Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XX
| ← Penod XIX | Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen gan Edward Matthews |
Penod XXI → |
PENOD XX.
Mr. Richard yn ymsymud ac yn llafurio gyda phob peth er llesoli dynoliaeth—ei areithiau dirwestol.
WEDI myned dros lawer o hanes Mr. Richard mewn gwahanol gysylltiadau, yr ydym yn tybied fod yn iawn codi ychydig o bethau yma ac acw eto, er mwyn egluro gwahanol elfenau ei gymeriad, yn hytrach na dylyn y cwbl yn y blaen yn un—cwys, mewn trefn amseryddol. Gwelir ei fod, nid yn unig yn pregethu yr efengyl, ond hefyd yn ymaflyd yn mhob peth ac yn llafurio gyda phob peth y credai oedd yn lles i ddynoliaeth. Nid aberth bychan i ddyn yn ei sefyllfa a'i oedran ef, wedi ymarferiad hir o ychydig ddiodydd yn gyfnerthol, oedd eu troi heibio yn llwyr, cyfnewid y dull o fyw yn hollol, er mwyn gosod ei hun ar dir i lesoli cymdeithas. Yn ddiau dyna yr egwyddor oddiar ba un y gweithredai Mr. Richard a'i gyffelyb yn benaf. Nid oes neb synwyrol yn meddwl fod yfed llawer yn dda; ond y mae llawer o'r farn fod rhyw gymaint yn dda; "ychydig win," fel y dywed yr apostol, "er mwyn y cylla a'r mynych wendid." Digon tebyg mai rhyw beth tebyg i hyn yr oedd Mr. Richard yn feddwl; er hyny, gan ei fod yn gweled fod yfed yn ormodol yn gwneyd y fath ddrygau annhraethol i ddynoliaeth, nid yw yn petruso, nid yw yn "ymgynghori a chig a gwaed;" eithr ar unwaith yn ymwadu â pha ddaioni bynag ddichon fod ynddo, er mwyn rhoddi ei ddylanwad o blaid sobri y wlad.
Bydd llawer yn dyweyd, "Y mae pob dyferyn o'r diodydd a'r gwirod yn wenwyn i'r cyfansoddiad dynol;" am hyny pa aberth yw rhoi yfed gwenwyn heibio? Wel, nid ein lle ni yn awr yw myned i ddadleu pa un ai gwenwyn ydyw ai peidio; pwnc arall sydd gyda ni mewn llaw; sef egluro cryfder yr egwyddor at lesoli y natur ddynol, yn yr aberth wnawd tuag at gyrhaedd hyny. Os gall dyn lyncu y frawddeg "mai gwenwyn yw pob dyferyn," wrth gwrs ni fyddai yn orchest yn y byd i beidio â llyncu y gwenwyn hwnw; ond fel y gwelir, bydd yn rhaid llyncu y frawddeg yn gyntaf, cyn peidio llyncu y llall; ac nid yw pawb yn gallu gwneyd hyny heb gael rhyw beth arall i'w gynorthwyo i fyned i lawr. Pwy bynag, serch hyny, allo wneyd hyny, y mae yn ddyn dedwydd iawn; ac nid yw yn orchest yn y byd, nac yn aberth ychwaith, iddo beidio yfed na chwrw na gwirod byth mwy. Wel, fe ddichon fod hyn yn iawn, eithr y mae llawer yn troi ar grediniaeth dynion mewn pethau. Canys y mae y naill ddyn yn credu y gall "fwyta pob peth, a'r llall yn bwyta dail;" un yn meddwl fod "pob peth yn gyfreithlon, ond nad yw pob peth yn llesâu." Yn awr, yr oedd llawer yn meddwl, fel Mr. Richard, y gallasai fod rhyw ddaioni ynddo, yn enwedig o dan amgylchiadau neillduol; er hyny yn ymwadu ag ef er mwyn daioni cyffredinol. Wel, dyma y dynion uchaf eu hegwyddorion yn y diwedd; canys y dyn cyntaf, sydd yn ymwrthod ag ef am mai gwenwyn ydyw, sydd yn ymgynghori a'i lesâd ei hun, ac yn gwneuthur y peth goreu drosto ei hun, gan gynghori eraill i wneyd yr un fath. Ond y llall, ag sydd