Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XXIII
| ← Penod XXII | Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen gan Edward Matthews |
Penod XIV → |
PENOD XXIII.
Cwynfan glanau yr Iorddonen—ychydig o lythyrau Mr. Richard o'r fan hono.
Bu Mr. Richard gryn lawer o amser yn rhodio ar hyd glanau yr afon derfysglyd. Bydd ambell un yn myned drwyddi mewn ychydig o amser, heb wybod braidd ei fod wedi bod yno; y mae y nesaf peth i symudiad heb "weled marwolaeth." Gyda bod y dwr yn dechreu rhuo yr ochr hyn, mae y creadur tlawd wedi ei drosglwyddo y tu draw i ddwr llonydd, gloyw, a chroyw. Ond am Mr. Richard, gellir dyweyd ei fod ef wedi bod flynyddoedd yn rhodio yma a thraw, yn ol ac yn y blaen ar hyd glanau yr afon, swn yr hon oedd yn ei glustiau yn mron o hyd. Byddai y rhan fynychaf, flynyddoedd cyn ei symud, yn dysgwyl y cyfnewidiad, ac yn nychu yn ofnus yn y teimlad o'r amgylchiadau difrifol. Byddai pobl yn ysgrifenu ato yn aml i lan yr Iorddonen am ddyfod i gyfarfodydd cyhoeddus; gan ddyweyd am yr hyfrydwch gafwyd lawer gwaith o dan ei weinidogaeth pan yr arferai deithio y dyddiau gynt, a'u bod yn gobeithio cael yr un pleserau eto, ac am iddo ddyfod er yn eiddil, gan faint y dysgwyl oedd wrtho. Mewn canlyniad i dderbyniad ryw lythyrau o'r natur yna, byddai yn arfer dyweyd, "Ah, y mae y bobl yn camsynied yn ddirfawr; y maent hwy yn meddwl mai y dyn a welsant hwy yn y Cymanfaoedd ddeugain mlynedd yn ol sydd yma yn awr. Nid hwnw, ffrynds, sydd yma bellach. Yr oedd y dyn hwnw yn wridgoch a phen-felyn; ond y dyn hwn yn welw a phenwyn. Yr oedd y dyn hwnw yn gryf ac yn gefn-gymhwys; ond y dyn hwn yn nychlyd ac yn wargam. Yr oedd y dyn hw hwnw yn ieuanc ac yn heinyf; ond y dyn hwn yn hen ac yn anystwyth. Yr oedd y dyn hwnw yn gallu siarad, ac yn gallu gwaeddi; ond y dyn hwn ni all siarad na gwaeddi. Nid yr un dyn, bobl, oedd y dyn hwnw a'r dyn hwn; 'dyw hwnw ddim yma yn awr. Ni byddaf mwy yn eich cyfarfodydd yn ddim ond lumber, rhyw beth ar ffordd pawb; yn cymeryd lle dyn, heb allu gwneyd gwaith dyn. Yr wyf bellach yn dod i deimlo fy hun yn fwy cymhwys i'r bedd nag i'r pwlpud. Y mae tymhor i bob peth; ac y mae tymhor pregethu wedi darfod, a thymhor gorphwys wedi dyfod. Gadewch fi yn llonydd bellach, canys nid yw y dyn yr ydych chwi yn 'mofyn yma yn awr." Fel hyn yr arferai ddyweyd: ac yn wir, fe allai fod yn anhawdd dyweyd dim yn well. Gwir ydyw bob gair, a gwir profiadol gan lawer o'n hen frodyr heddyw.
