwirionedd mwy na'r llall. O'r tro hwn y dychwelais yn ddiofid mewn un modd. O hyny hyd heddyw y treuliais fy amser mewn mawr bleser yn astudio yr athrawiaeth, a'i phregethu dan ryw faint o arddeliad. Boed y diolch iddo i gyd.

"1806.—Y flwyddyn hon mi a wynebais ein Cymanfa Chwarterol. Cyn myned i'r daith hon, yr oeddwn yn mawr ofni amryw bethau. Un peth, yn ofni rhag myned heb fod a galwad Duw. 2. Ofni cael myned heb yr iawn genadwri. 3. Ofni na byddai i Dduw ei harddel hi. 4. Ofni na byddai i'r eglwys gael bwyd a'i hadeiladu. 5. Ofni, er y gallwn fod yn rhyw beth i'r eglwys, na byddai fy enaid fy hun ddim gwell. I'r daith yr aethum, dydd Iau, sef yr 8fed o Fai H——. Yma y bu harddwch allanol ar y gwaith, a'r bobl yn iraidd; ond nid felly fy ysbryd i. Dydd Gwener am ddeg bu y gwaith dan ei harddwch allanol, ac ychydig yn iraidd. Aethom i odfa y prydnawn, yr hon oedd sych a thrymaidd. Oddiyma aethom i B——. Yr odfa hon bu Duw yn dda wrthym wrth lefaru a gwrando, oddiwrth yr un gair, Heb. xii. 2. Y noswaith hon bu y ceffyl yn anhwylus, yr hyn a barodd dristwch i fy meddwl. Dydd Sadwrn yr oeddym yn well; aethom yn y blaen tuag at Narberth. Yr odfa hon ni bu boenus iawn, Heb. xii. 2. Oddiyma y cychwynasom i——. Yr odfa hon ni bu rwydd iawn. Oddiyma aethum ar fy nhraed gydag offeiriad Llanbedr, yr hwn gyfeillach fu i mi yn ddiofid. Oddiyma aethom i'r D—— gyda llawer o lesgedd corph a meddwl; ond yr Arglwydd a fu dda iawn i mi yma.

"Boreu Sabbath, aethom i Ll. Dd. Yma cefais y fraint o ddyweyd y gwir gyda gradd o sel, ond dieffaith iawn ar y gwrandawyr, oddieithr ar rai. Oddiyma ni a aethom i'r B——. Yma cefais gymhorth i ddyweyd y gwir, ac nid yn gwbl ddieffaith; clod i Dduw. Oddiyma aethom i Gaerfyrddin, nos Sul, yn ddifeddwl o lefaru oblegyd clywed fod dau offeiriad o Forganwg yno; ond yr Arglwydd a fu dda iawn wrthyf yma, uwchlaw fy nysgwyliad. Diolch iddo am ei holl Adoniau. Dydd Llun aethum allan i le a elwir ——. Yma y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Oddiyma aethum o Ll—— yn groes i'r afon i le a elwir Ll——d——. Yma y cefais nerth gan yr Arglwydd oddiwrth Mat. xiii. 30. Ni a dreuliasom noswaith gysurus yn nhŷ ein brawd H. Dydd Mawrth cychwynasom tua'r B— gyda gwraig y lle, yn bur anhwylus o ran fy nghorph. Yma y cyfarfum â'r brawd W. Williams. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Oddiyma ni ein dau a'r wraig a gychwynasom erbyn y prydnawn i le a elwir Llanedi. Yma bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Y prydnawn hwnw ni a gychwynasom yn nghyd dros lawer o ffordd, er nad i'r un lle. Yma, wedi ymadael, mi ac un arall a aethom yn nghyd i le a elwir Llanfihangel, lle y cyfarfum â'r Parch. Mr. Jones. Yma hefyd y bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Moliant iddo byth!

"Dydd Mawrth yw boreu yr Association. Cyfarfuwyd am ddeg,—y gweinidogion yn unig, lle yr ymddyddanwyd amrywiol o bethau buddiol i rai oedd yn gweini y gair. Dybenwyd ein cyfarfod. Cyfarfuwyd am ddau,—blaenoriaid yr eglwysi i gyd. Ymddyddanwyd am bethau amgylchiadol yn unig. Dybenwyd y cyfarfod gan y brawd Dafydd Edward. Yr odfaon cyhoeddus a gynaliwyd am dri y prydnawn, yr hin yn annghysurus. Fe weddiodd y brawd W. Havard. Pregethodd y brodyr Dafydd Parry oddiwrth Salm lxxxv. 7; John Rees, oddiwrth Job xxxiii. 25; Mr. Gray, Mat. xiii. 7. Cyfarfuwyd am 8 dydd Iau. Gweddiodd y brawd Watkin Williams. Pregethodd T. R. a David Evans. Dybenwyd ein cyfarfod gyda mawl. Cyfarfuwyd yn y capel, cyfeillach neillduol. Ymddyddanwyd llawer o bethau buddiol. Dybenwyd ein cyfarfod trwy weddi gan y brawd Mr. Gray. Am 11, pregethodd y brodyr Eb. Morris oddiwrth Mat. xxviii. 20; student Huntingdon yn Saesneg oddiwrth 1 Pedr i. 19; a'r Parch. Mr. Jones. Dybenwyd yr odfa trwy fawl. Prydnawn pregethodd y brodyr Mr. W. a Mr. Jones. Dybenwyd yr Association. Ni a gychwynasom, sef Mr. Harris a minau, i Talley y nos hono, lle y profasom yr Arglwydd yn dda i ni ac i'r bobl.

"Dydd Gwener mi a'm cyfaill Marc a gychwynasom i le a elwid Tal——. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir yn gyhoeddus ac yn ddirgel. Cychwynasom i le a elwir Llangadog. Yma bu harddwch allanol y gwaith yn amlwg, ond nid mor fyw ar fy ysbryd inau. Dydd Sadwrn cychwynasom i le a elwir Llanddeusant. Yma cefais rym i ddweyd y gwir. Cychwynasom yn yr hwyr i le a elwir Bronwydd bach, lle y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf, ac y cyfarfuasom â'r brawd Dafydd Edward. Dybenwyd ein wythnos mewn lludded. Dydd Sul cychwynasom i'r lle a elwir Crai, lle y bu yr Arglwydd yn haelionus dros fesur. Prydnawn daethum i Drecastell. Bu yr Arglwydd yn ymddangos yma hefyd. Ac oddiyma i Landilo. Bu yr Arglwydd yn dda yma hefyd. Mae y dydd hwn yn deilwng o godi maen am dano.

"Dydd Llun i le a elwir Defynog. Yma y profais adnewyddiad grym, yn fwyaf enwedig yn y gymdeithas brifat. Cychwynasom i dŷ un o'r brodyr. Yma yr ymadawsom â'r brawd Dafydd Edward. Cychwynasom i Cwmtwynog (?). Dydd Mawrth cychwynasom i le a elwir Gorwydd, lle y cyfarfuasom â Mr. Jenkins. Yma hefyd y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Cychwynasom oddiyma i Lwynmadoc gyda llawer o iselder meddwl ac annhebyg i gael dim; ond yma y perffeithiwyd nerth Duw mewn gwendid, a'i wyneb oedd ar y lle. Diolch iddo. Dydd Mercher cychwynasom i'r Bont ar —— Ar lawr yma y gallwn ddyweyd mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Oddiyma i le a elwir Llwynderw. Ni'm llwyr adawyd yma chwaith. Diolch iddo byth am hyn. Dydd Iau cychwynasom i le a elwir Bronyrhelem. Yma hefyd, er nad oeddym ond ychydig nifer, eto yr Arglwydd a fu dda iawn wrthym, y tu hwnt i'n dysgwyliad. Oddiyma i'r Dinas bach, lle bu yr achos dan ei harddwch allanol, ond nid mor neillduol ar fy ysbryd. Dydd Gwener ni a gychwynasom i le a elwir ——. Nerthwyd i ddyweyd y gwir, ond nid mor llewyrchus ar fy ysbryd, oddiwrth Salm Ixviii. 13. Ar ol ychydig o gyfeillach brifat, cychwynasom i Ystradwallter. Yma teneuodd yr awyr ychydig yn bur siriol. Diolch iddo yn y llwch. Dydd Sadwrn cychwynasom mewn modd tra chysurus i Lanymddyfri. Yno bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Fe'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, ac er effaith fawr ar y dorf. Yma y cyfarfuasom ag amryw o gyfeillion o wahanol fanau yn dra chysurus; ond nid heb peth annghysur oblegyd llwfrdra meddwl fy nghyfaill. Oddiyma ni a aethom yn gysurus i le a elwir ——, lle yr oeddym i fod y noson hono. Yma y cyfarfuasom â'r brawd Arthur Evans. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma, ac nid wrthyf fi yn unig, ond i'r gwrandawyr hefyd. Diolch.

"Dydd Sul.—Y mae heddyw yn Sabbath. Ni a aethom i ddyledswydd deuluaidd, lle y cefais lawer o help i roi ein hachos, ac achos y dydd, i'r Arglwydd. Cychwynasom tua'r lle addoliad yn nghwmpeini amryw o'r cyfeillion yn dra chysurus. Enw y fan yw Caio. Gwresog iawn yr hin; lluosog iawn oedd y dorf. Minau a nerthwyd i ddyweyd y gwir gyda gradd o hyfder a gwroldeb ysbryd. Dybenwyd ein cyfarfod trwy ganu gair o hymn, a llawer o foli. Cychwynasom erbyn odfa dau i Lansawel. Yma yr ymwelodd yr Arglwydd a'r odfa mewn modd neillduol, a llawer o'i bresenoldeb. Cychwynasom erbyn yr hwyr i'r Bryn——, lle ein dylynwyd â'r un dylanwadau. Dybenwyd yr odfa gyda dawnsio a moli Duw.

"Dydd Llun yw hi heddyw arnom. Aethom i'r ddyledswydd deuluaidd, lle y cefais ychydig rwyddineb i ledu fy achos ger bron Duw. Cychwynasom i le a elwir New Inn, lle bu yr Arglwydd yn dda wrthym, yn enwedig yn y gyfeillach brifat. Oddiyma y cychwynasom i Gastellnewydd. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd ar fy ysbryd. Dydd Mawrth cychwynasom yn gysurus i Blaenanerch. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, yn gyhoeddus ac yn neillduol. Diolch i Dduw. Cychwynasom yn nghwmni Mrs. E., mi a'm cyfaill, i Aberteifi, lle bu yr Arglwydd yn dda dros ben i mi a'r dorf. Yma y cefais lawer o garedigrwydd brawdol, fel yn mhob man arall, ac yn nhŷ y Cadben B. I'r Arglwydd y byddo yr holl glod. Cadwed finau yn y llwch. Dydd Mawrth. Y boreu hwn ar ddyledswydd ni bu mor llewyrchus, o eisiau gwylied arnaf fy hun. Cychwynasom tua'r Capel Newydd. Yma y bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Derbyniwyd pump at y gyfeillach o'r newydd yma, o nifer y rhai a fyddant byth gadwedig, gobeithio.

Cychwynasom i'r Eglwyserw, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn i ni, uwchlaw ein dysgwyliad.

"Dydd Iau.—Ymadawodd fy nghyfaill a minau heddyw. Daethum adref yn iach, dan ymgeledd yr Hollalluog. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau, yn rhagluniaethol ac yn ysbrydol! Diolch iddo.

"Mai 13.—Un wythnos a dreuliais mewn llawer o farweidddra ysbrydol, ac yn gwynebu ar daith fechan o'r newydd. Cadwed Duw fi wrth ei draed. Dybenais y dydd gydag ychydig bleser yn ngwaith yr Arglwydd, uwchlaw fy nysgwyliad.

"Mehefin 1, 1806.— Mi a gefais un Sabbath yn ychwaneg i wynebu ar y gwaith mawr yn mhlith brodyr yr Annibynwyr, mewn lle a elwir Trefgarn, lle y cefais rym i ddyweyd y gwir gyda harddwch allanol ar y gwaith. Diolch i Dduw am hyny o drugaredd i un mor wael. Aethum i dŷ un o frodyr yr Annibynwyr i giniawa; ac oddiyno yn y prydnawn i'r lle addoliad a elwir Rhydgele yn ein plith ein hunain. Yma cefais y fraint o ddyweyd y gwir yn y weinidogaeth gyhoeddus, a mwy pleser yn y gyfeillach neillduol. Oddiyma daethum adref dan amddiffyniad Duw. Diolch iddo. Yr wythnos hon a dreuliais dan deimladau cryfion o rym fy llygredd, ac nid yn ddideimlad o bethau ysbrydol. Nos Lun, bum yn gwrando Ebenezer Morris yn ei daith trwy ein sir, ac yr oedd dan arddeliad mawr, oddiwrth y gair hwnw, 'Cariad Crist sydd yn ein cymhell ni.' Sylwodd ar gariad Crist mewn dau olygiad: 1. Cariad oedd yn Nghrist erioed, ac a amlygwyd tuag atom ni yn ngwaith y prynedigaeth. 2. Yr egwyddor o gariad oedd wedi cael ei phlanu yn yr enaid. Yn wyneb hyn soniodd am yr elyniaeth sydd mewn dyn yn erbyn Duw. Yr oeddwn yn teimlo lles dan yr athrawiaeth hon. Diolch i Dduw am hyny. Dranoeth yr oeddwn yn dyfod i Trefin i gyfarfod â Mrs. Bevan. Yma y pregethodd E. Morris oddiwrth y gair hwnw, 'A phob peth sydd o Dduw.' Gwnaeth y sylwadau hyn: 1. A phob peth ymgysurol, mewn rhagluniaeth. 2. Yn yr iechydwriaeth. 3. Yn ngwaith yr Ysbryd Glân. Nid aeth yr odfa hon heibio yn ddiles i mi hefyd. Diolch i Dduw am hyny. Yr wythnos hono a dreuliais mewn llawer o gymysgedd oblegyd anwyliadwriaeth ar fy ysbryd, a gwrthgiliadau yn fy ysbryd. Ond ger bron yr Arglwydd y byddwn rydd, a chawn ireiddio. Mae hyny yn dangos fod cynydd yn yr agosrwydd at Dduw, ac mai ynom ni mae yr achos o'n diffrwythder, ac nid o Dduw.

"Mehefin 7.—Mi a gychwynais erbyn y Sul. Nos Sadwrn, yn nhŷ un o'r brodyr, cefais rym i ddyweyd y gair, er nad oedd yn llewyrchus annghyffredin, nac yn dywyll iawn. 8fed. Y mae heddyw yn Sabbath. Ar ol ein dyledswydd deuluaidd ni a gychwynasom i'r lle addoliad a elwir Tyddewi. Yma hefyd y'm nerthwyd gydag ychydig bleser, ac eiddigedd am lwyddiant y gair, oddiwrth y gair hwn, Salm lxviii. 11. Ar ol yr odfa hon y treuliasom, ac amryw o'r brodyr yn nghyd, ein cyfeillach yn nghylch trefn eglwysig. Y prydnawn cychwynasom i'r ail gyfarfod, i le a elwir Caerfarchell. Yma y cyfarfuwyd ag ychydig brofedigaeth. Ar ol darllen y gair yn Ioan xi. 32 yn destun, dechreuais lefaru gydag ychydig deimladau o sel a pharch i'r gwirionedd; ond wrth ddechreu myned i drin rhan athrawiaethol y gair, fe dorodd fy ngwaed o'm ffroenau, nes fy rhwystro yn y gwaith, a rhoddi heibio am ychydig. Ceisiais gan y brawd David Thomas i roi gair i ganu; hyny a wnawd; a phan ddarfyddwyd, fe'm hadferwyd inau. Clod i Dduw! Cefais rym i fyned trwy y gwaith gyda gradd o sel, ac nid heb ryw faint o arwyddion boddlonrwydd yr Hollalluog. Moliant iddo am hyny. Cychwynasom oddiyma yn nghyfeillach amryw o'r brodyr at odfa yr hwyr. Yr oedd fy meddwl mewn trafferth pa beth i lefaru; ond yr Arglwydd a fu dda wrthyf. Teimlais fawr serch am lwyddiant y gair, ac at eneidiau fy ngwrandawyr. Fel hyn y treuliais y dydd a'i waith. Diolch i Dduw am ei ymgeledd tirion i un mor wael. Boreu dydd Llun galwyd y teulu i ddyledswydd. Cefais ryddid wrth orsedd gras. Diolch, diolch byth i'r Arglwydd mawr am ei diriondeb. Daethum adref y dydd hwn. Cefais y teulu dan ymgeledd Duw yn y modd goreu. Diolch am hyny hefyd. Yn yr hwyr aethum i gyflawni y gwasanaeth crefyddol; mi a'i teimlais yn sych iawn, megys heb wlithyn, er bod yr harddwch allanol ar y gwaith, oblegyd fy mhellder oddiwrth yr Arglwydd, ac anwyliadwriaeth ar fy ysbryd; am hyny anfedrus yn y ffordd at Dduw y byddwn, a thywyll iawn. Bu genym gyfarfod nos Fercher gartref cyfarfod gweddi. Teimlais ryw faint o wlith ac ireidd—dra cyn y diwedd. Derbyniwyd un i'r gyfeillach brifat. Cafwyd cynorthwy i ddyweyd y gwir wrthi, ac ychydig foddlonrwydd wrth ymddyddan â hi. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd D. Morris. Treuliais y rhan ganlynol o'r wythnos mewn rhyw ddyryswch, ond nid yn ddilafur. Cychwynais boreu dydd Sadwrn tuag Abergwaen i gyfarfod â'r brodyr mewn society am ddau. Dechreuwyd y cyfarfod gan y brawd Mr. Thomas. Ymddyddanwyd ychydig gan amryw rai, amryw ffordd—am bethau egwyddorol ac am bethau profiadol. Gwelwyd, wrth i Mr. T. holi egwyddorion, fod galw uchel ar flaenoriaid yr eglwys at y gwaith o egwyddori. Cafwyd ychydig foddlonrwydd wrth holi profiadau. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl. Teimlais, o drugaredd Duw, ychydig wlith ac ireiddiwch. Oddiyma aethom, ac amryw o'r cyfeillion yn nghyd, i Drehowel, lle y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir gydag ychydig flas i mi fy hun a'r gwrandawyr. Y mae yma arwyddion o waith newydd gan yr Arglwydd. Diolch iddo am yr arwydd lleiaf.

"Cyfodais y boreu dranoeth, sef y Sabbath. Galwyd y teulu yn nghyd i'r ddyledswydd deuluaidd. Yr oedd y brawd Mr. T. heb godi oblegyd ei lesgedd. Darllenais salm, a chanwyd mawl. Teimlais fy ysbryd yn iraidd iawn. Cydunwyd mewn gweddi, lle y teimlais ryddid ac egni i ryw raddau. Diolch iddo am ei dynerwch. Cychwynais oddiyma at odfa y boreu, i'r Dinas. Yma y cyfarwyddwyd, yn ol barn y brodyr, at wirioneddau perthynol i'r lle. Cefais ryw faint o help a chymhorth; clod i Dduw am hyny. Ymadawsom at yr odfa brydnawn. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir, a pheth tystiolaeth fod yr Arglwydd yn foddlon, a pheth arwydd fod y gair yn gafaelyd yn y gwrandawyr. Cychwynasom oddiyma at odfa yr hwyr, lle y cyfarfu amryw yn nghyd, ac y'm nerthwyd gyda gradd o bleser i draddodi y genadwri, ac nid heb ryw arwyddion llwyddiant. Diolch i Dduw am hyn. Daeth yn Llun arnom. Cyflawnwyd yr addoliad teuluaidd gyda gradd o rwyddineb. Cychwynasom i Abergwaen i wrando Mr. Lloyd, lle yr oedd amryw yn nghyd, ac y pregethodd oddiwrth Esay liii. 1. Oddiyma daethum adref. Treuliais yr wythnos hon yn ddigynydd iawn mewn pethau ysbrydol; ond mewn llawer o ffwdan daearol, ac nid yn ddifyfyrdod ar bethau buddiol, nac ychwaith yn ddiflas. Diolch i Dduw am hyn. Yn nghorph yr wythnos hon bu ein breintiau yn aml. Bu dau weinidog heibio i ni: Thomas Edward. Dan yr odfa hon teimlais sychder mawr. Y noswaith hono cyfarfu Thos. Ed. ac Arthur Evans yn Caer——. * * Yma bu ychydig ireiddiach ar fy ysbryd i a'r bobl yn gyffredin. Tranoeth daeth Arthur atom ni. Yr odfa a fu drymaidd iawn; ar ol yr odfa cadwyd cyfarfod prifat. Yma bu ychydig yn siriol. Diolch i Dduw am hyny hefyd. Yr wyf yn diweddu yr wythnos hon gyda gofid a hiraeth; gofid am na allwn fyw yn fwy duwiol a ffrwythlon, er gogoniant i Dduw, a pheth hiraeth am fod felly.

