Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XVII
| ← Penod XVI | Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen gan Edward Matthews |
Penod XVIII → |
PENOD XVII.
Ychydig o ymadroddion annghysylltiol, ag sydd yn draddodiadol mewn cymdeithas.
Y MAE peth anferth o ddywediadau Mr. Richard mewn cymdeithas, y rhai fydd yn anmhosibl i ni eu cofnodi; a digon tebyg y clywir y bobl yn siarad, "Nid yw y peth hwn yn y llyfr, ac nid yw y peth arall ynddo;" ond pe gosodem y cwbl a ddywedodd, a'r cwbl a ddywedir am dano yn y llyfr, beth, tebygech chwi, fyddai maint y llyfr hwnw? Byddai yn rhaid cael lle go fawr i'w gynwys, a bod yn siwr i chwi hefyd. Ond er mwyn ceisio gweithio allan gymeriad Mr. Richard yn mhob peth, yr ydym am roi ychydig o engreifftiau o'r pethau sydd yn draddodiadol.
Gofynwyd iddo am ryw bregethwr ag oedd y pryd hwnw yn Sir Benfro, ond sydd yn awr er ys llawer blwyddyn yn wrthgiliedig, "Pa fodd y mae hwn a hwn yn myned yn y blaen gyda chwi, Mr. Richard?" "Myned yn y blaen," ebe yntau; "nid ydyw yn myned yn y blaen, nac yn ol ychwaith, llwyr ei ochr y mae yn myned, fel cranc." Pysgodyn boglog, chwithig yw y cranc; pan y mae yn ceisio myned y mae yn ymlwybro mor lledchwith, fel y mae yn ymddangos yn taro yn erbyn, ac am draws bob peth. Gofynwyd iddo am yr un gwr dro arall, "Pa fodd y mae hwn a hwn yn pregethu gyda chwi, Mr. Richard?" "O," meddai, "y mae yn swnio yn debyg iawn i swllt drwg." Yr oedd yr hen weinidog ag amcan deg ar swn Duw yn y weinidogaeth; er fod rhyw gymaint o olch dynol ar y wyneb, yn ceisio gwneyd yr arian yn debyg i rai da; ond wrth eu taro yr oedd swn metel drwg. Y mae llawer o bethau yn gron fel swllt, a chymaint a swllt, ond nid pwysau ac nid swn swllt.
Yr ydym yn cofio clywed am ddyn yn troi oddiwrth yr Annibynwyr at y Methodistiaid yn Penmorfa, a dygwyddodd hyny pan yr oedd Mr. Richard yn y lle. Arferiad cyffredin oedd galw cwrdd eglwysig yn ol wedi y bregeth, i gael y pregethwr yn y cwrdd hwnw. Felly gwnawd y tro hwn yn Mhenmorfa; a dygwyddodd hefyd i'r brawd hwn aros yn ol, yr hwn a ddarostyngwyd o dan holiad manwl ac ymchwilgar. Nid mor rhwydd oedd gan yr hen Fethodistiaid dderbyn aelod oddiwrth enwadau eraill, rhag, digon tebyg, fod rhyw gau ddybenion neu ryw beth cyffelyb. Holwyd y brawd hwn mor agos gan yr hen ddiaconiaid, nes iddo fyned yn anoddefol; collodd ei dymherau yn enbyd; fe allai ei fod yn dra gwyllt yn naturiol; nid ydym yn gydnabyddus gymaint a hyny. Pan welodd Mr. Richard ei fod wedi tanio, a'i bod yn enbyd i'r tân ymledu, cododd, a dywedodd, "Yn awr, frodyr bach, gwell fyddai i chwi na siarad chwaneg adael y brawd am wythnos neu ddwy i oeri; y mae ar hyn o bryd yn rhy boeth i wneyd dim o hono; gadewch iddo oeri, a gadewch