Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XIX

Oddi ar Wicidestun
Penod XVIII Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Penod XX

PENOD XIX.
Mr. Richard yn weithiwr cyffredinol gyda gwaith yr Arglwydd, ac yn darpar pethau priodol ar gyfer pob gwaith—ei areithiau ar y Bibl Gymdeithas.

YMDDENGYS, er fod Mr. Richard yn rhoi help llaw gyda gwahanol ranau y gwaith, nad oedd yn gwneyd dim heb ddarpar defnyddiau priodol at y rhanau hyny. Nid oedd yn myned i bregethu heb ddarpar pregeth, nac i areithio heb ddarpar araeth. Fel y dywedwyd o'r blaen, ar ba beth bynag y bwriadai ddyweyd, yr oedd gydag ef ddarpariaeth gymhwys at hyny. Er ei fod yn dyweyd llawer, eto nid oedd yn dyweyd nemawr ar antur, canys gwelwn ei ddarpariadau ar gyfer pob peth. Pe buasai rhyw beth ag eisiau dyweyd mewn cwrdd gweddi, yr oedd yn barod at hyny; nid yn barod heb feddwl, ond wedi meddwl yn barod, ac wedi meddwl i'r pwrpas. Byddai llawer yn tybied y gallasai Mr. Richard siarad drwy y dydd a thrwy yr wythnos yn ddigost ac yn ddidrafferth. Yr oedd hyn yn gamsynied mawr. Y mae yn wir y gallasai siarad cystal ag un dyn, a gweithio drychfeddwl allan i ryw eithafion annghredadwy; er hyny ffrwyth meddwl dwfn ydoedd, a rhag-ddarpariaeth ofalus. Caniatewch fod y felin yn dda, ac ynddi y peirianau goreu ag sydd allan; nid yw yn canlyn y gall hono falu blawd heb roi dim gwenith ynddi. Hi fâl yn rhagorol; ond y mae yn rhaid cael rhyw beth ynddi i falu. Gollyngwch hi i weithio heb roi rhyw beth ynddi, bydd yn ysgrechian ac yn malu ei hun yn ganddryll. Gall fod gallu siarad gan ddyn; ond ar yr un pryd rhaid cael rhyw beth i siarad, os siaredir, onide bydd dawn siarad yn fil gwaeth na bod heb y dawn hwnw; canys y mae bod yn ddystaw pan nad oes dim i ddyweyd, yn llawer mwy gogoneddus na gallu dyweyd llawer yn nghylch dim. Mae y dyn sydd yn siarad llawer, a meddwl ychydig neu ddim, yn debyg iawn i'r felin yn malu, a dim ynddi; y mae yn wastad yn malu ei hun yn llwch wrth siarad yn nghylch dim.

Pe buasai Mr. Richard, er yn berchen dawn ac athrylith gyda'r mwyaf yn Nghymru, yn feddyliwr bach, ac yn dweyd pob peth fel y delai, yn lle bod y dyn parchedicaf, buasai y dyn anmharchedicaf o fewn y dalaeth. Yr oedd efe yn ddyn o feddwl mawr, o ddawn mawr; ac i lanw hyny i fyny, yr oedd hefyd yn ddyn o lafur mawr. Nid yw efe yn rhoi dwfr ar y felin a'i gollwng hi, heb ddarpar ŷd i'w roddi ynddi. Nid yw yn cael ysgrechian yn ansoniarus; nid yw yn cael malu ei hun yn ganddryll, eithr bob amser yn malu ebran pur, defnydd bara iachus i ddynion.

Yr ydym wedi synu wrth weled y cyflawnder mawr o ddefnyddiau sydd ar ol Mr. Richard, heblaw ei bregethau, y rhai a ddarparesid ganddo at wahanol gyfarfodydd. Byddai yn darpar nodiadau byrion ar gyfer y cyfarfod, yn ol ei natur, ac yna yn eu taflu i mewn i'w felin, ac yn ei falu yn fân, a'i ddanfon drwy ograu sidanaidd, nes ydoedd yn beilliad cymhwys i'r farchnad oreu, ac yn ddefnydd bara digon da i'r brenin. Yn gymaint a'i fod yn selog gyda'r gwahanol gymdeithasau daionus, byddai yn dyweyd bob amser yn eu cyfarfodydd; ond nid heb ddarpar rhyw beth i ddyweyd. Dyna y Gymdeithas Fiblaidd: nid oedd neb yn fwy selog nag ef gyda hono; a phan y delai ei chylchwyl flynyddol, yr oedd yno, ac yn siarad, a phob amser yn meddwl cyn dechreu siarad beth a siaradai. Yr oedd, pan yr elai i ddyweyd, yn gwybod pa beth yr oedd ar fedr ei ddyweyd, a pha fodd y dywedai, ac i ba ddyben y dywedai. Y mae dyweyd na wyddys dim pa beth, a dyweyd heb un amcan, yn gyffredin yn gefeilliaid, ac yn hynod gyda'u gilydd, law yn llaw yn wastadol. Bydd llawer yn dechreu siarad yn debyg i Abraham yn cychwyn ar ei daith o Ur y Caldeaid, "heb wybod i ba le yr oedd yn myned." Ond yr oedd rhyw beth serch hyny yn Abraham yn fwy esgusodol, canys gwyddai efe fod ganddo Arweinydd cyfarwydd a ffyddlon, ac y gwyddai yr Arweinydd hwnw yn burion i ba le yr oedd yn myned. Y dyn sydd yn myned heb arweinydd, heb nod, heb wybod cyn pen pum mynyd yn mha le y mae, nac ar ba beth y mae ei wyneb, sydd debyg i long fechan wedi ei gwthio i'r môr, heb na chadben na morwr, yn cael ei thaflu yma ac acw gan y tonau geirwon; a'i chwythu gan y gwyntoedd tymhestlog; weithiau yn y dyfnder, weithiau ar frig y don, yn aml ar fin y creigiau daneddog, yn cael ei gyru yma a thraw yn ddireol, ac yn ddiddyben; a thebygolrwydd bob mynyd mai suddo yn y dyfnfor a wna. Pan y bydd dyn yn siarad yn y cyflwr hyn, teimlir yr un fath gan y gynulleidfa ag y teimlir wrth weled llong mewn perygl, yn cael ei gyru gan y dymhestl. Y pryder sydd gymaint nes cynyrchu teimlad yn y fynwes yn ymylu ar orphwylldra. Bydd anadl pawb fel yn eu dyrnau, eu calonau yn curo gan fraw, a phob cam yr eir yn y blaen yn cynyddu y teimlad hwnw fwyfwy. O, yn y cyfryw amgylchiadau y fath ddiangfa yw clywed yr Amen. Dyna yr Amen melusaf glywyd erioed; y mae fel balm i'r holl glwyfau; fel gollyngiad carcharorion o garchar tywyll; fel datodiad mil o gadwynau oddiam yr enaid; fel magl yn tori, a'r adar yn dianc i'w rhyddid awyrol, i chwareu yn eu helfen naturiol. Y gair melusaf erioed oedd y gair Amen; diolchwyd lawer gwaith a chymerwyd cysur, am gael gafael arno yn rhyw le, a rhyw fodd, canys bu yn ddiangfa rhag marwolaeth aml dro.