yn credu fod lles mewn ychydig, a'i fod yn help iddo yn ei lafur, er hyny yn ymwadu â'r cwbl er mwyn effeithio yn ddaionus ar eraill, sydd yn codi uwchlaw hunanlesiant; y mae yn gwneyd aberth er mwyn eraill, ïe, yn hunanymwadu er cyrhaedd amcan dyngarwch a Christionogaeth. Egwyddor felly oedd eiddo Mr. Richard; nid fod yr ychydig a yfai yn ddrwg iddo, eithr y gallai fod yn ddrwg i eraill; ac yn gymaint a'i fod yn argyhoeddedig o hyny, yn ei roi ymaith yn llwyr rhag "tramgwyddo ei frawd." Dyma egwyddor sydd yn werth siarad rhyw beth am dani; a phwy bynag sydd o dan ddylanwad yr egwyddor hon, nis gall lai na bod yn fendith i gymdeithas.
Yr oedd llawer o ddynion da yn methu codi cyfuwch a hyn, fel y gwyddoch, canys y mae graddau mewn daioni a chrefydd; ac nid gwiw i ddynion feddwl nad oes dim daioni mewn dyn o herwydd iddo fethu codi i ryw bwynt penodol. Os nad oes rhyw ddaioni mawr amlwg ynddo, gall fod peth daioni ynddo, serch hyny. Yr ydym yn cofio yn burion am hen bregethwr da, parchus, a chyfrifol iawn, mewn tywydd gryn arw oblegyd dirwest. Yr oedd yn eithaf cymedrolwr, ac yn cynghori pawb i fod yn gymedrolwyr; ond pan ddaeth y ddeddf allan nad oedd neb i yfed un dyferyn o gwrw na gwirod am weddill yr oes, aeth yr hen bregethwr parchus yn welw; tarawyd ef a'r peth nesaf at orphwylldra, a gwaeddodd allan yn groch, "Beth! peidio yfed llymaid o dablen? wel, dyma'r peth mwyaf echrydus a glywais erioed! A oes rhyw synwyr i ddyn gael ei gospi fel hyn o herwydd crug o folgwn?" Fe ddichon fod llawer o reswm yn y peth ddywedodd yr hen frawd; ond rhaid cyffesu mai rheswm cnawdol ydoedd; nid oedd efe yn gallu gweled un alwad nefol yn yr amgylchiadau, am hyny yn petruso. Ni ddylid er hyny rhoi dynion felly i lawr fel rhai annuwiol, o herwydd eu bod yn methu codi cyfuwch ag eraill; ond dylid eu cydnabod yn "wan yn y ffydd;" ac o herwydd hyny eu hymgeleddu yn fwy, er mwyn eu cryfhau a'u cyfnerthu i redeg yr yrfa. Nid ydym wrth ddyweyd felly ag un amcan i dadogi ar gefn cymdeithas esgeulusdod hollol o'r cyfryw ddyledswyddau; na, cyfarfyddwyd â'r teimladau gweinion ag oedd mewn llawer yn anrhydeddus. I bregethwyr ag oedd dipyn yn gloff yn symud yn y blaen gyda'r gymdeithas hon, y cynlluniwyd diod a fuasai yn gwneyd y tro; ac nid yn unig yn gwneyd y tro, ond yn well o lawer na'r holl hen ddiodydd, a'u rhoi gyda'u gilydd. Yr enw a roddwyd ar y ddiod hon oedd "Dracht i bregethwr." Ni ddarfu i ni erioed cael allan beth oedd y defnyddiau at wneyd dracht i bregethwr, ac nid ydym yn cofio ei hyfed ychwaith; ond yr ydym yn cofio clywed dyweyd ei bod yn dda iawn; ac yn llanw lle, os nid rhagori, ar yr holl ddiodydd eraill, a'u rhoi gyda'u gilydd. Yr oedd amryw o ddiodydd eraill i'w cael, er mwyn cyfarfod ag angen cymdeithas o dan yr angylchiadau, y rhai, meddir, oedd yn adfywiol ac adgyfnerthol; ond i bregethwr y mae yn debyg nid oedd dim cyffelyb i'r ddracht. Beth bynag, ymddengys yn eglur oddiwrth yr hyn a ddywedwyd fod cymdeithas wedi teimlo yn briodol yn wyneb y cyfnewidiad, ac wedi gwneyd eu dyledswydd yn y mater.
