Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XI
| ← Penod IX | Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen gan Edward Matthews |
Penod XII → |
PENOD XI.
Penod i'r Doethion.
Yr ydym wedi galw y benod hon wrth yr enw uchod yn gymaint ag mai diarebion synwyrgall ydynt; ac y mae eisiau peth synwyr i ddeall synwyr rhai o hynynt, gan gymaint o synwyr sydd ynddynt. Y maent yn cynwys llawer o synwyr mewn ychydig eiriau, ac nid ychydig o synwyr mewn llawer o eiriau, fel y byddis yn aml. Nid ydym yn gallu rhoi ond ychydig o honynt fel engraifft; pe rhoddem y cwbl o'r dywediadau fel sydd yn y benod hon, byddent yn cynwys rhyw filoedd yn chwaneg; byddent yn llyfryn bychan eu hunain. Gwell fyddai dyfod â pheth felly allan mewn rhyw ffurf arall nag mewn gwaith o'r natur yma. Beth bynag, gwelir fod gan Mr. Richard hoffder mawr mewn cyfansoddi dywediadau byrion a chynwysfawr; ac y mae y rhai a'i clywsant ef yn pregethu yn cofio yn dda ei fod yn taflu allan ymadroddion felly yn awr ac eilwaith.
Calon esgeulus wna fuchedd annhrefnus.
Tymher santaidd ar yr enaid wna harddwch santeiddrwydd ar y fuchedd.
Mae'r gorchymyn wedi uno ein gofal a'n cysur yn nghyd; meddylfryd ar Dduw, a thangnefedd heddychol yn Nuw.
Bod yn ostyngedig mewn llwyddiant yw un o'r pethau penaf yn y byd.
Edifeirwch yw newid o anufudd-dod i ufudd-dod.
Mae gwrthgilio yn halogi enw yr Arglwydd.
Fe ddylai pob peth addysgu dyn i wrando geiriau Duw.
Mae anystyriaeth yn dangos naill ai diffyg dyn neu ddiffyg duwiol, ac weithiau pob un o'r ddau.
Y peth nad yw yn golled ei golli, nid yw yn enill ei feddu.
A ymddiriedo i'w ddeall ei hun a syrth i'w bydew ei hun.
Gwybodaeth gyffredinol heb ddim yn gymhwysiadol nid yw fuddiol.
A fyn ei ffordd a fyn ei therfyn.
Diofal yw diafael.
Ni fyn ofalu a fyn wastraffu; a fyn wastraffu a fyn dlodi; a fyn dlodi a fyn ei anmharchu.
A fyn angen, a fyn gragen.
Gwybod i bawb ond iddo ei hun, yw y callaf o bawb a'r ffolaf o neb. Y neb ni chymer addysg a ddyfethir o eisiau gwybodaeth.
Nid oes dim a rydd ddyn i lawr ond efe ei hun; na dim rydd ei hun i lawr ond ei bechod.
Meddwl mawr am dano ei hun a fyn ddangos ei hun yn fawr.
Harddwch dyn ato ei hun yw cuddio ei hun.
Y fedr fwyaf i ddyn yw ymwadu ag ef ei hun.
Iawn ymddygiad dyn at Dduw yw rhoddi ei hunan i Dduw.
Gwely priodas a oero, nid hawdd ei dwymno; fe ddylai fod yr olaf i oeri, canys mae yr anhawddaf i'w gynesu.
Y cyntaf a orchfygodd ddyn yw y diweddaf a orchfygir ganddo—balchder. Mae fel calon y cwbl; y cyntaf yn fyw, a'r diweddaf yn marw.
Gostyngeiddrwydd yw rhinwedd Crist, ac ysbryd Crist, unig addurn a harddwch Cristion, —unig blanigfa a meithrinfa Cristionogaeth. Mae mor bell oddiwrth fod yn niwed i un gras, fel y mae yn ei gysgodi rhag rhuthr a drwg; am hyny nid anmhriodol yw ei alw yn noddwr gras. Mae yr hwn a gario rasusau eraill heb ostyngeiddrwydd fel cario powdwr heb orchudd drosto mewn gwynt. Ychydig ŵyr neb am ei eisiau nad yw yn aml mewn gweddiau. Ychydig o weled daioni sydd lle nad oes moli. Mae cariad y creadur yn troi yr enaid yn ddaear.
