Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XIV

Oddi ar Wicidestun
Penod XIII Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Penod XV

PENOD XIV.
Adolygiad ar flynyddoedd y Cyfamodau, &c.

Yn gymaint a bod y cyfamodau yn y benod o'r blaen yn cynwys amryw o flynyddau o fywyd Mr. Richard, a llawer o bethau pwysig wedi dygwydd yn ysbaid y blynyddoedd hyny, y mae yn angenrheidiol i ni fyned yn ol, ac adolygu ryw gymaint ar amgylchiadau yr amser hwnw. Gwelsom yn well i roi y cyfamodau o'r bron, ac nid eu dadrys oddiwrth eu gilydd, er mwyn cadw amseriad, a'u cysylltiad â phethau eraill. Gallwn fyned yn ol, a nodi y rhai hyny allan eto, ac y mae rhai gryn bwysig yn ei gysylltiadau teuluol.

Fe welir wrth ei Gyfamodau fod ei ofal am ei deulu yn angerddol; clywir ef yn diolch llawer i Dduw am ei drugareddau i'w deulu, yn ymbil llawer ar eu rhan, ac yn eu cyflwyno oll wrth eu henwau o flaen gorsedd trugaredd. Y mae ei wraig a'i ddau blentyn yn gyson yn ei freichiau o flaen Duw, yr hyn sydd yn dyweyd mwy na chyfrolau cyfain am ei dduwioldeb uchel, yn ei gysylltiadau personol a theuluol. Yr ydoedd yn ddyn Duw yn mhob man: ac yn wir, oni buasai felly yn ei fanau dirgelaf, ni buasai ychwaith yn ei fanau cyhoeddusaf, canys oes fer sydd i'r doniol a'r talentog, heb y duwiol a'r difrifol y tu cefn iddo. Lle y byddo y diweddaf y tu cefn, bydd yn asgwrn cefn i'r pregethwr, yn llwyddiant gwirioneddol, ac yn oes hir iddo o ddefnyddioldeb yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Cysylltiad meddwl â Duw mewn cymundeb, yw cryfder y pregethwr, a defnydd ei barhad. Y meddwl hwnw sydd yn ymwreiddio yn ddyfnach dyfnach yn nhrefn achub, sydd yn cynyddu mewn gallu gweinidogaethol. Bydd llawer glas-lanc yn ymddangos yn wyrdd, yn bert, yn dlws, os nid yn flodeuog, am dipyn; ond nid oes ganddo wreiddyn yn y tir da, am hyny mae yn gwywo yn fuan. Pan y bydd gwraidd pren yn myned i dir drwg, gwenwynllyd, gwelir y brigau yn crino, ac yna y mae yn darfod ffrwytho; nid yw efe mwy yn werth dim ond i'w losgi; ond os bydd y gwreiddiau yn myned ddyfnach dyfnach i dir da a bras, nis gall beidio a ffrwytho, ïe, mewn henaint a phenllwydni hefyd.