Syndod oedd gweled Mr. Richard a'r hen Havard yn areithio mewn Cymanfaoedd, yn anog yr holl Gyfundeb i ymgymeryd â dirwest yn ddioed; a thrwy eu dylanwad ymgymerodd y Cyfundeb yn weddol lwyr a'r symudiad; a gwnawd gwaith mawr yn Nghymru drwy hyny. Y mae amheu na wnaeth y symudiad dirwestol les yn ynfydrwydd; pa annghysondeb bynag oedd mewn cysylltiad â'r peth, yr oedd y da yn fwy, ac fe deimlir y da hwnw yn awr yn mhob cylch cymdeithasol. Aeth cymdeithas o dan gyfnewidiad mawr, o ran golygiadau am yfed; ac yn ddiau bu yn burdeb ac yn syberwyd i laweroedd o gymdeithasau crefyddol. Yr ydym yn dyweyd cymaint a hyn i'r dyben o ddangos fod Mr. Richard yn barod i ymwadu â phob cysur ac esmwythder er mwyn teyrnas Dduw, ac er mwyn llesoli dynoliaeth. Yr ydoedd yn ddyn i Dduw, am hyny yn ddyn i ddyn. A ganlyn sydd ychydig o'i areithiau dirwestol:—
I. Mae yr olwg ddinystriol oedd ar ein gwlad gan feddwdod, diota,
ac annghymedroldeb, yr hwn oedd yn ymdaenu fel diluw i orchuddio, ac fel afonydd cryfion yn gorlifo, nid yn unig dros rai digred a dibroffes, ond eraill hefyd yn dra chyffredinol, yn galw ar bob creadur rhesymol, yn enwedig crediniol ac ystyriol, i weddiau, ymdrechiadau, ac ymwadiadau, at wrthsefyll yn yr ymgyrch pwysig hwn.
1. I weddiau, canys y mae pob ymdrech yn erbyn pob ansanteiddrwydd yn ymddibynu am ffyniant a llwyddiant ar yr Arglwydd yn unig. 2. I ymdrechiadau, yr hyn fu trwy oesoedd a blynyddoedd mewn cyfreithiau, yr hyn a ddechreuwyd mor foreu a theyrnasiad Edgar, brenin y Saxoniaid. Dywed hanesiaeth mai meddwdod oedd y drwg lledaenol yn y dyddiau hyny, a bod y gwr hwnw wedi gwneyd ymdrech yn ei erbyn trwy osod math o derfynau i yfed cymedrol trwy wahanol ddeddfau, yr hyn, fel llawer o gynlluniau wedi hyny, a drodd allan yn fethiant hollol. A hefyd mewn pregethau, dysgyblaeth, cynghorion, a dagrau; ond y cwbl i ddim dyben; o leiaf, i wella y wlad. Ond wele gymdeithas wedi ei chodi, mewn dull, mewn gwlad, ac mewn amser ryw beth yn debyg i wyrthiol, at osod y fwyell ar wreiddyn y pren mawr hwn o annghymedroldeb.
