Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XVI

Oddi ar Wicidestun
Penod XV Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Penod XVII

PENOD XVI.
Clefyd Mr. Richard yn ei analluogi i deithio—cyflwyno Tysteb iddo yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r oes a'r genedlaeth—ei araeth yntau ar yr achlysur hwnw.

Bu Mr. Richard flynyddau lawer yn anhwylus gan beswch a diffyg anadl, yn methu teithio i'r Cymanfaoedd, hyd yn oed pan y byddent yn ei sir ei hun. Yr ydoedd yn pregethu ryw gymaint o gwmpas cartref yn aml ar y Sabbathau, ac ambell waith mewn llawn hwyliau, er fod natur o angenrheidrwydd yn rhwym o deimlo yr effeithiau. Ond pan y caffai efe ei draed o dano, ychydig o ymgynghori a chig a gwaed fyddai y pryd hwnw; ymollyngai ati fel yn nyddiau ei ieuenctyd, heb feddwl am ganlyniadau. Gallesid meddwl wrth ei weled yn dringo grisiau y pwlpud dan besychu a chwythu, ei fod lawer yn fwy cymhwys i fedd nag i bwlpud; ond pan y byddai y pesychu yn gwella wrth siarad, a'r anadl fel yn gwellhau yn raddol, teimlech chwant fyned i weddi am i'r Nefoedd ei anfarwoli i bregethu yr efengyl. Ymddangosai yn berffaith gartrefol yn y pwlpud, yn ei le ei hun, y lle ag oedd yn ei weddu ef, enaid a chorph. Byddai yn Abergwaen yn fisol, ac yn Trefin, lle y ganwyd ac y magwyd ef, yn amlach na hyny, yn gymaint a bod y lle yn agos; ond fel y dywed cyfaill wrthym ag oedd yn arfer ei wrando, "yr oedd yn ddyn newydd bob Sabbath." Do, parhaodd ei lafur hyd y diwedd; yr oedd yn gwneyd pregethau newyddion hyd y gallasai eistedd i fyny; ac yr oedd yn dyweyd wrth gyfaill, "Yr wyf gystal ag erioed i wneyd pregeth; gallaf gyfansoddi mor hwylus yn awr a chynt; ond dyna y diffyg, pan yr elwyf i'w pregethu, yr wyf yn methu eu cofio fel cynt."

Y mae yn rhaid fod rhyw beth rhyfedd yn y pregethu yma, cyn bod dynion yn ymdrechu cymaint i bregethu. Yr oedd Christmas Evans, meddant, yn gofyn i'r meddyg a oedd dim gobaith i wella erbyn y Sabbath i gael pregethu; dywedir fod Elias yn dymuno bedd yn union ar ol ffaelu pregethu; ac yr oedd Mr. Richard, er ei holl beswch a diffyg anadl, yn gwneyd ymdrech parhaus i bregethu. Adroddir ei fod am chwech, hwyr Sabbath, mewn man yn myned i bregethu, ac yn dringo grisiau y pwlpud dan beswch a thuchan, yn sål iawn; ac yn gymaint a bod y dydd yn hytrach yn rhy fyr i barhau hyd ddiwedd y cyfarfod, byddai y brawd ag oedd yn gwasanaethu y swydd hono yn arfer cyneu y canwyllau yn nechreu y cwrdd, fel ag i beidio aflonyddu yn y canol; yr oedd hyny yn fwy o synwyr nag sydd yn mhen llawer un. Beth bynag, wrth fod Mr, Richard yn dringo o ris i ris dan beswch, y mae yn canfod y dyn yn cyneu y canwyllau, ac yn dywedyd wrtho, "Peidiwch a chyneu y canwyllau; 'does dim o'u heisiau; dyn marw sydd yma, nid dyn yn gallu pregethu." Gadawodd y dyn y goleu yn y fel yna, oblegyd gallesid meddwl wrth ei weled yn ceisio dringo na fuasai eisiau goleu arno ef, y buasai y dydd yn ddigon hir iddo dreulio hyny o nerth ag ydoedd ynddo. Beth bynag, y mae yn rhoi hymn allan o dan beswch, ac wedi canu hono yn cymeryd testun yn rhyw fodd, ac yn dechreu dweyd o dan chwythu yn anferth, a phawb yn cydymdeimlo ag ef hefyd. Ond yn mhen tipyn y mae yr hen frest fel yn clirio, y peswch yn myned yn llai, y llais yn pereiddio, ac yntau yn dechreu tynu ei law dros y cap du, yr hyn oedd yn arwydd sier fod y gwynt yn myned i chwythu yn deneu; erbyn hyn dyma fe yn gwaeddi allan, "Yn mha le y mae y dyn a'r goleu yna? paham na oleuwch y canwyllau, y dyn? cerddwch a goleuwch hwynt. Pa fodd yr ydych yn meddwl y gall dyn bregethu yma yn y tywyllwch heb i ni allu gweled ein gilydd?" Y mae hwnw yn dechreu gweini ei swydd mor gynted ag y gallo, a chyda phleser hefyd, canys y mae yn sicr o gael haner awr, os nid tri chwarter o bregeth yn ychwaneg na'r dysgwyliad. Fel hyn y byddai yn sâl wrth fyned i bregethu, yn gwella wrth bregethu, ac yn myned yn sâl wedi hyny ar ol pregethu; eto gwneyd pregeth newydd a'i phregethu hi oedd holl gysur ei fywyd hyd derfyn eithaf ei allu.