Fel y dywedasom, yr oedd ei ofal am ei deulu yn fawr, a'i weddiau yn daerion drostynt; a digon tebyg i'r nefoedd eu troi yn fendithion tragywyddol ar eu penau. Y mae David Jones Richard yn troi allan yn ddyn ieuanc da, ac y mae ei anwyl Bridget yn ferch ieuanc brydferth, synwyrol, a chrefyddol. Yr oedd Miss Bridget yn edrych gymaint i fyny at ei thad, yn ymhyfrydu mor fawr yn ei gysur a'i ddedwyddwch, yn gwneyd pob peth ag oedd o fewn cylch eu gallu i'w wneyd yn gysurus, a thrwy hyny hefyd yn cysuro ei mam trwy ei rhyddhau hi i fesur mawr oddiwrth ofalon a thrafferthion teuluol. Ymddangosai Miss Bridget fel un wedi ei danfon i'r byd i wneuthur ei rhieni yn gysurus. Gellir gweled oddiwrth lyfrau bychain sydd ger ein bron yn ei llaw—ysgrif ei bod yn gofalu am bob peth teuluol, ac yn ymdrechu dyfod â'r cwbl o gwmpas yn y ffordd rataf. Gosodir i lawr yr hyn a brynir am yr wythnos, pris y gwahanol nwyfau, a pha beth a dreuliwyd yn ychwaneg neu yn llai un wythnos na'r llall; yr hyn sydd yn dyweyd llawer am ferch ieuanc. Gwyddai nad oedd gan ei thad ond ychydig yn dyfod i mewn, am hyny y mae ei synwyr a'i theimlad da yn ei chyfarwyddo i fesur ei chamrau yn gyfatebol, ac ymdrech dyfod â phob peth yn gysurus i'w rhieni o fewn y cylch hyny. Felly yr oedd yn gwneuthur, ac yn fwy cysurus hefyd na llawer oedd â phedair gwaith gymaint at fyw. Y mae merch dda, serch ei bod heb ddim, yn llawer gwell nag un ddrwg, ddiog, ddifeddwl, ddiamcan, a digais, er ei bod yn werth ei phwysau. Canys, fel y gwyddoch, bydd merch dda yn cynyddu mewn pwysau wrth fyned yn y blaen, a'r llall yn myned yn ysgafnach ysgafnach, ac yn ddigysur a diserch gyda llaw. Ond dyna, gadawn hyny, rhag ofn i ni fyned i eithafion, canys yn anaml y cyfarfyddir â maes helaethach na hwnw; ac os ymollyngwn iddo gallwn fod yn hir cyn dychwelyd. O herwydd rhinweddau rhagorol Miss Bridget, daeth yn orchudd llygad ei thad a'i mam; ac iddi hi yr ymddiriedent y cwbl. Gwnaeth ei hun yn aberth i gysur ei thad, a chyfranogai yn helaeth o'i holl deimladau. Nid oedd yr un gofid arno nad oedd hi gydag ef hyd y gwddf, bydded hyny yn dymhorol neu yn grefyddol. Cafodd lawer o brofedigaethau oddiwrth ddynion yn ei flynyddoedd olaf, yr hyn sydd yn dygwydd yn aml i ddynion mawr, yn gymaint ag y bydd eisiau eu lle ar ryw rai eraill, ydynt yn anamyneddgar i aros troellau olwynion rhagluniaeth. Bu Christmas Evans mewn pair fel hyn, a'r hybarch Jay o Bath a waharddwyd gan blaid i'r pwlpud y bu yn pregethu ynddo am driugain mlynedd. Nid yw pethau fel hyn mewn rhyw ystyr yn

bethau i'w rhyfeddu gymaint, canys y maent yn arferol o fod. Ymddengys i'r cyfryw bethau gwneyd poen mawr i Mr. Richard, a bu mewn profedigaethau a dyfroedd dyfnion mewn cysylltiad â hwynt, eto yr oedd ei anwyl Bridget yn cydymdeimlo ag ef, yn nghanol y dyfroedd gydag ef; ac yn ei holl gystudd ef, hithau a gystuddiwyd. Tynerwyd calon ei thad anwyl lawer gwaith yn nghanol ei helbulon a'i erledigaethau, pan y tynai ei llaw dyner dros ei ben almonaidd, y troai ei wallt gwlanaidd oddiar ei dalcen, ac a'i cusanai, gan ddywedyd, "Nhad bach, peidiwch a gofidio; y mae yr Arglwydd yn sicr o'ch amddiffyn." Treiglai y dagrau mawrion dros ei ruddiau, ymlonyddai yn nghanol saethau gelynion, mewn cariad yn ei anwyl Bridget. Do, hi fu yn gysur mawr iddo yn ei henaint. Yr oedd yn help iddo fyned o gartref, ac yn dangnefedd iddo wedi dyfod adref drachefn. Byddai ei ddillad yn wastad yn barod iddo, pob peth yn ei le, a'i le i bob peth. Nid gwaeddi pan delai yr amser, Pa le y mae y peth hyn, a pha le mae y peth arall? "A welsoch chwi yr hosanau? Beth ddaeth o'r crys hwnw?" Bydd rhyw ymdrafodaeth o'r natur hyny yn ddigon i beri i un dyn fyned yn wallgof, a cholli ysbryd pregethu am wythnos o leiaf. Yr oedd ei anwyl Bridget â phob peth yn barod, heb eisiau cadw ystwr yn nghylch y peth hyn a'r peth arall; ac nid yn unig a phethau yn barod, ond hefyd yn barod i wasanaethu arno, a'i gynorthwyo i'w gwisgo. Y mae yn ddigon tebyg na charodd neb dad yn fwy erioed, ac amlwg yw hefyd na charodd dad ferch yn fwy ychwaith.