"Y mae heddyw yn ddydd Sabbath arnaf. Cyflawnwyd y ddyledswydd deuluaidd gartref cyn myned i'r capel, yr hwn oedd yn y pentref. Aethom at y gwaith mawr o gwmpas deg. Teimlais yr odfa yn bur drymaidd hyd at ei diwedd, pan y profais fawr help a chymhorth, ac ireiddiwch wrth gymhell pechaduriaid at yr Iesu. Dybenwyd yr odfa yn dra chysurus. Diolch i Dduw am hyn. Bu cyfarfod am ddau gan ddau wr dyeithr, Wm. Havard a Thos. Price. Yr odfa hon a fu gaeth iawn ar y ddau lefarwr; nid heb ryw beth yn cyffroi ar serchiadau dynion. Aethum gyda'r ddau wr dyeithr at odfa y nos. Yma bu yn dda iawn ar y ddau,—rhyw beth yn effeithio yn gyffredinol ar y bobl, ac nid yn ddideimlad fy hun. Diolch i Dduw am ei holl roddion! Dydd Llun yn dra chymylog, ond nid heb ryw faint o lewyrch a thynerwch ysbrydol. Dydd Mawrth pregethodd Mr. Jenkins yma gydag ireiddiwch annysgwyliadwy oddiwrth Salm xlii. 11. Nos Fercher cawsom gyfarfod gweddi, lle daeth amryw yn nghyd. Yma teimlais ryddid ger bron yr Arglwydd, a thaerni ysbryd am lwyddiant i'r efengyl; cafodd fy meddwl ei berswadio yn ddiweddar fod gan yr Arglwydd ryw waith newydd i wneyd yn ein hardaloedd, oddiwrth y commisiwn sydd gan y gair ar y gwrandawyr, ac ychydig ddechreuad yn Mhencaer yn nhylwyth Mr. Mortimer, mewn lle annysgwyliadwy iawn: ond Gweithiwr rhydd yw Duw. A diolch am yr arwydd lleiaf fod a fyno Duw â'n gwlad; a diolch am gael rhoi anadl o du y gwaith. Llawer o ddaioni Duw a welsom yr wythnos hon fel teulu, yn ei gymhorth i ni, a'i ofal am danom. Clod iddo byth bythoedd. Aethum i daith erbyn y Sabbath; ac at odfa yn yr hwyr hwnw, lle y teimlais ychydig yn gaeth, ac yn ddieffaith iawn ar y gwrandawyr, i'm golwg i. Daeth yn Sabbath arnaf. Cefais ychydig gymhorth i nesu at yr Arglwydd yn y dirgel. Diolch iddo am hyny. Hi a barhaodd trwy y dydd yn hytrach yn sychlyd hyd yr hwyr. Yn odfa yr hwyr profais ddaioni Duw tuag ataf mewn amryw ystyr—yn yr harddwch allanol, ac yn yr ymgeledd dufewnol. Diolch iddo am hyn. Daethum adref erbyn amser odfa. John Williams o Gaer bregethodd oddiar y gair hwnw, 'Canys meirw ydych.' Yr odfa hon a dreuliwyd yn gyffredin, heb ryw arddeliad neillduol, nac ychwaith yn galed iawn. Clod am hyny hefyd.

"Gorphenaf 2, 1806. — Cyfarfuwyd mewn cyfarfod gweddi wythnosol, lle y gweddiodd amryw o'r brodyr dyeithr. Teimlais ychydig flas ar y gwaith. Ar ol yr odfa gyhoeddus cynaliwyd cyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd ag un wraig a ddiarddelwyd o'r cymundeb am ymrafael ag un arall o'r society. Wrth ymddyddan, ni chawd ond ychydig foddlonrwydd ynddi. Ymddyddanwyd ag un arall, merch o forwyn, neu wasanaeth-wraig. Wrth ymddyddan â hon, cawd lle i feddwl fod rhyw ymryson da ar ei meddwl. Er mai ychydig gawd ganddi, cawd tystiolaeth ei meistr am dani yn ei gwydd, yr hwn oedd yn steward ein society. Dywedodd ei fod yn gobeithio fod y gwaith da wedi ei ddechreu arni, a'i bod yn rhodio yn fwy sobr nag oedd: bu dda genym glywed hyn. Ar ol hyn soniwyd am Ysgolion Sabbathol Cymraeg. Dybenwyd ein cyfarfod trwy weddi a mawl gan y brawd Mr. Williams, un o stewardiaid y lle. Treuliais y rhan olaf o'r wythnos nid dyddanus nac annghysurus iawn, ond ychydig fyfyrdodau yn athrawiaethau Crist, gyda rhyw faint o lonyddwch.

"Gorphenaf 5.—Aethum trwy dywydd pur arw wyth milldir ar fy nhraed at odfa yn yr hwyr. Yma bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi a'r gwrandawyr. Yr oedd yn iraidd iawn, a'r gair fel pe buasai yn gafaelyd. Diolch, diolch am hyn o arddeliad. Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethom at y ddyledswydd deuluaidd; yma y bu yn hytrach yn sych. Aethom at yr odfa am wyth. Yma bu heb ddim arwyddion neillduol o lwyddiant, eto y gwaith dan eu harddwch allanol. Diolch am hyn yn wyneb gwaeledd. Daethom at yr odfa ddau, ac amryw o'r cyfeillion yn nghyd. Yma y'm nerthwyd mewn corph a meddwl, a llawer o ddaioni Duw wedi ei amlygu yn bur gyffredin. Aethom at odfa yr hwyr; yr oedd yn llewyrchus yma. Diolch am bob tywydd. Cefais lawer o garedigrwydd yn nhŷ Mr. Thomas, hen weinidog yr efengyl. Daethum adref yn gysurus heddyw, a chefais y teulu yr un modd. Diolch i Dduw am hyn.

"Gorphenaf 7, 1806.—Aethum at odfa heno yn agos gartref. Mi a brofais fod yr Arglwydd yn y lle, ac yn dda iawn i ni. Mae ei ddaioni yn fy nylyn i, y creadur gwaelaf o bawb, yn toddi ychydig ar fy nghaledwch.

"Gorphenaf 8.—Bu cyfarfod gweddi genym, ac amryw yn nghyd; a chyn ymadael gwnawd yn amlwg fod yr Arglwydd yn y lle. Ar ol ein cyfarfod gweddi cynaliwyd cyfeillach. Ar ol ychydig ymddyddanion profiadol gan rai o'r gyfeillach, ymddyddanwyd â dwy ferch oedd yn cynyg eu hunain yn aelodau i'n cyfeillach. Yr oedd yr olwg arnynt yn friw, ac arwyddion pur neillduol fod yr Arglwydd â'i law arnynt. Dywedasant ychydig am foddion eu cyffroad, yr hyn oedd y weinidogaeth gyhoeddus. Yn wyneb hyn yr oedd meddwl y gyfeillach yn bur siriol, gan obeithio, wrth weled cwmwl fel cledr llaw gwr yn codi o'r môr, ei fod yn arwydd gwlaw mawr ar ol hir sychder ar yr eglwys. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl yn gysurus iawn. Yn nerth y bwyd hwn trafaelais at ddiwedd yr wythnos. Dydd Sadwrn.—Aethum at y society i Abergwaen. Cyfarfuwyd am dri, ac amryw o'r brodyr yn nghyd. Rhoddwyd arnaf ddechreu y cyfarfod. Darllenais benod, canwyd hymn, a gweddiwyd. Profais cyn diwedd gweddio nerth a goleu wrth siarad â'm Duw. Clod am hyny. Ymddyddanwyd pethau profiadol ag amryw. Cafwyd grymi ddyweyd y gwir wrthynt. Cyn diweddu ymddyddanwyd ag un oedd yn cynyg ei hun yn aelod i'r gyfeillach, ar ol bod dan ofid am ei gyflwr am lawer o fisoedd. Cafwyd boddlonrwydd ei fod dan ryw faint o oruchwyliaeth. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi a mawl yn dra chysurus, ac yn ddiofid meddwl. Diolch i Dduw am ei holl ddaioni yma. Aethum at odfa y nos i le a elwir C——. Yma profais ei bod yn sych ac yn galed, ond nid heb rym i ddyweyd y gwir, ac harddwch allanol ar y gwaith.

"Dranoeth yr oedd yn Sabbath arnaf. Ar ol cyflawni dyledswydd deuluaidd yn bur gyffredin, aethum at odfa y boreu i Tredafydd. Yma teimlais sychdwr mawr yn fy ysbryd, ond nid heb help i ddyweyd y gwir. Diolch am hyny. Aethum at odfa y prydnawn i Abergwaen. Yma profais egni a sel wrth lefaru y gwirionedd, a phleser hefyd. Dybenwyd yr odfa mewn tawelwch. Aethum at odfa yr hwyr at Drehowel. Bu yn bur lewyrchus yma ar ein hysbrydoedd wrth lefaru a gwrando. Clod i Dduw am hyn byth. Tranoeth yr oedd yn ddydd Llun. Daethum yn nghyfeillach Mr. Mortimer tuag adref. Bu amryw ymddyddanion rhyngom, ond yn ddiddolur iawn. Ar ol treulio y dydd gyda fy ngalwedigaeth mewn lludded a llesgrwydd, aethum at odfa yn yr hwyr yn agos gartref. Bu yr Arglwydd yn dda iawn yma, tros ben fy nysgwyliad a'm hofn. Daethum adref yn dra chysurus ar ol gwen Duw yn yr addoliad. Cofio hyn fyddo yn creu diolch byth dan fy mron am ei sylw o greadur mor ddrwg. Diolch, diolch byth. Treuliais un wythnos yn ychwaneg, a chenyf achos i ofidio oblegyd fy mawr bechu. Teimlais fy llygredigaethau mor fyw a chryf gynddeiriog ag erioed, gormod syrthni ac anwyliadwriaeth, yr hyn yn ei effeithiau sydd yn gwanhau ac yn aflwyddo fy enaid mewn pethau ysbrydol; acer hyn i gyd, o ras y nefoedd, profais fod daioni rhyfedd Duw yn tyneru peth ar fy nghalon galed, uffernol inau. Diolch i Dduw am na roddodd fi i fyny i galon-galedwch, i feddyliau annghymeradwy. Felly y treuliais yr wythnos hon.

"Y mae heddyw un Sabbath ychwaneg. Aethom i ddyledswydd deuluaidd. Yma, wrth dywallt fy enaid ger bron Duw, profais gymaint o'i ddaioni nes oedd fy nghalon galed yn briwio. Cofio ei ddaioni hwn fyddo yn ail ddryllio fy nghalon, ac yn ei llanw a diolchgarwch. Am ddeg aethum i'r tŷ cwrdd gartref at yr odfa. Y rhan fwyaf o hon a aeth heibio yn bur sychlyd, ond nid i gyd. Yn y prydnawn, am un, cadwyd ysgol Gymraeg, lle yr oedd amryw yn nghyd. Treuliasom ddwy awr yma. Dybenwyd trwy weddi a mawl, mewn brys i fyned at yr odfa yn y pentref am dri, gan yr Annibynwyr, i fedyddio plentyn. Llefarodd y gwr yn iach, a gwirioneddau angenrheidiol. Ar ol hyn yr oedd yr amser yn galw at odfa yr hwyr, yr hon oedd yn Mathry. Bu yr Arglwydd yn dda iawn i mi yma. Diolch i Dduw am hyn. Aethum adref heddyw yn gysurus, ond, gan ryw drafferth fydol, yn ddiegni iawn at fyfyrdodau nefol. Yr Arglwydd a faddeuo fy syrthni a'm segurdod am bethau ysbrydol. Arglwydd, trugarha wrthyf. Nos Fawrth, wrth gyflawni y ddyledswydd deuluaidd, teimlais fy ysbryd mewn graddau o ryddid ger bron yr Arglwydd. Coder yma faen o goffadwriaeth mewn diolchgarwch. Cyfarfuwyd nos Fercher mewn cyfarfod gweddi, lle yr oedd amryw yn nghyd. Yr odfa a dreuliwyd yn bur sych. Cadwyd society. Torodd yn wawr yma tu hwnt i'n dysgwyliad. Ymadawyd mewn heddwch. Treuliais y ddau ddydd canlynol yn bur gyffredin, o ran tywydd fy ysbryd, yr hyn oedd yn fawr ofid i mi. Nos Wener, cefais ychydig o fy anadl drachefn yn y ddyledswydd deuluaidd. Clod am hyn hefyd. Y mae heddyw yn Sadwrn arnaf. Aethum i wrando E. Morris. Pregethodd yn odidog iawn oddiwrth Daniel ix. 26. Yr odfa hon a dreuliwyd yn bur sychlyd, er bod dan harddwch allanol; ac yma y prydnawn ar y gair hwn, 'Gan ddysgu iddo ffordd Duw yn fanylach.' Yr odfa hon fu dipyn yn llewyrchus arnaf. Y nos aethum i'w wrando drachefn, lle y pregethodd oddiar y gair hwnw, 'Yr hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw; yr hwn a roddes i ni ernes yr Ysbryd.' Yr odfa hon fu yn bur gyffredin imi. Daeth yn Sabbath. Aethum drachefn at odfaon E. Morris a Dafydd Parry. Yma y teimlais ychydig ireidd—dra. Oddiyma aethum at odfa y prydnawn i Rydygele. Teimlais yn gaeth iawn yma. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr i dý gweinidog yr Independiaid. Yma y teimlais ychydig yn rhwyddach, o ddaioni Duw. Pan y byddwn slac mewn gweddi, byddai yn gur ar fy ysbryd; pan y byddwn daer, cawn fy ngwrandaw. Mae y sylw lleiaf o un mor wael, gan Dduw, yn anfeidrol drugaredd. Clod am fy nylyn! Daethum adref yn gysurus heddyw at odfa Dafydd Parry; ar y gair hwn y pregethodd: 'Yr Arglwydd a rydd ddaioni, a'r ddaear a rydd ei ffrwyth.' Teimlais ychydig ireidd—dra. Cadwyd cyfarfod neillduol. Bu yn iraidd iawn yma hefyd. Diolch i Dduw am hyn. Aethom heno at odfa Dafydd Parry. Yma bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf.

"Awst 1, 1806. — Cychwynais oddicartref tua'r Association. Aethum y noswaith gyntaf i Drefdraeth. Yma y'm nerthwyd i ddyweyd y gwir gyda gradd o sel, ond yn ddieffaith iawn ar y bobl. Oddiwrth yr odfa hon cefais achos diolch a griddfan—diolch am yr help lleiaf; griddfan am yr aflwydd. Aethum at odfa y boreu i Nefern dranoeth. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma. Cefais help i ddyweyd y gwir gydag ychydig lewyrch. Cadwyd ychydig society yma. Siaradodd Mr. Griffiths ag amryw, ac a adroddodd ei brofiad yn iraidd ac yn flasus iawn. Yr Arglwydd a wnaeth yn dda â'n henaid. Cawsom achos dywedyd cyn ymadael mai da oedd bod yma. Aethom oddiyma at odfa yr hwyr. Bu yn sych iawn ar fy ysbryd yma, er nid yn ddifudd i'r bobl. Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa y boreu i Landudoch. Teimlais lawer o sychder ysbryd yma hefyd, ond nid yn gwbl ddiwlith. Aethum at odfa dau. Yma cefais lawer o help i'r gwaith. Aethum at odfa yr hwyr. Yma y cefais lawer ynof fy hun ac eraill; ac eto nid oedd hon yn ddilewyrch. Diolch am hyn hefyd. Dydd Llun aethum at odfa erbyn deuddeg i gyfarfod Dafydd Parry. Treuliwyd yr odfa hon yn bur sych. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd amryw bethau da a buddiol. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr. Yma y profais ei bod yn galed iawn, ond nid yn ddiles i mi. Cefais odfa yma boreu dranoeth. Gollyngwyd ychydig arnaf. Aethum at odfa y prydnawn. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Gollyngwyd fi yn rhydd. Clod byth i'r Arglwydd. Aethum oddiyma at odfa yr hwyr i'r Gelli. Yma y'm nerthwyd, ac y cefais gymhorth. Diolch i Dduw am hyn.

"Y 6fed.—Aethum yn nghyd i'r Association i Langeitho. Am naw o'r gloch cadwyd society i'r gweinidogion, lle yr adroddwyd profiadau gan amryw o'r brodyr. Sylwyd gan un brawd y gallasai ein hagweddau fod yn anaddas, fel gweision Duw, yn wyneb ein sefyllfaoedd yn y byd. Sylwyd gan frawd arall y gweddai i rai yn athrawiaethu fod yn hyddysg yn y gwirionedd, ac yn ei brofi eu hunain, a mawr hiraeth am ei lwyddiant. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi. Cymerwyd ychydig luniaeth. Cynaliwyd, am ddau, gyfarfod neillduol rhwng blaenoriaid yr eglwysi i drin pethau amgylchiadol perthynol i'r Corph yn ei amrywiol gangenau. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi. Aethom i'r odfaon. Bu yr Arglwydd yn dda wrthym. Aethum at odfa y nos. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Daethom at odfaon saith boreu dranoeth. Yr oedd ychydig drymach; ond mae genym achos diolch ei bod fel y mae. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ymdriniwyd ag amryw bethau buddiol mewn perthynas i alwad a swydd y bugeiliaid. Triniwyd hyn yn dra helaeth. Aethom i'r odfaon un ar ddeg. Bu wyneb Duw yn bur amlwg yma. Dybenwyd y cyfarfod mewn tangnefedd a sirioldeb mawr. Gwasgarodd amryw tuag adref. Minau a ddaethum y nos hono lawer o ffordd at odfa, ond yn ddiffygiol iawn; ond, yn ol ei addewid, amlhaodd gryfder i'r dirym; rhoddodd ei arddeliad arnom. Diolch iddo byth am hyn. Dydd Gwener aethum at odfa ganol dydd. Treuliais hon dan lawer o lesgedd ysbryd a chorph. Aethum oddiyma at odfa y nos i Gastellnewydd. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Oddiyma aethum at odfa naw. Cefais ychydig gymhorth. Diolch am hyn. Aethum at odfa dau. Cefais yma ychydig lewyrch wyneb Duw. Aethum at odfa y nos. Yma ni'm gadawyd yn llwyr. Diolch i Dduw.

"Dranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa wyth yn Nefern. Cadwyd fi rhag dyrysu yma. Diolch am hyn; ond yn aniraidd iawn. Aethum at odfa dau. Cefais yma rym i ddyweyd y gwir gyda gradd o wroldeb yn fy ysbryd. Aethum oddiyma at odfa y nos i Abergwaen. Bu yr Ar glwydd yn dda iawn wrthyf a'r gynulleidfa. Diolch byth am ei holl ddoniau i greadur mor ddrwg, a gwrthgiliedig, a hunanol. Daethum adref heddyw dan diriondeb Duw. Cefais y teulu yn gysurus iawn. Diolch i Dduw byth. Ond y mae genyf achos cwyno a gofidio ar ol y triniaethau da hyn am fy anffyddlondeb a'm pellder oddiwrth Dduw. Diolch am fy nylyn hyd yma. Treuliais un wythnos yn chwaneg; ac yn yr wythnos hon cyfarfyddais ag amryw dywydd. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yn y ddyledswydd deuluaidd amryw weithiau. Clod i Dduw am hyn. Yn yr wythnos hon bu ein breintiau yn helaeth ac yn aml dros ben. Pedwar o weinidogion o'r Gogledd heibio, y diwrnodau nesaf i'w gilydd. Teimlais sychder mawr dan yr odfaon cyntaf; a meddyliais, ar ol ei phrofi fel hyn gwpl o odfaon, wrth weled eraill yn mwynhau, fy mod wedi fy rhoddi i fyny i galedwch. Yr ail ddydd, dan athrawiaeth J. Roberts, teimlais ymgeledd Duw ar fy ysbryd, yn dwyn y gwirionedd adref gyda goleu at fy ysbryd er gollyngdod. Oh, beth a dalaf, beth a dalaf am fy ngollwng! Clod, clod iddo byth, byth am ei ymweliadau. O na allwn fyw er ei glod fy holl fywyd! Help i ymddiried yn y Duw hwn byth ac yn dragywydd.