Nid yw byth yn dda pan y bydd y bobl yn chwysu mewn cydymdeimlad â gwaeledd y pregethwr; ond pan y mae y pregethwr yn chwysu mewn cydymdeimlad â chyflyrau y bobl, ac yn traddodi iddynt ffrwyth myfyrdod dwfn, gwelir hyn bob amser yn fendigedig, canys y "mae yr hwn sydd yn hau a'r hwn sydd yn medi yn llawenychu yn nghyd." Nid oedd neb yn cydymdeimlo à Mr. Richard pan y byddai yn siarad rhyw beth; nid oedd neb yn dysgwyl yr Amen; buasai awr yn myned heb yn wybod i chwi, pe na buasai y peth y bydd y bobl yn ei alw yn hwyl ond siarad cyffredinol. Cadwai gynulleidfa â'u llygaid arno yn gyson, heb fod braidd neb yn gweled y naill y llall. Elai a'r dynion gydag ef lle yr elai yntau; ac er iddo siarad dwy awr weithiau, pan y delai yr Amen teimlai y bobl yn siomedig, ac yn ddigon dig i hyrddio yr Amen i ganol y môr. Yr oedd y dynion yn teimlo yn debyg i Jacob pan yn gwasanaethu ar Rahel; aeth y saith mlynedd heibio, "ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig o ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi." Mae yr areithiau byrion a gyfansoddai ar gyfer cylchwyliau y Fibl Gymdeithas yn Abergwaen, yn egluro yr hyn a ddywedasom. Gwyddai y buasai yn rhaid iddo ddyweyd rhyw beth; am hyny yr oedd yn ofalus am gael rhyw beth i'w ddyweyd. Sylwedd areithiau bychain a draddodai yw y darnau da hyn: digon tebyg ei fod wrth siarad yn gweithio y meddyliau a gynwysent mewn llawer ffurf.

Daethom yma heddyw yn achos y peth mwyaf yn y byd—y Bibl, gair Duw, meddwl Duw. Duw mewn datguddiad yw y Bibl; llyfr Duw, perffaith ac anffaeledig dystiolaeth. Yr ysgrythyr nis gellir ei thori; nid posibl myned gair Duw yn ddirym; "ond gair ein Duw ni a saif byth." "Fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim."

Dyma haul y byd; dyma holl oleu a gwres y byd; digon i'r holl fyd, a dim gormod i ni. Ond y mae rhan fawr o'r byd heb yr haul hwn; byd tywyll, byd anial, byd oerllyd, byd Pabaidd, byd Mahometanaidd, byd paganaidd, byd annuwiol, ie, byd damniol yw byd heb Fibl. A oes dim i wneyd yn chwaneg? a wnawd pob peth? a ellir dim gwneyd mwy at anfon y Bibl i oleuo y byd? A wnawd pob peth gan forwyr a ellir wneyd? a wnawd pob peth gan dirwyr a ellir wneyd? A oes dim mewn gwisgoedd, bwydydd, a diodydd, a ellir eu hatal, i gael rhoi gair Duw yn llaw paganiaid, i oleu hwn oleuo y byd?

Dyma feistr y byd, deddfwr y byd, rheolwr y byd, trefnwr y byd, a chyfarwyddwry byd; i wrthsefyll llygredigaethau natur, i ddangos cyfeiliornadau yr amseroedd, ac i ddymchwelyd pechodau yr oes.

Barnwr y byd yn y byd, barnwr dynion yn mhlith dynion. Tragygwyddoldeb y byd mewn map yw y Bibl, llyfr Duw. A oes dim i wneyd yn chwaneg at a wnawd, at anfon map tragywyddoldeb i'r holl breswylwyr? Peth a rwymo ac a ryddhao hwn ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo a'i ryddhau yn y nefoedd. Nid oes dyryswch am dragywyddoldeb a'r byd a ddaw, ond edrych yn fanwl ar hwn. Mae cyflyrau pawb, mae bywydau pawb, mae tragywyddoldeb yn amlwg yn hwn. A gysgwn ni, a ddiogwn ni, a esgeuluswn ni, mewn amser o weithio, mewn cynhauaf mor fawr, mewn tymhorau mor fanteisiol, a miloedd o filoedd yn newynu heb fara y bywyd, yn trengu o eisiau gwybodaeth, ac yn suddo byth i golledigaeth o eisiau clywed am y Ceidwad? Dyma fodd i orchfygu'r byd—fe orchfygodd y cryfaf; dyma fodd i oleuo y byd—fe oleuodd y tywyllaf; dyma fodd i achub y byd—fe achubodd y penaf. Hwn a redo nes na bo man heb iddo fyned iddo o dan yr holl nefoedd.