Ah, y llanc ieuanc Richard, y llanc pen-felyn, gwridgoch, main, teneu, glandeg, ag oedd yn bloeddio fel udgorn o flaen miloedd, gan swyno pawb a'i clywai, pa le y mae heddyw? Nid yw idd ei gael. Hen ddyn analluog sydd yn lle y llanc, yn methu cerdded, yn methu gorwedd, yn methu bwyta, ac yn methu cysgu, a bron yn methu pregethu. Edrychwch, dacw y llanc pen-felyn gynt yn hen wr gwelw, penwyn, a chap du ar ei ben, a ffon yn ei law, yn disgyn yn araf, araf, dan besychu, i rosydd Moab, ac yn cerdded yn syn yn ol ac yn y blaen, dan sefyll yma ac acw ar lan yr hen Iorddonen. Gwr hen ydyw, yn gwisgo mantell, a rhyw argraff annghyffredin o sobrwydd yn ei wynebpryd; fel pe bai argraff angau wedi sefydlu ei olygon a'i wynebpryd. Bydd yn siarad ychydig yn bwyllog ac yn araf, dan besychu ac ymdrechu yn ddirfawr am anadl gyda phob gair. Pan yn gwneyd mwy na'i allu yn ei ddyddiau olaf i geisio pregethu, clywid ef yn dyweyd yn ddystaw wrth ddringo grisiau yr areithfa, "Dyn marw sydd yma, dyn marw sydd yma." Yr oedd yr olwg arno yn sobr, meddant, yn myned i fyny i un ris, yn aros i gael anadl a phesychu cyn myned i fyny i un arall, ac ar bob un, wedi cael ychydig o ryddhad oddiwrth besychu, yn dyweyd, "Dyn marw sydd yma." Yr oedd ugeiniau o galonau yn teimlo yn ddwys drosto; ac er fod cydymdeimlad yn burion a dymunol hefyd, er hyny nid yw yn gwneyd ond ychydig help mewn cyfyngderau, canys rhaid i bob un y mae yn debyg ddwyn ei faich ei hun.
Y mae Mr. Richard yn y pwlpud o'r diwedd; ac wedi eistedd i besychu a cheisio cael anadl, tra fyddai rhywun yn rhoi penill allan, ac yn dechreu y cyfarfod. Wedi i hyny fyned trosodd, y mae yntau yn codi, yn rhoi hymn i ganu, ac wedi hyny yn darllen testun dan besychu, ac ymdrech yn galed am anadl. Ah, dacw ddagrau ar wynebau llawer o'r hen gyfeillion, y rhai oedd yn cofio y deml gynt, wrth ei gweled bron yn adfeiliau; cofio y llais peraidd, diorchest, a'r tân gweinidogaethol yn wreichion gwyllt, a gweled heddyw o flaen eu llygaid ond rhyw bentwr o adfeiliau! O y cyfnewidiad! Ond dyna, mewn byd cyfnewidiol iawn yr ydym yn byw; ac er mor anhawdd, rhaid yw ymostwng yn ddystaw i'r dynged. Elai yn mlaen yn araf, araf; a phawb yn gwrando ar ei genadwri fel o enau un oedd yn dechreu taro ei draed wrth y mynyddoedd tywyll. Mae ei destun yn ei wresogi, a'r gynulleidfa yn cael teimlo oddiwrth yr un mwynhad. Rhyw beth rhyfedd yw y pregethu yma hefyd! Er fod y dyn yn cychwyn gyda phob ymddangosiad o fethiant a marwolaeth, y mae yn pregethu nes ydyw yn iach mewn ymddangosiad, ac fel pe bai deial amser yn dychwelyd o leiaf ddeg o raddau yn ol. Pregethai ar brydiau, meddant, fel yn nyddiau ei ieuenctyd am tuag awr a chwarter. Eithr, fel y gallesid dysgwyl, wedi i'r cynhyrfiad hyny fyned trosodd, y mae pethau yn dychwelyd eilwaith i'w lle, y dyn ieuane sydd yn cilio yn gyflym fel angel yswilgar, cochni y rudd yn diflanu fel blodeuyn annhymhoraidd, a'r hen ddyn crybychaidd a llwydaidd, ac argraff brenin y dychryniadau ar ei wynebpryd, yn dychwelyd i'w hen dramwyfa ar lanau yr Iorddonen. Dacw y peswch a'r diffyg anadl wedi dyfod yn ol, ac yntau, druan, yn crynu yn nychlyd, ar lanau llwydrewog, oerion yr hen afon.