iddo gael amser i hyny, wythnos neu ddwy, a chadwch lygad ar ei ol ef yn y cyfamser, canys y mae perygl, y mae y brawd yn wyllt iawn, a gall, o ddiffyg triniaeth briodol, fyned i beryglon mawrion. Edrychwch chwi, ffrynds, a deallwch fod gwahaniaeth mawr rhwng ceffyl dall, diog, dihwyl, diysbryd, digalon, a dyddim, a cheffyl dall metelus. Gellwch ollwng y cyntaf yn rhydd ar ganol y ffordd; dyna lle y bydd dranoeth o fewn ychydig latheni, symud e ddim nemawr o gamrau; fel nad oes dim perygl, nac eisiau gofalu am dano. Ond deallwch, y mae ceffyl dall metelus yn wahanol iawn i hyny; peidiwch a gollwng ceffyl dall metelus yn rhydd mewn lleoedd peryglus, onide fe allai mai dros ei ben mewn rhyw chwarel y bydd mewn moment; canys fel y gwyddoch, bydd ceffyl dall metelus yn sicr o fyned i ryw le. Yn awr, ffrynds, ceffyl dall metelus yw y brawd hwn, rhaid i chwi fod yn bwyllog gydag ef, ac yn ofalus o hono; peidiwch a'i ollwng yn rhydd i fyned llwyr ei ben, canys y mae yn fetelus iawn; fe â na ŵyr nebi ba le mewn ychydig amser; y mae ynddo ysbryd uchel a gwresog iawn; y mae yn dra metelus, am hyny peidiwch a'i ollwng yn rhydd i ben heol; ond gadewch iddo fod yma am ychydig wythnosau i edrych a wna oeri, fe allai y gellir gwneyd rhyw beth o hono. Čeffyl dall metelus yw e, yr ych chi'n deall."
Byddai yn trin cyflyrau blaenoriaid weithiau, dan siarad am geffylau; a byddai pawb yn deall pwy oedd y naill a'r llall wrth yr ymddyddan; er na fyddai efe yn siarad dim â'r dynion, ond am y ceffylau,
"Ceffyl da yw Jack," meddai, "ond nid cystal a Phopet; y mae Popet yn haws i'w drafod, ac yn fwy ewyllysgar i wneyd pob peth. Onide y mae Jack yn geffyl da, cryf, pwerus; ond fe dry weithiau yn anewyllysgar a phenstiff; pan y bydd eisiau ei wasanaeth fwyaf, fe allai mai y pryd hwnw y bydd waethaf. Fe dyn Jack ddigon, deallwch chwi; ond y mae yn rhaid iddo dynu yn ei le ei hun, ac yn ei ffordd ei hun, onide thŷn ef ddim. "Thyn Jack yn un man ond yn y blaen; dodwch chwi ef yn y bôn, neu yn y canol, aiff i ymbrancio, a thynu yn ol, a gwneyd mwy o ddrwg nag o les. mae yn rhaid i Jack gael y blaen, deallwch, oblegyd ni thyn e ddim pwys ond yn y blaen. Un da iawn ydyw, ond iddo ef gael tynu yn y blaen, ac yn ei ffordd ei hun; braidd nad yw yn ddigon cryf i dynu y llwyth ei hun. Gwneyd pob peth neu ddim y bydd Jack yn gyffredin; a pheth sydd yn beryglus iawn os na chaiff ei ffordd, try i gicio, nes y bydd y rhai olaf mewn perygl o gael eu coesau wedi eu tori. Ar y cwbl, yr ych chi'n deall, y mae Jack yn geffyl da, ond bydd rhyw gnaciau ynddo ar brydiau; pe gellid tynu y rhai hyny o hono byddai yn rhagorol; ond anhawdd iawn yw tynu cnac o hen geffyl. 