Y dirgeledigaethau mwyaf yn y byd, a'r pethau mwyaf rhyfedd yn y pethau lleiaf eu sylw gan y byd. 1. Un o honynt yw gweled Perchen pob peth mewn ystyr mewn eisiau am y pethau hyn; yr hwn a ddywedodd, "Eiddof fi yr aur a'r arian, a'r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd," ag eisiau meddianau dynion arno. Os oes genym ddoethineb i wybod yr amserau a'r dyddiau, ni a allwn wybod fod eisiau arian yn awr ar Grist. Duw yn ei achos mewn eisiau, yw eisiau arian at y Bibl Gymdeithas. 2. Rhoddwr pob peth yn myned oddiamgylch i gardota, ac yn gofyn cynorthwy wrth bob un o'n drysau. Ystyried pawb pan ofynir dim er mwyn yr Arglwydd, mai yr Arglwydd a roddodd; fe fydd hyn yn allwedd i ddatgloi y coffr, ac a ddetyd ar unwaith gylymau calonau a phyrsau, A adawn ni eisiau ar Grist? a gaiff Duw fod mewn eisiau, gan mai Duw roddodd i ni yr hyn sydd genym? 3. Arglwydd nef a daear yn rhoddi ei hun yn rhwymedig i'w greadur, yn wrthddrych cael tamaid i'w fwyta, yfed, a gwisgo, a dyfod ato—ymweled ag ef. Mae Crist yn dyweyd wrthym ni yn Mat. xxv. am ei eisiau, ei dlodi, a'r modd a'r pryd mae ef yn cael ei gynorthwyo; ac fel mae ef mewn eisiau yn ei aelodau, mae ef mewn eisiau yn ei holl achos. Amcan y cyfarfod hwn yw dyfod allan yn gynorthwy i'r Arglwydd; ac na thriged ewin yn ol. 4. Y goruchwyliwr yn gwrthod rhoddi i'w arglwydd ei bethau ei hun, gan honi hawl iddynt, a'u galw ar ei enw ei hunan, Y fath haerllugrwydd! Eglur yw na ddygasom ni ddim gyda ni i'r byd, ac eglur yw na ddygwn ddim oddiyma. Un o'r cyfryw oedd Nabal y Carmeliad. Yr oedd y dyn yn ei holl berchenogaeth: "Fy mara, a'm dwfr, a'm cig." Nid oedd erioed wedi meddwl fod gan Dduw un hawl mewn dim a feddai, am hyny ni roddai i was Duw, am hyny ni roddai i Fibl Duw. Beth ddaw o hwn pan ddywedo ei Arglwydd, Dyro gyfrif, canys ni elli fod mwy, heb un i gyfryngu rhyngddo a'r dialydd? 5. Cynydd y gareg yn ninystr y delwau; peri i ddwylaw ceimion gelynion i weithio union gynghor Duw i'w dinystr eu hunain; gwrthwynebiadau a rhwystrau yn gynorthwyau; ffwrn i godi a llosgi; llewod i ddarnio ac i ddryllio; croni y dwfr i gael y llif yn gryfach; rhwystro y Bibl i gael rhoi awydd cryfach am dano. Peidiwch difrio gormod ar ymerawdwr China; croni y dwr y mae ef i gael gwneyd y llif yn gryfach; hi grona nes tori y cwbl o'i blaen; yn anwrthwynebol, gan bwys ei natur. Merthyru i gael gorchfygu. Concwest i achos Crist yn y byd oedd merthyrdod; Ilosgi i gael achlesu, carcharu i gael ysgrifenu, cadw o bwlpudau i gael eu llenwi a'u cyfoethogi. Pwy fwyaf o ruthro fydd ar y Bibl, mwyaf i gyd a lwydda; swp o rawn ydyw—wrth ei wasgu ceir y gwin; yn wyneb y gwrthwynebiadau ar y deyrnas y llwyddodd hi fwyaf erioed. Prynwyd Bibl i gael ei losgi; huliodd o ludw hwn ugeiniau o Fiblau i gadw rhag llosgi byth, fel y gwnaeth offeiriad Pabaidd yn Iwerddon wrth brynu y Bibl. Tri gair anogaethol. 1. Yr Arglwydd a roddo ystyriaeth o hyn, a'n gwna yn ewyllysgar i roddi iddo. Y rheswm fod llawer yn anewyllysgar i roddi dim i Dduw yw, oblegyd ni fynant ddeall eu bod dan rwymau i Dduw am y cwbl. Pe gellid eu perswadio am eu derbyniadau oddiwrtho, araeth fach a'u perswadiai i roddi iddo yn ei achos, yn enwedig pan mae yn deisyf ganddynt, pan y gall orchymyn iddynt; mae yn foddlon eu derbyn yn hynaws, pan y gall anfon am danynt mewn awdurdod. 2. "A pha beth sydd genyt a'r nas derbyniaist?" Rhodd Duw yw yr oll a feddom. Ystyriwn hyn, fel y syrthio balchder islaw y llwch. Rhoddwch chwithau yr eiddo Duw i Dduw; a dywedwn fel Dafydd yn 1 Cron, xxix. 14.


Syr, Dyma y pedwerydd cyfarfod yn y lle hwn o'r cyfarfodydd gogoneddus hyn, a mwy fwy gogoneddus y byddont fel yr amlhaont. Y pumed cyfarfod ar ugain blynyddol i'r fam gymdeithas yn mis Mai diweddaf oedd un o'r cyfarfodydd mwyaf gogoneddus, os nid y mwyaf a welwyd yn y brif ddinas erioed. Yr oedd nawdd yr orsedd freninol drosto, pendefigion o'r senedd ynddo; pedwar o esgobion a naw o weinidogion, a chymaint o arogl ysbryd y Bibl yn eu hareithiau ardderchog fe allai ag a welwyd mewn areithio erioed; yr hyn sydd yn achos mawr lawenydd. Mae yn hyfrydwch gweled cymaint unfrydedd yma heddyw, gan obeithio fod y dyben yn dda i natur y cyfarfod. Mae i'r cyfarfod yma dri dyben—clywed, gweled, a rhoddi. Gobeithio ein bod ni i gyd wedi dod yma i glywed a rhoddi; ac mae yma un at y lleill—gweled. "Yr hwn a eisteddodd gyferbyn a'r drysorfa i edrych pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysorfa." Y peth mwyaf dan ei sylw oedd y modd, odd, y dull. Os y modd y rhoddir yw y peth mwyaf, fe all y rhodd fwyaf fod y lleiaf, a'r lleiaf fod y fwyaf. Nid ar faint y rhodd mae cymeradwyaeth yn sefyll, ond ar y modd, y dull. Mae pedwar peth yn cael eu cynwys yn y modd y dylid rhoddi. 1. Calon ewyllysgar; 2. Tymher lawen oddiar feddwl siriol; 3. Rhoddi cydwybodol; 4. Dyben union. Dyma edrych i weled, dyma weled i adnabod, dyma adnabod i waelod pob peth—calonau a phyrsau. II. Nid yw dewisiad dwyfol dan dywysiad llinyn rheswm dynol, ond ei ewyllys ei hun; am hyny ffyddlondeb a ofynir oddiwrthym ni mewn ufudd-dod i ewyllys Duw. Peth rhyfedd fyddai gweled môr yn myned i ymofyn dwr i'r afon; gweled ffynon yn myned i ymofyn dwr i'r ffrwd; gweled haul yn myned i ymofyn goleu at fagïen; gweled elephant yn ymofyn cymorth gan abwydyn; gweled lefiathan yn myned i ymofyn plaid gan y shrimp; gweled yr auraidd eryr yn ymofyn darpar gan y dryw bach; ond dyma annghydmarol fwy—gweled Perchen pob peth yn gofyn i ddyn i gadw yr achos mwyaf yn y byd mewn moddion—y Bibl; yn myned at ei effaith am ei effeithio. Y Bibl sydd wedi dwyn y drefn sydd ar ein gwlad ragor i wledydd eraill sydd hebddo. Effaith y Bibl yw yr holl Fibl Gymdeithasau; effaith y Bibl yw y rhoi at y Bibl; a lle bo y Bibl wedi effeithio fwyaf, y rhoddir fwyaf at Fibl, ac y rhoddir oreu; a'r rhodd oreu yw y rhodd fwyaf. Os bydd y lleiaf, mae hyn yn debyg i fam yn byw gyda'i phlentyn, heb ddim gan y plentyn i fyw arno ond a gaiff gan ei fam; hi biau yr eiddo, y Bibl biau yr eiddo. III. Pe bawn yn gymhwys i roddi arwyddair, y motto hwn gai fod:Y cyntaf i'r Arglwydd. Cymhorth mawr at roddi i'r Arglwydd yw cofio mai efe biau y cyntaf. Efe biau y cyntaf: 1. Canys efe yw y cyntaf. 2. Efe yw achos cyntaf pob daioni. 3. Mae gorchymyn cyntaf deddf ein natur yn gofyn y cyntaf iddo oddiwrthym. (1.) Cyntaf o ddyn. (2.) Cyntaf anifail. (3.) Cyntaf o ffrwyth addfed. (4.) Cyntaf o'r pethau gwlybion. (5.) A'r deisen gyntaf. Y cyntaf i'r Arglwydd, gan wneuthur y peth a orchymynodd, a dysgwyl am y peth a addawodd; byw trwy ffydd, ac nid trwy deimlad, i roddi y presenol i'r Arglwydd mewn hyder am ad-daliad i ddyfod. Rhoi y cyntaf a'r olaf a feddom yw y ffordd i'r olaf fod yn gyntaf. Rhoi olaf y weddw yn gyntaf i'r prophwyd, barodd gyntaf y prophwyd fod heb olaf i'r weddw. (1.) Rhoddwn i'r Arglwydd, am i'r Arglwydd roddi i ni. (2.) Rhoddwn i'r Arglwydd o'r hyn a roddodd yr Arglwydd i ni. (3.) Rhoddwn i'r Arglwydd fel y rhoddo yr Arglwydd i ni. (4.) Rhoddwn ein holaf, y diweddaf a feddom, i'r Arglwydd yn gyntaf, a'r Arglwydd a rydd ei gyntaf, ei anwyl Fabi ni yn olaf ac am byth. Nid oes genym ni ond teisen fach, a dyrnaid bạch iddo fe; mae ganddo fe fendith fawr o lawnder mawr ini; gogoniant yn gymhorth mewn caledi, a dechreu lle yr ydym ni yn diweddu, IV. Camgymeriad y byd am ffordd i gyflawnder. Nid cael ac nid cadw yw y ffordd i gyflawnder; ond rhoddi, rhoi swllt i gael gini, rhoi gini i gael ugain. Trugaredd yr Arglwydd a gorona ein haelioni â bendith o amldra. Fe fuasai y weddw wedi newynu oni buasai iddi roddi; ac wrth roddi, hi gafodd ei diwallu; gan hyny nac annghofiwn roddi a chyfranu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. (1.) Rhoddwn nid yn athrist, nid trwy gymhell, ond yn llawen, fel y byddom wrth fodd Duw, gan gofio mai dedwyddach yw rhoddi na derbyn. (2.) Rhoddwn ddiolch mai ni sydd yn cael anfon atynt hwy, ac nid hwy atom ni; ac am ddyweyd wrthym fod eisiau rhoddi, ac am beidio dyweyd, "Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti." (3.) Rhoddwn dan gofio fod yr hwn sydd yn gweled ein calonau, ein pyrsau, ein dwylaw, a'n rhoddion, yn edrych arnom. (4.) Rhoddwn ein rhoddion yn y canol, o fewn, rhag eu colli, wedi eu troi i fyny mewn gweddi, megys mewn llieiniau, at fyned i galonau; a Rhoddwr pob gras a roddo ei fendith yn dra helaeth. Amen.


