Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XVIII

Oddi ar Wicidestun
Penod XVII Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Penod XIX

PENOD XVIII.
Penod arall i bawb.

DIGON tebyg y bydd y rhai a elwir yn feirniaid yn dweyd y dylai y benod fechan hon fod gyda'r benod arall i bawb; yr ydym wedi dewis amrywio ychydig ar bethau, trwy ranu yr ymadroddion dewisol hyn o eiddo Mr. R., a gosod rhyw faint o bethau eraill rhyngddynt. Nid ydym yn gweled fod llawer o bwys yn y mater; ac os yw rhai o'r gwŷr call yn dewis barnu yn groes i ni yn hyn, nid oes drwg yn y byd yn hyny.

Fe wel y darllenydd nad oes dim yn dianc rhag meddwl grymus a sylw craffus Mr. Richard. Bydd y rhan fwyaf o bethau yn eu tro yn syrthio o dan lymder ei feirniadaeth; weithiau y byd hwn, weithiau sefyllfa boliticaidd y deyrnas a'r byd, weithiau yr Eglwys Wladol, weithiau y gwahanol sectau; brydiau eraill pregethwyr a diaconiaid, a'r Cyfundeb y perthynai iddo yn neillduol. Byddai pawb yn eu tro yn dyfod o dan ei sylw; ac yn gyffredin iawn yn cael chwareu teg oddiar ei law. Nid ydym yn meddwl fod ynddo un amcan am wneyd cam â'r byd, yr eglwys, personau neillduol, na dim arall; eithr yn hytrach rhoi barn gyfiawn ar ba beth bynag ddelai o flaen ei sylw; ac yn gymaint a bod y fath graffder yn ei feddwl, a'r fath annhueddrwydd yn ei farn, nid yn aml y mae yn methu cyrhaedd y nod.

Byddai llawer yn digio yn aethus wrtho, fel pe buasent wedi cael halen ar eu clwyfau; ond waeth beth yn y byd, digio wrth y gwirionedd oeddynt. Bydd rhai pobl gall yn meddwl y gallesid cymeryd gwell ffordd i ddyweyd, rhyw lwybr esmwythach ati; beth bynag am hyny, yr oedd y gwirionedd yn sicr o fod yn elfen rymus yn y dywediadau; ac nid yn unig ryw wirionedd, eithr y gwirionedd angenrheidiol yn wyneb yr amgylchiadau. Yr ydys yn dyweyd yn fynych fod ffordd ar ddyweyd gwirioneddau. Wel, oes y mae; ond pa ffordd yw hono, wed'yn? Y mae eisiau penderfynu y pwne hwn. Ffordd rhai yw dyweyd, a pheidio dyweyd; siarad rhyw beth, ac nid y peth. Dyweyd er mwyn i'r dyn beidio teimlo, ac eto y mae eisiau iddo deimlo; ni wna dyweyd les, ond wrth iddo deimlo. Pwnc mawr ambell un yw dal ei hun i fyny yn barchus gyda phawb, ac o ganlyniad nid ydyw yn dyweyd y gwir, a'r holl wir, wrth neb, nac wrtho ei hun ychwaith. Yr oedd Mr. Richard yn dyweyd y gwir, a'r holl wir, er mwyn iddo gael ei effeithiau priodol ar y rhai y perthynai iddynt, ac er mwyn iddo ef ei hun hefyd fod yn "rhydd oddiwrth waed pawb oll." Y mae hwn yn bwne y dylid talu peth sylw iddo; a'r dyn ag sydd yn talu sylw priodol i hwn, nis gall lai na syrthio yn ysglyfaeth yn aml i dafodau dynion; ond wed'yn, fel pob gwynt arall o'r fath, y mae hwnw yn myned heibio yn fuan, a'r gwirionedd yn cymeryd ei le yn dawel yn nghydwybod cymdeithas. Y mae gan gymdeithas gydwybod; ac ar ol ychydig o helynt gyda'r peth hyn a'r peth arall, y mae yn dyfod o'r diwedd i gael ei brofi a'i benderfynu at gydwybod cymdeithas, y llys mawr hwnw lle y mae brenin yn gystal a deiliad yn sefyll ger ei fron; dedryd yr hon yn gyffredin sydd yn bur gywir, ac anhawdd ei throi yn ol. Yn nghynhyrfiad y foment, pan y bydd cymdeithas yn berwi fel crochan, y mae llawer un wedi goddef cam a cholled; eithr wedi i'r hen grochan ymlonyddu, a gwylltineb y foment wedi myned heibio, y mae yr achos eilwaith yn cael ei wysio i lys cydwybod cymdeithas; y tystiolaethau oll yn cael eu gogrynu i'r gwaelod, ac yn fynych barn fyrbwyll y cynhyrfiadau yn cael ei throi yn ei hol.

