Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Penod XXIV

Oddi ar Wicidestun
Penod XXIII Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Penod XV

PENOD XXIV.
Afiechyd Mr. Richard yn cynyddu—marwolaeth Mrs. Richard.

BYTH oddiar dderbyniad y dysteb yn Ionawr, 1855, yr oedd afiechyd Mr. R. yn cael ei deimlo yn fwy ganddo. Yn nghanol profedigaeth henaint ac afiechyd, dyma un arall yn tori i mewn er gwneyd y lleill yn fwy chwerw byth. Y mae Mrs. Richard yn cael ei chymeryd yn glaf iawn; ac ar y nawfed o Fehefin, 1855, y mae yn marw, yn mhen chwech mis wedi cyflwyniad y dysteb. Dyna y wraig y bu mewn cymaint o helbul a phryder o'i phlegyd yn nyddiau ei hieuenctyd, y wraig fu yn ymgeledd gymhwys iddo, wyliodd fel angel ei holl symudiadau, aberthodd ei bywyd i'w gysuron, ac a gydgyfranogodd ag ef yn ei holl ofidiau, yn awr wedi syrthio yn farw ar faes y frwydr. Dyma faich trwm, at y beichiau o'r blaen, a dyna golled o gysur pan yr oedd fwyaf o'i eisiau. Beth a wneir yn awr? Wel, y mae yn debyg nad oes dim i'w wneyd ond ocheneidio, a thewi. Yr oedd un cysur yn aros, a chysur mawr iawn hefyd; yr oedd ei anwyl Bridget Hannah yn fyw, er nad yn gryf iawn, yr hon a ofalodd am dano yn ffyddlon hyd y gallai; cafodd ei harbed dros ei ddyddiau ef i'w ymgeleddu; ond cyn hir wedi iddi wylio uwchben gwely marw ei thad, a'i weled wedi ei roi i orwedd yn dawel mewn bedd dystaw, y rhoddodd hithau yr ysbryd i fyny i freichiau Iesu Grist, a dygwyd ei chorph, a rhoddwyd ef i orwedd yn monwent Maenorowen gyda'i thad a'i mam. Gadawodd briod a dau blentyn ar ei hol yn yr anialwch; a gobeithiwn y caiff y Thomas Richard a'r Bridget Hannah bychain ddylyn ôl traed eu mam a'u henafiaid.

Ond i ddychwelyd at Mrs. Richard, canys yr ydym wedi myned ryw gymaint oddiar y ffordd. Yn gymaint a'n bod wedi dyfod at amgylchiad ei marwolaeth, fe ddichon na fyddai yn briodol i ni fyned rhag ein blaen heb ddyweyd ychydig o eiriau mewn perthynas iddi hithau. Dylai eglwysi Crist wneyd sylw mawr o wragedd a gweddwon eu gweinidogion, canys y maent yn gorfod dyoddef pwys a gwres y dydd, er mwyn cadw eu gwŷr mewn ffordd i fyned allan gyda'r weinidogaeth. Y mae llawer o'r gwragedd santaidd hyn wedi treulio oes o lafur caled mewn darpar pethau tuag at ddal eu gwŷr mewn parodrwydd cyson i gychwyn gyda phob galwad gyda gwaith yr Arglwydd. Nid ychydig o waith yw cadw dyn mewn rhyw fath o lun gweddol i fyned o gartref yn gyson; y mae yn fwy o orchwyl nag y mae llawer wedi dygwydd meddwl nad yw wedi arfer â'r cyfryw bethau. Heblaw yr holl drafferthion hyn, y rhai sydd yn galw am lawer o ragystyriaeth a rhag-ddarbodaeth, y mae gofidiau cyson oblegyd nad yw yr amgylchiadau yn caniatau iddynt wneyd gwell ymddangosiad. Y mae y traul dillad a'r teithio yn fawr, a'r hyn sydd yn dyfod i mewn yn fach, fel y mae yn dyfod yn drwm iawn ar y wraig, wrth geisio gwneyd y goreu o'r gwaethaf. Llawer un o honynt, er mwyn i'r gwr ymddangos yn rhyw weddol yn y pwlpud, sydd wedi llafurio yn galed, tra yr oedd y bwrdd gartref yn gul, a'r dillad yn llwm yn ei chylch hi hi a'r plant. Ië, Ië, yn wir, a llawer o honynt yn ei wneyd er mwyn achos Iesu Grist, o dan ddylanwad sefyllfa ddyfodol.