Y mae Mr. Richard yn mhen amser maith, ar amgylchiad neillduol, yn datgan ei farn am ei anwyl Bridget, ac y mae y farn hono yn uchel iawn. Dywedir fod "cariad yn ddall;" ond rhag i neb feddwl fod cariad yn dallu barn, y mae yn dywedyd, "Nid yw y ganmoliaeth i fy anwyl Bridget yn codi oddiar dymher a serch naturiol, eithr oddiar farn bwyllus ar ei harferion teuluol a chrefyddol." Hyd yn hyn felly yr oedd pethau yn sefyll; ac ni wyddai Miss Bridget am un gwrthddrych o dan haul a garai gymaint a'i thad. Ond fel y mae Ilawer o bethau newyddion yn dyfod i'r golwg gyda rhediad amser, daeth goleu newydd hefyd ar y mater hwn; canys er na leihaodd ei chariad at ei thad anwyl, eto dangoswyd fod rhyw dymhor mewn bywyd ag y mae yn ddichonadwy i ddyn fyned i garu rhyw un yn fwy na thad na mam. Cyfarfyddodd Miss Bridget a phrofedigaeth fel hyn, canys syrthiodd i gyfeillach â dyn ieuanc cyfrifol o'r enw Mr. Hugh Davies, yr hyn a derfynodd y pymthegfed dydd o Hydref, 1850, mewn glân briodas. Gellit meddwl fod amgylchiad priodi Miss Bridget yn un o bethau mawrion bywyd Mr. Richard, canys gwelir fod ei enaid mawr yn myned o dan gynhyrfiad i'w waelodion. Nid am fod dim ganddo yn erbyn y dyn ieuanc, canys y mae yn caniatau yn rheolaidd; nid yn erbyn priodi, canys y mae yn ddigon call i weled mai dyna gwrs natur, ac mai hyny a wnaeth ei hun; ond yr oedd datod undeb mewn mesur, y teimlad o fyw heb ei anwyl ferch, yn rhwygo ei galon. Dacw ef yn eistedd i lawr wrth y ddesg y diwrnod hwnw mewn pryder mawr, a'r dagrau gloywon yn treiglo y naill ar ol y llall, nes gwlychu y papyr yr amcanai ysgrifenu arno. Dacw ef yn troi hwnw heibio, yn cymeryd papyr arall, yn methu cadw hwnw eilwaith heb ei lychwino â dagrau; yn ymaflyd yn y trydydd, ac yn dechreu arllwys ei deimladau allan mewn ysgrifen gystal ag y gallasai. Eithr y mae yn rhaid i ni feddwl mai ychydig o deimladau calon eang y gallasai papyr ei ddal; eto yr ydym yn ddiolchgar am y papyr, yn gymaint a'i fod yn ddangoseg o sefyllfa y dyn oddimewn. Yr ydym yn gallu gweled gweithrediadau mewnol y dyn, symudiadau yr olwynion mwyaf dirgelaidd yn y peiriant, drwy y pethau hyn. Edrychwch ar ei ben gwyn, a'r cap du arno, yn plygu yn araf at y ddesg; mae yn rhoi y gwydrau yn awr, yn cydio yn y pwyntyll, a chydag ochenaid brudd yn ysgrifenu fel y canlyn:

Mae heddyw, y 15fed dydd o Hydref, 1850, yn un o'r dyddiau mwyaf pryderus o holl ddyddiau fy mywyd gwael, canys ar y dydd hwn y priododd fy unig a'm hanwyl ferch, yn naw mlwydd ar ugain oed. Y gwir gymeriad ellir roddi iddi, ac nid oddiar ddylanwad tymher naturiol, na gormodedd o serch cnawdol, na rhinwedd perthynas ddynol, ond oddiar resymau anwrthwynebol, yw synwyrol, serchiadol, gwylaidd, a defnyddiol; ac, mor bell ag y gellir barnu achos oddiwrth effaith, yn wir grefyddol, yn ofni yr Arglwydd, yn meddwl am ei enw ef. Ei harfer—air oedd, Gobeithio cawn ni fyned i'r bedd heb waradwyddo enw yr Arglwydd. Ni ddangosodd gymaint ag unwaith erioed un math o anhawsdra, annoethder, annghyfleusdra, nac un gwrthduedd anfoddlon at ddyledswydd deuluaidd, pa drafferth bynag a fyddai. Mynai roddi heibio bob peth ar unwaith i gael agor y ffordd at wasanaeth yr Arglwydd. Ni esgeulusodd erioed foddion gras. Ei hyfrydwch penaf oedd myned i dŷ yr Arglwydd; ac wedi myned gwyddai y gwahaniaeth rhwng y gwerthfawr a'r gwael, rhwng yr us a'r gwenith, rhwng seiniau a gwirioneddau, rhwng mwngleriaeth ac athrawiaeth, rhwng defod dyn a dawn Duw; er mai ei hateb hunanymwadol yn wastad oedd, pan ofynwyd iddi, Nid ydwyf yn deall dim, mae arnaf fi ofn dweyd; canys pa beth a allaf fi wybod? Yr oedd ei holl fywyd yn ufudd-dod gwirfoddol, cyson i anrhydeddu ei thad a'i mam. Hapus yw y dyn ieuanc sydd yn ei chael yn wraig, nid yn unig oblegyd a gaiff ganddi, ond oblegyd a gaiff ynddi; ac oblegyd ei bod yn etifeddes i addewid Duw, yr Hwn Anfeidrol a ddywed yn barhaus o ddechreu y byd wrth holl blant y byd, hyd ddiwedd y byd, Anrhydedda dy dad a'th fam, fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. Mae yr apostol at yr Ephesiaid yn dweyd fod hyn yn gyfiawn; ac mai hwn yw y gorchymyn cyntaf mewn addewid. "Fel y byddo yn dda i ti." Mae hyn yn ddaioni heb na mesur na therfyn iddo; canys hyn sydd yn rhyngu bodd yr Arglwydd yn dda—well-pleasing—wrth ei fodd ef yn fawr. Mae fy anwyl Bridget, sydd yn newid ei sefyllfa, wrth ei fodd ef yn fawr. Mae hyn yn well i mi filiynau o weithiau na miloedd o arian ac aur. Mae cael un o'r desgrifiad hyn yn wraig yn annhraethol well, pe gorfyddid myned i ochr y clawdd gyda hi, na chael miloedd o arian ac aur heb hyny. Mi a'i cefais yn rhodd gyflawn, fel nad allaswn ddymuno ei bod yn ddim chwaneg nag ydoedd; wedi ei gwneuthur yn gyfansoddiad grasol gan Dduw, yn ddawn cymhwys i mi. Yr wyf heddyw â'm holl galon yn dymuno yn y llwch i ddiolch tra byddwyf byw am ei gwneyd gan Dduw, yr hwn yn unig a'i gwnaeth, canys yr oedd yn debyg i un o'i wyrthiau rhyfeddol ef, yr hyn fe allai na ddichon neb ei ddeall ond a adwaen yr amgylchiad; ac am roddi y fath rodd i un oedd yn haeddu y gwrthwyneb. Yr ydwyf yn dymuno na chaffo neb, unrhyw greadur, y lle yn fy nghalon a'm serch a ddylai yr Arglwydd yn unig ei gael. Nid perygl mawr a fu i mi yn hyn oddiwrth un creadur ond oddiwrth fy anwyl Bridget. Ond nid o'm plegyd i yr oeddwn yn ddiberygl, ond oblegyd y gofal fu am danaf. O na allwn rodio o'r dydd hynod hwn allan i ryngu bodd Duw. O na allwn folianu yr Arglwydd am ei holl ddoniau i mi heddyw, ac o ddechreu yr amgylchiad hwn hyd heddyw. Mae cael doethineb yn atebiad i weddi at brofedigaethau mewn amgylchiadau yn gyflawniad addewid Duw, yr hwn a ddywedodd, "A hi a roddir iddo ef." Ac nid hyd heddyw mae ei drugaredd yn parhau i mi, ond heddyw a hyd byth. Mae mwy o werth yn yr un gair hyfryd heddyw i fyned a dod gyda'r amgylchiad sobr hwn nag a ddeall neb, canys mae yn debyg i gau safnau llewod. Am hyny, fy enaid, bendithia yr Arglwydd, a chwbl sydd ynof ei enw santaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef. Amen. Amen.