O lyn cysgod angau y mae yn cyfeirio dau neu dri o lythyrau, y rhai yn ddiau y bydd yn dda gan ein darllenwyr eu gweled, pe na bai dim ynddynt yn neillduol ond yn unig eu bod yn dyfod o le pell a dyeithr. Glyn cysgod angau yw y post mark sydd ar y rhai hyn; y maent y tu hwnt i lywodraethiad swyddogion gwladol Lloegr. Y llythyr cyntaf sydd yn codi oddiar ryw beth ymddangosodd yn y Drysorfa, yr hwn sydd yn dangos ei ofal am wirionedd, er yn rhosydd Moab:—
Mae y traethawd ar natur eglwys, a ymddangosodd yn Rhifyn y Drysorfa am y mis hwn, wedi gwneyd gradd o gynhyrfiad i'w eilio, o blaid y gwirionedd diffuant a ddangosir ynddo; nid am nad yw yn ddigon cadarn heb ei eilio, ac yn ddigon amlwg i'r neb a redo i'w weled a'i ddarllen; ond a guddir, ac a gelir, ac a wadir, ac a ŵyrir, ac a geblir. Mae yn dda ac yn fraint i bawb gael bod ar faes y gwirionedd, ac yn bleidwyr iddo, er nas gall y gwirionedd gael dim gan neb ond sydd ganddo ei hun, am dano ei hun.
Mae yn ymddangos yn annhebyg y gall un Cristion fod heb weled mor amlwg yw'r goleuni i ddangos ysbryd Cristionogaeth, egwyddor Cristionogaeth, athrawiaeth Cristionogaeth, tymher ac agwedd Cristionogaeth, yn nghynwysiad yr ysgrif hono. Mae yn dangos un wedi ei ddysgu am deyrnas nefoedd, ac yn deffro yn gyfiawn, pan mae llawer yn cysgu yn swrth ac yn ddiofal, canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw yn eglwys Dduw, yr hyn sydd fawr gywilydd; ac mewn eiddigedd a sel dros enw a gogoniant yr Arglwydd mae yn tynu ei anadl mewn awyr iach, pan y mae agos holl awyrgylch y byd crefyddol wedi ei wenwyno â phethau mor wanaidd, dyddim, fel mae yn warth i wlad lle mae efengyl a gair Duw cyhyd ynddi, bod y fath beth o'i mewn. Pa raid rhyfeddu am hyn, pan mae yn rhaid bod yn ysbrydol at adwaen pethau ysbrydol? Mae yn rhaid bod gwirionedd oddimewn at adwaen y gwirionedd yn yr ymdrin amlaf a'r gwirionedd. Heb y gwirionedd mae y perygl mwyaf o gyfeiliornu oddiwrth y gwirionedd. Mae pob dysgeidiaeth yn rhy fach i waredu rhag hyn, heb ddysgeidiaeth y gwirionedd ei hun.
Mae hòni am olyniaeth apostolaidd, heb na ffydd nac ufudd-dod apostolaidd, yn dangos gaudystiolaeth, ac yn bradychu y gwirionedd. Lle mae gwirionedd, gan bwy bynag y byddo, mae yn rhaid iddo fod fel efe ei hun, ei anian ei hun, ei ddelw ei hun, a'i wisg ei hun. Y gwirionedd, a dim ond y gwirionedd, a'r holl wirionedd, sydd yn gwneyd undeb a pherthynas ysbrydol, pa ddull bynag a arferir mewn ffurfiau allanol i addoli. Pa blaid o bobl grefyddol dan y nefoedd all hòni bod eu dull yn berffaith, nid yw hyny yn cymeryd oddiar neb eu hawl i feddwl a barnu drostynt eu hunain, nac ychwaith i gondemnio eraill nad yw a'u gwasanaeth crefyddol yr un dull a hwy. Nid enwau a dulliau yw pethau trymaf y gyfraith, ond barn, trugaredd, a ffydd. Wrth hanfod crefydd mae ei hadnabod, nid wrth amgylchiadau, y rhai nid yw amgen na'r gwisgoedd i'w harfer yn y fuchedd hon yn unig, ond a ddyosgir yn llwyr yn angau; ac megys na bydd eu heisiau mwyach, ni bydd chwaith son am danynt. Fe ddylai hyn ein henill oddiwrth y pethau ysgafnaf, allanol at y pethau trymaf, ysbrydol sydd yn perthyn i grefydd; am hyny awn at y gyfraith ac at y dystiolaeth am y wybodaeth hon, fel y darfyddo pob ymryson yn nghylch geiriau, achau, a chwestiynau ffol, anorphen.