Yr egwyddorion mae y gymdeithas hon yn gorphwys ei phleidgarwch am ymarferiad o lwyr—ymwrthodiad yw—Fod diodydd meddwol yn niweidiol i bawb mewn iechyd—fod defnydd arferol o'r diodydd hyn yn dwyn yn mlaen ormodaeth—gwastraff amser ac arian, ac am hyny y dylai beidio—bod y rhwymedigaeth Gristionogol o gariad at ein cymydog yn cymhell pawb sydd yn cydnabod egwyddorion y Testament Newydd yn rheol ymarferiad i roddi eu hesiampl i gymhorth adferiad yr annghymedrol, ac i ochel rhoddi maen tramgwydd yn ffordd y gwan trwy ddefnyddio y pethau sydd yn peri i lawer o'r brodyr dramgwyddo; gan hyny, oddiar argyhoeddiad na wna haner ymataliad effeithio yr hyn sydd yn angenrheidiol, yr ydym yn anog i ffurfio cymdeithasau o bersonau ymroddgar, er llwyr ymatal oddiwrth ddiodydd meddwol, mewn trefn i rymusu pob dylanwad mewn esiampl a gorchymyn.
1. Y fath hudoliaeth sydd yn natur a phriodoliaethau gwirodydd gweithiedig, ac yn enwedig diodydd naturiol ein gwlad ni. 2. Yr yfed arferol sydd yn mhob gradd a sefyllfa o gymdeithas, fel peth anhebgorol i gyfeillachau, i fasnach, ac i wleddoedd. 3. Y cadarnhad a roddir i'r tueddiadau a'r arferion hudol, twyllodrus hyn gan foneddigion, duwinyddion, prydyddion, a meddygon. 4. Yr amddiffyn a'r nawdd mae cyfreithiau ein gwlad yn roddi i'r fasnach mewn diodydd meddwol, yr hyn sydd yn tueddu at gynydd yr arferiad. Trwy yr achosion cydunol hyn effeithiwyd y canlyniadau mwyaf angeuol i foesoldeb a rhinwedd. Beth pe dywedem fod haner can miliwn o bunau yn cael eu treulio yn flynyddol ar y fasnach hon yn yr Ynysoedd Brydeinig; mae y cyfrif yn rhy isel; ond cymerer y swm hwnw er mwyn bod ar dir dyogel; beth yw maint y daioni a ellid ei wneyd â'r arian hyn? Pwy all fynegi maint y drwg a gyflawnir yn anuniongyrchol trwy fod cymaint o gyfoeth yn cael ei droi i ffrydiau llygredig y byd? Fel y llenwir ein carcharau â chanlynwyr yr eilun—dduw hwn! Y fath olygfeydd sydd yn ein heolydd! a llenwir y tafarnau a'r gin palaces a thorwyr Sabbathau, nes mae y boblogaeth i helaethrwydd ofnadwy mewn esgeulusiad cyhoeddus o addoliad yr Hollalluog Dduw. Mae y deyrnas hon ag un llaw yn anfon allan yr efengyl i achub y byd, ac a'r llall yn anfon allan ddyfroedd tân i ddystrywio dynolryw.
Mae llawer iawn o wrthwynebu ar y gymdeithas hon. Mae yn beth newydd—mae llawer yn troi yn ol dywedir ei fod yn cael ei osod yn lle yr efengyl a phregethu Crist. Mae y gymdeithas yn gofyn llwyr ymwrthodiad oblegyd y niwed a effeithir trwy yr arferiad o yfed pethau meddwol; a rhoddi esiampl i ochel pob achlysur i bechod. Mae wedi dod i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaear. "Ond hyn sydd yn awr yn mhob Cwrdd Misol a Chymanfa," meddir. Nage, fy nghyfaill. Ond yr ydym yn tynu casgliad o du y gymdeithas wrth sylwi pwy yw ei gwrthwynebwyr.