'Dyw e ddim fel Popet, serch hyny; y mae Popet yn un ewyllysgar iawn; er fe allai nad yw mor bwerus a Jack; ond y mae yn haws ei drafod; nid ydyw mor ysgythrog ac yscaprwth, yn oicio a chnoi, ac yn pallu tynu dim ond o'r blaen. Fe dyn Popet, yr y'ch yn deall, yn mhob man; fe wnaiff ei oreu lle bynag y gosodir ef. Gosodwch ef yn y blaen, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y canol, fe dyn Popet; gosodwch ef yn y bôn, fe dyn Popet yno hefyd. Gosodwch bwn ar ei gefn i fyned i'r felin, fe aiff e yn ewyllysgar o dan hwnw; gosodwch ddau neu dri o'r plant i fyned ar ei gefn i'r ysgol, fe wnaiff e hyny hefyd. Un rhyfedd yw Popet, fe wna efe gymaint ag y gall yn mhob man; ond am Jack, er ei fod yntau yn geffyl da yn ei ffordd, nis gellir ymddiried yn dda iddo wneyd pob peth. Gwell peidio mentro rhoi cŵd ar gefn Jack i fyned i'r felin, na'r plant i fyned i'r ysgol, rhag iddi droi yn brofedigaethus; gwell mentro ar Popet." Digon tebyg fod pawb yn gwybod pwy oedd Jack a phwy oedd Popet, o ddechreu yr ymddyddan.
Cafodd allan fod rhyw chwech neu saith wedi bod yn ei drin ef yn arw wrth ysmocio yn ymyl rhyw danllwyth yn nhŷ cymydog, fel y bydd weithiau. O bell y cymerodd ei ddameg, y cyfleu cyntaf; a gwnaeth ddesgrifiad mor fanwl, fel ag yr oedd yn anmhosibl peidio deall yr holl drafodaeth. Rhostio Shôn y mae yn galw y drafodaeth hono. Fe fydd ambell dy hefyd, rhyw fath o bobdy moesol ydyw, lle y byddys yn ymgrynhoi i rostio cymeriadau gwell o lawer na hwynt eu hunain. Y mae yn debyg mai Mr. Richard ddygwyddodd fod o flaen y tân y tro hwn, a rhyw chwech neu saith wrth y gorchwyl, rhai yn cyneu y tân, eraill yn tywallt saim arno, ac eraill bob yn ail yn troi y bêr. Wedi iddo roi desgrifiad go glir o'u personau a'r lle, dywedodd, "Wel, ac fe ddarfu i chwi rostio Shôn; do y mae yn debyg; y mae Shôn wedi bod yn rhostio. 'Pwy oedd yn rhostio Shôn? pa sawl un oedd yn ei rostio?" 'Hwn a hwn; a hwn a hwn.' 'Neb arall?' 'Nag oedd; chwech oedd yno.' 'Na, yr oedd un arall.' 'Un arall; nag oedd, chwech oedd yno.' 'Nage, yr oedd saith.' 'Ni welsom ni ddim ond chwech.' 'Fe allai hyny; ond yr oedd saith yno.' 'Pwy oedd yno, ynte?' 'Pwy! yr oedd diafol yno, ffrynds; yr oedd y cythraul yno; oblegyd dynion yn ei law ef oedd yn rhostio Shôn. Wel, yr oedd y cythraul yno yn rhostio Shôn. Pwy hefyd?' 'Nid oedd neb arall.' 'Oedd; yr oedd un arall.' 'Pwy?' 'Yr oedd Duw yno yn edrych. Er nad oedd efe ddim yn rhostio Shôn, ond yr oedd ei lygaid yn edrych ar y weithred." Fe fydd Shôn yn cael ei gario i'r pobdŷ yn aml; ond yn gyffredin y rhai sydd yn ei ddwyn sydd yn llosgi, a Shôn yn diane; ond yn unig llosgi ei rwymau. "Dyn un—llygeidiog i chi," meddai wrth flaenor cyfrifol; "nid ydych yn gweled ond un—ochrog. Y mae ochr arall i gael, yr ydych chwi yn ddall o'r ochr hono."