"Y mae yn Sabbath arnaf heddyw. Yr wyf, o ran fy nheimlad, yn bur sych. Aethum i'r odfa gyntaf. Profais yr Arglwydd yn dirion uwchlaw fy nysgwyliad a'm teimlad. Yn y prydnawn cadwyd ysgol. Yr oedd amryw yn nghyd. Holwyd, canwyd, a gweddiwyd gydag ychydig flas. Gwasgarwyd, oddieithr ychydig. Ymddyddanwyd am amryw bethau profiadol, ysbrydol. Gweddiwyd, ac ymadawyd mewn tangnefedd. Diolch i Dduw am hyn. Teimlais fy ysbryd yn y ddyledswydd deuluaidd yn cael ei nesu at Dduw. Codaf faen yma hefyd. Treuliais yr wythnos ganlynol yn dra chymysglyd; ambell dipyn o lewyrch, ond llawer o dywyllwch. Nos Fercher bu genym gwrdd gweddi. Cafwyd help a llewyrch yr Ysbryd ynddo uwchlaw ein dysgwyliad. Cadwyd cyfarfod prifat. Ymgynygodd pedwar o'r newydd i'r gyfeillach, yr hyn oedd fawr londer i fy meddwl i. Cyn ymadael bu yr Arglwydd yn dda wrthym: cawsom le i feddwl fod Duw yn y lle. Dybenwyd y cyfarfod gyda sirioldeb mawr. Yn wyneb hyn o waith newydd, teimlais fy meddwl yn bur gysurus am yr eglwys; ond nid heb lawer o bryder ac ofn am fy meddwl fy hun. Aethum dydd Sadwrn at odfa yr hwyr. Teimlais fod yr Arglwydd uwchlaw fy nysgwyliad yn y lle hwn.

"Daeth y Sabbath. Aethum at odfa wyth i'r Nefern. Cefais yma gymhorth i ddyweyd y gwir gydag ychydig flas. Aethum at odfa y prydnawn. Teimlais yma yn farwaidd ae yn drwm. Aethum at odfa y nos. Cefais yma fy nerthu dan ychydig wlith. Daethum adref yn gysurus; cefais y teulu felly hefyd. Diolch i'm Duw da am hyn. Fy holl ymddiried a gaiff fod ynddo byth, bythoedd. Treuliais y diwrnodau cyntaf o'r wythnos yn bur gyffredin, er fy mawr ofid, heb ymweliadau neillduol. Dydd Mercher cyfarfuwyd yn y cyfarfod gweddi. Y cwrdd hwn a fu yn bur gyffredin. Bu genym gyfarfod neillduol. Ymddyddanwyd yma amryw bethau profiadol. Siaradwyd â rhai oedd o'r newydd yn cynyg i'r gyfeillach, a chawsom le i feddwl fod rhyw ymryson gan Dduw arnynt. Derbyniwyd hwynt mewn llawenydd, gyda llawer o bleser eu gweled yn wynebu ar dŷ Dduw, gan obeithio ei fod yn wynebu da, ac arwydd o ragor. Dybenwyd yr odfa trwy weddi a mawl, dan ryw faint o wlith. Diolch i Dduw am hyny. Treuliais yr Iau mewn darllen. Cefais fy meddwl yn bur esmwyth at hyn, oddieithr ambell don. Dydd Gwener gwrandewais John Ellis yn pregethu oddiwrth 1 Ioan iv. 19. Y gwr a bregethodd wirioneddau pur ac angenrheidiol, eto o ran fy mhrofiad yn sych ac yn galed iawn. Y prydnawn ar ol y bregeth teimlais ryw nesu syml at fy Iesu, a chwant i'w garu yn fwy nag erioed, a byw iddo; hyn caniataed. Aethum oddicartref dydd Sadwrn. Aethum yn gysurus at odfa y nos. Yma y bu yn bur gyffredin arnaf. Teimlais yn dra chysurus y nos hon yn nghymdeithas gwr a gwraig dduwiol oeddwn yn eu tŷ.

"Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath arnom. Ar ol y ddyledswydd deuluaidd aethom yn nghyd at odfa y boreu am wyth. Profais yn sych iawn ar fy ysbryd yma hefyd. Penderfynais mai eisiau cadw gyda Duw oedd yr achos. Ar ol yr odfa bu amryw o'r cyfeillion yn nghyd. Ymddyddanwyd amryw o bethau buddiol a chrefyddol. Profwyd fod y gyfeillach yn lles ac yn elw. Ymadawyd i gael ychydig luniaeth. Aethum â dau o'm cyfeillion i dŷ pobl ddigrefydd ar eu cais i giniawa. Cadwyd ein golwg ar santeiddrwydd y Sabbath. Gwelsom nad oeddym o honynt hwy. Oddiyma aethum, ar ol caredigrwydd mawr y teulu, at odfa y prydnawn, a bu yma ychydig yn ireiddiach. Aethum oddiyno at odfa y nos, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthym, uwchben ein dysgwyliadau. Codaf yma faen o ddiolchgarwch. Daethum adref dydd Llun. Cefais fy mam yn gystuddiol iawn. Aethum at fy ngalwedigaeth. Cadwyd fy myfyrdod yn y gair. Profais hyny yn elw mawrimi. Nos Fercher, cyfarfod gweddi, lle yr oedd amryw yn nghyd. Bu yn bur gyffredin o ran fy nheimlad arnaf. Cadwyd cyfarfod neillduol. Cynygodd tri o newydd. Cawsom rym i ddweyd y gwir wrthynt. Aeth hyn heibio hefyd yn ddilewyrch iawn. Dybenwyd trwy weddi a mawl. Diolch i Dduw am bob cyfleusdra i ddysgwyl wrtho. Treuliais ddydd Iau yn bur ddielw mewn myfyrdodau; mae hyn yn galw am i mi dristâu yn dduwiol. Nos Wener yr oedd John Evans yn pregethu gyda ni. Profais fod yr Arglwydd yn arddel ei was, a'r weinidogaeth drwyddo, i'r gynulleidfa a'm hysbryd inau. Dydd Sadwrn aethum i'w wrando drachefn. Profais yma bleser, ond nid mor fwynhaol a'r odfa arall. Boreu Sabbath teimlais fy meddwl yn wasgaredig iawn. Aethum i'w wrando y boreu. Fe'm gadawyd yn sych iawn. Aethum at odfa y prydnawn: hi fu mor sych arnaf yma nes yr oeddwn bron mewn anobaith. Aethum y noswaith hono yn nghyfeillach brawd cu genyf i dŷ hen weinidog o'n pobl ni; yma bu rhyngom (sef ni ein dau a hen wraig y gweinidog, yr hon oedd fam yn Israel, profiadol a deallus iawn,) lawer o ymddyddanion crefyddol. Gyda mawr hyfrydwch awd at y ddyledswydd deuluaidd. Profais fy ysbryd yn cael gronyn o'i nesu at yr Arglwydd. Boreu dranoeth, ar ol bod dan gysgod yr Hollalluog trwy y nos, aethom at ddyledswydd deuluaidd. Profais nerth newydd yn fy ysbryd i ymaflyd am Dduw mewn gweddi. Mi ddymunwn gael calon i fod yn ddiolchgar i Dduw am hyn i un mor wael. Codaf faen yma hefyd. Daethum adref yn gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Treuliais ddydd Mawrth yn astudio pethau duwiol. Dydd Mercher cyfarfuwyd mewn cyfarfod gweddi. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf ynddo. Cadwyd cyfarfod neillduol. Ar ol dywedyd tipyn o'n helynt, tarawodd un o'r rhai oedd newydd eu derbyn i mewn i'r gyfeillach i ddweyd; dywedodd mor effeithiol nes yr enynodd y gyfeillach yn dân. Cawsom achos i ddweyd wrth ymadael mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Cyfarfuwyd nos Wener. Yma hefyd y torodd Duw yn ei ddylanwadau arnom tu hwnt i'r hyn oeddym yn ei feddwl, nac yn ei ddymuno. Gwnawd ein llestri yn llawn iawn cyn ymadael. Clod iddo, clod iddo. Codwn yma faen o goffadwriaeth. Treuliais y dydd Sadwrn lawer o hono mewn myfyrdodau ar bethau duwiol. Daeth yn Sabbath arnaf. Aethum at odfa y boreu gartref. Yma y gwelais fod y gair yn effeithio yn bur ryfedd ar y gwrandawyr, er bod fy ysbryd fy hun yn bur ddilewyrch. Teimlais oddiyma ofid meddwl oblegyd sychder fy ysbryd. Cadwyd ysgol y prydnawn. Daeth amryw yn nghyd, a chadwyd ni yn sobr. Aethum at odfa y nos. Gwnaeth yr Arglwydd yno y tu hwnt i'r hyn oeddwn yn ei ddysgwyl. Clod iddo am hyn. Daethum adref heddyw yn dra chysurus, dan aden trugaredd Duw, ond fy mhla yn fy mlino. Ys truan o ddyn wyf fi, pwy a'm gwared oddiwrth gorph y farwolaeth hon?

"Dydd Mawrth aethum at y Cwrdd Misol y sir i Rydygele, lle y cyfarfu amryw o'r brodyr yn nghyd. Ymddyddanwyd yno yn y cyfarfod neillduol am amryw bethau buddiol. Pregethodd Mr. Jones a Mr. Harries. Dychwelais adref wedi teimlo adeiladaeth. Nos Fercher, daethom yn nghyd gartref at gwrdd gweddi. Gwenodd yr Arglwydd ar y gyfeillach; er fy mod yn sych iawn, diolch yr un pryd am ei ddaioni i'r gyfeillach; ond nid heb lawer o ofnau fy mod yn cael fy rhoi i fyny i galedwch: ond cyn diwedd yr wythnos newidiwyd fy nhywydd wrth orsedd gras. Parhaodd yn awyr deneu arnaf hyd ddiwedd yr wythnos. Dydd Sadwrn aethum yn nghyfeillach brawd at odfa y nos. Y gyfeillach a brofais yn dra buddiol a dyddorol. Wrth fyned trwy yr odfa hon profais fy ysbryd ychydig yn iraidd.

"Daeth y Sabbath. Aethom gyda'r teulu i ddyledswydd deulaidd; aethom oddiyma at odfa y boreu. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn yma. Clod byth am ei sylw ar un mor wael. Aethom at odfa y prydnawn. Profais yma ddaioni Duw hefyd. O, beth a dalaf am fy nylyn? Aethum at odfa y nos. Cefais yma rym i ddyweyd y gwir gyda blas. Daeth y Llun. Aethum at odfa y society. Teimlais ireidddra wrth lefaru, yn fawr. Aethum at odfa y nos. Cadwyd cyfeillach brifat. Teimlais ireidd—dra yma, ac yn yr odfa ganlynol. Clod i Dduw sydd mor helaeth ei drugaredd. Dydd Mawrth aethum at odfa deuddeg yn bur lwfr a digalon; yma y bu yn bur galed a sych arnaf, a llawer o ddyrysni. Aethum at odfa y nos. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir gyda llawer o help a gwlith. Gallaf yn awr ddyweyd, Hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd fi. Daethum adref heddyw at gwrdd gweddi: teimlais ynddo lawer o sychder a chaledwch. Derbyniwyd amryw i'r cymundeb erbyn y Sabbath nesaf. Moliant iddo am hyn. Treuliais ddydd Iau a Gwener yn amrywiol o ran tywydd fy meddwl. Dydd Sadwrn y bu society o flaen y cymun genym. Daeth Mr. Jones atom, ac yr oedd yn fendithiol iawn yn ein plith. Dydd Sabbath yr oedd y gynulleidfa yn lluosog iawn, a'r cymunwyr yn aml, a'r gwaith yn bleserus iawn. Aethum at odfa y prydnawn. Cefais fy nerthu yma i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd. Aethum at odfa y nos. Teimlais fy ysbryd yn cael ei gynesu, ac ychydig wlith ar yr athrawiaeth. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref heddyw. Cefais y teulu yn gysurus. Diolch iddo am hyn. Treuliais y dydd hwn yn dra chymylog. Dydd Mawrth, teimlais yn bur gyffelyb mewn llawer o helyntion bydol, dihamdden at bethau duwiol. Nos Fawrth bu genym gwrdd gweddi, lle yr oedd amryw iawn yn nghyd. Teimlais fy ysbryd yn bur dyner wrth ganu. Dybenwyd y cwrdd gyda gradd o ireiddiwch. Cadwyd cyfeillach neillduol, lle yr ymgynygodd tair o'r newydd i'r gyfeillach. Ni chafwyd ond ychydig foddlonrwydd mewn dwy o honynt. Barnwyd, os oedd yr Ysbryd yn dechreu gweithio, mai dechreu yr oedd; yn wyneb tywyllwch y naill, a chaledwch y llall, gadawyd iddynt, ar ol dyweyd y gwir wrthynt, i Dduw a'i amser. Siaradwyd â gwraig arall. Cafwyd lle i feddwl ei bod mewn gofid a hiraeth am Achubwr ac achubiaeth. Egniwyd i ddweyd wrthi am yr Arglwydd Iesu, i'r hyn y cafwyd help. Dybenwyd y cyfarfod yn bur gysurus. Dydd Mercher profais fy meddwl yn bur llwfr a digalon wrth feddwl ymadael â fy mrawd. Dydd Iau, bum dan yr un amgylchiad heddyw eto, yn dra llwythog gan hiraeth: ond O na ddygai pob peth fi yn fwy agos at Dduw, a llai ataf fy hun. Hyn fyddo ddo y fendith ar bob peth.

"Hydref 6fed, dydd Sadwrn. Aethum i Abergwaen at y society. Cefais help a phleser mawr yma ar ol amryw ymadroddion. Dybenwyd y cyfarfod ag achos i ddyweyd mai da oedd bod yma. Aethum at odfa yr hwyr. Yma y teimlais lesgedd mawr oblegyd gwendid fy natur; a theimlais gryn boen trwy y nos; ond yr Arglwydd a fu dda iawn wrthyf. Clod, clod iddo byth, am ymgeleddu un mor wael. Daethum adref dydd Llun. Cefais y teulu yn gysurus. Dydd Mercher bu genym gyfarfod gweddi. Teimlais yma yn bur gyffredin. Cynygiodd un o'r newydd i'r gyfeillach. Cafwyd help i ddweyd y gwir wrthi, ac ychydig foddlonrwydd ei bod hi wedi ei dryllio. Dybenwyd y cyfarfod yn dra thawel. Dydd Iau aethum i angladd. Teimlais fy ysbryd yn ymblethu yn yr athrawiaeth. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum at angladd arall y prydnawn i Langloffan. Yma teimlais sychder; daethum adref y noswaith hono yn gysurus. Aethum dranoeth i ffair. Teimlais lawer o'i gwagedd o'm mewn; ond fe'm cadwyd rhag un gwaradwydd. Diolch i Dduw am hyn. Heddyw eto yr wyf yn teimlo fy meddwl yn awyddus i redeg i ryw ran o bethau Duw, ac yn profi fy llygredd yn fawr. Daeth Sabbath arall. Cefais fy nerthu yn odfa y boreu gartref. Y prydnawn cadwyd ysgol; bu yma yn bur gyffredin. Aethum at odfa y nos. Profais yr odfa hon yn galed ac yn sych iawn. Treuliais yr wythnos mewn llawer o ddyryswch a thywyllwch. Aethum oddicartref dydd Gwener. Aethum at odfa yr hwyr. Profais yr Arglwydd yn dirion. Dydd Sadwrn aethum at odfa deg; cefais rym i ddyweyd y gwir gyda gradd o flas. O, dyma Dduw yn dylyn ar ol creadur haeddodd ei ddamnio fil o weithiau, yn ol ei bethau goreu. Aethum at odfa dau i'r Nefern. Gwnaeth yr Arglwydd â mi yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Clod iddo byth bythoedd. Daethom oddiyma yn gysurus, dan ymgeledd Duw a dynion, at odfa yr hwyr, lle y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Dyma ryfeddodau Duw tuag at y gwaelaf o bawb. Aethum yn nghyfeillach fy mrawd a'm cyfarfu yno, ac un cyfaill arall i Aberteifi, lle y cawsom bob ymgeledd.

"Daeth yn Sabbath arnaf. Aethom yn nghyd at odfa y boreu i'r Capel Newydd. Profais yr Arglwydd yn dda iawn. Dychwelais at odfa y prydnawn. Cefais yma fy nerthu â gradd o arddeliad yr Arglwydd. Clod iddo am hyn. Aethum at odfa y nos. Profais yn galed iawn yma, ond nid heb yr harddwch allanol. Dranoeth aethum i'r odfa i Bwlchygroes. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn. Aethum at odfa y nos i Lanfyrnach. Profais yma ddaioni Duw. Dydd Mawrth daethum i Abergwaen, dan ymgeledd trugaredd Duw, wedi fy ngwared rhag profedigaeth am y ceffyl, yr hwn a aeth yn gloff iawn wrth fyned i fyny, ac a gefais yn iach pan ddychwelais. Clod i Dduw am hyn. Daethom at odfa y nos. Profais ddaioni a thiriondeb Duw yn fawr tuag ataf, er nid mor rhydd ag y teimlais lawer gwaith. Dydd Mercher, daethum adref yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd. Clod byth bythoedd i'r Arglwydd am ei aneirif ddoniau. Treuliais yr wythnos hon mewn ychydig lafur yn ngwirioneddau y gair. Dydd Sadwrn aethum at angladd i Dyddewi, trwy lawer o erwindeb hin. Cefais yma radd o help i ddyweyd y gwir. Dychwelais at odfa y nos. Profais yr Arglwydd yn dda wrth fy ysbryd.

"Aethum y boreu Sabbath at odfa gartref; profais ireidd-dra yma hefyd. Aethum at odfa y prydnawn: bu yma yn lled gyffredin. At odfa y nos; rhyw beth yn debyg; pregethwyd gan fy mrawd, a'r harddwch allanol ar y gwaith. Daethom adref. Cefais y teulu yn gysurus. Clod byth bythoedd i Dduw am hyn hefyd. Treuliais yr wythnos ganlynol yn dra therfysglyd a chymysglyd. Weithiau yn cael ychydig hamdden i astudio; bryd arall, gan rym fy llygredigaethau, fel un o flaen corwynt. Yn wyneb hyn mi deimlwn ofn syrthio dan eu traed. Yna, dan yr amgylchiad yma, mi ymdrechwn anfon erfyniau at Dduw am gymhorth i sefyll a marweiddio fy llygredd. Hyn oedd fy helynt gyffredin. Nos Fercher yr oedd genym gwrdd gweddi: cyn myned i'r cwrdd cefais ychydig gythrybliad o uffern. Tybiais y buasai yn dywyll ac yn niwlog arnaf; ond y Duw hwnw sydd yn gwneyd yn dra rhagorol, tu hwnt i ddim ydym ni yn ei ddymuno neu yn ei ddysgwyl, a fu dda wrthyf. Bendigedig yn oes oesoedd fyddo ei enw mawr am gofio am greadur mor wael. Treuliais ddydd Iau i ddarllen journal y Parch. R. Hill. Yn hyn y cefais lawer o bleser wrth weled ffydd, cariad, sel, a ffyddlondeb a hunan—ymwadiad y gwr da hwnw dros ei Arglwydd. Nos Iau aethum i wrando gweinidog dyeithr. Teimlais yn galed iawn yma; ac nid fy neimlad i yn unig oedd, ond yr oedd yn ymddangos felly yn gyffredinol. Bu genym gwrdd dydd Gwener gan yr un gweinidog: yma hefyd y bu y cwrdd yn bur sych. Cefais ychydig dreial eto, yr hyn a'm gosododd yn bur isel. Y mae heddyw yn Sadwrn arnaf. Yr Arglwydd a ŵyr pa fodd y treuliaf ef. Heno aethum i Lan——o, i wrando John Bowen. Dangoswyd tiriondeb mawr i mi yma gan Dduw a dynion. Treuliais y noswaith hon yn gysurus iawn yn nghyfeillach y brodyr.