Mae yn rhaid bod tarddiad a natur y gymdeithas hon yn dda neu yn ddrwg. Nid yw o'r un drwg, nid yw o'i deyrnas, ac nid yw o neb o'i weithredoedd; rhaid gan hyny ei bod o Dduw. Mae ei natur, ei gweithrediad, a'i dyben, o blaid santeiddrwydd, ac o blaid pob dyngarwch. Mae y gymdeithas yn pleidio pob rhyw ddaioni, yn mhob rhyw ystyr. Mae yn blaid i deyrnas Crist, ac yn blaid i'w phregethu, trwy gadw natur yn ei lle i dderbyn gair Duw; mae yn blaid i gyfraith y deyrnas, a rhan o gyfraith y deyrnas yw hi; mae yn blaid i heddwch y deyrnas—annghymedroldeb sydd wedi bod yn achos o derfysgiadau parhaus yn eglwys Dduw; mae yn blaid i holl gymdeithasau crefyddol y byd, trwy ymryddhau dynion oddiwrth bethau ac arferion sydd yn wastraff ar eu harian a'u meddianau, heb gadw dim oddiwrth natur a ddylai gael mewn bwyta, yfed, a gwisgo; a llawer gwell gwedd wedi hyny ar deuluoedd nag sydd ar filoedd heddyw oblegyd annghymedroldeb. Mae dangos mawr serch at yr arferiad, a bod yn ddiserch at yr ymataliad, yn annghysondeb o'r mwyaf. Mae y gymdeithas hon yn gwrthwynebu pob drygioni. Gwrthwynebwch annghymedroldeb, chwi wrthwynebwch bechod yn ei gryfder a'i darddiad, gan ei fod wrth wraidd rhan fawr o'r drwg wneir dan haul. Dyben hon yw gogoniant Duw, y peth yn ddinag ddylai fod yn nod gan bob creadur rhesymol. Bod yn ol gair Duw, yn ol Duw, yn debyg iddo, a byw i Dduw, yw bod yn gymedrol yn mhob peth. Iechyd dyn, harddwch dyn, defnydd dyn, dyben dyn, a'r cwbl yn un yn ogoniant iddo, yw cymedroldeb yn mhob peth. Mae yn ddyledswydd ar bob dyn sydd yn ofni yr Arglwydd i ddyfod yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn, at fod yn halen ac yn oleuni y byd,
Mae yn anmhosibl gweled dim yn iawn ond yn ngoleu goleuni byd. Goleu haul y byd yw y goleu goreu, a'r unig oleu i ddangos pob peth yn y byd. Os bydd dim yn dywyll, dadleugar, neu ddyrys, yr unig ffordd sicr am ymwared yw ei ddwyn at y goleu sydd yn cyhoeddi ei hunan, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni y byd: dyma y goleu sydd yn dangos creadigaeth y byd, goleu gallu y Duwdod, a holl lywodraeth y byd. Yn wyneb y bwriadau lawer sydd yn nghalon dyn, fe welir yn amlwg mai cynghor yr Arglwydd hwnw a saif. Nid oes dim yn dangos llygredigaeth y byd ond goleuni santeiddrwydd Duw; na dim a ddengys iachawdwriaeth y byd ond goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist; na dim a ddengys ddirwest yn feddyginiaeth i'r byd sydd wedi ei gau dan dwyll-arferiad, hudiad, a blysiad, ond yr un goleu; a'r dull y mae y goleu hwn yn dangos pob peth yw, â'i natur. Mae daioni a santeiddrwydd natur ddwyfol yn dangos pob peth sy yn dda, canys effaith o hono ydyw; a phob peth sydd ddrwg, canys gwrth-effaith o hono ydyw.