Bu Mr. Richard yn cael ei brofi ganwaith yn chwil-lys y cynhyrfiadau, a'r barnwr cenfigen ar yr orsedd, am ddyweyd mwy o wir nag oedd pobl yn gallu dal; a chondemniwyd ef mor aml i ddirwy, carchar, a fflangellau; eithr erbyn heddyw y mae cydwybod cymdeithas wedi ei ryddhau, wedi ei gymeradwyo, ac wedi cyhoeddi dedryd mai efe oedd yn iawn, mai efe oedd yn cyflawni ei ddyledswyddau, ac yn gwasanaethu ei Arglwydd a'i genedlaeth. Gwelir heddyw fod ei eisiau, ond nid ydyw i'w gael; cyfeirir at ei ddefnyddioldeb, ei gyfiawnder, ei drugaredd, ei onestrwydd, a'i ddidueddrwydd, fel pethau ynddo wedi myned i golli, a cholled nad ellir dyweyd ei maint ydyw. Ychydig iawn o ddynion mawr sydd yn cael cyfiawnder oddiar law cymdeithas yn eu dydd. Y maent, trwy ryw beth neu gilydd, yn effeithio cynhyrfiadau parhaus mewn cymdeithas, a hono yn berwi i fyny bob peth am draws eu gilydd, a'r cwbl am draws eu hewyllysiwr goreu. Eithr pan ymlonydda yr ymferwad, bydd y sylweddau trymion yn sefydlu i lawr ar y gwaelod. Yn awr, yn mhen dau can mlynedd, y mae yr anfarwol Cromwell yn dechreu cael cyfiawnder. Ar ol bwrw llwch arno am ychydig oesau yn y cylchoedd mwyaf cynhyrfus, ac ar ol i hen grochan breninol Lloegr daflu dwfr berwedig malais arno am oes, y mae cydwybod oleuedig ein hoes ni yn cael yr anrhydedd o gondemnio ei erlidwyr, a gwneyd cyfiawnder å dyn mwyaf ei oes, os nid mwyaf unrhyw oes, gan roi ei le priodol iddo yn hanesyddiaeth ei wlad.

Y mae Mr. Richard yn awr, pan yn gorwedd yn y bedd, yn dechreu cael ei gydnabod yn ddyn o ddefnydd mawr yn ei oes; canys wedi ei golli y gwelwyd ei eisiau; canys nid oes neb wedi dyfod i'r golwg hyd yn hyn allasai lanw ei le. Cyn iddo fyned, braidd na fuasai llawer ysgogyn yn barod i ddyweyd na fuasai yn golled yn y byd ar ei ei ol ef; ond rhyw un oedd ag eisiau rhagor o le oedd hwnw. Dyna y lle yn wag yn awr; ond yn mha le y mae y dyn sydd yn teimlo ar ei galon i neidio iddo? Pe bai y fath ynfytyn i gael, ni fyddai yno yn hir, canys byddai fel pêl yn cael ei droedio gan gymdeithas, neu fel asyn gwyllt yn cael ei hela nes ei ddifa yn llwyr.

Chwi welwch (yn ei ddywediadau ar wahanol faterion) ei farn gywir am bethau, yn nghyda'i ofal manwl dros y gwirionedd. Mae ei feddylgarwch parhaus, a manylwch ei sylw yn dyfod i'r golwg yn mhob brawddeg; am hyny yr ydym yn eu gosod i egluro hyny yn benaf, heblaw eu bod yn wir werth i'r darllenydd. Yr ydym yn gosod Mr. Richard i ddyweyd llawer drosto ei hun, yn gymaint a'n bod yn meddwl nad oes yr un desgrifiad yn y byd o hono all wneyd hyny mor effeithiol. Gan ei fod yn cael siarad am bob peth yn ei eiriau ac yn ei ddull ei hun, bydd cyfleustra teg gan ein darllenwyr i weled gwahanol linellau ei gymeriad, a thynu eu casgliadau eu hunain oddiwrth y cwbl.

Dysgu gan Grist sydd yn gwneyd dysgyblion i Grist. Mae y ddysgeidiaeth i gyd mewn un wers; hyny yw, gostyngeiddrwydd; hon yw y wers gyntaf i'w dysgu, ac y mae i'w pharhau holl ddyddiau ein bywyd. Hon yw y wers fwyaf; mae y lleill i gyd yn hon; hon yw y flaenaf a'r uchaf yn ysgol Crist; cyrhaedd hon yw cyrhaedd y class uchelaf yn ngholeg yr Iesu. Prawf am y dysgwr goreu yw gweled nad yw wedi dysgu dim.

Wrth bob tebyg y mae rhyw gyfnewidiad mawr i gymeryd lle heb fod yn mhell iawn yn y byd crefyddol, naill ai cyfyngu rhyddid trwy gaethiwed erledigaeth, neu ei helaethu trwy rym ysbryd Cristionogaeth. Mae fel pe bai gwaeyw dirdyniad yn y deyrnas hon mewn pethau crefyddol; am hyny edrychwn at yr Arglwydd, yr hwn sydd yn cuddio ei wyneb oddiwrth dŷ Israel. Dysgwyliwn wrth Dduw ein hiachawdwriaeth, canys efe a wrendy ei bobl, canys ynddo ef mae gobeithio bob amser.

Duw yn Dad yw y cwbl am berthynas a gofal; Duw yn Dduw yw y cwbl am addoli; Duw yn Nghrist yn graig iachawdwriaeth yw y cwbl am fywyd tragywyddol; iaith hyn yw, A'm ceir ynddo ef!

Ffugio cenad a chenadwri dros Dduw yw y ffugiad mwyaf sydd yn bosibl yn yr holl fyd; mwyaf ei berygl, a mwyaf ei ganlyniad. O gwared fi, Arglwydd daionus.