Y peth sydd yn cyd-dystiolaethu â gwirionedd y llyfr—gwrthddrych y cyfarfod hwn, am waeledd a llygredigaeth y natur ddynol, yw bod rhaid yn barhaus gymhell, a thaer gymhell at beth sydd yn ei gymhell ei hun, megys y mae yr achos hwn, mewn egwyddor, mewn natur, mewn cynwysiad, a dyben.

Mae arnom rwymau i roddi a chyfranu yn ol ein perthynas a Pherchen ac Awdwr y gair; efe yw y Llafurwr, ac mae yn Berchen y tir. Y byd a'i gyflawnder ydynt eiddo iddo; ac y mae yr eiddo hyn wedi ei roddi yn eiddo i Grist, —yr holl genedloedd a therfynau y ddaear i'w feddiant. Efe hefyd biau yr had, yr hwn yw gair Duw, am hyny a bery yn dragywydd; canys nid yw bosibl myned gair Duw yn ddirym, a'r ysgrythyr nis gellir ei thori. Nid yw yr had i'w gadw yn yr ystordy, yn y ffetan, a'r had-lestr, ond i'w hau. Onid at hau yr had yma y gelwir arnom ni i gyfranu heddyw? Holl offer y fferm, a'r da, faint bynag sydd gan neb, fe'u piau ar fil o fynyddoedd; efe a'u rhoddes, efe sydd yn eu cynal, ac fe all eu cymeryd pryd y myno, heb na rhwystr na rhwymau. Fe biau yr aradr a'r og, yr aur a'r arian: "Eiddo fi yr aur, eiddof fi yr arian." 1. Yn rhan o'i greadigaeth. 2. Yn rhoddion eu rhagluniaeth. 3. Yn nghyfrifon ei farnedigaeth. Pabeth sydd genym a'r nas derbyniasom? ac os derbyniasom, paham yr ymddygwn fel pe baem heb dderbyn? A pha beth sydd genym a'r nas byddwn hebddo? a pha beth sydd genym na raid rhoddi cyfrif am dano? Fe biau yr hauwr; yn ei wasanaeth Ef mae y gwas. Mae hwn dan rwymau i fod yn ffyddlon;

canys beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fêd efe." Am hyny ni ddylai fod yn ddioglyd was; mewn gwneuthur daioni na ddiogwn; ac ni ddylai ddiffygio, "canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddi1 ddyla ffygiwn;" ac ni ddylai hau yn brin, canys "yr hwn sydd yn hau yn brin, a fêd hefyd yn brin." A phwy hawl sydd gan neb i fod yn brin ar had y Gwr ei hunan, i'w dir ei hunan?

Hefyd, mae arnom rwymau yn ol ein perthynas â gwrthddrychau y gair, canys yr ydym wedi ein danfon yma i wasanaethu ein cenedlaeth yn ol ewyllys Duw. Pa fodd y gallwn wasanaethu ein cenedlaeth yn ol yr ewyllys, heb roi yr ewyllys iddynt? Pa fodd y gellir gwneyd hyn heb ei roi yn eu hiaith, ac yn eu gwlad? Pa fodd y gellir gwneyd hyn heb draul fawr, fel y clywir gan oruchwyliwr y gymdeithas? Ein dyledswydd ni yw hyn, yr ydym dan ddyled i hyn —dyled cyfranogiad. Mae Duw yn cyfranu i ni gael rhoddi; rhoddi tuag at roddi yw rhoddi Duw i'r holl greadigaeth. Rhoddi i'r cymylau iddynt hwythau gael rhoddi i'r ddaear; rhoddi i'r ffynonau at gyflenwi y ffrydiau; rhoddi i'r môr er mwyn iddo lesâu y tir. Y nefoedd yn rhoddi i'r ddaear, i'r ddaear gael rhoddi i'r nefoedd; Duw yn rhoddi i ddyn, i ddyn gael rhoddi i Dduw, ac nid myned â'r cwbl iddo ei hunan. Mae y cybydd yn waeth na'r creadur ysglyfaethus; mae hwnw yn ysglyfaethu at gario y cwbl i'w loches, at ei ddefnydd ei hun; ond mae y cybydd yn llusgo y cwbl i'w dwll, ac nis defnyddia ei hun. Ni chaiff na Duw na dyn ddim ganddo; mae hyn yn mhell oddiwrth ddyled dyn. Mae yn ddyled goruchwyliaeth i gyfranu; mae holl oruchwylwyr Duw yn dwyn perthynas ag eraill. Pan mae yn rhoi talentau, maent at enill; pan yn rhoi arian, maent i fyned i'r bwrdd cyfnewid. Mae cyfranu a rhoddi yn ddyled dyn. Nis gallwn fod yn bobl gyfiawn heb dalu ein dyled. Mae yn ogoniant i Dduw ein hiachawdwriaeth; yn ddinystr i ddiafol, dinystriwr dynion; ac yn iachawdwriaeth dragywyddol i ddynion.