Yn nesaf gan hyny ni ymdrechwn ddwyn y pethau hyn i'r goleu hwn trwy ddangos yn
I. Duw a dyn ar gyfer eu gilydd. Y goleu hwn sydd yn dangos dyn yn greadur Duw, ac i Dduw yn unig, i ddelw Duw mewn llun, i ogoneddu Duw a'i fwynhau mewn gwasanaeth a dyben: "Canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef;" beth bynag gan hyny nad yw yn ogoniant i Dduw sydd wrthryfel oddiwrth ddyn yn erbyn Duw. A ydyw diodydd meddwol yn ogoniant i Dduw? Ni a ddylem fwyta ac yfed, a gwneuthur pob peth er gogoniant i Dduw.
II. Gosodwn sobrwydd a meddwdod ar gyfer eu gilydd. Yn y goleu hwn pa un yw y mwyaf tebyg i Dduw, ai sobrwydd ai meddwdod? Ai nid hanfod sobrwydd yw santeiddrwydd? Ai nid dweyd, Byddwch sobr, canys sobrwydd ydwyf fi, yw dweyd, "Byd Byddwch santaidd, canys santaidd ydwyf fi?" Onid yw Duw yn gorchymyn sobrwydd, yn cymeradwyo sobrwydd, yn canmol sobrwydd? Ai nid ei air ef yw, "Gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr; gwyliwn a byddwn sobr. Eithr diwedd pob peth a nesaodd; am hyny byddwch sobr a gwyliadwrus i weddiau. Byddwch sobr, gwyliwch. ch. Gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr. Eithr synied i sobrwydd. Dysgu i fyw yn sobr. Gwŷr ieuainc cynghora i fod yn sobr." Dyma oleu natur Duw yn dangos sobrwydd yn debyg iddo. Yn y goleu pur hwn, pa un yw y mwyaf tebyg i ddyn, ai sobrwydd ai meddwdod? bod mewn synwyr neu allan o synwyr? bod heb weled neu yn gweled? bod heb allu siarad neu yn gallu? yn gallu sefyll neu yn methu cerdded, union neu gam? bod yn rhesymol neu bod fel mochyn? Ai nid dyn fel dyn yw dyn sobr? Ai nid dyn wedi ei ddadwneyd o fod yn ddyn yw dyn meddw? Pwy na ddeall hyn yn y goleu hwn, ond yr hwn ni fyn weled.
III. Llwyr-ymataliad ac ychydig ymarferiad ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Pa un ai ymwrthod yn llwyr â phob diodydd meddwol, y rhai sydd wedi bod yn ddigon cryf i orchfygu a chwympo y cryfaf, y doethaf, y dysgedicaf, yr harddaf a'r duwiolaf yn eu hoes, i ochel achlysur i bob rhyw bechod mewn adnabyddiaeth o gais y diafol, o rym llygredigaeth natur, ac o wendid cnawd pechadurus; a'r effaith ddirwestol trwyddynt yw y pethau mwyaf yn ol Duw, yr hwn a ddywed, Byddwch santaidd, canys santaidd ydwyf fi; a'r peth mwyaf yn ol Crist Duw, yr hwn a'i dibrisiodd ei hun er mwyn dynion; a'r peth mwyaf dyngarol, y mwyaf ei ofal am fywyd a iechyd dyn ei hunan a'i gyd-greadur, neu fentro yfed yehydig o honynt ar antur? Pa un bynag ai ein gorchfygu ai peidio a wnant, pa un bynag ai dinystrio ein cymydog ai peidio a wnawn, trwy roddi iddynt esiampl wrth yfed peth meddwol yn ol y goleu hwn, pa un o'r ddau ymddygiad yw y mwyaf duwiol, grasol, rhesymol, a dyngarol, a adawaf i'r goleu i'w ddangos, a rheswm i'w farnu.