"Dranoeth yr oedd yn Sabbath newydd arnaf. Fy nheimlad oedd yn gnawdol ac yn ansantaidd iawn. Ar ol dyledswydd deuluaidd ac ychydig luniaeth cychwynasom at odfa y boreu, lle y pregethodd John Bowen oddiwrth Luc viii. 18. Yma y teimlais fod y gwirionedd dan arddeliad yn gyffredinol, ac ni bu yn ddieffaith i minau. Clod i Dduw am hyn. Ar ol yr odfa hon teimlais fy hun yn myned i lawr dan draed gelynion fy nhŷ fy hun; yr oeddwn bron ffaelu anadlu. Aethum at odfa i mi fy hun y prydnawn; profais yr Arglwydd yn un â'i air yma, yn cyfodi y tlawd o'r llwch, oddiwrth 1 Bren. vii. 38. Aethum at odfa y nos. Profais yma ryddid, a dysgwyd i mi ymddiried yn Nuw. Pan oeddwn wan, yna yr oeddwn gadarn. Aethum i dŷ Mr. Thomas i gysgu. Cefais gyfeillach ddymunol a diddolur yma. Dranoeth yr oedd yn Llun arnaf. Ar ol lluniaeth cyflawnwyd y ddyledswydd deuluaidd: cefais ryddid ger bron yr Arglwydd yn fy ysbryd wrth ymbil. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd, a'm brawd wedi dod i ymweled â ni; ac yr ydym yn mwynhau y dydd hwn dan nodded Duw. Beth a dalaf am ei holl ofal am danaf, a'i roddion i mi? Am nad oes genyf ddim i dalu, phiol iechydwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. Nos Lun bu genym odfa, a'm brawd yn pregethu; yn yr odfa gwelwyd effeithiau bod y gair yn cael ei dderbyn; fy nheimlad i oedd sych a thrwm. Dydd Mawrth cychwynasom yn foreu iawn i'r Association i Abergwaen, erbyn naw o'r gloch i society y llefarwyr. Triniwyd amryw gangenau o'r ddysgyblaeth. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd Dafydd Edwards. Ar ol ychydig luniaeth, awd i'r society arall, lle yr oedd yr holl flaenoriaid yn cwrdd. Triniwyd amryw bethau oedd yn perthyn i'r Corph. Awd at odfaon cyhoeddus, lle y pregethodd y brawd —— oddiwrth Gal. ii. 21; y brawd Thomas Jones oddiwrth Actau xxvi. 18; a'r brawd Peter Roberts oddiwrth Dat. xxii. 1. Dybenwyd gwaith y dydd. Cafwyd lle i feddwl fod Duw yn foddlon i'r gwaith. Rhoddodd dywydd da yn nghanol tywydd garw; a gwlithodd trwy y weinidogaeth. Boreu dranoeth yr oedd odfa gyhoeddus am saith o'r gloch. Gweddiodd y brawd Watkin Williams: pregethodd y brawd Dafydd Evan, Ephes. i. 19; a'r brawd Edward Watkin oddiwrth Mat. iii. 6. Awd i'r society. Triniwyd amryw faterion yn ddoeth dan lawer o gyfarwyddyd. Awdi'r odfaon un ar ddeg. Gweddiodd y brawd Lewis Morris. Pregethwyd yn Saesoneg gan John Rees; yn Gymraeg gan Mr. Williams. Canlynodd Ebenezer Morris. Am ddau, pregethodd David Rees oddiwrth 1 Pedr i. 19, a'r brawd John Evans oddiwrth Ephes. iii. 19. Ymadawyd mewn tawelwch. Cafwyd achos i ddywedyd fod yr Arglwydd yno.

"Daethum heno, nos Fercher, o'r Association i'r Felindre, i wrando Lewis Morris ac Edward Watkins. Profais fwy o hamdden i wrando na llawer gwaith, ond yn ddiffygiol gan flinder. Lletyais yn y lle hwn; treuliais y noswaith hon yn gysurus iawn. Boreu dranoeth aethom at odfaon y boreu. Pregethodd Edward Watkins gyda blas neillduol i fy meddwl i. Daethum adref at odfaon y prydnawn. Wrth wrando teimlais dynerwch mawr wrth fyfyrio ar Berson. Crist. Heddyw, dydd Gwener, a dreuliais yn wyllt fy meddwl, heb allu ei gasglu at bethau crefyddol: mae hyn yn galw am alar duwiol. Dydd Sadwrn a dreuliais mewn llawer o helyntion bydol, dihamdden iawn i bethau ysbrydol. Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath arnaf. Fy Sul i gartref oedd hwn. Profais fod yr Arglwydd yn dirion iawn wrthyf fi a'r gynulleidfa. Cadwyd ysgol y prydnawn: daeth amryw yn nghyd. Ymadawyd at odfa y nos: lle y dangoswyd trugaredd i mi rhwng danedd annghrediniaeth, tu hwnt i'r dymuno a'r chwenych. O am rym i roi enaid a chorph iddo! Daethum adref heddyw yn dra chysurus. Heddyw eto sydd yr un fath. Moler Duw byth am hyn!

"Tachwedd 10, 1806.—Bum yn bur glaf mewn twymyn. Yn anhwylus yr 11eg, yr hwn oedd ddiwrnod y Cwrdd Misol yn fy nghartref i. Dranoeth, y 12fed, yr oeddwn i gychwyn ar fy nhaith tua Bryste; ond oblegyd fy nghlefyd yn annhebyg iawn i allu myned. Rhyngodd bodd i'r Arglwydd adferyd fy iechyd yn dda iawn. Cychwynais oddicartref oddeutu un ar ddeg o'r gloch; daethum at odfa y noswaith hono dan beth llesgedd; bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma; ond er hyn, fy meddwl oedd yn dra llwythog wrth feddwl am fy nhaith. Cychwynais dydd Iau yn foreu iawn, canys yr oedd genyf daith fawr. Teimlais yn sych iawn ar fy ysbryd, ond nid yn ddiachos. Diolch am yr harddwch allanol ar y gwaith. Cychwynais fy hun at odfa dau i Bwlchygroes, oddeutu wyth milldir. Cefais arwyddion yma o fod y gair yn lles, ac yn cael lle gyda meddyliau dynion. Aethum oddiyma yn gysurus, yn nghyfeillach Mr. Davies ac un arall, i Lanfyrnach i dŷ Mr. Davies. Gwnaeth yr Arglwydd ymweliad neillduol â fy enaid i, ac a'r gwrandawyr. Codaf yma faen hefyd. Cefais gyfeillach ddigon diddolur gyda Mr. Davies. Dydd Gwener cychwynasom at odfa deuddeg. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma yn mhob ystyr, yn ysbrydol ac yn naturiol. Aethum oddiyma at odfa y nos i Cwmbach, Sir Gaerfyrddin; gwnaeth yr Arglwydd yn rhyfedd iawn i mi yma, tu hwnt i ddim oeddwn yn ei ddymuno. Cefais gyfeillach brawd yn y weinidogaeth, Dafydd Evans. Dranoeth edrychais i waith Ainsworth: tywynodd pethau rhyfedd ar fy meddwl oddiwrth y gair hwnw, 'o'r chweched hyd y nawfed awr.' Cychwynais dydd Sadwrn at odfa i Mydrim. Tywynodd yr Arglwydd arnom, er nad oeddym ond ychydig, yn rhyfeddol iawn. Aethum at odfa y nos i Gynwyl. Erfyniwyd arnaf gan y cyfaill i bregethu yr un gwirioneddau; cefais fy meddwl at hyny. Dangosodd yr Arglwydd ei foddlonrwydd i hyny. Bu yn wledd fawr ar eneidiau amryw. Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath. Cychwynais yn nghyfeillach brawd yn y weinidogaeth, Arthur Evans. Aethom yn nghyd i Gaerfyrddin. Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma, o ran pob harddwch allanol ar y gwaith, ond nid yn neillduol iawn ar fy ysbryd fy hun. Aethom amryw yn nghyd i'r Cross Inn. Yma y cyfarfyddais â Dafydd Rees o Lanfynydd. Fe'n nerthwyd ein dau i bregethu dan ryw faint o wlith. Aethum oddiyma i Landilofawr. Fy nheimladau cyn dechreu yr odfa oeddent sychion iawn, ac wrth ei threulio, hyd yn agos i'r diwedd, pan tynerodd fy nghalon ychydig. Felly y dybenais Sabbath cyntaf y daith hon dan nawdd ac ymgeledd yr Arglwydd. Boreu dydd Llun, aethum ddeuddeg milldir at odfa deg i Lanymddyfri. Teimlais sychder mawr yma. Awd at odfa ——. Ymwelodd yr Arglwydd yn neillduol â ni yma, yn wyneb llesgedd corph ac ysbryd. Cadwyd society. Cafwyd help a chyfarwyddyd yma. Ymadawsom i fyned at odfa y nos. Cadwyd harddwch allanol ar y gwaith yn wyneb llawer o lesgedd corph. Yma y cyfarfyddais â dyn o Sir Frycheiniog, a ddaeth yn gyfaill i mi trwy y sir hon. Aethom oddiyma i'r Bontrhydybere, trwy wlaw mawr iawn. Casglodd amryw yn nghyd; a mwy na'r cwbl, bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum oddiyma i Gefnygorwydd, a'r hin yn dymhestlog iawn; ond ymwelodd yr Arglwydd â ni, a gwnaeth y lle yn llawn. Cychwynasom ddeuddeg milldir dros fynyddau at odfa y nos i Ferthyr cynog; yma y bu yr Arglwydd yn dda wrthyf, er fy lludded. Dydd Mercher, cychwynasom i'r Llandeilo—fân. Codaf yma faen, canys gwnaeth yr Arglwydd yn rhagorol iawn. O dyma ryfeddod, ei fod yn sylwi ar y fath greadur! Aethom i Drecastell. Cyfarfyddais yno â dau wr dyeithr o'r Gogledd,—Peter Roberts a'i gyfaill. Bu yr odfa dan y gwlith yma. Ymadawsom å'n gilydd yno. Aethum i Defynog. Cefais help, goleu, a gwres yn yr odfa hon. Fel hyn mae yr Arglwydd yn dangos ei anfeidroldeb, ei drugaredd, a chyfoeth ei ras, yn dylyn ar ol creadur haeddodd ei ddamnio fil o weithiau. Dydd Iau daethum i Aberhonddu. Ychydig yn nghyd. Fy meddwl yn isel iawn wrth ddechreu, ac felly trwy yr holl odfa, er nad oedd yn ddiarwyddion lles i'r bobl. Aethom oddiyno i'r Bwlch. Cefais yma fy helpu a'm nerthu.

"Cychwynasom oddiyma i Sir Fynwy i dŷ John Morris. Cefais help, blas, a phleser neillduol yma yn wyneb digalondid mawr. Aethum oddiyma gyda thri o'r cyfeillion, wedi gorfod ymadael â'm cyfaill fy hun, at odfa nos Wener, yr odfa ddiweddaf yn Nghymru. Cefais ychydig ymgeledd i fy ysbryd, yr hyn oedd drugaredd fawr. Er nad oedd yno ond ychydig bobl, bu yr Arglwydd yn dda wrthyf. Daethum dydd Sadwrn i lan y Passage, a'r tywydd yn ffafriol iawn. Aethum i Bryste erbyn dau o'r gloch. Cefais bob caredigrwydd, eto fy meddwl oedd orthrymedig iawn. Gwelais gymaint o garedigrwydd y brodyr nes y siriolwyd ychydig ar fy ysbryd. Dydd Sabbath pregethais am haner awr wedi deg. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi ac wrth y bobl. Pregethais am haner awr wedi dau, lle yr oedd amryw yn nghyd. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf fi a'r gynulleidfa. Am saith, daethom yn nghyd drachefn: gwlithodd yr Arglwydd arnom. Cawsom achos i ddweyd mai da oedd dysgwyl wrth yr Arglwydd. Cefais foddlonrwydd mawr am fy nyfodiad i Bryste. Society nos Lun. Derbyniwyd gwr a gwraig oedd wedi gwrthgilio. Cafwyd help i ddyweyd y gwir wrthynt. Gwawriodd ychydig arnom, nes oeddym wrth ein bodd. Ymadawsom wedi cael achos dyweyd mai da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Dydd Mawrth aethum yn nghyfeillach un o'r brodyr at Mr. Evans, gwr boneddig yn Queen Square, sydd yn talu rent y tŷ cwrdd, i siarad yn nghylch rhyw beth o concern y tŷ. Cefais fy ngwahodd ganddo i giniaw; cefais bob caredigrwydd, yr hyn oedd yn rhyfedd i un mor wael. Daethum adref at odfa y nos, yr hon oedd am saith o'r gloch. Yr oedd amryw iawn yn nghyd: siriolodd yr Arglwydd arnom yn neillduol iawn. Cefais lawer o diriondeb rhagluniaethol Duw neithiwyr. Heddyw eto y mae daioni Duw wedi fy nylyn. Clod diddiwedd iddo am ei gariad a'i drugaredd yn dylyn ar ol y fath greadur gwrthnysig, nad yw wedi haeddu dim ond fy namnio, eto yn mwynhau llawer.

"Nos Fercher aethum i'r Tabernacl i wrando Mr. Berry, yr hwn a bregethodd oddiwrth hanes Samson. Yr addoliad hwn a aeth heibio yn ddifywyd iawn. Nos Iau aethum i gapel Lady Huntingdon, i wrando Mr. Emery: cawsom bregeth dda oddiwrth Rhuf. xv. 13. Aethum i'r vestry-room. Cefais ychydig gyfeillach ag ef, yr hyn a barodd i mi feddwl ei fod yn ddyn byw yn ei ysbryd, ac yn gweled pethau yn dda; ond rhyw bethau heb eu gweled ganddo. Nos Wener aethum at ein hodfa. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, ac nid wrthyf fi yn unig, ond wrth y gynulleidfa hefyd. Dybenais yr wythnos hon a chenyf achos gofidio mor lleied o amser a dreuliais gyda Duw.

"Boreu Sabbath teimlais derfysg yn fy meddwl am genadwri i'r bobl. Aethum at yr Arglwydd am dani. Tueddwyd fy meddwl at destun ac athrawiaeth. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, er nad oedd fy ysbryd mewn cymaint hwyl a'r wythnos o'r blaen. Aethum at odfa dau. Teimlais fy ysbryd yn fwy rhydd a gwrol yma na'r boreu. Clod i Dduw am ei diriondeb mawr. Aethom at odfa saith. Teimlais yma ychydig yn gaethach; cyn darfod torodd ychydig o wawr. Dychwelais i'm llety yn flinedig, wedi cael achos dywedyd, Yr Arglwydd a fu dda wrthyf. Teimlais lawer o drafferth meddwl y nos hon, a pheth anhwyldeb corph; ond clod diddiwedd am adferiad trugareddau. Cefais heddyw eto yn foreu tawel. Diolch i Dduw byth am hyny. O na bai fy holl fywyd yn ddiolch, ac yn agosach at Dduw. Nos Lun aethum i'r society; bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Aethum at odfa nos Fawrth; gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol. Clod diddiwedd am hyn. Dydd Mercher a dreuliais oddiamgylch; nos Fercher aethum i'r Tabernacl. Pregethodd Mr. Berry yn dda iawn. Dydd Iau aethum i gyfarfod Nathaniel William, yr hwn oedd yn myned i Lundain. Daeth amser yr odfa. Pregethodd dan arddeliad mawr iawn. Cefais ei gyfeillach yn dra chysurus. Aethom yn nghyd i edrych am y coach, ac i hebrwng Nathaniel. Ar ol treulio y dydd gyda rhai cyfeillion, daethum at yr odfa saith. Yma hefyd y llanwodd y gwlaw y llyn. Bum boreu heddyw, sef boreu dydd Sadwrn, yn gweled yr Iuddewon yn addoli. Teimlais, yn wyneb eu hagwedd, ormod o ysgafnder. Dychwelais adref yn gysurus y boreu hwn.

"Boreu dranoeth yr oedd yn Sabbath. Pregethais dair gwaith ar Heb. xii. 2. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn i mi. Tybiais fod y bobl yn profi yr un peth. Nos Sul, ar ol yr odfa, cadwyd society o ffarwel i'r cyfeillion. Teimlais yn wyneb ymadael undeb a rhwymau rhyngof a hwynt, a hwythau a minau. Boreu dydd Llun aethum yn gysurus i lan y passage. Erbyn myned drosodd, yr oedd dyn i'm cyfarfod; hyn oedd dynerwch mawr oddiwrth yr Arglwydd. Aethum erbyn odfa tri i'r Tabernacl, un o gapelau yr Independiaid yn Sir Fynwy. Teimlais rwyddineb a phleser mawr gyda'r gwaith yma oddiwrth Heb. xii. 2. Noswaith hono i'r Bowdown, lle yr oedd fy ngheffyl. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn wrthyf yma. Boreu dranoeth aethum i'r Casnewydd. Teimlais yma fwy o gaethiwed, ond nid yn ddiflas. Oddiyma i odfa dau i ——; fy nheimladau oedd da i mi, ond marwaidd wrth fyned yma; ond yr Arglwydd a wnaeth yn dra rhagorol drosof ac i mi. Aethum at odfa chwech. Cyfarfyddais à Thomas Edward yn dod i'm cyfarfod, yr hwn a fu yn gyfaill ffyddlon yn Sir Forganwg. Hon oedd yr odfa ddiweddaf i mi yn Sir Fynwy. Rhoddodd yr Arglwydd ei foddlonrwydd arnom yn dra mawr. Nid wyf yn dywedyd hyn o ymffrost, ond o gydnabyddiaeth i Dduw am ei fawr ymgeledd i'r annheilyngaf o bawb. Galwaf y fan hon yn Ebenezer. Boreu dranoeth yr oeddwn i a'm cyfaill caredig, T. Edward, i fyned i Gaerdydd. Cefais help yma hefyd uwchlaw fy nysgwyliad. Aethum oddiyma i Dinaspowys; nid oedd yn rhwydd iawn yma, ac hefyd nid oedd yn gwbl ddiflas. Aethum oddiyma i Drehill. Fy meddwl wrth fyned yma oedd eiddil iawn; ond cefais achos dywedyd gyda'r apostol, 'Pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.' Dydd Iau i St. Ffagans. Cefais fy nerthu yma uwchlaw fy nysgwyliad; nid â rhyw harddwch allanol ar y gwaith yn unig, ond ag ymgeledd ysbryd oddifewn. Aethum oddiyno gyda'm cyfaill caredig i Bentyrch, lle y teimlais lawer o sychder, ond er hyn cefais les. Aethom i Whitchurch. Pregethais oddiar Heb. xii. 2. Aethom oddiyno dranoeth i ——. Bu yr Arglwydd yn dra thirion o honof yma. Aethom oddiyno i Gaerphili, cartref fy nghyfaill. Yr oedd hi yma yn yma yn dywyniadau rhwng cymylau. Dydd Sadwrn i le a elwid y Felin. Codaf yma faen am ddaioni yr Arglwydd. Aethum yn nghwmpeini amryw o'r cyfeillion i Merthyr Tydfil, at odfa chwech. Yma yr oedd diwygiad mawr a grymus; prin y cawswn lefaru. Teimlais fy ysbryd wrth ei fodd. Boreu dydd Sul yr oeddwn i bregethu yma eilwaith. Cadwyd society; derbyniwyd saith. Cafwyd lle i feddwl fod yr Arglwydd yn ein plith. Profais yn yr odfa gyhoeddus beth mwy rhyfedd nag yn fy oes hyd yma; ac nid yma, ond yn gyffredin yn y tro. Ymadewais oddiyma at odfa dau i Lanfabon. Profais yma lawer o sychder. Aethum oddiyma i Lanwyno. Teimlais fy hun yn ddiegni iawn at y gwaith, yn wyneb gweled y gwrandawyr mor farwaidd a diegni.

"Dydd Llun aethumi Lantrisant. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf ac ar y gynulleidfa. Clod iddo am hyn hefyd. Aethum oddiyma i'r Brychtwn, dan deimladau isel iawn; ond yr Arglwydd, yn ol ei arfer, a fu yn haelionus iawn i mi. Aethum oddiyma i Salem. Cyfarfyddais yma ag Ellis Roberts. Tywynodd yr Arglwydd yma rhwng y cymylau. Dydd Mawrth i Benybont. Teimlais fwy o gadwynau yma, ond nid yn ddilewyrch. Oddiyma i'r Pil; cefais fy helpu yma mewn modd neillduol. Oddiyma i'r Dyffryn, lle yr oedd diwygiad mawr; gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhyfedd i mi. Dranoeth ymadewais a'm cyfaill caredig, Thomas Edward, yr hyn roddodd i mi fawr deimlad. Aethum oddiyma i Lansamlet. Yma hefyd yr oedd gwaith newydd gan Dduw, ac hawdd iawn oedd i mi lefaru yma. Aethum oddiyma i Abertawy erbyn un o'r gloch, dan gryn deimlad o ddolur. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir, ond nid mor iraidd fy ysbryd a llawer gwaith. Aethum oddiyma i'r Goppa, y lle diweddaf yn Morganwg. Teimlais fy meddwl yn isel iawn ar ol dod yma; ond gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol yma, y tu hwnt i ddim yr oeddwn yn ei ddymuno neu yn ei ddysgwyl. Dydd Iau aethum i Lanelli. Treuliais yr odfa yn boenus yn herwydd anhwyldeb, ond gyda llawer o bleser, a help, a blas, a llewyrch. Cyfarfyddais â fy mrawd oedd ar y môr. Teimlais lawer o dosturi at enaid fy mrawd, yn wyneb y peth oeddwn yn ceisio llefaru wrth eraill. Aethum i Broadway. Treuliais yr odfa fel hyny hefyd, ond nid heb ryw faint o arwyddion boddlonrwydd oddiwrth yr Arglwydd. Treuliais y noswaith hon mewn llawer o boen. Boreu dranoeth aethum i Landefeilog. Treuliais yr odfa hon yn boenus iawn fy nghorph, ond nid heb ddyddanwch yn fy meddwl. Aethum erbyn dau i Gaerfyrddin. Teimlais fy meddwl yn dra llwythog. Treuliais yr odfa hon yn bur galed arnaf. Aethum oddiyma i Lanstephan. Yr oedd fy mhoen wedi ychwanegu erbyn yr odfa hon. Teimlais beth ireiddiwch yma. Diolch i Dduw am hyn. Aethum oddiyno i dŷ un o'r brodyr i letya. Cefais bob ymgeledd, a bu yr ymgeledd, dan fendith Duw, yn lles i'm corph. Dranoeth yr oeddwn i fyned i Lacharn. Yr oedd yr afon yn rhy arw i'w chroesi. Arosais yno hyd dri o'r gloch prydnawn. Aethum oddiyno, a daethum i Rogersbrook (?), o gwmpas ugain milldir o ffordd, yn flinedig, ond fe'm nerthwyd yn dra rhyfedd.