Yn y blynyddoedd hyn, nid oedd yr un Gymanfa yn myned heibio na fuasid yn holi cyfeillion Sir Benfro yn nghylch iechyd Mr. Richard; a mawr y fath son oedd am dano, a chydymdeimlo ag ef yn ei gystuddiau; gan basio penderfyniad i'r Ysgrifenydd anfon llythyr cynes ato oddiwrth y Gymanfa o gydymdeimlad ag ef yn mhob ystyr; yr oedd pawb yn ddibetrus yn codi llaw. Ond er ei fod wedi ffaelu, ac er fod dyn felly ag eisiau mwy o gysuron na chynt, ac er nad oedd gydag ef i fyw ond yr ychydig blwydd-dâl ag oedd gan Mrs. Richard, nid ydym yn cofio clywed fod y Gymanfa, na Sir Benfro ychwaith, wedi meddwl dim am hyny, ond ei adael yn llwyr i ofal trefn Rhagluniaeth, a'r Bod mawr y darfu iddo ei wasanaethu mor ffyddlon. Peth hyfryd yw ffydd fawr mewn Rhagluniaeth ddwyfol; y mae wedi arbed llawer o arian i filoedd, o dan amrywiol amgylchiadau bywyd. Y peth sydd yn ein synu ni yn fawr yw, os gallesid gadael ei ofal yn llaw Rhagluniaeth yn nghylch angenrheidiau y bywyd hwn, paham nad allesid ymddiried y cwbl i ragluniaeth? Pa eisiau oedd codi llaw a danfon llythyrau o gydymdeimlad? onid oedd Un yn y nefoedd yn "medru cyd-ddyoddef?" am hyny paham nad allesid ymddiried y cwbl i'r un Gwr? Fe ddichon nad oes dim yn hyn, ar yr un pryd y mae rhyw beth ynddo nad yw mor hawdd ei ddeall a llawer peth. Y mae yn ddigon tebyg mai ei lafur caled gyda phregethu i gynulleidfaoedd mawrion ddygodd yr anhwyldeb yr ydoedd yn llafurio o dano i'w gyfansoddiad. Weithiau mewn lleoedd bychain gwresog yn chwysu nes y byddai ei ddillad yn wlybion, yna allan i lwydrew y nos, ac adref drwy hwnw ryw chwech neu saith milldir. Weithiau ar faesydd, yn pregethu i ddeng mil o ddynion, pryd y byddai yn aml y gwynt a'r gwlaw fel yn cyduno i ryfela yn erbyn yr efengyl. Yr oedd pethau fel hyn yn ddigon i ladd un dyn; a digon tebyg mai pethau cyffelyb oedd wedi achosi ei ddolur yntau.