Mae cymaint o eisiau Gwaredwr at fedru cynal a pherffeithio bywyd ysbrydol, ag sydd at ei roddi. Nid oes dim ond gwaredu yn achub. Mae yn rhaid am Grist yn Waredwr bob mynyd o fywyd credadyn, o'i ddechreu i'w ddiwedd. Y defnydd hyn o hono yw y gogoniant mwyaf arno. Llaw y Gwaredwr yw cwbl y colledig, nid yn unig i waredu oddiwrth bechodau, ond hefyd i gynal, i nerthu, ac i ddysgu i gyflawni dyledswyddau; i waredu oddiwrth ffordd y celwydd, gyda phob peth crefyddol, ac yn raslawn rhoddi ei gyfraith yn egwyddorion crefyddol.

Mae yr amseroedd dyeithr a rhyfedd hyn dan bregethiad y gair yn dangos ac yn galw ar bawb Cristionogion at ddyledswyddau arbenig. Yn gyntaf ar bregethwyr y gair, i edrych yn ddyfal eu bod yn gywir, yn iawn gyfranu gair y gwirionedd; eu bod yn gywir yn y gwaith, fel y gweddai i Dduw, yn gynnrychiolwyr Crist; a'u bod yn gywir am ddyben y gwaith, yr hyn yw cadw, trwy gredu y gair a bregethir. Yn ail, ar henuriaid llywodraethol, i edrych yn ddyfal na byddo eglwys Dduw, yr hon yw tŷ Dduw, ddim yn cael ei oddef i fod yn ogof lladron. Yn drydydd, ar bawb a wisgant enw Cristionogion yn gyffredinol i beidio a chydffurfio â'r byd hwn, yr hyn yn amlwg a wneir i helaethrwydd mawr mewn ysbryd, geiriau, agweddau, ac arferion. Os clywir yr alwad uchel sydd at y dyledswyddau hyn, parotoir ffordd yr Arglwydd i'w rasol ymweliad; os na wneir, fe ellir dysgwyl moddion goruchwyliaeth arwach, a bâr i gnawdolrwydd y byd Cristionogol wybod pwy yw yr Arglwydd, yr hyn sydd warthrudd i Gristionogaeth y dyddiau hyn. Mae penarglwyddiaeth mewn cyflawni arwyddion; mae holl ofal Cristionogion i fod am eu dyledswyddau; mae y naill i ddynion, i Dduw mae y llall.

Mae Pharisead a phublican yn mhob Cristion. Pharisead yw yr Adda cyntaf, hen ddyn y Cristion. Y publican yw yr ail Adda, y dyn newydd; nis gall y rhai hyn fod heb wrthwynebu eu gilydd; canys gwrthwyneb i'w gilydd yw eu holl gynwysiad, eu hegwyddorion, eu hunain, a'u hanfod oll.

Mae yr elyniaeth sydd rhwng y ddau had yr un peth o ddechreu i ddiwedd y byd, heb newid, heneiddio, na gwellhau dim. Mae Cain yn lladd Abel yn barhaus; mae dawon Lot yn ei ddirmygu yn barhaus; mae Ahab yn blino Israel yn barhaus; mae Jezebel yn erlid Elias yn barhaus; mae Saul yn erlid Dafydd yn harhaus; mae taflu y llanciau i'r ffwrn danllyd yn barhaus; mae taflu Daniel i ffau y llewod yn barhaus; mae Herod yn ceisio lladd yr Iesu yn barhaus; mae Herod yn tori pen Ioan Fedyddiwr yn barhaus; mae Paul a Silas yn cael eu carcharu yn barhaus. Ambell waith y gwelir hyn; ond aml waith y mae hyn.

"Myfi yr Arglwydd ni'm newidir." Mae yr un peth i'w bobl trwy holl oesoedd y byd, o'i ddechreu i'w ddiwedd; os nid yn yr un dull llythyrenol, eto yr un peth o ran cynwysiad rhinweddol. Mae yn gwaredu ei Lot o Sodom a'i Israel o'r Aipht; a'i gigfrain yn porthi Elias; mae yn gwaredu ei lanciau o'r ffwrn dân, a Daniel o ffau y llewod, a Job oddiwrth ei gam gyhuddwyr, a Moses oddiwrth ei genfigenwyr, a Dafydd oddiwrth ei watwarwyr, a Jeremiah oddiwrth ei ddirmygwyr, a Paul oddiwrth ei gernodwyr. Mae hyn yn cael ei wneyd yn barhaus; a hyn yw holl amddiffyn ei bobl brofedigaethus, ag sydd yn cadw meibion Jacob rhag eu dyfetha, "Myfi yr Arglwydd ni'm newidir."

Ofnir yn nghylch gweddi rhag heb fod yn Nghrist, ac felly heb fod yn weddiwr; rhag bod heb weddio yn yr Ysbryd Glân, rhag nad yw ewyllys Duw yn gynwysiad gweddi, rhag nad yw dyben a nod gweddi yn ysbrydol, ac heb ddyfod at Dduw trwy Grist: oblegyd hyny, os gwneir yr ofnau hyn yn hysbys ger bron Duw, ni'n siomir, canys gorchymynir gwneyd ein deisyfiadau yn hysbys ger bron Duw am bob peth.