Mae braint i ni yn hyn, canys dedwyddach yw rhoddi na derbyn. Er mai derbyniwr yw y rhoddwr, mae rhoddi yn awgrymu cyflawnder, ond mae derbyn yn dangos prinder; mae rhoddi yn dangos mawr, mae derbyn yn dangos bach; mae rhoddi yn debyg i Dduw, mae derbyn yn debyg i ddyn. Mae yn ddedwyddach i roddi Bibl na bod heb yr un, ac eisiau cael; mae yn ddedwyddach cael rhoddi cardod, na bod mewn eisiau cael un, er mai cardod o gardod yw yr oll a allwn ni ei roddi i'r Arglwydd. Rhoddodd yr yd i'r tyddynwr, a'r tyddynwr i'r goruchwyliwr, a'r goruchwyliwr i'r cardotwr; a'r cwbl yn dangos dedwyddwch. Dedwyddwch y Rhoddwr cyntaf sydd ynddo ei hun, mewn egwyddor o gariad a daioni tragywyddol; dedwyddwch yr ail roddwr sydd yn ei debygolrwydd i Dduw, yn rhoddi oddiar gariad at ei gymydog. Mae y Duw mawr mewn anfeidrol ddoethineb wedi trefnu y cwbl yn gyfanwaith cyson, i ddybenu yn fraint i ddyn. Mae y greadigaeth yn pwyso ar eu gilydd, ac i gyd ar Dduw. Haul a daear, gwynt a gwlaw, haf a gauaf, mae y rhai hyn fel pe baent yn cynorthwyo eu gilydd, a'r cwbl yn dibynu ar Dduw. Felly y mae yn nhrefn fawr yr iachawdwriaeth, ac felly y mae y grasusau—ffydd trwy gariad, a chariad trwy ffydd; felly mae moddion o ras, y cymdeithasau yma—y genadol at y Bibl, a'r Bibl at y genadol; y Bibl at ddirwest, a dirwest at y Bibl. Yr esiampl i'r fraint hon yw gras Crist: "Chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist," &c. Yr agwedd yn llawen. Nid yn athrist, ac nid trwy gymhell, ond o barodrwydd meddwl. Y dyben yw gogoniant yr Arglwydd. Gogonedder ef heddyw yn yr amlygiad o'ch haelioni at yr achos da hwn!


Mae amgylchiadau yr amserau presenol ar y byd crefyddol, fel pe bai pob peth agos yn sefyll; ac yn yr agwedd hon mae gogwyddiad llawer o bethau yn fwy tebyg i fyned yn ol nag yn mlaen, yr hyn yn unig a ellir ei wybod wrth y Bibl, yr hwn yw yr unig safon i fod yn rheol barn a gwir wybodaeth i blant dynion; ac nid dymuniadau, dygwyddiadau, na nwydau, yr hyn sydd yn tywys yn wastad i wrachïaidd chwedlau, gwag—ddywediadau, a chyfeiliornadau. Gan hyny, at y gyfraith ac at y dystiolaeth yn uniongyrchol, ac nid at ddim arall am wir oleuni i adwaen pob peth, canys mae ysbryd y gwirionedd i dywys i bob gwirionedd.

Mae cychwyniad llawer o bethau sydd yn wir dda yn y blynyddoedd hyn yn ymddangos yn fwy gobeithiol a chalonog nag y maent mewn amser ar ol hyny. Fe fu ar y gymdeithas hon well agwedd yn y blynyddoedd cyntaf nag sydd arni yn bresenol; nid yn unig yn y lle hwn ond trwy yr holl wlad yn gyffredinol. Fe all fod llawer o bethau yn achos o hyn nad yw yn fai. 1. Mae llawer o amrywiol gangenau ychwanegol trwy yr holl wlad, nad oedd yn nghychwyniad y gymdeithas gynorthwyol hono. 2. Ac y mae peth ymwahaniad oddiwrthi. Ond nid hyn yw y cwbl, ac nid hyn yw y prif beth sydd yn achosi yr adfeiliad hwn. 3. Ond y dylanwad y byddir dano. Pan byddo newyddion dyeithr a digrif yn dylanwadu, ni phâr hyny yn hir, ac nid â yn mhell, canys mae yn ei natur yn rhy wan, fel mae bwydydd rai; nid ydynt at weithio; maent o'r goreu i ddynion segur Ac y mae yn ei amgylchiadau yn ansicr; mae y newyddion yn heneiddio, y dyeithr yn cynefino, a'r digrif yn myned yn gyffredin. Ac nid hyny yw y gwir beth at effeithio yn briodol at achos santaidd ac ysbrydol, ond ei egwyddor. Hyn yn dylanwadu geidw yr un sel, egni, a ffyddlondeb at y gwrthddrych tra parhao ei hegwyddor, yr hon sydd mor barhaus a'r gwrthddrych—y Bibl; yna ni barhawn yr un peth at y gymdeithas, yr hyn yw cynwysiad y Bibl: mae hwn yn anfeidrol. Paham yr ymollyngwn ni? A newidiodd y gymdeithas ei hegwyddor? a wanhaodd egwyddor y gymdeithas? Naddo, ac nis gwna byth; nid posibl myned gair Duw yn ddirym. Paham y diflaswn? a ddarfu egwyddor y gymdeithas? Os yw yn anfeidrol, mae yn anfesurol ac yn annherfynol. Mae yma bob cyflawnder; cyflawnder o bob peth, ac i bob peth, ac i bob un. Paham y llaeswn ac yr absenolwn? Y dyben a ddylai y gymdeithas ei ddylanwadu yw iachawdwriaeth byd colledig mewn amser, a bywyd tragywyddol yn y byd a ddaw. Mae y pethau hyn yn wir ddefnyddiau gwir ddylanwadau, ac a gadwant ddyn mewn cywir a ffyddlon agwedd at y gymdeithas hon. Colli yr olwg ar y pethau hyn yw yr achos o'r agwedd fursenaidd, ddrelaidd, ddwl, sydd i'w gweled arnom yn y trefydd ac yn y gwledydd. Mae pob math o esgeulusdod a diflasdod ar foddion gras naill ai yn brawf o grefydd ddrwg, neu wrthgiliad mawr mewn dynion da.