"Aethum boreu Sabbath i Woodstock. Ni chefais yma gymaint o rwyddineb ysbryd, er cael hyny mewn geiriau. Aethum oddiyno at odfa dau i Dreamlod. Profais yma lawer o serch at eneidiau; llewyrchodd yr Arglwydd ar fy mhabell. Aethum y noswaith hono i Lantyddewi. Teimlais lawer o sychder; ond gwawriodd cyn y diwedd. Aethum oddiyno i Gastell blaidd, i gael myned i Gastell newydd i'r cyfarfod mawr fu rhwng y tair sir, Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro, ar achos brawd oedd yn rhodio yn afreolus. Soniwyd ar ei achos y prydnawn cyntaf yn ddiymryson. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd Dafydd Evans. Daeth amser yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd Dafydd Evans eilwaith. Pregethodd y brawd Thos. Morgan, Llanddewi, a minau. Ni'm gadawyd yn ddilewyrch. Clod iddo am hyn. Boreu dranoeth cyfarfuwyd am wyth. Gweddiodd y brawd Evan Harris o Dreamlod; pregethodd Mr. Lloyd a John Evans gyda graddau o arddeliad. Cyfarfyddodd y society ar ol yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd Mr. Griffiths o Nefern. Cawsom le i feddwl i'r Arglwydd dywallt ysbryd gras a gweddi ar y society. Triniwyd achos y brawd afreolus yn ei bresenoldeb yn ddidderbyn wyneb, gyda concern mawr, a serch at ei adferiad. Cafwyd lle i gredu o'r newydd fod yr Arglwydd yn Wrandawr gweddiau, a'i fod yn trigo gyda'u bobl. Eisteddodd gras mawr ar y cynghor, fel y tybiwyd na bu y fath gyfarfod yn Nghymru erioed. Ymadawsom bawb yn llon ei feddwl, wedi cael achos dywedyd, Da oedd bod yma, canys yr oedd Duw yma. Daethum y noswaith hono i Gastell blaidd, ac adref boreu dranoeth. Cefais y teulu yn iach i gyd, a phob peth yn dda. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi! Phiol iechydwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. Treuliais y rhan olaf o'r wythnos yn bur flinedig ar ol fy nhaith.

"Boreu dydd Sul gwrandewis Mr. Lloyd gyda ni. Profais faeth i fy enaid drwyddo. Yn odfa y prydnawn ni phrofais ryddid i fy ysbryd yma, er bod harddwch allanol ar y gwaith. Daethum i Garnachwen i wrando Richard Jones a William Hughes. Profais yr athrawiaeth yma yn lles. Boreu dydd Llun daeth atom ni. ni. Profais yma les; er nid peth oedd yn cysuro cymaint. Diolch am bob goruchwyliaeth sydd yn tueddu i'n cael yn lân. Treuliais yr wythnos hon mewn chwilio rhai athrawiaethau. Aethum nos Sadwrn i Gastellblaidd. Diolch am hyny o help a gefais yma. Boreu Sabbath aethum i Woodstock. Bu yr Arglwydd yn dyner iawn wrthyf yma. Aethum oddiyma i Ffynongain. Yr oedd yn bur sych yma. Oddiyma i Forehill (?). Bu yr Arglwydd yn dda wrthyf yma. Oddiyma boreu dydd Llun i Broadway, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Oddiyno i'r Felinnewydd. Teimlais yma fwy o sychder. Oddiyno i Lysyfran. Profais yma gymaint o ddaioni yr Arglwydd ag mewn un man.

"Boreu dydd Mawrth yr oedd Cwrdd Misol yn Woodstock. Cadwyd society ar faterion amgylchiadau allanol. Gweddiodd y brawd John William. Pregethodd Mr. Jones, John Rees, a'm brawd. Daethum i Garnachwen y noswaith hono. Gwrandewais Thos. Meredith: cawsom gyfeillach dra buddiol y noson hono. Boreu dranoeth daeth atom ninau; pregethodd yn flasus iawn. Yr oedd genym gwrdd gweddi a society. Cawsom help i ddyweyd y gwir yn ddidderbyn wyneb. Clod am hyn. Heddyw a dreuliais yn ddihamdden at bethau ysbrydol, gyda rhyw ffwdan daearol.

"Yn awr yn dechreu y flwyddyn newydd (1807) yn llawn iawn o'r hen bethau.

'Dysgwyl y dydd, a'r dydd heb ddod,
I gael fy meiau dan fy nhro'd.'

Henffych Borau ***** "Heddyw, Sadwrn, a dreuliais mewn gwrando gwr dyeithr ar ei dro. Fy nheimlad oedd sych a chaled iawn y ddwy odfa. Yr wyf heno ag achos dywedyd, 'Cuddiais dy wyneb, a bum helbulus;' a gallaf ddywedyd mai yr amser hwn mae fy mawr bla fel pe bai yn cynddeiriogi. Oh, am help i'w farweiddio trwy yr Ysbryd. Tranoeth yr oedd yn Sabbath. Aethum at odfa y boreu. Fy nheimlad oedd sych a thrymaidd iawn; teimlais lawer o galedwch ar ol hon. Aethum at odfa ar fy nhaith i'r Gymanfa i Aberteifi. Yma hefyd y bu yn gyffelyb arnaf. Aethum at odfa y nos. Yma hefyd y bu yr un tywydd. Yn yr odfa hon cyfarfyddais a gwr dyeithr a welais o'r blaen. Dybenais fy Sabbath gyda mawr ofid. Dranoeth aethom at odfa un ar ddeg. Cefais fy anadl yn fwy. Clod i Dduw am hyn. Aethom yn ol i Lwyngwair. Treuliasom y prydnawn mewn peth difyrwch, a chanu gyda blas. Aethom yn nghyd at odfa y nos i Eglwyserw. Fy nheimladau oedd dipyn yn felusach na'r dydd o'r blaen. Dranoeth yr oedd dydd y Gymanfa. Aethom gyda'r brodyr i Sir Aberteifi. Awd i society y gweinidogion am 10. Ymddyddanwyd yn nghylch commisiwn i'r weinidogaeth. Traddodwyd gocheliadau rhag gau ddybenion. Dybenwyd cyfarfod y gweinidogion. Teimlais y pethau a ddywedwyd yn fendith i fy ysbryd. Cefais yma glwyf y boreu hwn na chefais ei fath erioed o'r blaen, wrth glywed am gwymp un o'r brodyr yn y weinidogaeth. Terfysgodd fy meddwl mor fawr, fel nas gwn pa fodd mae codi fy mhen. Am ddau yr oedd society i flaenoriaid yr eglwys, lle y triniwyd pethau dysgyblaethol yn unig gyda llawer o gydgordiad ac undeb brawdgarwch. Y prydnawn hwnw pregethodd tri. Fy nheimlad y prydnawn hwn oedd yn dra chanolig. Dranoeth y boreu y gweddiodd un, ac y pregethodd dau, dan raddau o arddeliad. Fy serchiadau yma oedd yn dra siriol. Awd i'r society am naw. Ymdriniwyd â phethau ysbrydol. Teimlais hyn yn dra buddiol i mi. Am 11, pregethodd Mr. James a Mr. Jones dan lawer o arddeliad. Profais y rhai hyn yn fendith i mi hefyd. Am 2, yr oedd dau eraill i bregethu: yr oedd fy nheimladau yn drymaidd iawn yma. Am 6, daeth odfaon eraill. Teimlais fy meddwl yn dra siriol yma. Dybenwyd y Gymanfa dan rwymau i ddiolch i Dduw am ei diriondeb mawr. Boreu dydd Iau, cyfarfu profedigaeth â mi, ond ni pharhaodd awr o amser—colli fy ngheffyl; ond fe'm gwaredwyd yn dra buan. Clod i'r Gwaredwr mawr am ei diriondeb. Daethom yn gysurus i Gastell y blaidd; cadwyd society yno; cafwyd help mawr yno, a goleuni newydd ar rai pethau. Dybenwyd y cyfarfod yn dra chysurus. Daethum adref heddyw. Cefais y teulu yn dra chysurus. Clod diddiwedd i Dduw am hyn i mi, yr annheilyngaf o bawb. Dydd Gwener a dreuliais mewn darllen. Dydd Sadwrn yn gyffelyb, ond gyda llawer o feddyliau gwamal. Nos Sadwrn aethum i wrando gwr dyeithr o'r Gogledd. Pregethodd yn oleu ac yn flasus iawn. Teimlais fy meddwl a'r gwir yn gafaelu yn eu gilydd.

"Dranoeth, y Sabbath, gwrandewais yr un gwr. Pregethodd yn odidog iawn. Teimlais faeth trwy y gwirionedd. Diolch i Dduw am hyn. Prydnawn gwrandewais yr un gwr, a gwr enwog arall o'r Gogledd. Cefais fwy trwy hwnw yr odfa hono na'r llall. Aethum i'w wrando drachefn. Teimlais fwy o sychder yma. Dydd Llun cyfarfu y gwr hwn ac un arall o'r un wlad yn fy nghartref. Teimlais bleser mawr yma. Aethum i'w wrando drachefn. Mi debygwn y gallaf ddyweyd i mi brofi bendith yma hefyd. Diolch i Dduw am ei fawr ddoniau heddyw eto, yn cael y fraint o wynebu ar y moddion. Profais o ran fy nheimlad yn bur gyffredin dan yr odfaon. Yn y society teimlais yn fwy rhwydd. Derbyniwyd dau i'r society. Cafwyd help i ymddyddan a hwy gyda gradd o oleuni. Clod i Dduw am hyn. Treuliais y rhan hon o'r wythnos mewn tipyn o lafur meddwl mewn ffordd weinidogaethol. Dydd Sadwrn aethum i angladd. Profais beth help yma, er fod y testun newydd ei gael. Aethum y noswaith hono at odfa. Teimlais gymhorth yma hefyd.

"Dranoeth, y Sabbath, aethum at y ddyledswydd deuluaidd. Ni phrofais ryddid mawr yma. Aethum at odfa wyth. Ni chefais ryddid mawr yma. At odfa tri: ni chefais ryddid fel arferol yma. Aethum at odfa y nos. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf o'r dechreu i'r diwedd. Daethum adref heddyw yn llesg o ran fy nghorph: cefais y teulu yn gysurus. Gwynebu ar yr wythnos. Help fi, Arglwydd, i rodio gyda thi, ac yna mi fyddaf ddyogel.

"Treuliais yr wythnos hon mewn llawer o helbul bydol, ac ychydig o enill ysbrydol; dan lawer o galedwch, eto dysgwyliaf wrth yr Arglwydd. Dydd Gwener a dydd Sadwrn yr oeddwn mewn anhwyl corphorol. Daethum ychydig yn well erbyn nos Sadwrn. Aethum at odfa. Teimlais boen mawr wrth fyned trwyddo gan yr anwyd, ond yn oleu, o ddaioni Duw, yn y gwaith. Boreu dranoeth aethum at odfa wyth i Dyddewi. Ni bu gul arnaf yma, er mor boenus y teimlais. Aethum at odfa i Gaerfarchell. Gwenodd yr Arglwydd mewn modd neillduol arnaf, ac ar y gynulleidfa. Fy enaid a'r cwbl sydd ynof fyddo yn y llwch yn cydnabod Duw am ei sylw ar yr annheilyngaf o'i weision. Daethum adref prydnawn erbyn odfa tri o'r gloch mewn llawer o lesgedd corph. Cefais rym yma i ddyweyd y gwir gyda blas, ond heb lawer o ôl ar y gwrandawyr, nes yn agos i'r diwedd y gwelodd Duw yn dda lewyrchu tipyn trwy y gwirionedd. Dybenwyd y Sabbath, a chenyf achos i fyned i'r llwch a dywedyd i Dduw wneyd yn dra rhagorol i mi, tu hwnt i ddim oeddwn yn ei ddymuno. Dechreuais wythnos arall gyda llawer o anhwyldeb corphorol, a llawer o ffwdan yn fy ngalwedigaeth, ac yn ddilewyrch iawn yn mhethau ysbrydol, oblegyd fy ngwendid a'm babandod, yn methu medru casglu fy meddwl at bethau ysbrydol gan rym pethau bydol. Dydd Mercher yr oedd genym gwrdd gweddi. Teimlais fy meddwl ynddo yn aros ychydig ar bethau ysbrydol, er yn gnawdol 1awn. Cadwyd society: ymddyddanwyd ynddi am y gwahaniaeth rhwng ffydd a rhyfyg. Soniwyd fod gwahaniaeth rhyngddynt yn eu natur a'u heffeithiau. Am natur ffydd, soniwyd ei bod yn ddi-ildio am ei gwrthddrych, er bod yn grynedig fel y wraig a'r dyferlif, tra y mae rhyfyg yn cael digon cyn cael Crist. Effeithiau ffydd yw darostwng yr enaid i hunanymwadiad, pan y mae rhyfyg yn gadael yr enaid mewn meddwl chwyddedig. Dybenwyd trwy fawl a gweddi yn dra chysurus. Clod i Dduw am hyn. Treuliais heddyw yn rhy segur fy meddwl, am hyny yn ddigynydd mewn gwybodaeth, ac yn ddielw erbyn yr hwyr, er och a galar i fy ysbryd. O am nerth i dreulio y rhan sydd yn ol o'm dyddiau yn nes at Dduw, ac yn fwy er ei glod. Dydd Gwener, ar ol llawer o ryw helynt fydol, aethum oddicartref prydnawn yn dra anhwylus gan ddolur yn fy ngwddf. Ar ol dyfod i'r lle, cwrddais ag ychydig o dreial i fy meddwl am i mi gamgymeryd yr amser. Fe'm nerthwyd i fyned trwy y gwaith, nid yn ddiofal am eneidiau y gwrandawyr, er nid mor llewyrchus ar fy meddwl ag y dymunaswn. Dranoeth aethum oddiyno, gan feddwl fod odfa am 10 yn Nefern. Cyfarfyddais yn Nhrefdraeth â John Young a John Thomas: cefais yma fy nghadarnhau fy mod wedi cam-gymeryd wythnos. Dychwelais yn fy ol i fyned tua Woodstock. Aethum y noswaith hono i Dreamlod.

"Dranoeth, Sabbath, aethom i ddyledswydd deuluaidd. Profais y drws yn agored. Diolch byth am hyn. Aethum i Woodstock erbyn odfa deg. Teimlais yr Arglwydd yn dra thirion wrth fy ysbryd, ac yn Helpwr yn y gwaith. Clod iddo byth am hyn. Aethum erbyn odfa tri i Forehill. Cefais yma fy nerthu uwchlaw fy nysgwyliad. Codaf yma faen hefyd. Dychwelais i Dreamlod dan lawer o lesgedd anwyd. Profais yma fwy o lesgedd mewn corph ac ysbryd na'r odfaon eraill. Dybenais fy Sabbath mewn ychydig o lesgedd corph, a gofid am fy nghnawdolrwydd. Dydd Llun Pasg, aethum at odfa deg. Teimlais yma yn fwy sych a thrymaidd. Aethum at odfa tri. Teimlais fy meddwl dan fwy o lewyrch yma. Clod i Dduw am y tywyniad lleiaf. Daethum adref, a'r anwyd yn gwaethygu arnaf. Cefais y teulu yn iach, dan nodded Duw. Heddyw yr wyf yn profi angen rhodio yn nes at Dduw, fel y caffwyf ei feddwl, ac y dibrisiwyf y byd, ac y marweiddier fy llygredd. Treuliais yr wythnos hon dan lawer o anhwylder corph, a pheth trafferth fydol. ***** "Teimlais betrusder yn y dirgel ar fy meddwl. Goleuodd ychydig yn y ddyledswydd deuluaidd. Aethum at odfa naw i'r Castell blaidd. Profais lawer o drymder yn fy meddwl. Aethum oddiyno at odfa tri o'r gloch. Profais fy meddwl yn fwy siriol yma. Diolch am y llewyrch lleiaf. Aethum oddiyno ar feddwl dychwelyd adref. Fe'm hanogwyd gan y brodyr, a chytunasom fyned i Gastell y blaidd i ymddyddan am y pechod gwreiddiol. Y cwestiynau a ofynwyd yn nechreu y cyfarfod oedd—1. Pa beth oedd pechod gwreiddiol. Cytunwyd mai anufudd—dod i gyfamod Duw gan ddyn oedd. 2. Ei brofi o'r gair. Cytunwyd fod y weithred a wnawd gan y dyn yn cael ei nodi yn Gen. iii. 6; yr holiad a wnawd gan Dduw, Gen. iii. 11; y gosp a'r felldith a ganlynodd ar y dyn a'r holl greadigaeth, Gen. iii. 14, 15, 17. Yn 3. A oedd hwnw a wnelai â ni? Cytunwyd ei fod. Profwyd hyny trwy dri rheswm. Yn 1. Tystiolaeth amlwg y gair. Arglwyddiaeth angau dros holl ddynolryw. 3. Profiad y saint yn yr oesoedd. Pa fodd? Cytunwyd mai trwy gyfranogiad a chyfrifiad; a'r cyfranogiad hwnw wedi dod i ni oddiwrth Adda, fel pen y cyfamod, oedd yn cynnrychioli yr holl fyd: nid oddiwrth Adda fel yr oedd yn dad yr holl fyd, heb allu cenedlu ond peth brwnt, fel y mae yr holl fyd eto; ond yr oeddem ni yn Adda; cyfranogi oeddym o bechod Adda fel pen i'r cyfamod, ac nid fel yr oedd yn dad i ni; canys nid oeddym yn gyfranog o un o bechodau eraill Adda. Os yw yr enaid yn adgenedlig, pa fodd mae yr enaid yn aflan, ac na buasai ond y natur; canys â'r holl ddyn y gwnawd y cyfamod, ac a dynion ynddo—eneidiau a chyrph; ac anufudd—dod ar y cyfamod hwnw ddygodd Adda, gorph ac enaid, a'i had ynddo. Nid bwyta yr afal, ond trwy ei fwyta, ac wrth ei fwyta. Dyma y cyfranogiad. Cytunwyd, gan hyny, ei fod yn gyfiawnder yn Nuw, yn unol â'i gyfamod, i gyfrif i ni y peth yr oeddem yn gyfranog o hono. Dybenwyd y cyfarfod trwy gyfaddef ein ffolineb a'n babandod yn mhethau mawrion yr Arglwydd. Yna aethom i orphwys. Boreu heddyw cefais ychydig dreial-cadwyd fy meddwl rhag iselu llawer. Collais fy ngheffyl. Nis gwyddwn nad oedd wedi ei yru; ond gwaredwyd fi yn dra buan. Cefais y ceffyl. Daethum adref yn gysurus. Cefais fy nhad, a'm mam, a'm chwaer yn dra chysurus. Clod i Dduw am hyn. ***** "Heddyw yn dechreu fy nhaith tuag at y Gymanfa, a'r Arglwydd a'm nertho. Aethum at odfa y noswaith hono: teimlais yn bur gysurus. Dranoeth, y Sabbath, aethum i Woodstock. Pregethais o flaen Mr. Jones. Fy nheimlad oedd yn dra thrymaidd, ond yn yr ordinhad teimlais beth gollyngdod. Aethum oddiyma i Sir Gaerfyrddin erbyn pedwar o'r gloch. Pregethais allan. Cefais anwyd mawr yn fy mhen. Dranoeth yr oedd yn Llun arnaf. Aethum at odfa deg i dŷ cwrdd yr Independiaid. Profais fy meddwl yn dra llon yma. Ymadewais, ac aethum at odfa deuddeg i Benyrallt. Cefais fy nerthu yma á help cyffredin, ac â'r harddwch allanol. Clod i Dduw am hyn. Aethum y noswaith hono i Lanfyrnach; fy nheimlad yma oedd yn dra thrymaidd. Ymadewais dranoeth i fyned i Lanwinio i angladd. Cefais rym a chymhorth lawer yma. Cefais fy ngalw gan frawd yn y weinidogaeth. Bu ein hymddyddan yn ddiglwyf. Aethom yn nghyfeillach amryw i Mydrim. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthym yma. Clod byth i Dduw am ei diriondeb i un mor wael. Dranoeth aethum gydag amryw o'r brodyr tuag at Gyfarfod Misol Sir Gaer. Pregethais ar y ffordd yn Gynwyl. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthyf yma. Aethum gydag amryw o'r gweinidogion i'r Cwrdd Misol i'r Forge. Yr oedd yn society am ddau. Dechreuwyd yr addoliad trwy fawl, darllen, a gweddio gan y brawd Dafydd Evan. Ymddyddanwyd yn nghylch y cyfeiliornadau oedd yn ymdaenu y dyddiau hyn. Penderfynwyd eu bod yn bethau i brofi y saint. Ar ol amryw ymddyddanion buddiol, awd at yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd D. Bowen. Pregethodd y brodyr Thomas Edward o Forganwg, a D. Evan; a'r lle yn siriol. Dranoeth cyfarfuwyd am naw. Ymddyddanwyd am brofiad, a phethau ysbrydol eraill. Dechreuwyd yr odfaon cyhoeddus am un ar ddeg. Gweddiodd y brawd D. Rees. Pregethodd Mr. Lloyd a minau. Cawsom le i feddwl fod wyneb Duw arnom. Aethum oddiyno i Gaerfyrddin. Cefais gymhorth yma uwchlaw fy nysgwyliad; bydded yr holl glod i Dduw am ei diriondeb mawr i un mor wael. Lletyais heno yn nhŷ hen wr duwiol oedd yn flaenor ar y society. Cefais adeiladaeth oddiwrth ei gyfeillach. Cychwynais dranoeth i'r Pantgwyn. Cefais bethau yn bur gyffredin. Aethum at odfa dau. Teimlais lawer o lesgedd yma oblegyd anhwyldeb. Cadwyd ychydig society. Cefais ryddid, a'r maes yn oleu yma. Clod i'r Arglwydd am hyn. Aethum oddiyno i Lanfynydd, lle y profais yr Arglwydd yn dirion. O na bai genyf galon ddigon hunan-ymwadol i ddiolch a chanmol Duw. Dranoeth i'r Cross Inn. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma tu hwnt i fy nysgwyliad; ac oddiyno i dŷ anedd yn y gymydogaeth. Cefais rym i ddyweyd y gwir, a'r harddwch allanol ar y gwaith.