Cymdeithasu â'r Arglwydd yn mhob peth yw bod yn ddiolchgar iddo am bob peth a fwynheir, ymostwng iddo dan bob peth a ddyoddefir, ymddiried ynddo yn wyneb pob peth a ofnir, dysgwyl wrtho am bob peth a ofynir. Mae natur y gymdeithas mewn mwynhad, i fod yn ol gweithrediad y gymdeithas. Nid yw ymostwng dan ddyoddefiadau, ac ymddiried ynddo yn wyneb ofnau, a dysgwyl wrtho am ateb deisyfiadau, mor ddyddanus cymdeithas a molianu yr Arglwydd am fwyniant cysurus; eto mae mor sylweddol gymdeithas, canys y mae yn ufudd-dod ffydd.

Mae y fath beth ag i gydwybod bur wybod bod ei phob peth yr un peth a gwir Gristion, am gyflwr, am egwyddor, am ewyllys, am ddymuniad, am wirionedd yr athrawiaeth; am ddyledswyddau crefyddol, am fuchedd ymarweddol; ac eto mewn ofnau oddiwrth rym llygredigaethau, a byr brofiadau, grym annghrediniaeth, a thuedd gryf hunanoldeb, rhag nad yw y gwirionedd edd sydd sydd yn achubol ddim wedi ei feddu; yn wyneb hyn y mae hunan-ymholiad, gwyliadwriaeth, a gweddi i barhau mewn ymarferiad tra parhao y bywyd.

Purdeb yr ysgrythyrau yw rheol a nod purdeb yr athrawiaeth; perffeithrwydd yr athrawiaeth yw rheol a nod ffydd gwir Gristion i gredu ac ymestyn i'w gyrhaedd; ac oblegyd mor lleied a gyrhaeddir mae yn peri ofn rhag bod heb gyrhaedd dim; eto fe ddylai gweiniaid yn y ffydd sydd yn wastad yn ofni pob peth, ystyried mai mewn rhan ac mewn ymdrech gorchestol y cyrhaeddir y perffeithrwydd hwn gan bawb yn y bywyd hwn. Mae dymuniadau a gweddiau am ei gyrhaedd yn brawf o'i feddu; er y dichon mai mewn rhan yr adwaenir hyn.

Mae yn rhaid bod yn Gristion neu fod yn ddim; nid Cristion oblegyd enw, fel y gwneir gan feilchion cnawdol, ond enw oblegyd Cristion, pa beth bynag fyddo yr enw. Mae Pabydd yn Gristion, os gall y fath beth fod, yn well nag enw Protestant heb fod yn Gristion. Mewn sylwedd mae rhinwedd, nid mewn enw.

Mae medru iawn agwedd yn wyneb colli trwy angau rai defnyddiol yn brin, a hyny lawer iawn oblegyd anystyriaeth, a diffyg iawn ystyried; canys mae amser terfynedig i ddyn ar y ddaear. Ni eir dros hwnw gan neb. Mae hyn i dewi pawb; maemarw yn ddygwydd i bob dyn. Yn wyneb hyn mae cymeryd ymaith o flaen drygfyd yn annealladwy i'r rhan fwyaf. Fe all y bydd barn a thrugaredd yn y symudiad hwn: trugaredd i'r hwn a symudir, a barn i'r rhai y symudir oddiwrthynt. Gwell i'r eglwys fyddai i rai defnyddiol gael aros ynddi, er mai gwell i'r defnyddiol fod gyda Christ yn y nefoedd, na bod dros Grist ar y ddaear; ac os deallir y bydd rhyw ganlyniadau niweidiol, fel bleiddiau i blith y praidd wedi ei ymadawiad, ni ellir peidio ofni pan byddo tebyg i hyn. Mae gwirionedd yn mhob un o'r ystyriaethau hyn, ac i'r rhai byr eu golwg mae yn anhawdd deall pa un sydd yn bod pan symudir offerynau defnyddiol o eglwys Dduw, canys y mae i bob un o honynt eu lle priodol. Mae syniad cywir am y peth sydd yn perthyn i'r amgylchiad, fel y mae yn ddeall arwyddion yr amserau. Priodol yw gofyn yn aml yn wyneb hyn, "Oni fedrwch arwyddion yr amserau?"

Peth angenrheidiol at fod y gair yn fuddiol wrth wrando, yw iawn dymher ar y meddwl i wrando, yr hyn yw pob parodrwydd meddwl. Mae gwrando y gair heb ddim parodrwydd meddwl yn anystyriaethyn ddiystyr o hono. Mae haner parodrwydd meddwl yn effaith rhagfarn at y gair. Pob parodrwydd meddwl yw yr iawn dymher. Cynwysiad hyny yw, chwenych didwyll laeth y gair, at gynyrchu trwyddo y budd sydd i'w gael trwy y gair, y defnydd sydd yn y gair at fod yn fuddiol; chwenych y gair oblegyd buddioldeb ei ddefnydd, yw chwenych didwyll laeth y gair, er mwyn cynyddu trwyddo.

Cael pob peth gan Dduw yn ei gymod, cael pob peth gyda Duw wrth ei fodd, cael pob peth Duw i'w ogoneddu, yw pob cael yr wyf yn ei geisio ag sydd yn eisiau i mi i'w gael.