"Fe fyddai yn dda genyf fod yno; ond nid oes genyf ddim i roddi." Ni ddylai hyny fod yn un achos i neb beidio dod. Os nad oes dim i'w gael nid oes dim i'w ofyn, ac y mae yma beth i'w roi heb ddim i'w dderbyn; hyny yw, gwybodaeth, sydd yn cynwys gras i fywyd tragywyddol, adnewyddiad grasusau a defnydd dylanwadau ysbryd gras ac ysbryd gweddiau. "Nid oes genyf ddim i gael." Down yma i gael. Mae yn well llonaid tŷ o ddynion heb roi dim, pan nas gellir, na llonaid tŷ o ddynion yn rhoddi yr hyn nis mynir. Pa bryd y gwelwyd cael blas at waith heb flas at weithio? Gwir at galonau bâr haelioni o bocedau.

"Peth sydd yn rhwystr i mi ddod yw, nad oes genyf fawr i'w gael at roddi: mae yn gas genyf roi ychydig." Nid oes dim yn wir gas ond sydd yn bechod. Nid yw yn bechod roi ychydig, os na ellir rhoddi ychwaneg. Mae y modd y rhoddir yn fwy yn ngolwg yr Arglwydd na'r peth a roddir. Rhoddwr llawen mae yr Arglwydd yn ei garu, faint bynag fydd ei rodd. Maeswn balchder yn yr amgylchiad hwn. Gâd dy falchder, a thyred, offrwm dy rodd, bydded ychydig neu lawer.

"Mae yn well genyf gwrdd pregethau na chwrdd areithiau. Nid wyf yn colli un bregeth byth." Fe allai. Gallech feddwl ei fod mor grefyddol a'r Pharisead, a'i fod mor ddiniwed a'r oen, a'i fod yn myned rhag blaen i'r nefoedd. Hawyr! ai nid gwir yw yr areithiau? ai nid gwir a ddylai gael ei ddyweyd? ac nid gwir sydd raid ei ddyweyd? ai nid yr un gwir ag a bregethir? Amheuwn ein blas at wir bregethau os ydym ddiflas at wir areithiau. Gwrando; bydd onest; ai nid ofn y plate sydd arnat ti? Ymogelwn rhag cybydd-dod yn mhob rhith, a derbyniwn addysg. Mae pob peth sydd o'n hamgylch mewn undeb â'r gymdeithas hon, mewn cyfnewidiadau, mewn gwrthwynebiadau oddiwrth Babyddiaeth, ac anffyddiaeth a phethau tebyg. Y mae siomedigaethau yn llefain yn uchel arnom, Llafuriwch yn ddibaid; ymwrolwch; ewch yn mlaen; na oddefwch i'ch galwedigaethau bydol, na'ch dyledswyddau crefyddol, i'ch llaesu na'ch oeri at y gymdeithas hon, beth bynag fydd ei phrofedigaethau, "canys o'r bwytawr y daw bwyd, ac o'r cryf felusderau." Beth bynag fyddo raid i'r gymdeithas hon gyfarfod ar ei thaith, cofier mewn llawenydd mai Awdwr y Bibl, Gwrthddrych y gymdeithas, yw cynaliwr y gymdeithas. Ein dyledswydd a'n braint at y gymdeithas hon, prif golofn y nefoedd yn nghanol yr oesoedd, yw, gweddi ddyfal drosti a ddetyd ei rhwymau, ac a egyr byrth ei charcharau; ei hysbryd ei hun wrthi; cywir a ffyddlawn lafur ati. Yr aradr yw prif ofal y garddwr. Nis gall laesu y gwynt nac atal y gwlaw, ond aros wrth yr aradr yw ei waith ef. Glynwn wrth yr aradr; dyma hi; hi rwyga i fyny ddiffaith-leoedd Ethiopia, China, Asia, ac Affrica, America, holl gyfandir Ewrop, a holl ynysoedd y môr; mae ei swch hi yn naear yr holl wledydd hyn. Ni thynir mo honi allan mwy nes braenaru yr holl fyd; a'r maes yw'r byd. Y llong yw prif ofal y morwr; nis gall dawelu y gwynt, na gostegu'r môr; gofalu am y llong yw ei waith ef, a dihuno y Gwr mawr sydd wrth ei ochr. Ni fyddai hyn yn un eondra; mae wedi dyweyd am beidio gadael llonydd iddo: "Na ddystewch, ac na adewch lonydd iddo." "Fe sudda'r llong!" Na wna byth, tra byddo efe ynddi.

Mae'r lefain yn y blawd; mae yn fach; mae'r dechreuad yn fach. Ydyw; ond y mae yn furym cryf iawn. Dyna lefain cryf yn Ffrainc annuwiol; ni orphwys mwy nes rhoi holl diriogaethau anialdir Ffrainc yn ddirdynol trwyddo. Mae y draul yn fawr, mae y llafur yn llawer. Ydyw; yn llawer iawn mwy nag a ŵyr neb yma. Mae y teulu yn lluosog; ond y mae gobaith cryf y ceir digon. Mae'r lefain yn y blawd; mae ei swn yn suo; y mae i'w weled yn chwyddo o un gongl o'r ddaear i'r llall, yn ddystaw ac yn dawel. Buddugoliaeth merched y gele yw buddugoliaeth ein Testamentau; fe sugna waed y ddraig nes trengu ar ei thraed, a'r toes sydd yn awr wedi ei lefeinio yn fara blasus, meithrinol i'r holl deulu dynol. Ein calonau, ein hymddygiadau, a'n pocedau a ddywedo Amen.