CYNGHORION I'W BLANT PAN YN NEWID SEFYLLFA, 1850.

1. Rhodiwch yn ofn yr Arglwydd yn wastadol, a'ch holl fryd fyddo am ei heddwch, a rhodio i ryngu ei fodd. Gosodwch ef yn wastad ger eich bronau ac ar eich deheulaw, fel na'ch ysgoger; canys yr Arglwydd a fydd gyda chwi tra fyddo chwi gydag Ef. Os gwrthodwch chwi Ef, yntau hefyd a'ch gwrthyd chwithau.

2. Cofiwch mai yr unig ffordd i ymwneyd â Duw yw trwy Gyfryngwr, yn ol ei air.

3. Gochelwch bob dychymygion am Dduw. Meithrinwch feddyliau mawr am Dduw yn Nghrist.

4. Llafuriwch i ddeall yr unig a'r holl yrfa a osodwyd i'w rhedeg o flaen pawb sydd yn myned i'r nefoedd; ac mai ymdrech ffydd yw ei rhedeg, a bod yr holl gynaliaeth trwy edrych ar Iesu, yr hyn yw dysgu ganddo i fod yn wir ddysgyblion iddo.

5. Gwnewch air yr Arglwydd eich unig reol a'ch cynghor.

6. Gwnewch weddi yn brif orchwyl eich bywyd, ac ewyllys Duw, yr hyn yw ei air, yn brif reol eich gweddi.

7. Na anturiwch un amser at un rhan o waith yr Arglwydd, yn bersonol, yn deuluol, nac yn eglwysig, heb yn gyntaf ofyn yr Ysbryd Glân, yn enw Crist, yn ol addewid y Tad am dano.

8. Ymddiriedwch yn yr Arglwydd yn wastadol, fel nad ofnoch ddyn.

9. Ofnwch falchder yn mhob ffurf, yn enwedig mewn bryd uchel. "Na fyddwch uchelfryd, eithr ofnwch."

10. Cofiwch mai hunan yw eich prif elyn; ac mai balchder yw prif beth hunan.

11. Gwyliwch a gofalwch gadw eich cymeriad; fe ofala eich cymeriad eich cadw chwithau.

12. Ymwadwch â chwi eich hunain, chwi a gewch eich hunain; ceisiwch eich hunain, chwi a gollwch eich hunain.

13. Cofiwch yn wastadol nad oes dim a all eich darostwng ond balchder, na dim eich dyrchafu ond gostyngeiddrwydd. Pryf yn ysu yw y naill; rhinwedd yn meithrin yw y llall.

14. Cedwch yn ddigon pell oddiwrth bawb, chwi a gewch bawb yn ddigon agos; ewch yn rhy agos, chwi gewch bawb yn rhy bell.

15. Gwnewch y gwirionedd yn rheol barn am bob peth, chwi a gewch bob peth yn ol barn y gwirionedd.

16. Byddwch ddiog i lefaru; byddwch barotach i wrando. Deallwch farn wrth yr holl wir, ac nid wrth na gwedd, na gweled, na chlywed.

17. Cofiwch na all cariad ddim byw heb gynaliaeth. Medru cynal cariad yw y medr mwyaf rhwng cyd—greaduriaid.

18. Gochelwch bellafoedd yn y dechreu, canys y maent yn sicr o gyfnewid cyn y diwedd.

19. Dysgwch barchu pawb yn ei le, chwi roddwch barch yn ei le i bawb.

20. Aberthwch bob peth i gariad ond y gwir.

21. Peidiwch gadael i neb fyned rhyngoch, na thad, na mam, na brawd, na châr, na chyfaill. Dangoswch bod eich cysylltiad yn anwahanol.