Y mae hunan-ymwadiad mawr yn ofynol mewn menyw i ymdawelu byw mewn unigolrwydd, tra y bydd y gwr yma a thraw, ac yn ceisio llywodraethu a chadw trefn ar y teulu, heb neb i'w chynorthwyo. O holl ferched Efa dylai gwraig y pregethwr gael y cydymdeimlad mwyaf; yn enwedig, cofiwch, gwraig pregethwr y Methodistiaid Calfinaidd, beth bynag am y Wesleyaidd. Nid ychydig o ymdrech yn gyffredin sydd i gael y deupen yn nghyd yn rhyw fodd; a phan y byddo y ddau pen yn mhob llaw i'r wraig druan, yn methu dyfod yn nghyd, er tynu oreu y gellir, nid rhyfedd pe bai yn eu gollwng ill dau i fyned i golli byth, a pheidio ymdrechu mwyach gyda hwynt. Yn wir, coeliwch chwi neu beidiwch, y mae yn ddigon i demtio sant i ymollwng gyda'r llif, a gadael iddi fyned. Nid ydym yn gwybod am neb ag eisiau mwy o synwyr a gras na gwraig pregethwr, canys bydd eisiau iddi fyw drwy synwyr neu drwy ffydd bron o hyd. Bydd ganddi lawer o waith i'w synwyr i geisio dyfalu beth i wneyd, a pha bryd i wneyd, a pha fodd i wneyd, a pha ffordd y gellir gwneyd rhyw beth heb ddim defnyddiau, neu wneyd llawer ag ychydig o ddefnyddiau; ac yn y blaen. Rhaid iddi druan "gario y gamp ei hunan," neu fod heb ei chario byth. Bydd ganddi hefyd lawer o waith i ffydd; canys wrth ffydd ac nid wrth olwg rhaid iddi rodio y rhan fynychaf. Nid yw ond dygwydd iddi weled llawer o gysur na llawer o gyfoeth; felly trwy ffydd y rhaid iddi fyned yn y blaen.

Y mae yn eglur y dylai pregethwr, wrth fyned i edrych allan am wraig, ymhyntio ac ymchwilio am un â phen yn llawn o synwyr, a chalon yn llawn o ras, yn y lle cyntaf; canys y mae yn ddiamheu y bydd yn llawn raid iddi wrth hyn bob dydd; ac y mae yn eithaf synwyrol, fel y gwyddoch, geisio y pethau mwyaf angenrheidiol yn gyntaf y pethau nas gellir eu hebgor un amser. Pwy sydd ag eisiau mwy o amynedd ac o oddefgarwch na gwraig y pregethwr? Pwy sydd ag eisiau cymaint o hunan-ymwadiad? Y mae yn rhaid iddi fod yn bel-droed i bawb, ac yn y diwedd methu a boddloni neb. Bydd pob llygad arni, a'i holl symudiadau, ac ar ei phlant; ac mor anhawdd yw boddloni pawb! Ond dyna, gwell peidio dyweyd ychwaneg, rhag ofn i ni wrth hyny wneyd y ffordd yn anhawdd i'n cyfeillion gael gwragedd, canys y mae yn rhaid i chwi wrthynt, gan y byddant yn falm i'ch clwyfau, os byddant yn synwyrol ac yn rasol; ond os yn ddisynwyr ac yn rasol, gwarchod pawb! Bid a fyno, gwnewch bob ymdrech i gael un synwyrol a grasol; ac os bydd yn lân hefyd, purion; ond gofalwch adael hyny y trydydd peth, os nid y pedwerydd.