Gras fyddo gyda phawb, pwy bynag a fyddont, sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen. Brodyr yw y saint pa liw bynag fyddo ar eu dillad; ac nid oes neb yn frodyr ond y saint.
Y llythyr canlynol sydd at weinidog ieuanc a ofynodd am ei gynghor a'i gyfarwyddyd:
"Anwyl Frawd, —Yr ydych yn fy nghymhell yn daer i ddyfod yn rhyw fodd unwaith eto hyd atoch chwi. Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich teimladau da; ond y mae yn rhaid i mi gredu fy mod wedi bod yno am y tro olaf; canys y mae fy nghorph a fy meddwl yn marw; nid oes genyf gorph yn alluog at y daith, na meddwl yn alluog at y gwaith. Yr wyf yn marw; yr wyf yn sâl iawn: rhwng peswch a diffyg anadl, y mae fy mywyd yn faich bellach.
"Yn eich llythyr gofynasoch am ryw gynghor. Peth anhawdd iawn yw rhoi cynghor i bwrpas, ac mor anhawdd a hyny yw gwrando ar gynghor. Nid oes genyf ddim i ddyweyd, ond fod y gwaith yr ydych chwi a minau wedi ei gymeryd arnom yn waith pwysig iawn, ac fe ddaw pawb i deimlo ei bwys ryw bryd. Gobeithio eich bod yn teimlo y pwys a'r cyfrifoldeb ofnadwy sydd mewn bod yn y weinidogaeth. Y mae bod wedi ein danfon gan Ysbryd Duw at y gwaith ysbrydol a phwysig hwn yn anhebgorol. O, pwy sydd abl a digonol at y gwaith hwn! Neb ond y rhai a ddanfonwyd gan Dduw; ac y mae yn rhaid iddynt hwythau gael nerth cyson, onide nid ydynt hwy yn ddigonol. Y maent yn ddigonol pan y mae Duw yn eu nerthu â'i ras, ac yn annigonol pan y gadewir hwynt. Rhaid derbyn 'cyflawnder bendith efengyl ein Harglwydd Iesu Grist' bob tro. Rhaid cael y llwyth i gyd o'r newydd; canys pa fodd y pregethant oni ddanfonir hwynt? Gallaf ddyweyd fod pwnc y weinidogaeth yn cael lle mawr yn fy ngweddiau; yr wyf yn gweddio llawer drosoch ar i chwi gael gweinidogaeth gan Dduw, ac ar i chwi gael eich cadw yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. Gweddiwch chwithau am gael bod o dan 'eneiniad Ysbryd Duw, yna fe'ch cynelir yn ddigwymp, a chewch gynorthwy i gyflawni eich gweinidogaeth yn ddiwyd ac yn ffyddlon—a rhoi cyfrif yn llawen ac nid yn drist.' 'Edrychwch arnoch eich hunan, ac ar yr athrawiaeth, a gochelwch rhag ymgodi i fyny i'r gwynt mewn balchder ac hunanoldeb, a thrwy hyny 'syrthio i ddamnedigaeth diafol.'