IV. Gorchymyn Duw a dyledswydd ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Lle mae gorchymyn Duw ar ddyn, mae dyledswydd dyn i Dduw. Pan ddywedo Duw, "Nac yf win na diod gadarn," rhag dy farw, dyledswydd dyn yw peidio ar berygl ei fywyd. Pan ddywedo efe, "Na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd," ai nid dyledswydd dyn yw peidio yfed gwin, i gael bod yn sicr o gyflawni ei ddyledswydd? Pan ddywedo efe, "Rhodiwn yn weddus, megys wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod," ai nid yr unig ffordd sier i ufuddhau yw peidio myned i'r gyfeddach, a pheidio yfed dim meddwol? Pan ddywedo, "Digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y Cenedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, a diota," ein dyledswydd ni yw arfogi â'r un meddwl a Christ, yr hwn a beidiodd â phechod. "Fel na byddom mwyach fyw i chwantau dynion;" trwy beidio hefyd a rhodio ynddynt, a gwneyd un arferiad o honynt.
V. Dyn a dyn ar gyfer eu gilydd; hyny yw, dyledswydd ac ymddygiad y naill ddyn at y llall. "Câr dy gymydog fel ti dy hun." Dyma gynllun pob ymddygiad a dyledswydd o eiddo dyn at ei gydddyn-gwneyd iddo fel iddo ei hun, mewn ymgeleddu a gwaredu. Megys na ddylem niweidio ein hunain; iechyd ein cyrph a'n heneidiau, ein perthynasau a'n meddianau trwy yfed diodydd meddwol, felly hefyd ni a ddylem beidio niweidio ein cyd-ddyn yn neb o'r pethau hyn trwy esiampl, anogaeth, neu gyfraniad. Dyma fel y mae goleu Duwdod yn dangos y mater.
VI. Dyn a barn ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Pa un ai yr ufuddhawr manylaf, ai yr hunan-ymwadwr mwyaf, ai y croeshoeliwr cryfaf ar chwantau, a'r dyosgwr llwyraf ar gorph pechodau, neu yr ufuddhawr brasaf, yr hunan-ymwadwr lleiaf, a'r croeshoeliwr gwanaf, fydd ysgafnaf ei farn yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda myrddiwn o'i saint a'i angylion nerthol, i wneuthur barn i bawb mewn cyfiawnder, trwy roddi i bob un yn ol yr hyn a wnaethpwyd yn y corph, pa un bynag a fyddo ai da ai drwg. Pa un ai llwyr-ymatal, i gael bod yn ddigon sicr i beidio drygu ein hunain nac eraill, neu yfed peth, ac anturio am y ddau beth hyn, bydded y peth a fyddo yn ganlyniad, a gaiff y farn oreu yn ol y goleu hwn, a adawaf i'r goleu ei ddangos, ac i reswm a chydwybod farnu.
VII. Dyn a'i gysur ar gyfer eu gilydd yn y goleu hwn. Mae cysur neu annghysur dyn yn sefyll ar dystiolaeth ei gydwybod: os yn ei erbyn, mae yn farnwr i'w gondemnio; os o'i du, mae yn farnwr i'w ryddhau. Os ein calon a'n condemnia, yr ydym yn euog; os ein calon ni'n condemnia, y mae genym hyder ar Dduw. Os dywed dy gydwybod, Pe buasit yn peidio yfed dim diodydd meddwol, ni'th anhwylusid at neb o'th ddyledswyddau, fel y gwyddost i ti wneyd lawer gwaith trwy hyny, dyna euog heb gysur. Ac os dywed, Pa faint a gadarnheaist mewn meddwdod trwy dy esiampl, wrth dy
weled di, dyna euog heb gysur, canys fel y mae yn rhaglaw ac yn dyst Duw yn yr enaid pan dywyno goleuni Duwdod arni, y gwir a ddywed, pa un bynag ai drosom ai yn ein herbyn. Faint fydd cysury dyn hwnw fydd â thystiolaeth yn ei gydwybod mai mewn symlrwydd a phurdeb duwiol y bu ei ymddygiad tuag at bawb yn y byd? Ai nid symlrwydd a phurdeb duwiol yw ymwrthod â phob achlysur i lygredigaeth i ni ein hunain yn bersonol, ac i eraill trwy esiampl? a hyn yn unig yn yr ystyr hyn a rydd gysur i ddyn. Os euog, a'r gydwybod yn condemnio, fel mae agos pawb o'r byd yn yr ystyr hyn yn enwedig, beth yw y feddyginiaeth? Am yr hyn a aeth heibio, na ellir ei alw yn ol, maddeuant, a phuro y gydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon trwy waed Crist, ac ufudd-dod i orchymyn Crist, i ymwadu â ni ein hunain, a llwyr ymwrthod â phob achlysur i lygredigaeth.