"Dranoeth, y Sabbath, aethum i le yn Sir Gaerfyrddin a elwir Cefnberach, lle y cyfarfyddais â'r brawd Thomas Jones. Cefais fy meddwl yn bur siriol, a'r Arglwydd yn rhoi arwyddion o'i foddlonrwydd ar y gynulleidfa y tro hwn hefyd, yr hyn a barodd i fy meddwl synu wrth ddaioni Duw yn dylyn y fath greadur gwael. Aethum gyda'r brawd Thomas Jones i Landilo erbyn dau: bu yr harddwch allanol ar y gwaith yma, ond nid oedd fy nheimlad mor ymgeleddgar. Aethum oddiyno yn nghyfeillach amryw o'r brodyr i Talyllychau erbyn 6, yn bur lluddedig o ran fy nghorph. Yma y cyfarfyddais â'r brawd Thomas Edwards, brawd a chyfaill anwyl. Yr oedd hi yma arnaf yn dywyniadau rhwng cymylau, o ran fy mhrawf; ond gwnaeth yr Arglwydd yn dda iawn i'r gynulleidfa. Oh na bai fy nghalon yn fwy yn y llwch na neb am ei fawr ddaioni ataf. Dranoeth am 8 dydd Llun cadwyd society. Rhoddodd yr Arglwydd lawer o'i gymhorth a'i oleu. Ymadawsom yn dangnefeddus. Aethom erbyn 12 i Lansadwrn, Thomas Edwards a minau, ac eraill o'r cyfeillion. Teimlais fy meddwl yn well na llawer gwaith pan oedd yn well ar y bobl. Cadwyd society. Bu yr Arglwydd yn dda wrthym yma. Oddiyno erbyn 6 i Langadog, lle y cyfarfu amryw o'r brodyr yn ein taith i'r Gymanfa. Gweddiodd y brawd Thomas Jones. Pregethodd y Parch. —— Davies o Gynwyl a minau. Profais help oddiwrth yr Arglwydd yma, yr hyn sydd yn peri i'm fawr ryfeddu eto. Lletyasom yn yr un lle ein tri, a phob peth yn dawel iawn. Dranoeth aethom i Landdeusant erbyn 10. Gweddiodd y brawd Thomas Edwards: pregethodd Davies a minau. Teimlais fy ysbryd wrth ei fodd, a'r odfa a drodd yn gysurus iawn. Aethom erbyn odfa y nos i Sir Frycheiniog amryw o honom yn nghyd. Ymadawsom yn mhen ychydig, Thomas Edward a minau ein hunain, ac un arall a ddaeth yn ein herbyn. Aethom y noson hono i Crai, lle darfu i ni gyfarfod â dau frawd o'r Gogledd, John Ellis a Wm. Hughes. Profais yr Arglwydd yn dirion annysgwyliadwy.

"Aethum dranoeth i'r Gymanfa i Drecastell. Cyfarfuwyd am 10 gan y gweinidogion. Y cyfarfod fu yn adeiladol iawn ac yn fuddiol, yn nghylch amgylchiadau y gweinidogion. society arall am ddau, lle bu ystyried pethau amgylchiadol perthynol i'r Corph. Yr addoliad cyhoeddus am 4. Gweddiodd y brawd Nathaniel Williams. Pregethodd y brodyr John Jones, Caergwrle, a Dafydd Rees, Llanfynydd, a'r gwaith dan ei goron. Dranoeth am 7 gweddiodd y brawd Wm. Hughes o'r Gogledd. Pregethodd Mr. Lloyd a minau, a chawsom le i feddwl fod wyneb Duw yn y lle. society am 11. Siaradwyd llawer o bethau amgylchiadol a buddiol, ysbrydol. Cefais achos i ddiolch i Dduw am yr Association. Daeth amser yr odfaon. Gweddiodd y brawd Mr. Howells, Morganwg. Pregethodd y brawd John Ellis ac Ebenezer Morris, dan arddeliad mawr. Clod i Dduw y Gymanfa am dani. Aethum oddiyma at odfa y noswaith i Lanymddyfri, lle y gwenodd yr Arglwydd arnaf. Codaf yma faen hefyd. Aethum dranoeth i Gilycwm erbyn 10. Nid oedd fy nhraed mor rhydd yma, eto daioni Duw oedd i'w weled mewn modd neillduol. Cadwyd ychydig society. Ymadawsom ar ffrwst, i fyned i Gaio, lle yr oeddwn i gyfarfod Ebenezer Morris. Gwenodd yr Arglwydd yn anarferol yma. Aethum oddiyno i Lansawel, a bu ymgeledd yr Arglwydd yn dra rhyfedd yma. Clod i Dduw am hyn. Dranoeth aethum i'r New Inn yn gysurus iawn dros y mynydd yn nghwmpeini dau frawd; a bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yn y lle, er fy mod o ran fy meddwl yn fwy rhwym na llawer gwaith wrth ymdrin â'r un gwirioneddau. Aethum oddiyno i Glosygraig; llawer o drymder a brofais yma, eto y gwaith dan ei harddwch allanol. Esgyned mawl i Dduw am hyn. Aethum y noswaith hono i Gastell newydd. Cefais ychydig o fy anadl yma.

"Dranoeth, y Sabbath, cefais fy meddwl yn dra siriol yn y ddyledswydd deuluaidd. Cychwynasom i'r Capel Newydd. Cefais radd o help. Oddiyno i Nefern. Siriolodd yr Arglwydd ar fy ysbryd. Aethum oddiyno i Abergwaen. Cefais rym uwchlaw fy nysgwyliad. Daethum adref y Llun yn iach; a'r teulu oll felly hefyd. Clod i Dduw am hyn. Yr wythnos hon a dreuliais mewn llawer o ffwdan gan fy ngalwedigaeth, heb nemawr amser darllen nac ysgrifenu. Cadwyd cwrdd gweddi nos Fercher. Teimlais lawer o sychder yma. Mae hyn yn galw arnafi weddio a gwylio; yr Arglwydd a'm nertho. Yr wyf yn dybenu un wythnos yn rhagor gan waeddi, Aflan, aflan. ******* "Heddyw yr wyf yn myned i daith dros yr Arglwydd mawr. Ei ofn, ei ogoniant, a'i gariad, yn nghyda'i wyneb grasol, fyddo fy rhan. Dechreuais fy nhaith brydnawn dydd Sadwrn, a'r hin yn annhymherus iawn. Aethum at odfa y noswaith hono. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn. Cefais achos i ddyweyd unwaith eto, Lle yr wyf wan, yna yr wyf gadarn, Dranoeth, y Sabbath, awd at y ddyledswydd deuluaidd. Cefais rwyddineb a goleu. Clod i Dduw am hyn. Aethum at odfa naw. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Aethum at odfa tri. Bu yma yn fwy tywyll arnaf o ran fy mhrawf. Daethum oddiyno i Eglwyserw; cefais rwyddineb gyda'r gwaith yma. Clod i Dduw am ymgeledd i greadur gwael. Heddyw eto yn mwynhau fy iechyd yn dra chysurus, ac yn gwynebu ar noswaith arall; a'r Duw sydd yn gofalu am y gweiniaid fyddo fy Mugail. Dydd Llun aethum i Rhydygele at odfa deuddeg; bu yr harddwch allanol ar y gwaith, ond nid oedd fy ysbryd mor iraidd. Aethum at odfa dau i Landudoch; yma hefyd bu yn lled debyg. Aethum oddiyno i Aberteifi; yma cyfarfyddais â brawd o'r Bala, John Peters, Teimlais fy ysbryd yma dan ddylanwadau i ryw raddau, a'r Arglwydd yn dangos ei diriondeb i'r gynulleidfa hefyd. Dydd Mawrth aethum i'r —— Cwrddais yma â'm cyfaill M. D. Bu yr harddwch allanol ar y gwaith. Clod i Dduw am hyn. Aethom erbyn dau i Blaenanerch. Llewyrchodd yr yr Arglwydd mewn modd rhyfedd yma. Diolch am ei sylw drugarog o bechadur gwael ei lun. Aethum oddiyno i Benmorfa. Goleuodd yr Arglwydd arnaf yma hefyd. O, beth dalaf i'r Arglwydd am fy nylyn! Dranoeth aethum i'r Twrgwyn; cwrddais â'r brawd John Jones yno. Teimlais yn galetach yma. Aethum oddiyno erbyn dau i Bensarn. Profais yma yr un fath; ac oddiyno i Benywig. Ymwelodd yr Arglwydd drachefn yma. Dydd Mercher aethom i Lanarth erbyn naw. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn yma yn wyneb teimladau isel, nid yn unig i'r bobl, ond i minau. Clod i Dduw am gael ymborth fy hun. Aethom erbyn dau i Ffosyffin. Yma teimlais yn dra chymylog. Yr oedd hyn hefyd yn lles i'm galw at Dduw. Aethum y noswaith hono i Benygareg. Torwyd yma dros ben ein hannheilyngdod yn dra neillduol. Dranoeth aethom i Landdewi erbyn naw. Gwelodd yr Arglwydd yn dda sirioli arnaf yma. Teimlais fy ysbryd yn wlithog. Codaf yma faen hefyd; galwaf ef Ebenezer. Aethum oddiyno i Lanon. Fy nheimladau oeddynt gelyd, a llawer iawn o lesgedd yn fy nghorph; bu hon yn lles i mi hefyd. Aethum oddiyno i —— nos Iau. Bu yr harddwch allanol ar y gwaith yma, ac effeithiau lawer ar y bobl, ond fy mhrofiad fy hun oedd yn isel iawn. Daethum neithiwyr i dŷ ein brawd Nathaniel Williams. Cawsom bob caredigrwydd a chyfeillach fuddiol. Heddyw eto yn dechreu ar ein Sadwrn. Oh, am ei dreulio yn nghyfeillach Duw, fel y marweiddier fy llygredd, ac y bywheir fi yn ei waith. Aethom, mi a'm cyfaill, ac amryw eraill, i Lanrhystyd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd neillduol, tu hwnt i'm dysgwyliad. Aethom oddiyno i Langwyryfon. Bu cymaint o'r arddeliad yma, fel prin y cefais bregethu. Dybenais fy wythnos, a'm meddwl yn dra siriol; ac och hefyd am fy nghnawdolrwydd gyda'r gwaith.

"Aethum heddyw, y Sabbath, o ran fy meddwl yn dra chrynedig at y gwaith erbyn naw i Aberystwyth. Profais yr Arglwydd yma yn dra thirion. Aethum oddiyno i Rydyfelin. Aeth hon drosodd yn gyffredin iawn. Aethum erbyn odfa chwech i Lanfihangel, lle bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Dybenais fy Sabbath yn dra chysurus o du Duw, ac yn dra gofidus o'm tu i. Dydd Llun aethum i Benllwyn. Gwelodd yr Arglwydd yn dda y boreu newydd hwn i sirioli arnaf. Aethum oddiyno i Cynon. Teimlais fwy o drymder yma; ond nid oedd y gwir yn ddiarwyddion effeithiau. Aethum oddiyno i Lanilar. Cefais gynorthwy a nerth yma, ond nid oedd mor neillduol ar fy meddwl. Dybenais fy niwrnod mewn tawelwch. Dranoeth aethum i Ledrod. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd tra thirion. Aethum oddiyno i Swyddffynon dan lawer o lwfrhad meddwl, eto gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol, tu hwnt i ddim a feddyliais. Aethum y noswaith hono i Dregaron. Bum fwy yn y cyffion yma, eto nid heb harddwch. Dydd Mercher aethom, mi a'm cyfaill, a'r brawd John Bevan, i Landdewi. Gwenodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol o ran fy ysbryd, ac ar y gynulleidfa. Diolch. Aethum oddiyno i Lwynypiod. Yr oeddwn yma yn fwy yn y carchar, er bod yr harddwch allanol ar y gwaith. Aethum oddiyno i Lanpenal. Yno y cyfarfu pump o honom yn ddyeithr; dau o'r Gogledd, a thri o'r Deheubarth. Siriolodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol. Diolch iddo yn ddiddiwedd. Aethum at odfa wyth dranoeth i Rydypandy. Cefais gymhorth yma.

"Aethum i'r Association. Dechreuwyd am ddeg. Ymddyddanwyd amryw bethau buddiol perthynol i'r gweinidogion. Dybenwyd gan y brawd Mr. Gray. Cyfarfyddwyd am ddau yn y society, lle yr oedd y blaenoriaid oll, i drin pethau amgylchiadol perthynol i'r amrywiol eglwysi. Daethum i'r odfaon cyhoeddus. Pregethodd y brodyr John Roberts a Thomas Jones, o'r Gogledd. Cafwyd lle i feddwl fod wyneb Duw ar y cyfarfod. Dranoeth am wyth, gweddiodd y brawd Ishmael Jones, pregethodd y brodyr Michael Roberts a John Jones, dau o'r Gogledd. Am ddeg, awd i'r society. Trodd hon yn adeiladol iawn, canys pethau buddiol buwyd yn eu trin. Dybenwyd trwy weddi gan y brawd E. Morris. Awd at yr odfaon cyhoeddus. Gweddiodd y brawd William Hafard; pregethodd y brodyr John Elias a Mr. Jones, Llangan, gyda llawer o foddlonrwydd Duw arnom. Awd at odfa dau, Gweddiodd y brawd Thomas Jones o'r Gogledd, pregethodd y brodyr John Ellis a Dafydd Parry. Dybenwyd yr Association yn dra chysurus. Aethum, mi a'm cyfaill, gyda John Elias a'i gyfaill, i'r Gelli. Gwenodd yr Arglwydd arnaf. Dranoeth i Lanbedr. Bu yr Arglwydd yn dirion wrthyf. Yma hefyd y cwrddais a John Roberts. Oddiyma i Gapel Drindod. Cefais yr Arglwydd yn dirion yma. I'r Castell Newydd erbyn chwech. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn o honof yma. Diolch byth am ei diriondeb i mi. Dranoeth, y Sabbath, aethum i Blaenanerch i wrando John Elias. Cefais yma lawer o bleser a chysur. Dylynais ei wrando hyd oni ddaethum adref dydd Mawrth dan amrywiol dywydd. Clywais fy mod wedi fy ngwneyd yn filwr gan y llywodraeth cyn dod adref. Terfysgwyd fy meddwl yn dra mawr; ond erbyn dod adref, yr oedd Rhagluniaeth y nef wedi darpar. Oh, beth a dalaf i'r Arglwydd! Cadwyd society dydd Mawrth am ddau. Treuliwyd y cyfarfod yn nghylch dysgyblaeth am ieuo yn annghymharus. Triniwyd hyn gan y brawd John Elias gyda deheurwydd ac mewn doethineb mawr. Pregethodd John Elias a'i gyfaill. Ymadawsom dan nawdd Duw. Diolch diddiwedd iddo. Dranoeth am naw cadwyd society i'r blaenoriaid. Ymddyddanwyd amryw bethau buddiol, ysbrydol ac adeiladol. Pregethodd yr un rhai dan arddeliad mawr. Treuliais brydnawn y dydd yn gwrando John a'i gyfaill. ******* "Nos Sadwrn dechreuais fy nhaith tua yr Association, i Gaerfyrddin. Aethum y noswaith hono i Dreamlod: cefais diriondeb mawr yno yn y gwaith ar law yr Arglwydd. Dranoeth, y Sabbath, aethum i wrando Mr. Jones a Michael Roberts. Teimlais ireiddiwch yn fy meddwl yma, a pheth sobrwydd wrth ymdrin â'r ordinhadau. Aethum oddiyno i Gastell newydd bach. Fy nheimlad yma oedd yn sych a thrymaidd iawn. Aethum oddiyno i Gastell Henry. Fy nheimlad oedd iraidd a blasus. Clod i Dduw am beidio fy Ilwyr adael. Aethum oddiyno i gysgu i Forehill. Cychwynasom yn foreu dranoeth at odfa deg, deuddeg milldir o ffordd. Cwrddais ag ychydig brofedigaeth ar y ffordd, yr hyn a derfysgodd fy meddwl yn dra mawr. Yn yr odfa nerthwyd fi i ddyweyd y gwir. Diolch am hyn hefyd, er nad oedd mor llewyrchus arnaf. Aethum oddiyno gyda'm cyfeillion i Bancyfelin. Erbyn myned oddiyno cefais ychydig o fy siomi. Dranoeth yr oedd dydd yr Association, a'r tywydd yn arw gan eira mawr. Aethum trwy y gerwindeb i Gaerfyrddin. Awd i society y gweinidogion, yr hon a dreuliwyd i drin mater brawd wedi troseddu, a'i roddi dan ddysgyblaeth. Cyfarfuwyd am un. Triniwyd pethau amgylchiadol i gyd, perthynol i'r Corph. Awd at yr odfaon cyhoeddus. Gosodwyd fi i ddechreu. Pregethodd y brawd John Thomas ac Ebenezer Morris; yr oedd y gwaith dan ei lewyrch. Dydd Mercher am 7, gweddiodd y brawd Richard James; pregethodd y brawd Dafydd Parry a minau. Teimlais fy hun yn derbyn cymhorth. society am un ar ddeg. Areithiodd Mr. Charles yn helaeth ac yn odidog dros ben am yr Ysgolion Sabbathol. Dybenwyd y cyfarfod gan y brawd Dafydd Rees, gyda diolchgarwch am ein bod yn clywed y pethau oeddym yn eu clywed. Am 11 pregethodd Mr. Jones a Mr. Charles yn dra odidog.