Galwodd gweinidog parchus, perthynol i'r Wesleyaid gyda brawd parchus o ddiacon Methodistaidd i'w weled yn ei gystudd; yr oedd y gweinidog heb ei weled erioed cyn hyny, ond yn unig clywed am y pregethwr cawraidd, yr hwn yn awr oedd yn dechreu cael ei rwymo gan henaint a chystudd. Wedi cyfarch gwell, a throi o gwmpas dipyn, gofynodd y gweinidog, "Pa beth yw natur eich afiechyd, Mr. Richard?" "O, gwaeddi gormod sydd wedi dyfod ag ef; a ydych chwi yn gwaeddi llawer? Dyna fel yr oedd dynion yn meddwl er ys llawer dydd—mai y dyn allasai waeddi fwyaf oedd y pregethwr goreu; felly byddai pawb yn ymdrechu gwaeddi ei oreu, bid a fyno. Yr wyf fi wedi gwaeddi nes ydwyf wedi methu gwaeddi; yr wyf yn pregethu ambell waith yn awr; ond nid wyf yn gallu gwaeddi yr y'ch chi'n deall; a bydd y bobl yn dyweyd, wrth ddyfod o'r cwrdd, 'Pregethwr da yw Richard hefyd;' ond y dynion hynaf, y rhai sydd wedi fy nghlywed yn gwaeddi, a atebent yn surllyd, 'Pw, pw, 'chlywsoch chwi ddim o hono ef yn ei brime; dyna pryd yr oedd e'n ogoneddus, pan glywsom ni ef gyntaf, pan oedd yn ei brime. Yn awr, yr y'ch chi'n deall, prime gwaeddi oedd y prime, nid prime pregethu. Peidiwch a gwaeddi llawer, onide ewch yn fuan i beidio gwaeddi dim. Nid pregethwr mawr sydd yn eisiau ar y bobl, ond gwaeddwr mawr; y dyn allo waeddi digon sydd eisiau arnynt hwy."

Beth bynag yn y byd am y gwaeddi, y mae yn amlwg fod llawer o lafur o'r fath ddesgrifiad wedi dyfod â nychdod mawr arno ef; ac yr ydym yn synu na fuasai rhyw rai yn meddwl y buasai yn beth purion i'r gweithiwr gael bwyd wedi iddo fethu gweithio ryw lawer; ond yn rhyw fodd ni ddygwyddodd i hyny daro i feddwl neb. Yr oedd yn ddrychfeddwl newydd yn y Cyfundeb, y mae yn wir; ond er hyny nid oes nemawr o oes nad oes dynion gwreiddiol yn bodoli ynddi; eithr dygwyddodd nad oedd neb ar hyn o bryd yn alluog i fyned i mewn i ddirgeledigaethau y cwestiwn hwn. Beth bynag, yn nghanol yr holl ymholi ar ol iechyd Mr. Richard, y codi llaw a'r ysgrifenu llythyrau cydymdeimladol, meddyliodd rhyw un mai peth digon priodol yn nglŷn a hyny fyddai cael i fyny ryw gymaint o arian fel tysteb i gyflwyno iddo; ac yn wir at hyny yr awd, er fod peth felly yn ddigon disynwyr o dan amgylchiadau o'r fath, oblegyd nid peth yn lle yr hyn sydd ddyledus yw tysteb, ond yn ychwaneg at hyny, fel arwydd o barch neu gydymdeimlad. Fe welir, serch hyny, pan y deuir at araeth y gweinidog ffyddlon, ar achlysur derbyniad y dysteb fel ei gelwir, ei fod ef yn edrych ar y peth fel arwydd o garedigrwydd tuag ato yn ei wendid. Yr oedd hyny yn beth purion, ac yn beth uchel ynddo ef, canys yr oedd yn arwydd o'r teimlad gwylaidd a gostyngedig hwnw ag y mae y rhan fwyaf ag sydd yn adnabod eu hunain yn gydnabyddus ag ef. Nid oedd efe yn gweled ei hun yn werth dim; yr oedd yn synu pa fodd yr oedd y Gymanfa yn ymholi am greadur mor wael; gan hyny yn edrych ar y dysteb fel yn dyfod allan o ymysgaroedd trugareddau. Mor bell ag y mae y teimladau hyn yn dal cysylltiad â Mr. Richard ei hun, da iawn; eithr os ydynt mewn cysylltiad â rhyw rai eraill, drwg iawn. Y mae yn ddiau fod llawer, yn symlrwydd eu calonau, yn edrych ar yr ychydig a gyflwynwyd iddo y pryd hwnw yn wobr, nid yn dâl. Beth bynag, os gwobr y dewiswch ei alw, yr ydym yn meddwl, mewn barn cariad, nad oedd y wobr hono "o ras, ond o ddyled."