Caniateir i ni unwaith eto un o'r cyfarfodydd mwyaf gogoneddus a geir ar wyneb yr holl ddaear; ond nid oblegyd amgylchiadau, canys nid oes yma ond pob gwaeleddau; ond oblegyd ei hanfodau. Nid ydyw nac antur, na rhuthr, na rhyfyg, na rhwysg; canys nid yw oddiar fesuriad gwahaniaethol ar ogoniant neb o'r ordinhadau dwyfol. Mae yn debyg mai pregethu y gair yw y prif ordinhad am iachawdwriaeth y byd; eto mae rhyw hynodrwydd hanfodol yn perthyn i'r cyfarfod hwn ar gyfarfodydd pregethu, canys o destun y cyfarfod hwn y ceir holl destunau yr holl wir bregethu a fu, sydd, ac a fydd yn y byd tra parhao. Llyfr yr holl destunau yw testun y cyfarfod hwn; llyfr cynwysiad yr holl bregethu, a llawer mwy nag a bregethir byth; mae y cyfarfod hwn er hyrwyddo ei gyfieithu, ei argraffu, ei bregethu, ei ddarllen, a'i ddysgu, i egwyddori, ei gredu, a'i fucheddu, a'i ledaenu dros wyneb yr holl ddaear; i'w achlesu a'i ffrwythloni, i ddwyn oddiamgylch gynhauaf mawr yr Arglwydd Iesu, pan y byddo yr anialwch a'r annghyfaneddle i lawenychu o'i flaen. Y goron freninol yw y gymdeithas hon; mae yn gasgliad o'r perlau gwerthfawrocaf; yn grynodeb o'r sylweddau mwyaf, ac yn sicrhau y dyrchafiad uchaf. Mae cwbl yr ysgrythyrau ynddynt eu hunain, am danynt eu hunain, a throstynt eu hunain; am hyny ni ddylai amgylchiadau ddylanwadu fel rheol ar y gymdeithas hon; eto hwy ddylent gael eu lle a'u hystyried fel y maent yn effeithiau. Mae y gymdeithas hon er ei dechreuad wedi myned trwy lawer o amrywiol a gwahanol amgylchiadau. 1. Un amgylchiad fu arni oedd, cael ymosod arni gan Apocryphiaid, y rhai oedd yn dal ac yn ymofyn bod Apocrypha i fod yn un a'r ysgrythyrau. Ymysgydwodd oddiwrth hyn mewn llawenydd ac ymffrost, fel y gwna creaduriaid y dwfr o flaen y gwlaw—trochi dano, gyru trwyddo, prancio arno, ymgynhyrfu fel pe baent wedi enill y fuddugoliaeth fwyaf erioed. Felly y bu gyda'r gymdeithas hon. Mae yn dysgleirio yn fwy ar ol nag o flaen hyny. 2. Ymosodiad arall fu ar gyfansoddiad y gymdeithas hon oedd, rhwng Trindodiaid ac Undodiaid: o hyn buwyd yn llygad-dyst. Yr oedd y rhai hyn yn cydweithredu yn y cychwyn. Fe feddyliodd rhai o'r Trindodiaid nad allasent, ac na ddylasent gydweithredu â'r Undodiaid yn yr achos hwn, er nad oedd y cydweithrediad cyntaf ond mewn casgliad ato, ac nid mewn un newidiad arno. Barn eraill o'r Trindodiaid oedd, y buasai yn dda ganddynt gael y Bibl ar lwybr cyfiawn. Ymysgydwodd y gymdeithas y waith hon hefyd, ac aeth allan fel cynt, wedi dryllio y rhaffau newyddion fel carth. 3. Ymosodiad arall fu gan Fedyddwyr, rhai o'r trochwyr, nid pawb o honynt, a thaenellwyr. Fe feddyliwyd y buasai yn well ganddynt gael eu bwyd ar wahan, pob un a'i ddysgl yn ei gongl; ac felly maent mewn rhai manau. Fe gododd hyn ychydig o ymchwydd; ond y mae yn gysur cael hysbysu fod y llong a'r llwyth yn ddyogel ar y môr. 4. Bu ymosodiad arall ar y gymdeithas hon mewn rhai manau yn ei changenau. Mae y fam gymdeithas yn gallach na'i phlant; mae y boncyff yn y brif ddinas yn un; ac felly y dylai fod; ac y mae yn ddigon hawdd iddi fod, rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr, nid yn achos y Bibl hefyd, ond oddiwrth ryw oerllyd ias rhwng Eglwysyddiaeth ac Ymneillduaeth, heb un gradd o wahaniaeth. Mae hyn wedi troi allan yn dda iawn lle mae dwy gymdeithas am yr un; dau gasgliad yn lle un; dau Fibl am yr un, a dau lesâd am yr un, er na chymerodd pob un o'r ddau olaf le heb greu teimlad o ofid, yr hyn nis gall lai na bod lle bo undeb. Er na bo y dillad fyddo am bob un yn y teulu yr un lliw; ond gan mai ar fôr tonog yr ydym, y mae yn rhaid rhoi ffordd gydag ysgogiad y llong, neu fethu sefyll ar y deck. Os mynir i'r cerbyd beidio a'n curo, ymollyngwn i'w ysgydwadau, rhag cael ein hysigo. 5. Ymosodiad arall yw yr ymosodiad Pabaidd. Y gymdeithas hon yw prif wrthddrych ei llid, yn erbyn hon y mae ei phrif gynddaredd. Geilw allan ei holl luoedd; casgl yn nghyd ei holl alluoedd; ymegnia â'i holl nerth. Mae y bwystfil hwn—felly yr enwir ef gan ein Bibl niam ddifa ein cymdeithas, ein Bibl, a'n hiachawdwriaeth. "Peidiwch poethi at y pab rhag ofn i chwi danio." Pwy ddechreuodd? Pwy darawodd gyntaf? ar hwnw mae y bai. Pwy daffodd y Bibl i'r tân i'w losgi? Pwy all beidio llosgi mewn gofid am hyn—llosgi defnydd gobaith pechadur?

(1.) Fe ddywed y rhai hyn nad yw gair Duw yn ddigon o reol ffydd ac ymarweddiad heb waith y tadau hefyd. Maent yn eu galw yn groes i air Duw, yr hwn sydd yn gorchymyn am beidio galw neb yn dad. Y gair drosto ei hun, ynddo ei hun, am dano ei hun. Tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn abl gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth.

(2.) Fe ddywed Pabyddion am addoliad i angylion a meirwon, seintiau a chreiriau, lludw ac esgyrn y marw. Ond fe ddywed yndd o ei hun, drosto ei hun, "Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi."

(3.) Fe ddywed y pabau a'u hoffeiriadau am weddio ar seintiau, a gwneyd cyfryngwyr a chyfryngau o Pedr a Paul, apostolion ein Harglwydd Iesu Grist. Dylai fod cywilydd i'w henwi mewn cysylltiad a'r fath orwagedd; ond am Patrick a Pedo, Gwenllian ac Allgo, a llawer o'r fath deulu a ellid eu henwi, sydd yn gwneyd i fyny gyfres y fasnach a'r gormes i dwyllo miliynau, llenwi eu pocedau, a damnio eneidiau, mae yn ormod o ffolineb i'w henwi. Trown oddiwrth y sothach hyn; canys fel hyn y dywed yr ysgrythyr lân: "Un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd, y dyn Crist Iesu."

(4.) Fe ddywed gelynion gair yr Arglwydd y gall y pabau a'u hoffeiriaid faddeu pechodau am arian; ond dywed ef ei hun na all neb faddeu pechodau ond Duw yn unig; ac mai yn rhad y mae yn gwneyd hyn, trwy ei ras ef, heb arian ac heb werth.