Calon dan reolaeth hunan—elw sydd bob amser yn anesmwyth. Mae hunan yn drallodwr poenus.
Santeiddrwydd mewn Cristion yw delw Duw; rhagrithiwr yn ei ddynwared nid yw ddim ond delw Cristion.
Os na ddylynir santeiddrwydd, peidier ei erlid.
Fel mae enw yr Arglwydd, felly mae ei ffyrdd; i gyd yn rhyfeddol. Mae pob dyledswydd a orchymyn yr Arglwydd â'i addewid yn gysylltiedig wrthi.
Pa beth yw archiadau Duw i'w blant ond ei addewidion cuddiedig? Addewidion Duw mewn effaith yw y rhwymiad y mae yn ei arddodi arno ei hun.
Gair yr Arglwydd yn llaw ffydd yw ffon pererindod; ar hon mae pwyso pan yn diffygio, ac ymgysuro mewn ofn.
Fe all ffydd gyflawni eisiau pob peth tymhorol. Mae ffydd yn fedd i ofal.
Yr unig fel i bawb at bob peth yw eu dyledswydd.
Mae cymaint o eisiau amynedd i ddysgwyl, ag sydd o eisiau olew ar y lampau.
Gwir gariad Duw yn enaid dyn, yr hyn yw brawdgarwch diragrith, yw caru cyfaill yn Nuw, a charu gelyn o herwydd Duw. A gesglir trwy gybydd-dra a wasgerir mewn llwfrdra.
Cryfder gyda chrefydd yn groes i ysbryd crefydd sydd ryfyg erchyll. Grym gwirionedd a bregethir yw ei oleuni, ei resymeg, a'i santeiddrwydd.
Y rhagoriaethau mwyaf bâr y genfigen ffyrnicaf.
Pa fwyaf tanbaid bo'r gwirionedd, mwyaf amlwg fydd yr anwiredd. Y mwyaf ysbrydol yw y mwyaf anoddefol.
Nesâu at ffau, nesâu at lewod.
Mwyaf dros Dduw yw y mwyaf yn erbyn y diafol; a'r mwyaf yn erbyn y diafol a wrthwynebir fwyaf gan y diafol.
Pleidwyr mwyaf diafol yw rhith crefyddol, a'r mwyaf rhith crefyddol yn bleidiwr i satan yw y cnawdol yn meddu y manteision mwyaf yn grefyddol; megys dysg, dawn, gwybodaeth, a swyddau.
Y peth sydd yn dyrysu y byd bach hwn yw bod pethau da lle mae arglwyddiaeth pechod, a llawer o bethau drwg lle mae arglwyddwyddiaeth gras.
Mae arglwyddiaeth pechod lle nad oes edifeirwch am bechod.
O bob twyll, y twyll mwyaf yw y gwaethaf.
O bob colled i natur yn y byd, colli y bywyd yw y mwyaf; o bob colled i ddyn, colli ei enaid yw y mwyaf.
Unig reol iawn farn am bob peth yw gair Duw.
Gelyn mwyaf dyn yw ef ei hunan; cariad mwyaf dyn ato ei hun yw ei berygl mwyaf iddo ei hun.
Nid oes dim mor rhagorol a daioni, na dim daioni mor deilwng a'r hwn sydd unigol, neillduol, canys mae hyn yn dangos purdeb ac ardderchawgrwydd egwyddor.
Yn ol argyhoeddiad ein barnau y penderfynir ein hymddygiadau. Wrth weled y nifer sydd yn barhaus ac yn gyson wrandawyr pregethu yr efengyl, fe ellid meddwl eu bod yn wir addolwyr Duw; ond pan dylynir hwy i'w tai, fe welir nad ydynt ddim gwell na phaganiaid, na chystal; canys mae gan y paganiaid eu delwau teuluaidd a addolir ganddynt bob dydd yn ddinacad; ond mae y rhai hyn yn fwy digrefydd yn eu teulu na'r ŷch yn y beudy.
Os Cristionogion, byddwn Gristionogion; os Israeliaid, byddwn Israeliaid yn wir.
Mae boddloni am grefyddol ar ymarferiadau eglwysol, megys proffesu, darllen y gair, gwrando, pregethu, canu, gweddio, a chymuno, heb ddim crefydd deuluaidd, yn gyfeiliornad damniol.