Yr oedd dyn bach o ddiacon go dda ond penderfynol yn ei ffordd yn Glanrhyd, a byddai Mr. Richard yn myned heibio yn awr a phryd arall, ac yn troi at Thomas bob amser i gael ceirch i'r ceffyl, ond nid oedd yn rhoi Sabbath un amser i bregethu, y mae yn debyg. Yr oedd Thomas yn annedwydd yn nghylch hyny, ac yn meddwl nad oedd yn degwch; ac eto yn methu cael digon o gryfder i ballu ceirch o herwydd y rheswm hwnw hefyd. Eithr wedi hir—oddef mewn cysylltiad â'r mater hwn, cyrhaeddwyd y pen draw i amynedd Thomas, a phenderfynodd ddyweyd y genadwri oedd yn gwasgu ar ei feddwl. Daeth Mr. Richard eilwaith heibio, a throdd at Thomas i dŷ y capel, gan ymholi yn nghylch ceirch. "Thomas bach," meddai, "ffordd yr ydych chwi heddyw? a oes tipyn o geirch i'r ceffyl i gael heddyw?" "Un tamaid," meddai Thomas.
"Beth! dim ceirch, Thomas?"
"Dim un tamaid," ebe Thomas; "nid oes yma ddim ceirch i neb ond y sawl sydd yn dyfod yma ar y Sabbath; cerddwch chi' i 'mofyn ceirch lle yr ydych yn myned ar y Sabbath."
Meddyliodd Mr. Richard mai digrifwch Thomas oedd hyn; ond cafodd allan yn fuan ei fod yn ddifrifol; ac i'w ffordd y cafodd fyned hefyd, heb damaid o geirch. Galwodd Mr. Richard yno ar ol hyn i bregethu, ac wedi y bregeth yr oedd cyfarfod eglwysig, fel y byddid yn arferol gadw, er mwyn cael cynorthwy a chyfeillach y pregethwr.
"Wel Thomas," meddai Mr. Richard, "beth sydd i fod yma heddyw? beth sydd genych ch'i, Thomas bach, ag eisiau siarad? Dyma'r bobl wedi aros yn ol, fel yr ydych chwi wedi dymuno arnynt; beth sydd a fynoch chwi a hwy? A oes genych ryw beth i ddyweyd wrthynt, neu ryw beth i roi iddynt? Beth sydd genych chwi yn awr mewn golwg, Thomas bach?"
"Wel," ebe Thomas, "os gwelwch yn dda, syr, anogwch hwynt i ddyfod yma yn amlach, a bod yn fwy ffyddlon i'r cyfarfodydd; yn enwedig y cwrdd eglwysig." "Oh; a ydynt ddim yn dyfod, Thomas?"
"Nac ydynt, ddim yn gyson."
"Oh; pa fodd y mae hyny, Thomas? a wyddoch chwi ddim paham y mae y bobl yn peidio dyfod i'r society? beth sydd yn rhwystr i wybod hyny? Mae yn ddigon amlwg. Yr oedd dau amaethwr yn myned gyda eu gilydd i farchnad Aberteifi; ac ar y ffordd un yn gofyn i'r llall, Yn mha le yr ydych chwi yn rhoi i fyny yn awr acw?' 'Wel yn siwr i'r Black Lion yr wyf fi yn myned ers tro hir.' 'I'r Black Lion? wel, ai nid i'r Red Lion yr oeddych yn arfer myned?' 'Wel, ïe, ond i'r Black Lion yr wyf fi yn myned er ys lawer dydd.' 'Pa fodd y darfu i chwi newid? Y mae y Red Lion yn dŷ da iawn.' 'Ydyw yn weddol, ond nid cystal ag y bu; i'r Black Lion yr wyf fi yn myned, ac y mae yn ddigon tebyg mai yno yr af hefyd, oddieithr rhyw gyfnewidiad. Y mae y Red Lion yn burion; ond mi ddywedaf i chwi, nid oes nemawr o drefn yno, fe allai y cewch fwyd blasus weithiau, o ddygwydd; ond yn gyffredin diflas yw'r bwyd yno. Bydd y mutton yn haner digon, fe allai; y pytatws yn oerion, a phob peth o gwmpas yn fudr—nid oes dim cysur yn y byd yn y Red Lion er ys lawer dydd, am hyny yr wyf fi wedi gadael, ac yn myned i'r Black Lion yn awr; y mae lle cysurus iawn yno yn wastad. Cerddwch pryd y mynoch, bydd digon o dân yn yr aelwyd, a phob peth o'i gwmpas yn lanwaith, bwyd mewn mynyd yno, os bydd eisiau; pob peth yn dwymn ac yn ei flas, heb na gwaeddi—na mwstwr. Y Black Lion yw fy nhŷ i yn awr.' 'Wel yn wir,' ebe y llall, yr wyf fi yn meddwl y dof fi gyda chwi i'r Black Lion hefyd.