"Aethum oddiyno i Landilo. Fy nheimlad yma oedd yn drymaidd ac yn isel. Dranoeth aethum i Langadog. Teimlais yma fwy o ireiddiwch. Aethum oddiyno i Lansadwrn. Teimlais ryddid yma, a'r gwaith dan ei harddwch allanol. Dranoeth aethum i Gilycwm, a'r tywydd yn oer ac yn galed, oddifewn ac oddifaes. Cwympodd y ceffyl danaf. Yr Arglwydd a'm cadwodd, ac a'm gwaredodd. Yn y gwaith cyhoeddus teimlais fy ysbryd dan ymgeledd, a'r Arglwydd yn siriol ar y gynulleidfa. Cadwyd society. Dywedais yn achos yr Ysgolion Sabbathol, a Bristol. Aethum oddiyno i Ystradwalter. Fy ysbryd yn dra llwythog a thrymaidd. Dranoeth aethum i Lanymddyfri. Cefais beth o fy anadl yno. Aethum oddiyno i Sir Frycheiniog i dŷ Richard Winstone. Gwenodd yr Arglwydd arnaf. Y Sabbath, ar ol dyledswydd deuluaidd, aethum i'r Bont. Gwelodd yr Arglwydd fod yn dda i harddu y gwaith yma. Clod iddo am ei ras. Aethum oddiyno i'r Gorwydd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma. Teimlais fy meddwl dan ymgeledd. Daethum oddiyno i Lwynderw. Teimlais gymhorth yma yn wyneb llesgrwydd. Yr wyf heddyw yn iach. Clod i Dduw am ei ofal am danaf. Yr wyf heddyw eto yn ymgyflwyno o'r newydd i Dduw a'i waith. Yn wyneb holl guro fy meddwl, yr wyf yn dymuno dy gwmni, anwyl Arglwydd. Daethum i Lwynmadoc. Cymhorth yma uwchlaw fy nysgwyliad. Aethum oddiyno i Aber. Teimlais beth neillduol i fy meddwl. Oddiyno i Lanfairmuallt. Yr oedd hi arnaf yma yn galed a thrymaidd iawn. Dranoeth aethum gyda'm cyfaill ac un arall, i'r Capel Isaf ar ddydd ffair. Ni chawsom ond ychydig wrandawyr, eto siriolodd yr Arglwydd arnaf, ac ar y bobl. Aethom i Aberhonddu y noswaith hono. Gwenodd yr Arglwydd arnaf yma, ac a estynodd ei gymhorth. Dranoeth, sef dydd Mercher, aethom i'r Trallwm. Cyfarfum yno â dau wr dyeithr eraill. Profais yr Arglwydd yn dda wrthyf. Aethum oddiyno i Lanfihangel. Teimlais yn fwy caeth yma. Oddiyno i Beilu du. Profais yr Arglwydd yn dirion iawn yma, uwchlaw fy nysgwyliad. Dydd Iau, yn dywydd garw iawn gan eira. Aethum i Drecastell. Cwrddais yma ag amryw o'r brodyr, Lewis Morris a'i gyfaill. Fy nheimlad yma oedd yn fwy trymaidd, eto yr oedd harddwch allanol ar y gwaith. Aethum i'r Browydd (?). Cefais gymhorth. Dranoeth aethum i Crai. Cwrddais yno â'r un cyfeillion. Teimlais yma yn fwy rhwym a chaeth. Aethum oddiyno i Defynog, trwy dywydd garw gan yr eira, eto yr Arglwydd oedd dda wrthyf. Aethum oddiyno i Aber——, teimlais yn fwy caeth, eto nid yn ddiwlith.

"Dydd Sadwrn aethom gyda brawd arall, Henry Jones, dros fynydd ac eira trwm i le a elwir Glyn. Fy nheimlad yma oedd drymaidd iawn. Aethum oddiyno i Gefncoedcymer. Teimlais hwylusdra yma. Aethum oddiyma i Merthyr y noswaith hono, a bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf, ac wrth y gynulleidfa. Pregethais yno eilwaith boreu Sabbath am naw, ar ol y society am saith. Cefais harddwch allanol ar y gwaith, ond nid mor neillduol ar fy ysbryd i. Aethum oddiyno i Lanfabon. Teimlais fy meddwl yn siriol iawn yma. Aethum oddiyno i Caerphili. Ymwelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol, yn fwy felly nag a welais yn fy nhro. Clod i Dduw am sylwi ar un mor wael. Dydd Llun aethum i Sir Fynwy i le a elwir Risca, a'm brawd caredig, Thos. Edward. Dydd Sadwrn, yn Risca, teimlais fwy o gaethiwed. Aethum oddiyno i'r Morfa du. Cefais gymhorth a phleser yma yn wyneb iselder meddwl. Dranoeth aethum i Gasnewydd. Bu yr harddwch yn allanol ar y gwaith. Oddiyno i'r Casbach. Cwrddais â phrofedigaeth yma trwy ddyoddef anhwylder wrth lefaru. Aethum yn mlaen yn y gwaith yn fuan wedi hyny. Teimlais fy meddwl yn dra siriol. Oddiyno i Laneirwg. Llewyrchodd yr Arglwydd yn dra rhyfedd cyn i'r odfa fyned drosodd. Dydd Mercher dychwelais i Sir Forganwg, i Gaerdydd. Cefais bleser yma wrth drin y gwirionedd.

"Aethum oddiyno gydag amryw o'r cyfeillion i Gwrdd Misol y sir i Trehil. Ymddyddanwyd yno amryw o bethau am gymdeithas â Duw. Pregethodd y brodyr Henry Jones a Richard James. Nid oedd ymweliadau neillduol yma. Dranoeth daethom yn nghyd am naw i'r society. Treuliwyd hi i gyd yn nghylch tŷ ewrdd Bristol. Gosodwyd Dafydd Bowen a mi i bregethu. Teimlais fy meddwl yn dra siriol. Oddiyma i'r Eglwys newydd y noswaith hono, a'r Arglwydd a fu yn dda wrthyf. Dranoeth aethum i Bryntirion gyda'm cyfaill a'm hanwyl frawd, Thomas Edward. Teimlais yn drymaidd iawn yma. Aethum oddiyno i Lantrisant. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma mewn modd neillduol. Daethum i St. Ffagan, lle yr wyf heddyw yn ysgrifenu fy nheimladau. Yma yr oedd yn sych. Cefais bleser mawr i son ac anog yr Ysgolion Sabbathol Cymreig, a'r Arglwydd yn dangos ei foddlonrwydd ar y gwaith. Oh, pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau! O am nerth i rodio wrth ei draed. Aethum oddiyno i Dinaspowys; nerthwyd fi yma, a chefais le i feddwl fod yr Arglwydd yn bendithio y gwir, eto fy nheimladau oeddynt dywyll a sychlyd iawn. Oddiyno i Aberddawen. Siriolodd yr Arglwydd arnaf mewn modd neillduol.

"Dranoeth, y Sabbath, aethum i'r Brythyn, i gyfarfod ag Edward Coslett; yr oedd wedi dybenu pregethu cyn i mi ddod yno. Bu yma arnaf megys tywyniadau haul ar ddydd cymylog. Oddiyno i Salem. Teimlais fy ngwendid yma yn fawr iawn, eto nid yn ddibleser. Clod i Dduw am hyn hefyd. Oddiyno i Benybont. Gorfu arnaf lefaru yn y ffenestr. Tybiais y cawswn anwyd mawr, ond cadwyd fi yn dda. Dranoeth i Drelales. Pregethais allan yma, a'r Arglwydd yn dda iawn wrthyf. Oddiyno i'r Pil. Gwlithodd yr Arglwydd arnaf yma. Oddiyno i'r Dyffryn, dan lawer o lesgedd. Llewyrchodd yr Arglwydd arnaf yma, ac ar yr holl gynulleidfa. Gwrandewais dri o blant yn dyweyd y 53ain o Esay yn dda ac yn gywir iawn. Dranoeth daethum i Langynwyd. Profais diriondeb yma eto, ond nid mor llewyrchus a llawer gwaith. Oddiyma i Benhydd. Fy nheimladau oedd isel, ond gwnaeth yr Arglwydd yn dra rhagorol. Oddiyno i Bontrhydyfen i dŷ y gweinidog a'r brawd Richard James. Rhoddodd yr Arglwydd ei nawdd yn helaeth ar y cyfarfod. Oddiyno i'r Ynysfach. Bu yma yn gyffredin iawn. Oddiyno i Cwmnedd. Bu yr Arglwydd yn dirion iawn o honof. Oddiyma i Ystradgynlais. Cefais gymhorth yma, ond nid mor heulog. Oddiyma i'r Creunant. Fy nheimlad yn dra thrymaidd. Oddiyma, mi a'm cyfaill, i Fonachlog. Siriolodd yr Arglwydd mewn modd neillduol arnaf yma. Clod diddarfod fyddo oddiwrthyf i'r Arglwydd. Oddiyno y noswaith hono i Lansamlet. Arddelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol yr odfa hon. Oddiyno i Abertawy erbyn deg. Cefais gymhorth a phleser yn y gwaith. Erbyn dau i Dreforis. Teimlais fwy o gaethiwed yma. Oddiyno i'r Goppa. Fy nheimladau yma oedd isel a thrymaidd ar y cyntaf; ond gwenodd yr Arglwydd mewn modd rhyfedd iawn arnaf. Codaf faen yma hefyd.

"Dranoeth, y Sabbath, aethum i Lanelli. Bu yn galed iawn arnaf yma. Briwodd yr odfa hon fy meddwl a'm corph. Oddiyno i Gydweli. Cefais fy anadl yma. Moliant i'r Arglwydd am hyn. Oddiyma i Landefeilog. Tywalltodd yr Arglwydd arnom yma ddylanwadau helaeth o'i gariad. Dydd Llun ymadewais â'r cyfaill fu genyf trwy y daith. Oddiyno i Lanstephan. Gwrandewais Mr. Davies yn yr eglwys. Aethum inau at y gwaith am ddau. Fy nheimlad oedd yn drymaidd iawn. Cadwyd society; ychydig, a'r hin yn oer, ac yn eira mawr. Oddiyno i Ben——. Cefais gymhorth yma i lefaru. Yr oeddwn i fod yn Lacharn erbyn naw. Methais fyned nes oedd yn ddeg o herwydd yr hin. Pregethais am 3 ac am 6. Yr oedd yn drymaidd arnaf am 3; agorodd ychydig arnaf am 6. Oddiyno dydd Mercher i Forehill. Dranoeth pregethais yno am 9. Daethum adref y noswaith hono yn iach; cefais y teulu felly hefyd. O, beth a dalaf i'r Arglwydd am ei annhraethol ddoniau i lwch y llawr. Bod yn wastad yn y llwch sydd yn gweddu, diolch yn ddibaid, ac ofni Duw a'i wasanaethu byth fyddo fy mraint. Dydd Gwener a dreuliais mewn gwrando: yn y boreu Dafydd Evans o Lanwinio; am 2, Lewis Morris a John Williams. Yn y boreu, teimlais fy meddwl a'r gwirionedd yn gafaelu â'u gilydd. Y prydnawn fy nheimlad oedd yn fwy trymaidd. Dydd Sadwrn a dreuliais gyda fy helyntoedd bydol, a'm meddwl yn mhell iawn oddiwrth yr Arglwydd da a thirion. Maddeued i mi, a nesâed fi yn fwy ato ei hun, i aros yn ei gymdeithas.

"Dydd Sabbath, ar ol y ddyledswydd deuluaidd, aethum i'r Ysgol Gymraeg. Bu genym ysgol fawr. Adroddwyd dros bymtheg penod allan o'r llyfr, ac arwyddion cynydd ar y gwaith, tu hwnt i'm dysgwyliad. Pregethais am 3; wrth ddechreu, fy nheimlad oedd yn isel a thrymaidd iawn; ond cyn y diwedd llewyrchodd arnaf. Aethum oddicartref i Garnachwen; fy ngwendid oedd yma i'm teimlad yn fawr iawn, eto cefais gymhorth. Dybenais fy Sabbath yn dra thawel, a gradd mwy o sobrwydd na llawer gwaith. Clod i Dduw am y radd leiaf.

"Yr wyf yn dechreu ar wythnos arall. O am nerth i'w threulio yn fwy mewn llafur ysbrydol. Yr wythnos ganlynol a dreuliais mewn astudio, rhan o honi, ac mewn helyntoedd bydol: ond yn mhell iawn oddiwrth yr Arglwydd, ac amryw o deimladau gofidus o ran fy mhrawf mewn pethau ysbrydol; felly y treuliais fy wythnos. Dydd Sul, ar ol y ddyledswydd deuluaidd, yr hon oedd yn fwy trymaidd na llawer gwaith, aethum i'r odfa, lle yr oedd Mr. Jones o Langan i bregethu yn fy nghartref. Pregethodd nes yr oeddwn yn teimlo budd, oddiwrth Ioan ii. 17, ac ar yr ordinhad teimlais fy meddwl yn llawn gorfoledd yn wyneb y peth oedd yn ei ddyweyd. Cefais achos i fendithio Duw am ei diriondeb. Prydnawn aethum i'r Hall i bregethu pregeth angladdol i fab un a fu farw yn sydyn ar y maes. ******* "Heddyw yr wyf yn myned i daith. Dy wyneb, O fy Arglwydd, fyddo arnaf, er mwyn dy enw. Nos Sadwrn teimlais fy meddwl yn dra gofidus. Y Sabbath aethum at odfa naw. Fy nheimlad yma oedd yn dra chysurus. Ar ol dybenu y cwrdd, cefais brofedigaeth yn achos fy ngheffyl. Aethum, mi a'm cyfaill, erbyn dau i Landdowror. Cwrddais â threial yno: nid oedd yno gyhoeddiad, eto cawsom odfa. Aethom erbyn saith i Gaerfyrddin. Cefais bleser mawr yn y gwaith yma, wrth holi y plant, a gwrando penodau. Dranoeth codasom yn foreu iawn. Aethom i Abertawy—wyth milldir ar ugain o ffordd, a'r ceffyl yn anhwylus iawn. Bu yr Arglwydd yn dda iawn wrthyf yma. Oddiyno i Lansamlet—Cefais gymhorth yma, a phleser mawr wrth holi y plant. Dranoeth i Gastellnedd. Teimlais gymhorth mawr yma. Oddiyno i'r Dyffryn. Erbyn myned yno yr oedd yr odfa wedi dybenu, a Mr. Charles wedi pregethu. Aethom yn nghyd, amryw o honom, i'r Pil. Cefais gymhorth a help yn y lle hwn.

"Daethom dranoeth i Bontfaen i'r Association. Am 10, cyfarfyddodd y gweinidogion. Ymddyddanwyd ag un oedd yn ymgynyg i'r weinidogaeth, ac amryw bethau eraill. Cwrdd am ddau i flaenoriaid. Ymddyddanwyd am bethau perthynol i'r Corph. Pregethodd John Rees a Mr. Lloyd am bedwar, a'r gwaith dan ei harddwch. Dranoeth Ishmael Jones a Dafydd Rees. Y society am naw a dreuliwyd yn dra buddiol. Am un ar ddeg pregethodd Mr. Charles ac Ebenezer Morris; a'r Arglwydd a'i wyneb ar y gwaith. Ar ol lluniaeth, pregethodd Thomas Jones a minau. Dybenwyd yr Association yn dra chysurus.

"Oddiyno i Benybont. Cefais bleser mawr yma wrth holi y plant; a phregethu. Oddiyno i'r Dyffryn: yn fwy caeth. Oddiyno i Dreforis. Cefais help yma. Dranoeth i'r Goppa. Cefais gymhorth yn y lle hwn. Oddiyno i'r Bettws. Nerthwyd fi yno hefyd. Oddiyno i Lettygariad. Yr oeddwn wedi fy ngorchfygu yma gan lesgedd. Dranoeth, y Sabbath, i Landilo. Cefais bleser yn y gwaith yma. Oddiyno i Gynwyl. Teimlais yn fwy caeth gyda'r gwaith. Oddiyno i Cross Inn. Teimlais fy llesgedd yn fawr yma. Oddiyno i'r Pentwyn, a'm llesgedd yn cynyddu. Dranoeth i Lanpumsaint. Cefais gymhorth yma gyda'r holl waith. Oddiyno i Nant yr olchfa. Cefais fwy yma na'm dysgwyliad. Dydd Mawrth at odfa deuddeg. Oddiyno i Lanfyrnach, mewn anhwyldeb mawr o ran fy nghorph, a chynyddu a wnaeth. Dranoeth i Gwrdd Misol Bwlchygroes, a'r anhwyldeb yn fawr. Cadwyd society am naw. Pregethodd Dafydd Evans a minau, a phob arwydd o sirioldeb ar y gwaith. Dranoeth am naw ymddyddanwyd am bethau amgylchiadol. Pregethodd Evan Harries ac Ebenezer Richard, a'r gwaith dan ei goron. Aethum i Landudoch y noswaith hono; cefais bleser mawr yno gyda'r holl waith. Dranoeth i agor tŷ cwrdd Glanrhyd, a'r Arglwydd yn gwenu. Y noswaith hono i Drefdraeth, a'r gwaith dan ei wawr. Dranoeth adref yn gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Boreu Sabbath holais y plant yma gyda phleser. Yn ganlynol pregethodd Evans. Oddiyno i Gaerfarchell. Holais y plant yma gyda phleser mawr. Oddiyno i Dyddewi. Pregethodd ; holais inau y plant gyda phleser mawr. Dychwelais adref ddydd Llun yn o gysurus. Cefais y teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei holl ddoniau. Dydd Mercher bu genym gwrdd gweddi a society. Teimlais fy meddwl yn dra siriol gyda'r gwaith. Sadwrn at odfa yr hwyr, dan ryw faint o brofedigaeth. Cefais gymhorth i ddyweyd y gwir. ******* "Cychwynais Mai yr 16eg am dro i'r Gogledd. Teimlais lawer o lesgrwydd yn fy natur, ond yr Arglwydd a fu dda wrthyf; cefais arwyddion ei fod heb fy rhoi i fyny. Clod byth iddo am hyn. Dychwelais heddyw, Mehefin 27, yn dda fy iechyd. Cefais y teulu felly hefyd. Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei ddoniau i mi, y gwaelaf o bawb! Mawrth, gwrandewais Ebenezer Morris gyda llawer iawn o bleser, a'm hysbryd dan y gwlith oddiwrth y gwirionedd. Dydd Iau gwrandewais ddau wr dyeithr eraill. Fy nheimlad yma oedd drymaidd iawn. Nos Wener bu genym ysgol dda iawn. Cefais y plant lawer iawn gwell nag y meddyliais. Sabbath holais y plant am wyth, am Grist, gyda phob pleser. Cefais y fraint o fod dan yr un llewyrch wrth lefaru. At odfa dau. Cyfarfyddodd plant y tri lle. Holais yn gyntaf ar y Drindod; yn nesaf, holais rai eraill am ddyfodiad Crist i'r farn; yn drydydd, eraill ar wyrthiau Crist. Dybenwyd y cyfarfod gyda phleser meddwl. At odfa yr hwyr. Holais y plant yno, a phregethais, nid yn ddiwlith. Clod i Dduw am hyn. Daethum adref heddyw yn gysurus: cefais y teulu felly hefyd. Oh am nerth i rodio er clod y Duw hwn, sydd mor rhyfeddol o dda i un mor annghyffredinol o ddrwg. Nos Fercher, pregethais yn Carnachenwen. Profais yr Arglwydd yn dirion. Dydd Gwener aethum i'r Felindre. Profais gymhorth yno yn wyneb cynygiadau i ddigaloni. Oddiyno i Abergwaen i gadw society erbyn deg. Teimlais gymhorth rhwyddineb tu hwnt i'm dysgwyliad. Y noswaith hono aethum i Drellan. Cefais gymhorth yno.

"Boreu dydd Sabbath aethum i gladdu brawd anwyl i mi. Aethom oddiyno at y gwaith, ond nid gyda chymaint o wlith. Am ddau ceisiwyd genyf i bregethu ar destun ar ddeisyfiad y marw. Cefais gymhorth i wneyd hyny, a'r Arglwydd yn gwenu. Holais y plant, a'r gwlith yn disgyn. Oddiyno i Drehowel. Teimlais fy meddwl yn dra siriol yma. Dydd Llun aethum i'r Dinas. Cefais rwyddineb yma. Aethum oddiyno i Drefdraeth. Cefais gymhorth yma hefyd, yn neillduol gyda'r plant. Dranoeth i'r Eglwyserw. Cefais help yma hefyd. Oddiyno i Gilgeran, lle yr oedd Cwrdd Misol. Cafwyd cymhorth yn y prifat. Cefais gymhorth yn y cyhoedd, a'r Arglwydd yn arddel; arosodd dros y cyfarfod oll. Cefais anwyd mawr. Dydd Iau, daethum i'r Nefern erbyn 12. Teimlais fy meddwl yma yn dra siriol. Oddiyma i Abergwaen. Cefais gymhorth ac arwyddion neillduol o foddlonrwydd. Daethum adref heddyw yn gysurus; cefais y teulu felly hefyd. Sabbath, am ddeg, holais y plant, a phregethais. Profais yr Arglwydd yn dirion. Oddiyma i Gaerfarchell. Teimlais yma fwy o galedi. Oddiyma i Dyddewi. Teimlais yn fwy rhydd yma. Boreu dydd Llun teimlais fy afiechyd yn cynyddu. Adref nos Lun yn fawr fy mlinder. Nos Wener yn yr ysgol i holi y plant yn yr egwyddorion. Nos Sadwrn pregethais yn Carnachenwen. Teimlais rwyddineb a help yn y gwaith. Aethum y Sabbath i Gymanfa y plant i Abergwaen. Holwyd yno bedair ysgol gyda llawer o foddlonrwydd. Pregethwyd yn ganlynol. Y pwnc cyntaf oedd profi nodau y galon. 2. Dyfodiad Crist yn y cnawd. 3. Nodau rhagrithiwr. Cyfarfuwyd am ddau. Dechreuwyd trwy fawl, gweddi, a darllen. Holwyd tair ysgol. Y gyntaf, am nodau dyn annuwiol; yr ail, ar Dduwdod Crist; y drydedd, am ddyndod Crist. Pregethwyd. Cafwyd achos dywedyd mai da oedd bod yma. Adref y noswaith hono. Y Sabbath diweddaf holais y plant gartref am waith yr Ysbryd Glân. Pregethais. Teimlais ddaioni Duw, a llid satan yr un pryd. ******* "Dydd Llun, aethum i'r Cwrdd Misol. Pregethais yn Drellan, nos Lun. Dydd Mawrth yn y Dinas am naw: prydnawn yn y Cwrdd Misol. Ar ol y gyfeillach gyffredinol gweddiodd D. Griffiths. Pregethodd E. Morris a minau. Dranoeth cyfarfuwyd am 9. Ymddyddanwyd amryw bethau perthynol i'r Corph, yna dechreuwyd yr odfa gan E. Richards. Pregethodd E. Morris a Mr. Jones, a'r gwaith dan ei goron. Am 6, holais y plant, a phregethais. Dranoeth i Eglwyserw, gyda Mr. Jones, i agor tŷ cwrdd. Daethum oddiyno i Abergwaen. Holais y plant, a phregethais mewn mawr gaethiwed o ran fy nghorph. Daethum adref heddyw dan rwymau i roddi diolch i Dduw am ei diriondeb ataf gyda'i waith, ac yn y teulu. Boreu Sabbath yn yr ysgol gartref. Y prydnawn i Rydygele; cefais gymhorth gyda'r gwaith yma. Oddiyno i Solfach. Cymhorth a help yma. Heddyw daethum adref yn dra chysurus, a'r teulu felly hefyd. Clod i Dduw am ei annhraethol ddaioni.