Y mae math o dymherau yn perthyn i'r natur ddynol, yn rhai dynion sydd yn annhebyg i'w meddyginiaethu; canys ni chymerant un amser addysg, gan na chynghor, esiampl, na chyfarwyddyd. Asyn yn dechreu byw, ac asyn yn dybenu. Mae yn anhawdd adnabod effeithiau gras ar y rhai hyn lle mae.

Yr un rheswm sydd am bob peth yn nghynwysiad yr iachawdwriaeth; hyny yw, y maddeuant sydd gyda Duw. Y rheswm am gymeradwyaeth personol trwy gyfiawnhad yw ei drefn yn maddeu. "Gwyn fyd y dyn y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod;" hwnw yw, yr hwn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac nid oes dichell yn ei ysbryd. Felly hefyd yw y rheswm am waith yr Ysbryd Glân yn santeiddhad y natur—gosod ei gyfreithiau yn y meddwl, a'u hysgrifenu yn y galon, a bod yn Dduw iddynt, a hwythau yn bobl iddo yntau; a hwn yw y rheswm, "Canys trugarog fyddaf wrth eu hannghyfiawnderau hwynt, a'u pechodau hwynt a'u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach." Y ffordd i feddu hyn yw gwneyd fel mae yr Arglwydd yn gorchymyn am hyn: ac y mae wedi rhoddi ei addewid am lwyddiant sicr wrth hyn. "Neu ymafled yn fy nerth i," yr hyn yw trefn fy nghymod i; "fel y gwnelo heddwch â mi; ac efe a wna heddwch â mi," yw yr addewid fawr rasol, sicr, ac anffaeledig.

Mae ysbrydol a thragywyddol yn ddirgeledigaethau nas gellir eu hamgyffred: yr holl wybodaeth a ellir gael am danynt sydd trwy gredu tystiolaeth gair yr Arglwydd.

Mae tystiolaeth y gair yn ol ei santeiddrwydd, ei ysbrydolrwydd, a'i wirionedd, a phregethiad pob cangen o'i athrawiaeth, a gwaith yr Ysbryd Glân yn y saint, a chyffes eu gobaith, ac ymarweddiad addas i'r efengyl, i fod yn unffurf ac yn gydffurf; mor amlwg mewn ymddangosiad, fel nas gellir dangos un annghydgordiad rhyngddynt mewn dim, canys nid oes dim yn ei hegwyddor, ei chynwysiad, na'i dyben, ond purdeb, sobrwydd, a gwirionedd. Mae y gwŵyriad lleiaf oddiwrth hyn yn pechu yn erbyn Duw; mewn ysbryd, mewn tymher, mewn geiriau, mewn gwisgiadau, mewn agweddau, mewn neb rhyw dremau gydag ymarferiad o'r gair, mewn unrhyw fodd; yr hyn yw yr anmharch mwyaf arno.

Offeiriadaeth Crist yw fy oll am gymeradwyaeth gyda Duw yn wyneb fy euogrwydd, fy halogrwydd, a'm condemniad; breniniaeth Crist yw fy oll am oruchafiaeth ar fy holl elynion, tu fewnol ac allanol, byd, cnawd, ac uffern; prophwydaeth Crist yw fy oll am ddysgeidiaeth yn wyneb fy mawr dywyllwch, fy mawr anwybodaeth, fy mawr gyfeiliorni am bob peth ysbrydol. Mi ddymunwn gau fy hunan, trwy nerth Ysbryd Duw, yn y noddfa hon, a'r deisyfiad hwnw rhyngof a myned allan byth o honi, "A'm ceir i ynddo Ef."

Yn ol cyfraith mae adnabod pob peth. Wrth gyfraith yr Arglwydd mae adnabod dyn; wrth gyfraith y deyrnas mae adnabod y deiliaid; wrth y gyfraith mae adnabod y cyfreithiwr. Mae dysgu y gyfraith a'i thori gan yr un, pa beth bynag fyddo yn ei beri, yn gwadu iddo y swydd a'r enw. Mae pregethu y gwirioneddau, a byw yn groes iddynt, yn dangos heb fod yn wir bregethwr. Ofni yr Arglwydd yw enaid a sylwedd pob peth sydd yn y byd.

Yr efengyl mewn nerth a sicrwydd mawr yn mhlith dynion a geidw rhag paganiaeth; yr hyn yw elfen llygredigaeth. Atebiad i weddiau a geidw fywyd mewn Cristionogion ac mewn dyledswyddau Cristionogol. Nerthu o wendid, nerth i'r diffygiol, amlhau cryfder i'r dirym, hyn yw cysur bywyd pererinion.

Mae hyder gau obaith wedi ei ddangos lawer gwaith yn gryfach na hyder gwir obaith, a hyny yn wyneb marw, mewn eilun-addolwyr, a phob math o gyfeiliornwyr; mae hyn oblegyd bod heb gredu y gair, a bod yn haws i natur lygredig gredu celwydd na chredu gwirionedd, a bod cryfach dylanwad gan bob peth cnawdol dan wisg grefyddol ar natur yn y cnawd yn unig, nag sydd lle mae cnawd ac ysbryd yn gwrthwynebu eu gilydd; ac oblegyd y duedd sydd yn mhob dyn at hunan-achubiaeth, a'r effeithiad mwy sydd gan olwg a theimlad ar ddyn yn ol hyny na ffydd, ac a ddefnyddir gan y temtiwr i hyn.