Megys nas gellir rhanu Crist, nis gellir rhanu Cristionogaeth; mae yn rhaid iddi fod yn gyfan mewn rhanau neu fod yn ddim.
Mae rhai tymherau dynol i gyd yn eithafion; os bodd, coroniad; os anfodd, croeshoeliad; hyn yw eu holl ymddygiad.
Mae gofyn cwestiynau crefyddol i'r rhai hunan-ddoeth cnawdol yn dra pheryglus a niweidiol.
Gweddi heb daerni sydd fel cloch yn canu—i gyd yn swn heb ddim sylwedd.
Mae yn ymddangos fod tri pheth prin yn mhrofiadau Cristionogion yn y dyddiau hyn; yn 1. Goruchafiaeth ffydd ar y byd. 2. Gorfoledd yr iachawdwriaeth. 3. Y fuddugoliaeth sydd yn Nghrist Iesu ar angau a'r bedd.
Y cymhwysaf i fyw yn y byd yw yr hwn a ŵyr na fedr; y cymhwysaf i fyw mewn eglwys yw y mwyaf adnabyddus; y cymhwysaf i fyw mewn teulu yw y mwyaf dyoddefus; y cymhwysaf i fyw ato ei hun yw y mwyaf ofnus am dano ei hun; y cymhwysaf i fyw at Dduw yw y mwyaf gwylaidd.
Celfyddwr yw iawn ymddwyn yn ffordd dyledswydd am gysur. Llaw a llygad sydd iawn drefniad.
Cael ysbryd gweddi yw y cael mwyaf yn nhaith Cristion, canys y mae yn effaith cymod â Duw, ac yn ernes am holl addewidion Duw. Ofni pechod yn mhob peth, yn mhob man, bob amser, sydd effaith ofni yr Arglwydd; a phechu yn erbyn Duw sydd yn ei achosi.
Myfyrdod yw mamaeth cof; cof yw mamaeth cadw; cadw yw mamaeth cynydd.
Na fyno gynghor ni fyn addysg; na fyno addysg ni fyn wellhad. Gwraig ddrwg sydd felldith i'w theulu; gwraig dda sydd fendith; Nid oes un dyn heb feiau; mae nodi beiau i leihau rhinweddau yn sicr nodau balchder a chenfigen.
mae y naill yn dystrywio, mae y llall yn adgyweirio.
Mae y peth nad yw ei eisiau, ar y ffordd.
Mae arnaf ofn pawb, mae arnaf ofn pob peth, mae arnaf ofn pob man, heb Dduw gyda mi.
Mae magl mewn dyn heb Dduw ynddo.
Mae profedigaeth yn mhob man heb Dduw ynddo i waredu; mae anallu at bob peth heb Dduw i nerthu ato.
Yn nghyfeillach ymwelwr na fydd ddarllenwr; mewn cyfeillachu gwylia ar lefaru.
Gochel dy dwyllo gan agwedd fo'n swyno.
Nid wrth fwynder geiriau y mae adnabod tymherau; yr arafa ei agweddau yw y poethaf ei nwydau.
A ddygo ei hun ni raid wrth arall; na ddygo ei hun nis gall arall.
Santeiddiedig gystuddiau sydd ysbrydol ddyrchafiadau.
Llyfr egwyddorion yw y Bibl, nid llyfr dadleuon.
Mae medru atal y tafod y fedr fwyaf i ddyn. Mae gwybod amser i dewi ac amser i lefaru y wybodaeth oreu mewn cwmpeini.
Iselu mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi adgyfodiad i feiau; codiad mewn amgylchiadau sydd yn rhoddi codiad i rinweddau, pan y gall mewn gwirionedd na byddo'r naill na'r llall.
A feio bawb ond ei hun a feïir ei hun gan bawb; a feio ei hun nis beïir gan neb.
Serchiadol a defnyddiol yw goreu gwraig mewn gwaddol. Rhinwedd yw rhagoriaeth, teilyngdod yw canmoliaeth. Nid oes un rheswm heb reol, nac un rheol heb wirionedd. Gwell yw cariad nag aur; arian a ateb i bob peth, ond ni cheir cariad er arian. Gwell yw cariad heb aur, nag aur heb gariad.
Cariad heb aur wna lety oer yn gynes; aur heb gariad wna lety cynes yn oer.
Yr hwn ni wel fraint mewn gweddi ni ddylai gael pregethu.