1. Ni feddwodd dyn erioed heb ddechreu yfed diodydd meddwol. Y. ris gyntaf i beidio meddwi byth yw peidio dechreu yfed diodydd meddwol; ac os dechreuir, nid oes neb ar y ddaear, yn mhlith holl blant dynion, all ddweyd na fydd yn un o feddwon mwyaf y byd cyn diwedd ei oes, canys dyna'r modd y mae pob meddw heddyw. Mae llawer yn gryfion i yfed gwin, ac yn nerthol i yfed diod gadarn, nad yw yr effeithiau, yn herwydd hyny, i'w gweled arnynt; eto meddwon ydynt o ran y gormodedd y maent yn ei gymeryd. Am y gair dirwest, yr un ystyr ydyw a'r gair cymedrol; nid yw y gair cymedrol yn caniatau un gradd o beth gwaharddedig, niweidiol, a dinystriol, onide byddai raid ini feddwl fod cymedroldeb, un o ffrwythau yr Ysbryd, â gradd o gnawdolrwydd yn oddefol ynddo; a byddai raid i ni feddwl fod ymresymiad Paul am ddirwest, neu ddiweirdeb, yn caniatau peth anniweirdeb.
Mae dirwest yn meddwl peidio cymeryd dim sydd yn feddwol, ymataliad yn mhob ystyr oddiwrth gyflawniad chwantau annghymedrol. Nid yw hyn yn dweyd y gellir cyflawni chwantau cnawdol yn gymedrol, canys y maent yn rhyfela yn erbyn yr enaid. "Ond am yfed yr ydym yn siarad; ac y mae eisiau yfed ar ddyn i dori ei syched." Ond nid yw diodydd meddwol yn tori syched, gan nad yw yn eu natur i ddisyehedu, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb. "Ond fe'm disychedodd i." Tybiwyd hyny ar y pryd; ond erbyn eu bod wedi eu llyncu, teimlid mwy o syched, yr hyn barodd ymroddi i feddwdod lawer gwaith. Haerir yn barhaus gan rai sydd yn gwybod gwell athrawiaeth fod y diodydd hyn yn cryfhau dyn. I'r gwrthwyneb mae y ffaith, gan eu bod yn gwanhau ac yn llygru yn fawr. Mae pob peth sydd yn poethi y gwaed yn ormodol, yn gyfatebol yn gwanhau y nerth. Cynifer sydd i'w cael sydd yn yfed o honynt pan nad oes un syched arnynt! A phan oedd syched, a dorwyd ef wrth yfed o honynt? A yfwyd mwy o honynt un amser nag oedd eisiau yfed o beth oedd at dori syched? A yfwyd un amser o'r rhai hyn ar gais eraill, pan nad oedd natur yn gofyn am ddim? Ai nid gormodedd yw hyn? Pa sawl gwaith y codwyd gwrid i'r wyneb mewn lleoedd cyhoeddus, ac y gwnawd peth a fernid yn drosedd mewn eraill? Yr bedd y tafod yn bloesgu, y llygaid yn gwamalu, y genau yn rhythu; rhyw ddweyd mawr ar berson nad oedd ond ychydig o fedr dweyd ynddo. Fel y gwellheid agwedd pethau a phersonau pe baem yn cymeryd at yr egwyddor hon! Cynysgaedder ni a'r galon i wneyd hyn o beth!