Wedi rhoi peth felly o flaen cymdeithas, yr ydym yn synu y tu hwnt i bob peth, pa fodd y dygwyddodd iddo fod cyn lleied. Y mae yn rhaid mai ar y cyfarwyddwyr, nid ar y bobl, yr oedd y bai, canys pe buasai y bobl yn cael un awgrym mewn ffordd briodol, buasent yn ddiau fel un gwr yn codi ati; ac nid y swm iselwael o driugain punt fuasai y canlyniad. Na, na; y mae teimlad tyner yn meddyliau y bobl at y dynion hyny oedd fel cân cariad iddynt, geiriau pa rai oedd fel mêl i'w safnau; "ïe, yn felusach na mêl, ac na dyferiad y diliau mêl;" athrawiaeth pa rai a ddyferai fel gwlaw tyner a ffrwythlon ar dir sychedig, nes ei wneyd fel Eden mewn ffrwythlondeb. Ond dyna, y mae yn rhaid gadael pob peth fel y mae, canys nid oes cyfle mwy i wella unrhyw gyfeiliornad mewn cysylltiad â'r marw; eto fe allai y dichon nodi allan rai pethau fod yn effeithiol i alw sylw mwy priodol o dan amgylchiadau tebyg, os dygwyddant yn y dyfodol. Y mae hen amser yn rhedeg mor gyflym, yn myned heibio fel eryr cryf a chyflym, gan gau pob peth ar ei ol, fel nad oes cyfle i wella cyfeiliornadau; rhaid iddynt fod fel y gwnaed hwynt, er yn ysmotiau duon ar y papyrlen; ac os ceir amser yn y dyfodol, ceisio eu gwella mewn cysylltiad â gwrthddrychau newyddion.

Dydd Mawrth, y 9fed o Ionawr, 1855, dyma ryw gymaint o bersonau yn myned â'r triugain punt yn eu llogellau, gan feddwl yn ddiamheu fod ganddynt gronfa weddol, o holl Siroedd y Deheubarth, yn anrheg rasol i Mr. Richard. Cadwyd cyfarfod, areithiwyd a chyflwynwyd y triugain punt iddo, fel pe cyflawnasid rhyw weithred ryfedd o ras ar y dyn claf. Syndod! y mae tywyllwch yr oes yn fawr hefyd, wrth ystyried pob peth. Beth! dynion yn llafurio o dan gymaint o dywyllwch moesol yn y ganrif hon! Hawyr! rhaid i chwi fyned adref, a dychwelyd a'r deg cymaint o arian a hyny cyn y bydd genych ddigon i dalu yr hyn sydd ddyledus i Mr. Richard, heb son dim am anrheg. Telwch y ddyled yn gyntaf; byddwch yn onest, frodyr, a siaradwch wedi hyny faint a fynoch am fod yn haelfrydig. Ond da chwi, er mwyn pob peth, ceisiwch a bod yn weddol gyfiawn yn gyntaf. Tebyg iawn, yn gymaint a bod diwygiadau yn ehedeg ar adenydd y gwynt yn y dyddiau hyn, fod yr oes wedi myned llawer yn y blaen mewn diwylliant oddiar gyflwyniad y dysteb, a'r pethau ag oedd braidd yn anweledig yn ngwyll y boreu hwnw sydd yn awr yn ddigon amlwg, gan fod y dydd yn tynu yn agos i'w ganolbwynt.