"Fy anwyl gyfaill ieuanc, er mwyn pob peth byddwch yn ofalus a gwyliadwrus rhag balchder, canys bydd hwnw, unwaith y daw i mewn, yn sicr o ddinystrio pob peth,—dinystr pob da ydyw. Nid wyf yn dyweyd felly oblegyd unrhyw wybodaeth fod balchder yn brofedigaeth i chwi, nac ychwaith yn eich drwgdybio o'r cyfryw beth; eithr yr wyf yn dyweyd felly am fy mod yn gwybod beth yw tuedd ein natur lygredig. Dyma ffynonell dinystr miloedd. Gofalwch rhag iddo ymddangos yn eich gwisg, yn eich cerddediad ar hyd yr heolydd, yn eich dull o siarad, a'ch holl ymarweddiad; canys gwahanglwyf ydyw yn rhedeg trwy y cwbl. Er pob peth, gwyliwch rhag i'r pla hwn ymddangos mewn cysylltiad a gweinyddiad eich dyledswyddau crefyddol; canys y mae yn ddigon atgas ar yr heolydd, ond yn fil mwy yn y pwlpudau. Gwisgoedd gostyngeiddrwydd sydd yn gweddu gwasanaeth Duw. 'Ysbryd addfwyn a llonydd' sydd ger bron Duw yn werthfawr.'
"Derbyniwch serch yr hwn sydd yn eich caru, oddiar fin y bedd.Yr eiddoch, &c.,
"T. RICHARD."
Y llythyr a ganlyn sydd at ei anwyl chwaer, Miss Richards, Trefin, yr hwn, er ei fod at chwaer naturiol, nid yw yn cynwys dim ond pethau pwysig crefyddol.
Anwylaf Chwaer,—Wele ddiwedd blwyddyn arall. O mor gyflym maent yn ehedeg ymaith, ac o bosibl wedi eu rhifo i fyny i gyd yn y rhif hwn; felly y mae ar lawer yn barhaus, ac y bydd yn fuan arnom ninau. O, y cyfnewidiad mawr, tragywyddol ei barhad! Nid oes dim a geidw y meddwl yn dawel ond yr anystyriaeth mwyaf neu y ffydd gryfaf. Pa fodd, heb farn o galedwch, y gellir bod yn anystyriol pan ddywedir mor amlwg, 'Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag ai da ai drwg.' Yr unig ffordd i ymddangos yn y farn hon heb fod y cwbl yn ddrwg yn ein herbyn yw, fod gwrando pregethiad y gair wedi ein dwyn i ofni Duw a chadw ei orchymynion, canys hyn yw holl ddyled dyn. O am ein nerthu i ffoi i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen! Mae yr olwg sydd i'w chael ar y byd yn y dyddiau hyn yn peri i'r galon ddychlamu o'i lle. Cyfeiliornadau yn ymdaenu, egIwysi yn ymranu, crefyddwyr yn ymlygru gan ysbryd y byd hwn; cnawdolrwydd yn cynyddu beunydd fwyfwy, cariad yn oeri, undeb ysbrydol wedi cwbl laesu, ac anwiredd yn tra amlhau; gwaith yr Arglwydd yn llaw dynion noethion, Samsonaidd, fu yn gedyrn o nerth, wedi myned fel gwŷr eraill. O na bai fy mhen yn ddagrau, fel yr wylwn rhwng y porth a'r allor, a dywedyd, 'Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r Cenedloedd arnynt. Paham y dywedant yn mhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?' O na atebid y gofyniad gwawdlyd hwn â'r presenoldeb lanwai y tŷ â gormod i'r cnawd ei sefyll.
"Nid oes un neges wrth ysgrifenu y llinellau hyn ond cadw cymdeithas. Yr ydym ni yma fel arferol, a chadw y gwaethaf heb ei ddweyd. Yr ydym yn gobeithio ac yn dymuno eich bod chwithau oll heb fod lawer yn waeth, ac yr anfonwch linell cyn gynted ag y delo hwn i law. Yr ydym yn cydgofio atoch mewn serch didwyll. Parhewch mewn gweddi drosom ddydd a nos.—Wyf eich cywir, T. R."