Gyda'r dig na hir drig.
Mae cenfigen fel cnoi esgyrn, yn tori danedd ac yn chwanegu pydredd.
Iawn ddeisyfiad yw, Gwared fi rhag pob dyn, yn enwedig rhagof fy hun.
Nid oes neb a obeithia yn Nghrist ond sydd yn anobeithio ynddo ei hun.
Ni wel neb y nefoedd sydd yn Nghrist ond a wel yr uffern sydd ynddo ei hun. Nid yw y weledigaeth fwyaf o hyn ond dechreu gweled, a'r gweledydd mwyaf am hyn a ŵyr hyn fwyaf.
Ochrog sydd wyrog; y canol yw'r cymhwys.
Dydd byr a ffordd hir i'w theithio bâr lesmeirio.
Llawer o waith ac ychydig am dano bâr i'r cryfaf i ddiffygio. Yr hwn ni adwaen hunanol yn ei oreuon sydd a'i oreuon yn hunanol. Prif dangnefedd crefydd yw gwaed Crist; prif drysor crefydd yw cyflawnder Crist; prif obaith crefydd yw eiriolaeth Crist; prif ddymuniad crefydd yw gogoneddu Crist; prif nefoedd crefydd yw bod gyda Christ.
Undeb a Christ yw yr unig beth angenrheidiol sydd raid i bob dyn ei feddu at farw yn dduwiol; gras adnewyddol sydd raid i bob duwiol gael yn yr amgylchiad hwnw at farw yn gysurol.
Mae barn fwhwmanllyd yn dangos ffydd hunanllyd.
Haws yw gweled gwall na'i wella.
Mae mynu yr ufudd yn fwy na'i allu; mae gallu yr anufudd yn fwy na'i fynu.
Diddysgu, diddysg; na ddysgo tra parhao ei fywyd a fydd farw yn ynfyd.
Tymher mewn dyn na chymero addysg yw un o'r tymherau mwyaf anhyfryd, os nid y fwyaf, i gydfyw â hi.
Y mwyaf ei wybodaeth a adwaen ei anwybodaeth fwyaf.
A chwarddo mewn dygasedd yw y gwaethaf annhymeredd.
A chwarddo pan fo ddicaf, yw y dig gwaethaf.
Dig mewn chwerthin yw gwaetha'r gelyn.
A chwarddo â'u geneuau a llid yn eu calonau sydd brif addasrwydd at fradwriaethau.
Genau yn gwenu a'r galon yn ysgyrnygu yw cusanu a brathu, fel gwisgo du a gwyn, a dangos angel gan gythraul.
Iawn adnabyddiaeth ar ddyn yw peidio ofni un dyn ond efe ei hun. A ofno ei hun yn iawn ni raid iddo ofni dim ar neb.
A ofno bawb o'i blegyd ei hun a ofna ei hun yn fwy na phawb. Dyweyd gwir a chynghorion da yw y ffrwythau goreu yma.
A wertho wir sydd ynfyd.
A chwarddo am ben synwyr sydd ffolaf o'r ffyliaid.
A dalo ei ddyled yn fach nid aiff byth yn fawr.
Mae dwl synwyrau yn obeithiol, mae dwl dymherau yn anobeithiol.
Pa ffurf bynag a ddefnyddir nid yw ddim amgen na ffurf; y dyben sydd yn hyn, fel pob peth arall, yn coroni y weithred.
Y ffurf oreu ar bregethu yw y goreu i egluro, a'r goreu i gofio.
Mae barn rwym wrth bersonau yn slaf i agweddau, a gwaeth na diffyg synwyrau; canys ni wel na rhinwedd na gwaeledd.
A wneir a fydd.
A lwyddir a lwydda.
Nid oes un cryf heb wendid.
Ni bu un ar y ddaear erioed a foddhaodd bawb, a bod ynddo wir rinwedd i bawb.
Y gair yw y datguddiad, ffydd yw y defnyddiad, yr Ysbryd Glân yw y rhinweddiad, gweddi yw yr arferiad.
Mae cynaliaeth o'r gair mewn profedigaethau yn brawf o rasusau, ac yn fwy ei werth na pherlau.
Un o orchestion ffydd yw dal llwyddiant yr annuwiol heb genfigenu, ac aflwyddiant y duwiol heb lewygu.