"A ydych chwi yn deall, Thomas bach, fod y bobl yn myned lle y mae rhyw beth i gael. Nid oes eisiau eu cymhell i fyned i'r Black Lion, y maent yn myned eu hunain, ac yn gadael y Red Lion, oblegyd fod rhyw beth gwell i gael yn y Black Lion. Yr ydych chwi am anog y bobl hyn i ddyfod i'r society; gwaeth eu hanog hwy na pheidio, ni cheir ganddynt ddyfod, os nad oes yno ryw beth i gael. Y mae yn ddigon tebyg, Thomas bach, mai rhyw dŷ fel y Red Lion yr ydych chwi yn ei gadw yma; nid oes genych ddim i roi ger bron y bobl. Pan y bydd eisiau bwyd arnynt, nid oes genych chwi ddim i'w osod ger eu bron, a'r ychydig sydd, oer iawn ydyw—ni fynant ei fwyta. Cedwch chwi dŷ da, a bwyd blasus a thwymn, Thomas, fe ddaw y dynion, onite gwaith anog mwy na pheidio. Peidiwch a bod fel Mali; yr un god at bob peth. Y mae Mali yn gwneyd tê, yn gwlychu y toes, yn golchi, yn smwddio, yn gwneyd teisen, yn golchi'r llestri, ïe, yn gwneyd pob peth ar yr un ford fach. Byddwch yn fwy taclus gyda'r grefydd, ffrynds; peidiwch a gwneyd pob peth mewn ffordd afler ac annyben; cofiwch fod pethau Duw yn bethau santaidd." Y mae y bai i gyd yn syrthio ar ben Thomas; ac fe allai fod helynt y ceirch wedi arwain gryn dipyn at hyny.
Yr oedd dau bregethwr wedi taro allan i bregethu, a'r amser wedi dyfod i ben i siarad â hwynt yn y Cyfarfod Misol. Yr oedd y ddau druain yn sefyll, neu yn eistedd, yn bur wylaidd heb fod yn mhell oddiwrtho. Y mae yntau yn codi, yn edrych yn mhell y tu hwnt iddynt hwy, ac yn gofyn, "A ydyw Thomas a Dafydd yma? a oes rhyw un yn gwybod a ydynt i mewn, a ydynt yn y capel, neu ar fedr dyfod? A oes rhai o honoch chwi yn deall y ffordd acw?"
"Dacw hwynt," meddai rhyw un, "yn eich ymyl, Mr. Richard."