A ganlyn sydd lythyr mewn atebiad i Mr. Walters, Ysgrifenydd y Gymanfa.
"Anwyl Frawd,—Mae yn ddrwg genyf glywed eich bod wedi bod yn wael eich iechyd, canys y mae afiechyd yn wynt cryf ar y fordaith, yn enwedig ar y rhai y mae yn chwythu bob dydd. Mae eich adferiad yn llonder. Da genyf glywed eich bod yn abl dod i'r Gymanfa, a da fuasai genyf finau allu bod yno; ond gwn nas gallaf. Mae fy afiechyd yr wythnos hon yn llawer mwy nag y bu, oddiwrth anwyd trwm a gefais yn ddiweddar. Nid wyf yn gallu ond prin symud. Chwi a wyddoch y fath beth yw bod mewn cystudd, yr hyn sydd fel rhwymau haiarn am un. Mae yn ddrwg genyf i mi beidio ateb llythyr Pontypool, a thrwy hyny beri anesmwythder i chwi; eto ni bu o esgeulusdra nac annghof, ond oblegyd na feddyliais fod un atebiad i fod iddo; ac nid yn unig nid oedd ynddo ddim i flino, ond yr oedd ei holl gynwysiad serchog yn tueddu i gysuro.
"Gobeithio yr ymdrechwch ddyfod i Gymanfa Sir Benfro yn mis Mai, ac y byddwch yn sicr o ddod i Abergwaen naill ai wrth fyned neu ddod. Os byddwch mor garedig, ac os cewch hamdden gan lafur y Gymanfa wedi gorphen pob peth yn Nghastell newydd, roddi epistol manwl am holl drafodaeth y Gymanfa, a'ch barn ddiduedd am yr ymddygiad dwyfol ati—canys os camgymerir am wyneb yr Arglwydd, fe ddyrysir yn y cwbl—byddaf yn dra diolchgar. Arosaf i ddysgwyl, os caf fyw hyd onid el y Gymanfa heibio.—Wyf, anwyl frawd, eich cydymaith mewn cystudd, T. R."
Wele lythyr at y Gymanfa yn Nghastell newydd:—
"At y Gymanfa yn y Castellnewydd.
"Mae yr ymdeimlad, y serchawgrwydd, a'r brawdgarwch diragrith, a ddangosai eich anerchiad diweddaf wedi effeithio mewn llawer modd tu hwnt i ddim a ellir draethu. Mae bod pobl yr Arglwydd yn sylwi ac yn cofio am un mewn cymaint o waeledd yn mhob ystyr, sydd mor ddyeithr, mor absenol, ac mor annefnyddiol gyda llafur y Cyfundeb, yn peri argraff drwyddo oddiwrth dueddfryd duwiol yr egwyddor hon; ac megys y trosglwyddwyd eich arfer ysgrythyrol oddiwrth flaenafiaid, gobeithir y trosglwyddir hi yn ddyogel i olafiaid, ac yr erys pob peth duwioldeb mewn ymarferiad parhaus yn holl eglwysi Duw tra parhao y byd. Mae yn debyg fod ansawdd yr amseroedd presenol yn galw yn uchel am i'r gofal a'r difrifwch mwyaf gael eu cymeryd yn achos pethau hanfodol i dduwioldeb, o'r swydd uchelaf yn eglwys Dduw i'r aelod gwanaf, os yw yn bosibl bod y fath un i'w gael. Mae yn debyg nad oes nebar y ddaear all ddweyd beth fydd diwedd y pethau hyn; eto gellir bod yn sicr tra dylynir hanfodau duwioldeb na lithrir byth. Gobeithio y cedwir ein golwg, yn bersonol ac yn gynulleidfaol, ar bethau trymaf cyfraith Dduw i fod ein prif nod; sef barn am bob peth yn ol gair Duw; a thrugaredd, yr hon sydd gymhwysder i ni, a chymhwysder oddiwrthym ni; a ffydd, yr hon yw meithrinfa holl rasau a rhinweddau gwir grefydd. Ni bu amser erioed ar y byd â mwy o angen blaenoriaid ysbrydol yn eglwysi Crist, ac y mae yn debyg na bu amser erioed ag y gallasai blaenoriaid cnawdol fod mor niweidiol, a hyny oblegyd amryw resymau.