Mae porth angau yn wahanol iawn i'r meddwl cyffredin am dano. Mae yn y porth hwn holl gynwysiad a therfyniad y bywyd presenol, a holl gynwysiad a dechreuad byd tragywyddol; ac y mae y ddau, naill ai gwae neu wynfyd, yn gysylltiedig adnabyddus yn y porth hwnw i bob un. Mae y ddau hyn yn gwneyd y meddwl am farn yr un mwyaf pwysig. O am noddfa, O am noddfa!

Gwir ddymuniad am ffydd yw at gredu y gair, i gael rhoddi y gogoniant i gyd i Dduw; ac am y ffydd gryfaf at roddi y gogoniant mwyaf i Dduw; mae hyn yn dangos anian dduwiol, anniwallus ei hawydd am air Duw, ac i gredu er mwyn Duw. Efe yw gwrthddrych pob peth y duwiol: gwrthddrych yr holl ysgrythyrau, gwrthddrych yr holl rasusau, gwrthddrych ei holl gyfiawnderau, a'i ddymuniadau.

Wrth fodd Duw yn nghyfiawnder Duw, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd Crist; wrth fodd Duw yn ffyrdd Duw; wrth fodd Duw yn llewyrch wyneb Duw, yw y cwbl yr wyf yn ei ddymuno i fyw, i farw, a byth.

Tri chynghor credadyn; dywed wrth dy Offeiriad dy holl bechadurusrwydd a'th druenusrwydd; dywed wrth dy Frenin am dy holl elynion, oddifewn ac oddiallan; dywed wrth dy Brophwyd am dy holl ffolineb a'th holl anwybodaeth, at fyw, at bawb yn y byd hwn, at farw, ac at Dduw a thragywyddoldeb; canys y mae dy Frenin yn hollalluog, mae dy Brophwyd yn unig ddoeth Dduw, mae dy Archoffeiriad yn Iawn, yn Gyfryngwr, ac yn Eiriolwr. Defnyddio swyddau Crist yw rhodio yn Nghrist, a'i wneyd yn noddfa ac yn amddiffynfa.

Duw mewn dyn, ei anian, ei ofn, a'i ewyllys, yw dyn duwiol; Crist mewn dyn, ei ysbryd, ei feddwl, a'i air, yw Cristion; y nefoedd mewn dyn, ei hegwyddor, ei gwaith, a'i dymuniad, yw nefol mewn daearol. Ysbrydolrwydd mewn dyn, yw ysbrydol mewn cnawdol.

Caru duwioldeb er mwyn Duw, caru duwiolion er mwyn duwioldeb, caru Cristionogaeth er mwyn Crist, caru Cristionogion er mwyn Cristionogaeth, caru y gair er mwyn ei burdeb, caru y nefoedd er mwyn ei hegwyddor; mae y caru hwn yn wir garu Duw er ei fwyn ei hun.

Balchder yw hunan-ddinystr dyn. Yn hyn dinystriodd efe ei hun gyntaf, yn hyn mae ei ddinystr yn para. Balchder yw gwreiddyn holl bechodau holl blant dynion yr holl fyd; balchder yw gwreiddyn holl gyfeiliornadau yr holl fyd; balchder yw gwreiddyn holl ofn, aflwydd, ac annghysur holl dduwiolion y byd; balchder yw holl annedwyddwch holl blant dynion y byd yn mhob sefyllfa, amgylchiad, ac oedran. Dymchwelyd balchder yw nod a dyben holl drefn iachawdwriaeth, ei Hawdwr, ei gwneuthuriad, a'i chymhwysiad. Perffeithrwydd gostyngeiddrwydd yw Crist, ei ymddangosiad yn y cnawd, ei ymarweddiad yn y byd, a'i athrawiaeth i'r byd. Gostyngeiddrwydd yw holl ddysgeidiaeth Crist; am hyn mae efe yn gorchymyn dysgu, gan ddysgu gostyngeiddrwydd gan Grist yw holl ddysgyblaeth Crist, holl ganlyn Crist, holl egwyddor crefydd Crist, a holl debygolrwydd i Grist. Nod a dyben y cwbl a gynwysir yn nghyfansoddiad yr iachawdwriaeth, fel nad ymffrostio ac na orfoleddo un cnawd ger ei fron ef; a'r ymffrost i gyd yn yr arwydd, canys y mae cwbl y drefn o hono ef yn Nghrist Iesu. Nod a dyben ei holl gynwysiad yw hunan-ymwadiad; hyny yw, tynu dyn oddiwrth ei waith, ac i guddio balchder oddiwrth ddyn. Prif orchwyl ei ddoeth lywodraeth ar y byd yw darostwng y balch, canys y mae efe yn gas ganddo, mae yn ei ffieiddio, mae ei wyneb ef yn ei erbyn, er mor anadnabyddus y gall hyn fod yn bresenol, o herwydd doethineb anfeidrol ei oruchwyliaeth yn rhoddi rhan yn y bywyd yma i ddynion. Ein prif ddyledswydd, gan hyny, yn wyneb y drefn ddoeth ar y byd, yr hon mae ei diwedd a'i dechreuad gyda'u gilydd iddo ef, yw ymddarostwng dan alluog law Duw, fel ein dyrchafer mewn amser cyfaddas, yr hwn yn unig a adwaen yr amser cyfaddas, yr amser cymhwys i wneyd hyny.