"O felly; y maent yma, da iawn; gwell siarad ychydig â hwynt; pwy sydd yma a ymgymer â hyn o orchwyl, siarad tipyn â Thomas a Dafydd? dewch, byddwch yn frysiog; gofynwch ryw beth iddynt hwy. Y maent hwy yn bregethwyr yn awr; pregethwyr da iawn hefyd; y mae y bobl yn eu canmol. Y maent yn canmol Thomas yn annghyffredin; y maent yn canmol Dafydd hefyd am hyny, ond nid cymaint a Thomas: Thomas yw y pregethwr mwyaf, yr y'ch chwi yn deall. Y mae Dafydd yn bregethwr lled fawr hefyd, y maent yn dyweyd; mae efe o'r braidd yn ddyfnach na Thomas; ac y mae ceffyl da, a chwip dda, a chlogyn da gan Dafydd; y mae Dafydd yn ddyn go fawr. Aeth Dafydd i lawr i Dyddewi ar y ceffyl mawr, ac yn y clogyn mawr, ac a'r chwip fawr yn ei law, a phregethodd bregeth fawr ar ostyngeiddrwydd; ond aeth gartref dydd Llun eilwaith yr un ffordd, heb fod yn ostyngedig iawn wed'yn, 'roedd y bobl yn dweyd. Thomas yw dyn y bobl, efe y maent hwy yn caru glywed yn annghyffredin. Y mae y bobl yn fwy am Thomas nag am Dafydd; y mae rhyw beth ag sydd yn fwy deniadol yn Thomas, y maent yn dyweyd; yn fwy swynol, yn fwy soniarus, ac yn fwy serchus; un melus iawn yw Thomas. Y mae Dafydd yn bur dderbyniol hefyd, yr y'ch chi'n deall; ond nid mor dderbyniol a Thomas. Thomas yw eu dyn hwy, deallwch. Y mae rhyw beth yn llais Dafydd nad yw mor hyfryd a Thomas, er fod gan Dafydd lais, eithr nid mor soniarus a Thomas; Thomas yw eu dyn hwy. Mae Dafydd yn bur barchus gan lawer, yn pregethu yn dda; ond y peth sydd yn ei erbyn e yw, ei fod yn gryn graslyd; mae llais Dafydd, yr y'ch chi'n deall, yn gryn graslyd a sychlyd; nid oes dim soniarus a seimlyd ynddo, am hyny Thomas yw eu dyn nhw. Y mae Thomas yn gallu canu, ei lais sydd yn hyfryd; y mae yn fwyn, yn feddal, ac yn felus. Efe yw dyn y bobl." Aeth y cwrdd heibio heb siarad nemawr a hwynt, ond am danynt; a'r trueiniaid yn chwysu gan fraw a chywilydd.
"Gwylder, beth yw gwylder? nid diffyg synwyr yw gwylder, nid diffyg bywiogrwydd, nid diffyg ymroddiad a llafur. Gellir bod yn wylaidd ac yn fywiog, yn wylaidd ac yn ymroddgar, yn wylaidd ac yn llafurus. Bydd ambell ddyn yn wylaidd ac yn wlanenaidd, yn wylaidd, gwylanaidd; ac felly gwylaidd, gwlanenaidd, a gwylanaidd yw hwnw. Bydd un arall yn fywiog, ond yn fachog, yn finiog, a gwydrog. Gellir bod yn fywiog heb fod yn fachog a miniog, ffrynds; a gellir bod yn wylaidd heb fod yn wlanenaidd ac yn wylanaidd."
Byddai Mr. Richard yn cael peth difyrwch yn fynych ar draul Saesoneg Casgwys. Byddai yn myned i bregethu weithiau yn Saesoneg i Gasgwys, a manau eraill o leoedd Seisnig Sir Benfro. Ychydig o bobl, heblaw eu hunain, y mae yn debyg, sydd wedi meistroli Saesoneg Casgwys; y mae y wlad wedi bod am oesau yn haner cauedig i bawb ond hwy eu hunain; gellid meddwl nad oedd Mr. Richard ei hunan wedi ei meistroli yn llwyr, canys, fel yr ydym yn deall, yr oedd ef a hwythau yn methu deall eu gilydd bob amser. "Y mae yn rhaid cael dyn Casgwys at Saesoneg a Saeson Casgwys," meddai; "nid gwiw i neb fyned i siarad Saesoneg Casgwys, a siarad â dynion Casgwys, ond dyn Casgwys. Y ddau Llewelyn yw yr unig gampwyr ar Saesoneg Casgwys; y maent hwy yn ddynion Casgwys, wedi dysgu iaith Casgwys, yn gallu siarad â phobl Casgwys, a gwneuthur pob peth yn Gasgwysaidd. Saesoneg yr unfed ganrif ar bymtheg yw Saesoneg Casgwys, yr y'ch chi'n deall."