Ond i adael y dysteb, fel ei gelwir, y mae rhyw beth o werth sylwi arno yn y dull y mae efe yn ei derbyn. Nid ydyw yn gweled dim ynddi ond caredigrwydd, trugaredd, a chariad brawdol; y mae efe yn ei gweled yn ardderchog, yn ddangoseg o serch, brawdgarwch, a Christionogaeth i'r pen pellaf, gan ei ystyried ei hun yn annheilwng o'r fath rodd haelfrydig. Nid ydym yn meddwl ychwaith fod un amcan ond caredigrwydd a Christionogaeth yn nghyflwyniad y dysteb; eithr rhyfeddu yr ydym at dywyllwch y bobl, na fuasent yn meddwl fod cymaint a hyny yn ddyledus bob blwyddyn, ac ychwaneg hefyd. Yn hytrach na myned i fanylion, yr hyn fe allai na fyddai yn edrych gystal, digon yw dyweyd na dderbyniodd Mr. Richard nemawr o ddim am ei lafur, eithr treuliodd oes o ddefnyddioldeb mawr i'w genedl, gan lafurio yn galed gan mwyaf ar ei draul ei hun. Ar y diwrnod nodedig i gyflwyno y dysteb, cyfarfyddwyd yn Abergwaen, ac awd drwy y gorchwyl mewn cysylltiad â Chyfarfod Misol a gynaliwyd yn y lle yr un amser. Cyflwynwyd yr arian iddo yn un o'r cyfarfodydd, yr hyn a dynodd allan yr araeth fach ganlynol:

Mae pob peth newydd yn peri pryder. Mae pob symudiad awd trwyddo mewn bywyd wedi bod mewn pryder. Pan awd at grefydd gyntaf yr oedd yn amgylchiad pryderus; ond yr oedd rhyw ragolwg ar hyny. Pan deuwyd at fwrdd yr Arglwydd y tro cyntaf yr oedd pryder yn hyny; ond yr oedd gradd o ragolwg am hyny. Pan ddechreuwyd ar y gwaith mawr nad oes un dyn ar y ddaear yn ddigonol iddo, fe barodd ryw beth cymaint o bryder y pryd hyny, nes ymgrino ar y ddaear, ac nid heb achos; ond yr oedd rhyw faint o ragolwg ar hyny. Pan dderbyniwyd i aelodiaeth y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa, yr oedd y rhai hyny yn amgylchiadau pryderus; ond nid heb ryw ragolwg arnynt; a phan y cawd lle i fod yn y gwaith llawn, rhwng gwendid gewynau a phob rhyw waeleddau, yr oedd y pryder mór fawr nes bod ar ymddyrysu; ond yr oedd rhyw ragolwg ar hyny cyn myned ato. Ond am yr amgylchiad hwn, nid yw heb bryder, ac nid oedd un rhagolwg arno; canys ni welwyd fel hyn o'r blaen genym ni. Mae y pethau heddyw yn anhygoel. Pan wybuwyd am hyn gyntaf, heb allu gwybod beth fyddai y cynwysiad na'r canlyniad, fe feddyliwyd rhoddi nacâd pendant iddo; ac oni buasai ofni balchder wrth ei wraidd, ac ofni pechu yn erbyn Crist wrth bechu yn erbyn y brodyr, fe fuasai wedi ei roddi. Parodd synedigaeth nid ychydig; yn un peth oblegyd fod llafur a gwaith y Gymanfa wedi dyblu a thryblu at y peth oedd pan gofir am dani gyntaf, a llawer blwyddyn wedi hyny. Synwyd, wrth feddwl am y fath brysurdeb, y gallesid cael meddwl, cof, nac amser i synied am y fath beth, yn enwedig am un mor absenol, mor ddyeithrol, ac annefnyddiol, allan o'r golwg ac o'r clyw er ys llawer blwyddyn; ond heb allu, ond yn un lle, dan lethu, yn llusgo. Yn awr wele fe wedi dod, ond nid heb ofnau am dano y mae,—ofni rhag bwrw ymaith ar hyn, canys fe wobrwyir am gymaint a chwpanaid o ddwfr i ddysgybl. Ni fydd yr Arglwydd yn nyled neb, er, wrth edrych dros flynyddoedd yr ymdaith, nid oes un agwedd a welir mor gymhwys, ïe, yr unig un gymhwys, ond edifeiriol; ac ni wyddys am unrhyw beth sydd mor dda i gael byw cyhyd er ei fwyn ag edifeirwch—ofnir rhag ymchwyddo o herwydd hyn. Os bydd dropsi yn y cyfansoddiad, mae perygl oddiwrth bob peth, rhag iddo gynyddu. Os oedd perygl i'r sant mawr Paul i dra dyrchafu o herwydd ei gipio i'r drydedd nef i baradwys Duw, tu draw y llen, pa faint mwy perygl i bechadur mawr a gipiwyd fel pentewyn i baradwys Duw ar y ddaear? Ofnir rhag bod ystorm i ganlyn hyn; megys y bydd tawelwch ar ol ystorm, bydd weithiau ystorm ar ol tawelwch; a rhag i don y brofedigaeth soddi y pen dani, na chodo mwy; canys ni bu erioed ond eiddilwch a gwendid mawr mewn man ofidiau. Oddiar ostyngeiddrwydd diffuant, mor bell ag yr adnabyddir, dymunir cyflwyno diolchgarwch diragrith trwy ddwylaw y dirprwywyr hyn i'r Gymanfa a'ch danfonodd; ac hefyd i chwithau sydd ddirprwywyr yn yr oruchwyliaeth hon yr un peth yn yr un modd; canys ni ellir cyffelybu y gorchestwaith hwn a wnaethoch i ddim ond i ymwroli fel rhai yn gweled yr anweledig; canys nis gallasai y fath orchwyl gael ei gwblhau yn y fath fodd heb lafur, ymdrech, serch, egni, a diwydrwydd dibaid: ond yn gan cymaint, ïe, yn gan cymaint drachefn a hyn, yr hyn nid yw yn un iselhad nac iselder ar hyn, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb, y llonir ac y llawenheir am y peth y mae cynwysiad hyn yn ei ddangos, yr hyn yw egwyddor Cristionogaeth, ysbryd Cristionogaeth, undeb, cariad, a serch Cristionogaeth, yr hyn yw hanfodau Cristionogaeth; yr hyn sydd lawer mwy o brawf fod ysbryd yr Arglwydd yn aros yn mysg ei bobl na phob cyflawniad cyfan yn allanol heb hyny. Lle mae hanfodau Cristionogaeth yr erys, ac nid yn un lle heb hyny; "Canys yn ol y gair a amodais â chwi yr erys fy Ysbryd yn eich mysg." Mae rhyw faint o gymhwysder yn ngeiriau gwraig y mynydd-dir, os nid y mwyaf cymhwys yn wyneb hyn oll ar yr achlysur presenol: "O ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy arglwydd ataf fi?" Fe ellir gwneyd hyn yn gymhwysiadol yn ol gair Crist, yr hwn a ddywedodd am "yr hwn a ewyllysio wneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam;" os felly, wele frawd, chwaer, a mam Crist yn bresenol. Dywedwch wrth y Gymanfa y taer ddymunir arnynt i beidio â gadael ar hyn, er cymaint yw hyn; tra na chlywont fod y terfyn wedi ei gyrhaedd, i roddi lle i un tebyg i'r creaduriaid a welwyd yn y llen-llian a ddangoswyd i Pedr, yn llen-llian eu gweddiau; a rhwymer am dano, nesaf ato, weddi y publican, at ei gymeryd i fyny i'r nef; ei weled yno, os byth y daw, fydd un o'r rhyfeddodau mwyaf am neb a ddaw yno. Mae cael cwympo i'r bedd o fynwes gweddiau eglwys Dduw, O gymaint gwell yw na chwympo yno oddiar orseddfeinciau uchelaf y byd. Gwlad heb bechu, a gwlad heb ofni yw yr unig wlad sydd i'w hoffi. Amen fyddo gyda phawb, pawb yn ddiwahaniaeth heb un sylw ar wahaniaethau plentynaidd dynion, y rhai a gollir oll yn angau. Yr unig undeb a ddeil yno yw undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw. Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru yr Arglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Wrth hyn rhoddir o galon Amen, Amen, Amen, er cymaint yw ei phla.

Nodiadau

[golygu]