Mae cynwysiad dyledswyddau crefydd mewn tri pheth. Y cyntaf yw galw ar yr Arglwydd; mae efe yn gorchymyn hyn: "a galw arnaf fi." O, y fath drugaredd mae hyn yn ei dangos. Galwad gan yr Anfeidrol, yr hwn sydd a'i glustiau yn agored i lefain ei bobl, yr hwn a nesâ atynt yn mhob dim y galwant arno, ac a'u gwared o'u holl drallodau: "a mi a'th waredaf." Mae galw arno yn cynwys cwbl ei wasanaeth. Y peth arall yw ymddiried yn yr Arglwydd: mae hyn yn cael ei orchymyn. "Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth;" ac mae yn cynwys holl gysur crefydd, canys mae yn ymwared rhag pob annghysur; oddiwrth angen a pherygl; ac at gael pob cyflawnder i lanw pob eisiau. Y trydydd peth sydd yn y cynwysiad yw dysgwyl wrth yr Arglwydd: yn hyn y mae holl obaith crefydd. Y dysgwyliad hwyaf yw y gobaith cryfaf; yw yr ateg gryfaf i'r galon, a'r gogoniant mwyaf i Dduw.

Trefn Duw sydd yn cymodi, trefn Duw sydd yn cyfiawnhau, ei drefn ef sydd yn santeiddio, ei drefn ef sydd yn cynal, a'i drefn ef sydd yn perffeithio ffydd; yr holl ddymuniad a'r holliachawdwriaeth mae yn ddangos yw, eisteddwn wrth draed yr Iesu i ddysgu ganddo.

Mae pobl Dduw a'r byd ar wahan, a'r gwahaniaeth rhyngddynt nid y naill yw y llall; ac am eu bod wedi eu gwahaniaethu yn amlwg yn ngair yr Arglwydd, ni ddylent gael eu cysylltu. Mae eglwys Dduw yn y byd; ond nid yw o'r byd, canys y mae wedi ei galw allan o'r byd; am hyny, pa bellaf allan o'r byd, a gaseir fwyaf gan y byd. Na ryfeddwn, gan hyny, os yw y byd yn eich casâu, canys y mae yn ol arfer y byd at Ben yr eglwys: "Chwi a wyddoch gasâu o hono fyfi o'ch blaen chwi." Mae yn debyg fod yr eglwys i fesur mawr i gael yr un driniaeth a'i Phen. Ni ddylai ymddygiad o un math ddylanwadu mewn un modd i nesâu yr eglwys at y byd. Fe ddylai pob gofal a difrifoldeb fod ar yr eglwys, mewn gwyliadwriaeth, gweddi, ac ymarferiad, i gadw a chynal y gwahaniaeth hwn yn barhaus, yr hyn nid yw agos cymaint ag y bu pan yr oeddynt yn amlwg bobl, yn preswylio eu hunain, heb eu cyfrif gyda'r byd mewn ysbryd, ymddyddanion, nac ymarferiad, yn yr hyn nid oes ond ychydig o wahaniaeth, gyda rhai eithriadau, yn y dyddiau hyn. Mae y cedyrn yn cilio fel eraill; mae y nerth yn gwywo; mae y muriau yn rhwygo; mae y cloddiau yn andwyo; mae agos pawb fel pe baent yn ymlithro, naill ai rhag ofn dygasedd, neu trwy ymollyngdod a llwfrdra, oblegyd y grym sydd yn y llifeiriant llygredig; neu trwy ddiofalwch a gwrthgiliad trymgwsg ysbrydol; ac oblegyd y pethau hyn a'u cyffelyb, y cwbl a all eneidiau syml mewn llawer o eglwysi ei wneyd yw ocheneidio o herwydd yr anwiredd hwn. Pa beth bynag fyddo y canlyniad, fe gymer Pen yr eglwys ofal am y rhai hyn. Mae y niwed mwyaf oddiwrth y gymysgfa rhwng byd ac eglwys: mae ynddo yr annghyfartalwch, yr annghysondeb, a'r gwrthdarawiad mwyaf; fel pe byddai heb un bod i'r naill na'r llall, gan fod prydweddau y naill yn y llall mewn rhanau a graddau.