Dywedir fod Mr. Richard yn myned i bregethu yno unwaith, ac iddo gymeryd yn destun, "Lleda dy safn, a mi a'i llanwaf." "Open thy mouth wide, and I will fill it." Yr oedd yn pregethu ychydig yn Gymraeg ac yn Saesoneg. "Sylwn," meddai, "yn y lle cyntaf, Y llanw; yn 2. Y Llanwr; 3. Y llanwedig. Ond yn gyntaf, y llanw. Y mae rhyw beth yn cael ei roi i mewn, chwi welwch. Llanw â phethau da. Yn ail, y Llanwr eto. Y mae rhyw un yn llanw. "Myfi." Yn drydydd, Y llanwedig. Pwy ydynt hwy? Y bobl a gyferchir fel y rhai a ddygwyd i fyny o'r Aipht." Y mae yn debyg mai wrth roi cyfieithiad llythyrenol yг aeth i ryw gymaint o dywyllwch y tro hwn. "From the words of the text," meddai, "we shall endeavour to notice the following particulars. In the first place, The fill; secondly, The filler; and thirdly, The filled." Yr oedd gwŷr Casgwys yn agor eu llygaid yn enbyd, fel pe buasent heb ddeall y cwbl. "An excellent sarmon, was'nt it?" meddai un o honynt; "but I could not understand what he meant by the 'fill." Beth bynag, penderfynwyd mai rhyw air dysgedig oedd y fill, y tu hwnt i ddirnadaeth gwŷr Casgwys. Er fod Mr. Richard yn gwneyd rhyw beth fel hyn weithiau, yr oedd yn deall yn burion pan y byddai wedi myned i ddyryswch. Oblegyd pan yr ydym yn edrych ar ei gyfansoddiadau Saesoneg, y rhai a ddarparwyd erbyn rhyw gyfarfodydd penodol, yr ydym yn synu at eu perffeithrwydd.
Yr oedd dyn yn Abergwaen yn rhyw haner call, ac eto, fel y bydd y cyfryw yn fynych, yn lled gyfrwys a chyflym mewn rhyw bethau. Yr oedd yn perthyn i'r capel, ac un o'r rhai mwyaf ffyddlon a gwresog yn ei ffordd ef ag oedd yn perthyn iddo. Beth bynag, syrthiodd Robyn mewn profedigaeth enbyd un diwrnod, trwy fod y bechgyn ar hyd yr heol yn ei wawdio, gan ddywedyd rhyw bethau wrtho nad oedd yn eu hoffi. Ond yn anffortunus, yn lle gwylio a gweddio, syrthiodd Robyn i'r brofedigaeth o regu; a thyngu yn enbyd a wnaeth wedi myned i natur ddrwg felly. Wrth gwrs, yn gymaint a'i fod yn perthyn i'r achos crefyddol, nis gallesid edrych dros ben y bai heb wneyd rhyw gymaint o sylw arno. Mewn amser cyfaddas, pan oedd y frawdoliaeth wedi dyfod yn nghyd, galwyd Robyn ger bron i gael rhoddi rhyw gyfrif am dano ei hun. Daeth yn ewyllysgar ac yn fywiog, ac ni chynygiodd roi un amddiffyniad ger bron, eithr syrthiodd yn onest, a chyfaddefodd wirionedd y cyhuddiad. Yn gymaint a bod cerydd yn angenrheidiol, a cherydd trwm hefyd am fai mor ysgeler, dyma un o'r blaenoriaid yn codi â chwip go drom, ac yn dechreu ei rhoi hi i Robyn yn lled chwimwth. Nid oedd Robyn, mwy na llawer eraill, yn teimlo y "cerydd dros yr amser presenol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd," am