"Dydd Mawrth aethum i'r Association i Abergwaen. Cyfarfu y gweinidogion am 10. Ymddyddanwyd yn dra buddiol. Cyfarfuwyd wedi hyny ychydig wedi un. Triniwyd pethau amgylchiadol, perthynol i'r Corph. Am dri gweddiodd David Evans. Pregethodd Thomas Jones a Mr. Jones. Dranoeth am saith gweddiodd D. Thomas. Pregethodd Watkin William ac Arthur Evans. Awd i'r society. Cafwyd achos cwynfan oblegyd clwyfo y frawdoliaeth oddiar fethu cydweled. Am 11, gweddiodd B. Williams. Pregethodd John Thomas, Mr. Bennet, a D. Rees. Am 2, gweddiodd John Williams; a phregethodd E. Richards a Nathaniel Williams. Yn yr hwyr gweddiodd Nathaniel Williams, a phregethodd William Hafard, a holodd Ebenezer Richard y plant. Ymadawyd yn dra chysurus. Dydd Sul gwrandewais Mr. Jones. Oddiyno aethum i Gaerfarchell, ac oddiyno i Dyddewi. Holais y plant, a'r Arglwydd yn dirion iawn. Oddiyno i Solfach. Holais y plant, a'm meddwl yn dra siriol. Oddiyno i Garnachenwen. Cefais gymhorth yma tu hwnt i'm dysgwyliad. Yr wyf heddyw yn parotoi i fyned i Fryste. Ei wyneb grasol fyddo arnaf, bryfyn gwael, annheilwng."

Yr ydym wedi gosod darn go fawr o'r dyddlyfr i mewn, fel y caffo y darllenydd fantais i weled pa mor fanol yr oedd Mr. R. yn sylwi ar, ac yn cofnodi y gwahanol dywydd yr elai drwyddynt yn nechreu ei fywyd cyhoeddus. Hwyrach y bydd rhai yn barnu ein bod wedi rhoi gormod o hono i mewn; ond nid oeddem yn gweled y gallasem wneyd tegwch ag ef na hwy, ond trwy ddyfynu yn helaeth o'r llyfr sydd yn cynwys helyntion amryw flynyddoedd.

Beth yw y casgliad naturiol, debygwch chwi, y dylem wneyd ar ol darllen y tudalenau uchod? Yr ydych yn ei weled yn suddo i mewn megys i ffwrn boeth yn nechreu y llyfr, ac yn y diwedd yn dyfod allan nid fel Ephraim, yn debyg i "deisen heb ei throi," eithr yn fara iachus, cras, blasus, a bwytadwy. Yr ydych wedi ei weled yn nodi allan ei deimladau mewn cysylltiad â'r holl symudiadau, yn gwneyd sylw ar y gwres a'r oerfel mewn cysylltiad â phob cwrdd ac a phob pregeth; yn llawenhau pan y rhoddai Duw wedd ei wyneb; yn gofidio pan y cuddiai ei wyneb; yn ofni rhag nad ydyw yn gywir; yn llawenhau mewn gobaith ei fod yn gymeradwy brydiau eraill. Wel, a ydyw yn bosibl i chwi lai na meddwl fod dyn ieuanc fel hyn yn rhwym o fod yn dduwiol iawn? Onid yw yn rhesymol i ni gasglu ar unwaith ei fod dan law Duw, yn cael ei lunio yn was iddo? Pwy ddarfu gael eu harwain erioed ar hyd y llwybrau y noda y dyddlyfr hwn allan, ond y cyfryw ag oedd o dan driniaethau nid yn unig i fod yn gadwedig, ond hefyd i ddal gweinidogaeth amlwg er cadwedigaeth y byd? Nid oes yr un ganwyll a all oleuo, heb losgi o hyd. "Canwyll yn llosgi ac yn goleuo" ydoedd ef, a miloedd yn Nghymru yn "gorfoleddu yn ei oleuni."

Edrychwch i'r dyddlyfr, a chewch weled y ganwyll yn llosgi; edrychwch i gymdeithas, a chewch ei gweled yn goleuo, megys ar ganwyllbren, i bawb a'r sydd yn y tŷ. Yr oedd y gair yn llosgi ynddo, nes fflamio allan yn oleuni i bawb o gwmpas. Yr ydym yn edrych ar y dyddlyfr fel allwedd i agor y gwahanol gloion, nes dyfod i ddirgelion cymeriad Mr. Richard. Yr oedd yn fawr mewn cymdeithas am ei fod yn fawr gyda Duw; yr oedd yn wr cadarn nerthol, am ei fod mewn cymundeb â'r Hollalluog; yr oedd yn drugarog, ac yn medru cydymdeimlo â'r tlawd a'r gwan, o herwydd ei agosrwydd i'r "Duw trugarog a graslawn."

Bydd y dynion ieuainc, wedi darllen y dyddlyfr, yn gweled fod y byd wedi treiglo gryn dipyn yn y blaen oddiar gychwyniad Mr. Richard hyd yn awr, er nad yw hyny ddim yn amser maith. Nid yw ond o haner cant i driugain mlynedd oddiar y dechreuodd bregethu hyd yn bresenol, ac eto yn hyny o amser mae y byd wedi newid amryw weithiau; a'r pregethwyr wedi newid fwy o weithiau na hyny, canys nid oes iddynt oes hir iawn, yn enwedig os byddant ryw werth; oblegyd, fel y gwyddoch, os bydd y ganwyll yn llosgi, y mae yn rhwym o gael ei difa yn bur fuan. Yr ydych wedi darllen yn y dyddlyfr enwau pregethwyr na welsoch erioed o honynt; ac yn wir, ychydig sydd yn fyw a'u gwelodd, er mor fyr yw yr amser. Yr ydych yn darllen am Gymanfaoedd, a phwy oedd yn pregethu ynddynt; ond pa le y maent heddyw, ïe, a tho ar ol to wedi hyny? Nid oes enw—yr un yr ydych chwi yn ei adwaen heddyw yn y dyddlyfr; nac oes un. Yr enwau bendigedig yr ydych yn eu darllen yno yw, Jones, Llangan; Howells, Trehill; Howells, Llwynhelig (Howells, Longacre, wedi hyny); Ebenezer Morris; David Evans, Aberaeron; Jno. Evans, Llwynffortun; Arthur Evans; Charles o'r Bala, a'i frawd o Gaerfyrddin; Thomas Jones, Caerfyrddin; John Elias, Mon; Lloyd, Beaumaris; Wm. Lloyd, Henllan, a lluaws eraill rhy faith i'w henwi. Ond y cwestiwn yw, "Ү prophwydi, pa le y maent hwy? y tadau, a ydynt hwy fyw byth?" Ah! y maent yn ddystaw er ys llawer o flynyddau, yn gorphwys o dan rwymau angau, yn "dysgwyl adgyfodiad gwell." Y rhai hyn oeddynt ddefnyddiau teml gyntaf y Methodistiaid; y rhai nad yw y bobl ieuainc yn eu cofio, nac yn gwybod ond ychydig am danynt, a hyny trwy draddodiad. Y maent hwy yn hapus gyda'r ail deml, gan feddwl fod hon yn gymaint ei gogoniant a'r gyntaf, os nid mwy, yn gymaint ag na ddarfu iddynt weled gogoniant y gyntaf erioed. Eithr yr hen bobl anwyl, gweddillion angau dwy oes, y maent hwy yn wylo y dagrau wrth edrych ar salwch yr ail deml, yn gymaint a'u bod yn cofio y gyntaf.

Yr oedd yn bryd i'r hen Christmas Evans farw gryn amser cyn iddo wneyd hyny, canys yr oedd Cymanfaoedd yn myned yn bethau diflas ganddo, yn gymaint a'i fod yn gydnabyddus å'r hen Gymanfaoedd er ys llawer dydd. Gwaeddai allan ryw dro wrth wrando pregethau, ac yn cofio yr hen bregethu Cymanfaol, "Hawyr, beth yw'r sparbles hyn? yn mha le y mae yr hen hoelion wyth?" Yr hen hoelion wyth sydd i'w cyfarfod y rhan fynychaf yn y dyddlyfr, yn enwedig ar ddydd Cymanfa. Bydd ambell sparblen yma ac acw ar brydiau eraill. Bydd yr hen bobl yn dyweyd nad oes nemawr o hoelion wyth yn cael eu gwneyd yn awr,—fod yr hoelion i gyd yn sparbles. Os felly, pa ryfedd eu bod yn wylo? Na, gadewch iddynt, yr hen dadau anwyl, canys y mae yn ddigon rhesymol iddynt wylo pan yn cofio am Sion yn ei gogoniant gynt, ac edrych arni yn awr yn nesaf peth i adfeiledigrwydd; "canys y mae y gweision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Wel, wylwch chwi, fe allai y bydd eich dagrau yn had gwerthfawr dry yn ffrwythlonrwydd eto i'r byd. Nid siarad yr hen bobl yw hyn i gyd, oblegyd ymddengys yn eglur fod rhyw beth yn y siarad, a mwy ynddo nag y bydd llawer yn dewis meddwl.

I ba le yr ewch i edrych heddyw yn Nghymru am bregethwyr fel Jones Llangan, Evans Llwynffortun, Elias, Ebenezer Morris, y ddau Richard, a lluaws eraill? Edrychwch lle y mynoch, edrych ofer fydd, canys nid ydynt i'w cael heddyw: y mae yr oruchwyliaeth wedi newid yn rhyw fodd, a'r offeiriadaeth hefyd. Yr ydys yn awr yn yr ail deml; ond gobeithio serch hyny nad ydyw hon i'w dinystrio, eithr y bydd rhyw drydedd yn deilliaw o honi yn fwy gogoneddus na'r gyntaf. Ond y peth goreu i ni yw dylyn ein ffordd yn y blaen yn araf a phwyllog, a pheidio aros yn rhy hir gyda dim.

Wrth edrych ar y rhan o'r dyddlyfr ag yr ydym wedi roddi o flaen ein darllenwyr, ni a welwn fod gwrthddrych y llyfr mewn llawn llafur, Sul, gwyl, a gwaith, gyda gweddio, hunanymholi, cyrddau gweddi, cyfeillachau, holi ysgolion, gwrando pregethau, a phregethu ei hunan. Nid oedd ganddo nemawr o amser i fod yn segur, canys yr oedd o gyfarfod i gyfarfod, o Sul i Sul, o Gymanfa i Gymanfa, o daith i daith beunydd. Nid oedd ganddo amser i siarad am ddim braidd ond am grefydd; sef am bregethu, am weddio, am Gymanfaoedd, ac am Sabbathau. Mae yn cyffwrdd yn ei ddyddlyfr weithiau am ei geffyl, ei fod yn cael ei daro yn anhwylus ar y daith, onide prin y cawsem wybod fod ganddo geffyl o gwbl. Erbyn ystyried, crefydd yw hyny hefyd, canys y mae yn dyweyd helynt ei feddwl, a'i brofedigaeth yn yr amgylchiad. Oblegyd, fel yr ydych yn deall, nid gwerthu ceffyl, porthmona ceffyl, gwneyd rhyw elw o geffyl yw y cwestiwn, eithr ceffyl yn myned yn sâl pan oddicartref ar daith yn pregethu. Nid rhyfedd yn y byd fod peth fel hyn yn brofedigaeth danllyd, o herwydd yr oedd ei gyfleusderau i fyned yn y blaen gyda'r cyhoeddiad yn ymatal ar unwaith, canys yn y dyddiau hyny nid oedd dim gwell, na chystal, i fyned trwy y byd a cheffyl. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg, fel nad oedd yn bosibl eu teithio mewn cerbydau; a phe buasent yn weddol dda, nid oedd cerbydau i'w cael; yr oedd y trethi i'r llywodraeth mor fawr, fel nad oedd neb yn eu cadw ond dynion arianog iawn. Ceffyl oedd y peth goreu o lawer i deithio y byd y pryd hyny, ac ar geffylau y byddent yn teithio; o ganlyniad nid yw yn beth rhyfedd ei glywed ef yn cwyno, ac mewn profedigaeth chwerw, o herwydd anhwyldeb y ceffyl. Yr oedd pethau mawrion iawn wedi ymlapio mewn clefyd ceffyl pregethwr yn y dyddiau hyny. Yr oedd y pregethwr yn methu myned ar ei gefn; ac os na allasai fyned ar ei gefn, nis gallasai fyned o gwbl. Yn y fel hyn yr oedd atalfa ar y cyfan; y pregethwr yn cael ei atal, y bregeth yn cael ei hatal, a'r daioni yn cael ei atal oddiwrth y byd. Chwi welwch fod pethau mawrion yn y peth, er yr ymddengys wrth ei ddarllen yn beth lled ysgafn. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng ceffyl a cheffyl, fel sydd rhwng seren a seren; canys bydd ceffyl sydd yn cario pregethwyr yn fwy pwysig yn y glorian, ac yn fwy gwerthfawr yn y farchnad, na cheffyl melin neu fferm; gall y rhai hyny syrthio i'r dyffryn fel y bydd anifeiliaid eraill yn gyffredin, heb fod yn nemawr pwys ond i'w perchenogion; eithr am geffyl pregethwr, bydd ei salwch ef, chwaithach ei drengu, yn bwys i filoedd. Ac yn wir, y mae peth arall i'w ystyried yn y cwestiwn; canys ar ol i bregethwr golli ceffyl, bydd yn anhawdd iawn iddo gael un arall yn ei le.

Yr oedd Mr. Richard yn hynod dyner o'i geffyl; yr unig fai oedd arno oedd ei fod yn rhy dyner o hono; yr oedd yn rhy drugarog wrth ei anifail; yr oedd yn ei ladd â thrugaredd. Dywedir am ambell fam yn lladd y plant wrth roi gormod o foethau iddynt; felly Mr. Richard yn lladd y ceffyl wrth fod yn rhy drugarog wrtho. Peth trwm iawn yw trugaredd; os eir i ddangos gormod o honi i gefn ceffyl y mae yn sicr o'i dori i lawr. Nid ydym yn cofio clywed iddo ef ladd ceffyl erioed wrth ei yru yn ormodol, ond clywsom ei fod wedi lladd rhai wrth wneyd i ddynion roi gormod o geirch iddynt. Dywedir fod gormod o fêl yn ddrwg, ac y mae yn debyg fod gormod o geirch felly; ond ni fynai efe gredu fod gormod i fod, os gallasai yr anifail ei fwyta. Yr oedd yn hyn fel y dyn ag oedd yn cymeryd moddion doctor, yn penderfynu cymeryd y gostrelaid i gyd ar unwaith, a'r box pills hefyd, gan ddywedyd, "Os yw ychydig yn dda, y mae llawer yn dda;" ac i fyny a hwy ar hyny; eithr gwelwyd yn y canlyniad fod llawer yn sicr o fod yn ddrwg, pa un a oedd ychydig yn dda ai peidio, canys bu y dyn farw; a marw wnaeth ceffyl Mr. Richard hefyd wrth roi gormod o geirch iddo. Dywedir i efryddiaeth ei gymeryd yn ei draed; dringodd i'r corph, nes iddo drengu; a'r ddedryd ar y trengedig oedd, "Iddo farw o dan ddylanwad gormod o geirch."

Nid oedd dim yn effeithio arno yn fwy na cholli y ceffyl; nid oedd yn bosibl cael ganddo wneyd dim yn y byd nes ei gael drachefn. Yr ydym yn cofio clywed iddo golli y ceffyl o'r cae yn Nghymanfa Cendl, Sir Fynwy; ond ni symudai mwy na mynydd nes ei gael. Byddai y bobl yn ceisio ei berswadio i fyned gyda hwy at y cyhoeddiad tra fyddai eraill yn chwilio am y ceffyl; ond ni symudai gam; a gofynai yn barhaus, "Yn mha le y mae y ceffyl? Dewch chwi a'r ceffyl i mi; paham na ffeindiwch chwi y ceffyl? Ar ol i chwi ddyfod a'r ceffyl, minau ddeuaf." Yr ydym yn cofio ei weled yn dyfod at gapel bychan; yr oedd ceffyl a cherbyd ganddo y pryd hwn, ac yn cael ei gyfarfod gan ddyn ag oedd yn edrych ar ol pethau, yr hwn a ddywedodd wrtho, "Disgynwch, Mr. Richard." "Disgyn," ebe yntau, "yn mha le yr ydych yn rhoi y ceffyl a'r cerbyd?" "Yr wyf," ebe y dyn,

yn rhoi y ceffyl yn yr ystabl yma; nid wyf yn gwybod yn iawn yn mha le y gosodir y cerbyd; ond yr wyf yn meddwl y ceir lle gan y ffermwr sydd yn byw yw yn y tŷ hwnt acw." "A ydych wedi bod yn gofyn? Cerddwch i ofyn yn awr, os na fuoch." "Wel mi af," meddai y dyn; "ond dewch chwi i lawr yn gyntaf; mi ofalaf fi am y cerbyd gystal a phe baech gydag ef eich hunan, syr." "Y chwi yn gofalu am fy mhethau i gystal a mi fy hun," meddai; "anwyd ddim o'r dyn hwnw eto; cerddwch a gofynwch i'r dyn am le i roi y gig i mewn." Eisteddodd heb symud dim, nes yr oedd pob peth yn barod i roi y gig a'r ceffyl mewn lleoedd priodol. Mae byd o synwyr hefyd yn y frawddeg, "Anwyd ddim o'r dyn hwnw eto;" sef y dyn fuasai yn gofalu am ei bethau ef gystal ag ef ei hun. Na, ac ni enir ef byth ychwaith; ac y mae y dynion sydd yn ymddiried gormod i eraill yn debyg iawn o syrthio i'w dwylaw, a chael eu trin yn annhrugarog ganddynt. Os na fydd dyn yn gofalu am dano ei hun, pwy arall a ofala drosto? Ac yn wir, pa ddyledswydd sydd ar ddyn i ofalu am bethau dyn arall, yn fwy nag y mae y perchenog ei hun yn dewis gwneyd?

Y mae y dyddlyfr yr ydym wedi ei roi ger eich bron yn cynwys ei flynyddoedd boreuol, cyn ei fod yn ddeg ar ugain oed. Wrth roi y rhan arall o hono, ni a welwn amgylchiadau pwysig iawn yn dyfod i'w gyfarfod, y rhai y tybiodd lawer gwaith, neu o leiaf yr ofnodd yn ddirfawr y buasai yn myned yn llongddrylliad am y ffydd a'r weinidogaeth. Gwelir ei fod yn teimlo yn ddirfawr ei fod megys yn y ffwrn dân; ond o drugaredd ni losgodd; yr oedd Mab y dyn gydag ef yn myned trwy ei brofedigaethau chwerwon, y rhai, yn lle ei ddifa a'i ladd, ni wnaethant ond ei buro a'i gadw yn fyw ynddynt. Duw a ddywedodd, "Ni'th roddaf i fyny;" ac y mae yn wastad at ei air i'r cyfryw sydd yn ymddiried yn yr hyn a ddywed.

Nodiadau

[golygu]