Gellid meddwl weithiau bod y dibroffes yn grefyddol, oblegyd rhyw effeithiad oddiwrth berthynas â phethau crefyddol; gellid meddwl bryd arall fod y proffesedig yn hollol ddigrefydd, oblegyd bod ei agwedd yn dangos yn amlwg fydoldeb, cnawdolrwydd, a hunanoldeb. Mae y gymysgfa hon a'i chyffelyb yn peri bod yr anadnabyddiaeth yn llawer. Mae rhyw beth yn debyg fel pe bai yr eglwys yn myned i'r byd; hyny yw, i ysbryd y byd, i dymher ac elfen y byd, ac i arferion y byd; neu y byd yn myned i'r eglwys; hyny yw, dynion y byd, heb eu galw o'r byd i fod yn saint, yn aelodau yn eglwys Dduw, heb ddim arwyddion amlwg arnynt o argyhoeddiad o bechod, nac edifeirwch, na ffydd, nac ofn yr Arglwydd o flaen eu llygaid. Yn mhen ychydig amser, fe allai y bydd y rhai hyn yn swyddogion yn yr eglwys, yr hyn a bâr fod eu hysbryd bydol a chnawdol yn dylanwadu yn effeithiol, yn ol ei ryw, ar yr eglwys yn gyffredinol, er niwed a gofid mawr iawn. Os bydd llawer o'r fath hyn yn yr un eglwys, hwy a nesânt at eu gilydd, hwy a adnabyddant eu gilydd, hwy a bleidiant eu gilydd, hwy lyfant ac a gasânt eu gilydd; ac yn wyneb pob diffyg o gydweled, hwy gynhyrfant eu gilydd i annghydfodau, i ymrysonau, ac ymraniadau, nes rhoi enw yr Arglwydd yn bêl-droed mewn tafarnau, wrth bentanau, ac mewn ffeiriau, fel y mae mewn llawer ardal yn y dyddiau hyn. Nid yw hyn yn rhyfedd, canys o'r cnawd y daeth y gymysgfa hon. Weithiau er mwyn cyflog, ac weithiau er mwyn enw a sel bartiol, a mwyaf tebyg fod y ddau beth gyda'u gilydd, canys y maent o'r un natur. Teilwng i'r gweithiwr ei gyflog; ond os bydd y gyflog yn dylanwadu i ansanteiddrwydd, mae yn dangos cnawdolrwydd; ac os er mwyn bywioliaeth y llenwir eglwys Dduw o ddynion didduw, nid rhyfedd cael y gofidiau mwyaf yn ffrwyth i hyn, canys medi yr hyn a hauwyd ydyw. Nid yn unig y mae o'r cnawd, ond hefyd y mae yn y cnawd, yr hyn yw cnawdol, canys y mae yn dangos syniad daearol am y tŷ ysbrydol. Gwelir oddiwrth hyn yn amlwg y fath beth niweidiol yw fod eglwys y Duw byw yn ymgymysgu â'r byd; nid yn unig oblegyd ei fod yn arwain i'r fath ganlyniadau gwaradwyddus, ond hefyd oblegyd ei natur, yr hyn sydd gwbl groes i dduwioldeb, yn dlodi gorthrymus i'r rhai sydd dano, ac yn nychdod amlwg yn yr holl eglwys lle mae. Pa fodd y gall fod yn amgen, pan y mae yn gorchuddio wyneb y nefoedd, fel nad oes tywyniad haul un awr o'r dydd i adfywio wyneb gwinllan Arglwydd y lluoedd? Mae y pethau hyn yn digio yr Arglwydd, ac yn ei yru yn mhell oddiwrth ei gysegr. Mae pob haerllugrwydd yn ei eglwys yn groes i'w air, yn tristâu ei Ysbryd; a phob peth sydd yn tristâu ei Ysbryd yn peri cuddio ei wyneb; a phob cuddiad o'i wyneb, os heb ei deimlo gan y rhai a wybu am dano, yn rhyw radd o galedwch barnol.

Fe ddylai pob gofal a difrifwch gael eu hymarferyd gan yr eglwys i gadw a chynal y gwahaniaeth hwn i fyny yn barhaus. Mae y niwed mwyaf iddynt oddiwrth gymysgu; mae yr enill mwyaf iddynt beidio. Ymddidoled eglwys Dduw, a deued allan o ganol y Babiloniaid hyn, heb gyffwrdd â dim aflan. Yn nglŷn a hyn mae boddlonrwydd y Pen Bugail, yr hwn a ddywedodd, "A mi a'ch derbyniaf chwi." Mae wedi eu galw allan o'r byd, o'u cyflwr, o'u hysbryd, o'u harferion, ac o bob cyfeillach ond a fyddo yn angenrheidiol. Eu galw i fod yn saint yw hyn, yr hyn sydd briodol yn ol natur yr hwn a'u galwodd, nid i aflendid, ond i santeiddrwydd. Mae Efe wedi neillduo y duwiol iddo ei hun, ac ni bydd ranog â neb am dano; "canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfiawnder?" gan fod y rhai hyn yn effeithiau egwyddorion. Nid yw egwyddorion gras yn gyfeillachol: "a pha gymundeb sydd rhwng golėuni a thywyllwch?" Nid oes undeb rhyngddynt. Hanfodiad y naill yw difodiad y llall. "Pa gysondeb sydd rhwng Crist a Belial," eneiniog Duw a gelyn Duw? nis gall fod cysondeb rhwng y rhai hyn mwy nag y gall fod rhwng byd ac eglwys. "Pa gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod?" Nid oes neb i fod yn nheml Duw ond efe ei hun. "Teml y Duw byw ydych chwi." "Mia breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi." O addewidion anmhrisiadwy, yn unig i eglwys ddidoledig Duw! Eglwys yn nesâu at y byd yw eglwys yn pellhau oddiwrth Dduw. Y neb sydd o'r byd, y byd a'u piau, a'r byd yw eu lle, ac yn y byd y dylent fod. Yr unig beth rydd le iddynt yn eglwys Dduw fydd eu galw allan o'r byd, yr hyn hefyd a'u gwna yn rhan o honi. Nid oes i neb le yn eglwys Dduw ond sydd yn rhan o honi. Mae yn y lle hwn dri syniad: yn Nghrist, yn Nuw, ac yn yr eglwys. Lle mae y naill yn wirioneddol, mae y llall yno hefyd.

Nodiadau

[golygu]