(5.) Fe ddy ddywed y gelynion hyn i air yr Arglwydd fod yn rhaid wrth weithredoedd da dyn at ei gyfiawnhau i deilyngu ac i haeddianu. Dywed yr ysgrythyr yn groes i hyn, mai trwy ffydd yn unig y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf; "nid o weithredoedd cyfiawnder, y rhai a wnaethom ni." Nid gweithredoedd da i gyfiawnhau, ond cyfiawnhau i weithredoedd da. Yr un pryd y cyfiawnheir trwy Grist ag y creir yn Nghrist i weithredoedd da.

(6.) Feddywed y gyfundraeth Babaidd, gwrthwynebwyr cyhoeddus gair Duw, fod purdan rhwng nef ac uffern, lle o dân elfenol, i buro eneidiau, at eu cymhwyso i fyned i'r nefoedd wedi iddynt ymadael â'r corph; ac y gallant hwy am arian dynu eneidiau oddiyno, ac â'r celwyddau ffol ac hunan-ddyfeisiol hyn, sydd yn fwy cymhwys i yru ofn ar blant na dim arall. Ond gair yr ysgrythyr yw, nad oes dim rhwng nef ac uffern, ond gagendor mawr wedi ei sicrhau, fel nad all dim dramwyo rhyngddynt. Goleuni haul y gair a ddiffoddo holl lampau c celwyddau Pabyddiaeth, ac a'i ogoniant a'i nerth a gywilyddio holl ganwyllau brwyn hunan-ddyfeisiol Rhufain Babyddol, ac a agoro eu llygaid cyn disgyn o honynt i'r eirias uffernol.

A welwyd y fath amser a hwn ar Gymru fawr ei breintiau, bod eisiau dweyd y fath beth a hyn mewn tref fach yn Sir Benfro? Ychydig o amser yn ol buasai raid cael geiriadur i egluro y gair Pabyddiaeth i lawer o bobl Penfro; ond wele ni erbyn heddyw wedi cael achos, er mawr ofid, i fod yn adnabyddus o hono. Ond y mae genym un cyfle am dani eto, Joel ii. 12-17: "Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r Cenedloedd arnynt; paham y dywedent yn mhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?" hwynt?" O Arglwydd, tyred ar frys i dori y ddadl hon.


Un o'r pethau rhyfedd yn nhrefn doethineb Duw yw y llwybr a gymerodd efe i fyned yn mlaen â'i achos yn y byd. Fel y bu am iachawdwriaeth y byd, felly y mae am foddion iachawdwriaeth y byd—Perchen y byd, a'r cwbl sydd ynddo yn eiddo iddo, Arglwydd y byd a'i gyflawnder yn ei roddi i'r neb y myno, ac amlaf i'r mwyaf gwrthwynebus iddo. Pa beth gan hyny nis gwna efe i'w blant? Eto mae yn mynu myned â'i achos mawr, sydd fwy na'r byd, byd, yn mlaen ar hyd lwybr begeriaeth; a hyn oblegyd mynu, nid oblegyd methu, ac i ddybenion y gellir gwybod yn awr, ond sylwi ar rai o honynt; a llawer mwy nag y gellir gwybod genym ni. I ddangos, mae yn debyg, nad yw ei achos o'r byd hwn; ac i ddysgu am bethau ffydd yn fwy nag am bethau golwg; a dangos ei adnabod, a heb ei adnabod; ac i ddangos pwy wobrwyir a phwy beidir eu gwobrwyo; ac i gyd yn ogoniant mwyaf iddo. Mae ei ffyrdd ffyrdd yn rhy ddwfn i ni yn y pethau hyn; am hyny awn at y pethau a berthyn i ni, yr hyn yw moddion, llafur, a bendith.

I. Y moddion i'w defnyddio yw gwrthddrych y gymdeithas, gair yr Arglwydd. Ei offeryn ef at ei holl waith yw ei air; a'i offeryn i ninau at ein holl waith yw y gair. Mae genym elynion i'w gwrthsefyll; y gair yw y cleddyf a'r darian at hyny—cleddyf yr Ysbryd. Tarian yw efe hefyd i'r rhai a ymddiriedant ynddo. Efe yw cymaint o oleuni a llewyrch sydd yn y byd. Pa faint yw y tywyllwch lle nad ydyw?

II. Ein llafur helaeth a diymod, gan hyny, ddylai fod yn ngwaith y gymdeithas hon, yr hwn yw y llafurwaith mwyaf ar y ddaear. Hon yw meithrinfa gwybodaeth iachawdwriaeth, ffynon efengyleiddiad y byd, peiriant trefnusrwydd dynion; canys gair Duw yw genau Duw, calon Crist, llaw yr Ysbryd Glân, trysorfa eglwys Dduw wedi ei selio i'w chadw yn mysg ei ddysgyblion. Y neb sydd dda ganddo i enau y Duw anfeidrol fod yn agored at y rhai a greodd ac y mae yn gynal, egnied yn llafur y gymdeithas hon yr hyn a allo; y neb sydd dda ganddo fod calon y Gwaredwr yn ngolwg y colledig, ei ras, ei gariad, a'i dosturi—ymdreched dosturi—ymdreched yn llafur y gymdeithas, i anfon y gair, fel y rhedo ac y caffo ogonedd, trwy ddangos calon Crist; y neb sydd dda ganddo fod llaw yr Ysbryd Glân ar ddynion, arfered bob diwydrwydd; byddwn yn gydweithwyr â'r gymdeithas hon i gyrhaedd y dyben hwn. Y neb a wyr am drysorfa eglwys Dduw, Ile mae ei holl drysorau yn nghadw, a ŵyr hefyd mai ei meddu yw unig gysur holl blant dynion; am hyny na atalier unrhyw lafur a ellir i'w hanfon i bob trigfan ddynol ar y ddaear. A chan mai gair yr Arglwydd yw map tragywyddoldeb, pa le mae y dyn na awyddai â'i holl galon, na ymdrechai â'i holl nerth, na ymroddai â'i holl egni i anfon cynllun y byd mawr i'r rhai fydd byth ynddo?

III. Mae yn rhaid bendithio a chael bendithion i'r gymdeithas at lwyddo. Na adawn ddystawrwydd i'r Arglwydd hyd oni osoder Jerusalem y gymdeithas hon yn ben moliant ar y ddaear. O gymdeithas ardderchog, cyfrifer dy gydanedigion yn ddedwydd, canys Duw a'th gododd yn brif golofn yr holl fyd. Bydded ein hareithiau, ein pocedau, a'n gweddiau yn gyfartal yn achos y gymdeithas hon, canys dyfroedd hon sydd i iachau corsydd Rhufain, lleoedd lleidiog Asia, diffeithdiroedd Rwsia oerllyd, a lleoedd annghyfanedd gwlad Judea, canys â'r udgorn hwn y casgl efe ei wasgaredigion o bedwar cwr y byd. "Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd; y diffaethwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn." Brysied, brysied y dedwydd ddydd!

Nodiadau

[golygu]