22. Dysgwch oddefiad ac ymroddiad; heb hyn mae yn anmhosibl cynal cariad.

23. Cofiwch mai gwely priodas wedi oeri yw yr anhawddaf byth i gynesu.

24. Cofiwch mai y naill yn dysgu gan y llall yw y ffordd i'r naill ymgeleddu y llall.

25. Na fydded tuedd mewn na gair nac agwedd gan y naill na'r llall i ddangos arglwyddiaeth, ond yn wastad parchedigaeth.

26. Pan bo y naill yn gynhyrfus, gwylied y llall fod yn oddefus.

27. Byddwch yn ddirwestwyr digellwair. Mawrhewch gael bod; nid yn unig nac ofnwch ddirmyg, ond ymogoneddwch yn yr anrhydedd.

28. Peidiwch myned yn bartneriaid â neb mewn un fasnach, os gwelwch eich ffordd yn agored heb hyny. Gwell, wedi ymgynghori â'r Arglwydd, i chwi dreio eich hun.

29. Peidiwch rhoi benthyg arian i neb byth heb gael llawn foddlonrwydd am eu dyogelwch. Cofiwch yr esiamplau a gafwyd yn mhlwyf — — a —, a llawer lle arall; a chyda phob dyledswydd cofiwch, oni cheidw yr Arglwydd, ofer y gwylia y ceidwaid.

30. Peidiwch a meichnio dros neb pwy bynag un amser na thros un amser, canys y mae yn dwyll, yn anunion; a pha fodd nas gall fod, pan mae yn bechod, yn groes i air yr Arglwydd?

31. Nac ymddiriedwch ddim i'ch deall eich hun, ond yn yr Arglwydd byth; canys yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragywyddol.

32. O, cofiwch mai byw i farw ydych, ac mai yr unig beth sicr yr ydym yn byw iddo yw marw; a'r peth mwyaf ansicr o ran amser, a pheth mwyaf bywyd natur yw ei ddiwedd—marw.

33. O cofiwch mai dyben penaf bywyd yw parotoi at farw mewn byw i Dduw a'i ogoneddu.

34. Gwnewch ef yn benderfyniad ymroddol yn nechreu eich bywyd y bydd i chwi a'ch teulu wasanaethu yr Arglwydd aed y byd ffordd yr elo.

35. Gwyliwch, yn wyneb gofid a therfysg teuluol ac amgylchiadol, na byddo dyledswyddau crefyddol teuluaidd ddim yn cael eu hesgeuluso mewn un modd, rhag y bydd yn ddechreu gwrthgiliad, ac i'r Arglwydd ymado oddiwrthych.

36. Cofiwch y geilw Duw chwi i'r farn am hyn oll, ac y caiff pob un drosto ei hun roddi cyfrif i Dduw; canys gosodir ni oll ger bron gorseddfainc Crist.

37. Cofiwch fod y cynghorion hyn wedi eu rhoddi gan eich tad ar fin y bedd i chwi eich dau, ac i bawb fyddo mewn cysylltiad â chwi yr un modd.

38. Cofiwch mai rhinwedd pob cynghor yw bendith; bendith yw ffydd a'i ffrwythau.

39. Na roddwch enllib ar neb, ac na dderbyniwch enllib am neb, canys felly y mae gwrthwynebu diafol.

40. Cofiwch mai gwell gofid am ddywedyd rhy fach nag am ddyweyd gormod.

41. Adnabyddwch wahaniaethau, a chelwch hwynt.

42. Cofiwch beidio gwneyd dim heb arfer gweddi am dano.

43. Cofiwch beidio arfer gweddi am ddim ond sydd yn ol ewyllys Duw; ei air yw hwnw.

44. Peidiwch anfon gweddi at Dduw ond yn enw Crist, trwy yr Ysbryd Glân, yn ol y gair.

45. Cofiwch mai trwy lawer o orthrymderau mae yn rhaid myned i mewn i deyrnas Dduw, a bod y cysur i gyd yn wyneb hyny yn Nghrist yn unig.

Nodiadau

[golygu]