"1. Oblegyd bod nerth Ysbryd Duw, a fu yn gydfynedol â phregethu y gair, mewn mesur mawr yn amlwg yn cael ei atal, er mor anhawdd mae gan bobl yr ail deml i addef hyn.
"2. Oblegyd bod yr olwg gyffredinol sydd ar ddysgyblaeth yn yr eglwysi yn ymddangos yn fwy dyryslyd a niwlog nag y bu.
"3. Mae fel pe bai mawredd pendefigion Israel yn llai—y rhai a fu yn gweled Duw ac yn gwledda yn ei wydd. Fe allai fod yn anhawdd dyweyd pa un ai y pendefigion ai y bendefigaeth sydd leiaf; mewn geiriau eraill, ai llai o wyr i Dduw sydd, ai llai o Dduw i'w wŷr sydd.
"4. Mae porth gweinidogaeth yr efengyl fel pe bai wedi myned heb un drws iddo mewn mesur mawr; ac fel pe bai yn anmhosibl i'r drysor i wybod pa le mae sefyll rhwng manteision mwy mewn dysgu ac egwyddori, yr hyn sydd yn fawr fraint yn y wlad ragor nag oedd rai blynyddau yn ol; a phroffes o grefydd wedi myned yn fwy fel arferiad gwlad, yn gyffredinol a ffasiynol; a santeiddrwydd ac ysbrydolrwydd y gwaith mawr o bregethu wedi cael caru arno ac ymarfer ag ef yn fwy fel celfyddyd i gywreinrwydd nag o un angenrheidrwydd, megys y dengys agweddau cnawdol, cwbl groes i bwysigrwydd y gwaith.
"5. Mae swyddogion cnawdol yn debyg o goleddu cnawdolrwydd yn yr eglwysi. Pa fath henuriaid bynag a fyddant, os byddant wedi cryfhau mewn amgylchiadau bydol, mae y galon yn ymgodi i ddinystr mawr iawn iddynt hwy a'r eglwys.
"6. Rheswm arall a ddengys yr angenrheidrwydd mawr am swyddogion ysbrydol yw, y duedd sydd i gynenau ac annghydfodiaethau yn yr eglwysi. Nid hawdd cael un eglwys heb gynenau yn blu duon ynddi yn y dyddiau hyn. Mor groes i hyn yw gair ac Ysbryd Crist! Mae agos yn rhy warthus i'w feddwl, chwaithach i'w ddyweyd, bod llawer o gapelau, a llawer o bregethu, a llawer yn pregethu, wedi ei effeithio yn unig gan gynenau; ac fel y mae yn fwyaf ei ofid, nid gan ryw enwad unigol, ond gan holl enwadau y deyrnas. Cariad ac undeb yw rhanau bywydol eglwys y Duw byw, ac arwyddion perchenogol o'r fodrwy briodasol. Wrth hyn yr adnabyddir dysgyblion Crist, wrth hyn adnabyddir anfoniad Crist, wrth hyn adnabyddir dyweddi Crist. Pwy yn wyneb y diffyg o hyn y dyddiau yma na ddywed, 'O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynonau o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos?'
"Nid oes un bwriad nac amcan i'r llinellau hyn yn mhellach nag i ddyn claf ddyweyd ei feddwl wrth frawdoliaeth y taer erfynai arnynt am ddibaid ran yn eu gweddiau, yr hyn sydd yn fwy o werth i un ar ddarfod am dano yn fynych na'r byd i gyd. Y fendith a roddai enw Duw ar feibion Israel a rodder ar y Gymanfa.—Wyf eich cydymaith mewn cystudd,
"THOMAS RICHARD."