hyny y mae yn siglo, ac yn cynhyrfu, ac yn dyweyd wrth y gwr a'r chwip, "Chwi sydd yn gallu siarad, ai ïe? Pwy oedd y gwr giliodd o Sir Aberteifi â ?" Wedi taro y diacon hwn ar ei drwyn ac ar ei fan tost, cododd un arall, i lachio ar Robyn, gan ddal ei drosedd mewn lliwiau aruthrol o'i flaen. Yr oedd y brawd hwn wedi dygwydd saethu at ryw un ag oedd yn dyfod o gwmpas y tŷ heb roesaw, ac y mae yn debyg i ychydig o'r shots fyned i dewder ei forddwydydd, a pheri cryn gynhwrf. Yr oedd Robyn yn gryn gydnabyddus â helynt y gymydogaeth, hen a diweddar, fel y gwyddai am bob ysmotyn du ar bawb, hwy a'u hynafiaid. Pan yr oedd hwn yn y weithred o arllwys ei felldithion ar Robyn am dyngu a rhegu, "Ah, ah," meddai Robyn, "pwy oedd y gwr saethodd y dyn pan yr oedd yn ymofyn y ferch, wn i yn y byd?" Wedi taro hwn ar ei fan gwan, a'r bobl yn methu dal y brofedigaeth, ond yn hollti allan gan chwerthin, dyma Mr. Richard yn codi yn sobr a difrifol iawn, gan ddywedyd fod y peth o bwys, ac na ddylid ei gymeryd yn ysgafn, yn gymaint a bod Robyn yn aelod, ac iddo syrthio i'r brofedigaeth o regu yn gyhoeddus; y dylid rhoi rhyw gerydd arno, er dangos anfoddlonrwydd ar y cyfryw ymddygiadau, fel y gweddai i Gristionogaeth. "Ah, ah," ebe Robyn, "pwy oedd y gwr ladratodd y wraig drwy y ffenestr?" Os drwg cyn hyn, aeth yn llawer gwaeth wed'yn, fel y gorfuwyd adael Robyn wrth ychydig o gerydd.
Byddai Mr. Richard, o herwydd ei allu i siarad, ac yn yr arferiad o siarad cymaint, yn fynych yn cario allan lawer o bethau yn mhell y tu hwnt i derfynau gweddeidd-dra; ond rhyw bluf lleision yn nghyfansoddiad ei gymeriad oedd y rhai hyny, pan y delai allan i gymdeithas o ganol astudiaeth ddwfn a phryderwch calon. Onide, a'i gymeryd yn y cwbl, pwysigrwydd, prudd-der, gofal am bob peth, llafur diflino, a phenderfyniad diysgog, oedd elfenau ei gymeriad ef. Gwnai digrifwch weithiau, ar draul ambell ddyn, nes yr oedd yn anmhosibl i neb fod yn sobr, a gwneyd ei eithaf; ond er hyny nid oedd neb yn gofidio cymaint ag ef yn y canlyniad. Dywedir y byddai yn ocheneidio yn brudd pan y gwelai ei fod wedi cario pethau allan yn rhy bell, a thrwy hyny gynyrchu ysgafnder gormodol.
Yn gymaint ag nad ydym yn meddwl ymwneyd ryw lawer â phethau traddodiadol am Mr. Richard, fe ddichon fod yr ychydig engreifftiau a roddwyd yn llawn ddigon er egluro rhyw beth dygwyddiadol oedd o gwmpas ei gymeriad, canys nid ydynt yn cyfansoddi un brif elfen, neu egwyddor hanfodol yn y cymeriad. Hefyd, mae y cyflawnder, bron diderfyn o ddefnyddiau sydd ger ein bron, yn gosod angenrheidrwydd arnom i dalfyru yn fwy nag y dymunem yn aml.