Wel, y peth yr oeddem yn ddyweyd, os ydym yn cofio yn dda, oedd fod menyw ag sydd wedi cydlapio mewn cysylltiad â gweinidog yr efengyl, ac wedi gwneyd pob aberth o gysuron er mwyn ei wneyd ef mor ddefnyddiol ag mae yn bosibl gyda gwaith ei Arglwydd, yn teilyngu mwy o sylw nag y mae yn ei gael yn aml. Yr oedd Mrs. Richard wedi bod yn gynorthwy mawr i'w gwr yn mhob peth; iddi hi y mae y wlad yn ddyledus am ei weinidogaeth, canys ei blwydddâl hi a'i cynaliodd; ni chynaliodd efe ei hun erioed, chwaithach y teulu hefyd, wrth y weinidogaeth. Heblaw hyny, yr oedd yn foneddiges gall, ddysgedig, rinweddol, a gwir grefyddol. Yr oedd llawer o ddynion nad oedd yn ddigon adnabyddus â hi, yn meddwl nad oedd dim ynddi, a'i bod yn ddiserch, yn cadw yn mhell oddiwrth gymdeithas, yn enwedig pan y deuai rhyw un i mewn i'r tŷ—nad oedd yn siarad cymaint ag oedd ambell un yn dysgwyl. Yr oedd rhyw gymaint felly i ddyeithriaid ag a fyddai yn galw gydag ef; ac yr oedd hyny yn gall iawn ynddi. Yr oedd yn gwybod fod y dynion yn galw er mwyn cael rhyw gydymddyddan â Mr. Richard, nid å hi; ac felly byddai yn gyffredin yn gadael rhyngddynt, ac yn cario yr helyntion teuluol yn y blaen mewn rhyw ran arall o'r tŷ. Pe buasai yn eistedd gyda phob un a ddeuai i mewn ato, ef, ac yn rhoi ei thafod yn mhob ystori fuasai rhyngddynt, buasai yn treulio yr amser gwerthfawr yn segur, a gwneyd ei hun yn ddwl wrth ymyraeth â phethau nad oedd yn perthyn iddi. Ond yr oedd Mrs. Richard yn foneddiges o ddysg, yn gwybod pa fodd i ymddwyn yn dda; o deimladau tyner a boneddigaidd, yn ymylu ar fod yn yswilgar, ac felly yn aml yn cael ei chamddarlunio gan ddynion heb fod yn gwybod digon am dani.

Y mae yn dygwydd fod o'n blaen yn awr ryw sypyn mawr o ysgrifeniadau Mrs. Richard, y rhai sydd yn egluro meddwl diwylliedig, boneddigaidd, ymchwilgar, a gwir grefyddol. Yma y gwelwch nodiadau ar bregethau, sylwadau ar ansawdd odfaon, a dull crefydd a chrefyddwyr yn ei hamser. Gwelir yma nodiadau ar Gymanfaoedd er ys deugain mlynedd yn ol, ac ar bob pregeth bregethwyd yn y Cymanfaoedd hyny, a'r rhai hyny yn feirniadol a doeth iawn. Y mae hefyd lawer o'i barddoniaeth, a rhai hymnau, yn dangos chwaith uchel, a gwythien o dduwioldeb heb sothach yn rhedeg trwy y cwbl.

Nis gallwn roddi ysgrifeniadau Mrs. Richard i mewn yma; canys y maent yn cynwys cyfrol; ond rhoddwn un ysgrif, yn cynwys ychydig o ymadroddion a gymerwyd i fyny o enau Mr. Jones, Llangan, wrth ei wrando yn pregethu yn y flwyddyn 1809 mewn ysgubor a elwir Rogershook. Dok. Y testun oedd Gal. iv. 4, 5: "Pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad."

Cawn weled cynwysiad y testun hwn, fy nghyfeillion, wedi ei ysgrifenu mewn llythyrenau auraidd yn nhragywyddoldeb. "Pan ddaeth cyflawnder yr amser;" nid cyflawnder amser, ond yr amser. Llestr gwag yw amser ynddo ei hun, ond fel y mae dygwyddiadau Rhagluniaeth yn ei lanw i fyny. Y peth cyntaf a ddaeth i lanw i fyny amser oedd cariad Duw; er, y mae yn wir, iddo garu â chariad tragywyddol, eto mewn amser y gwnawd y cariad hwnw yn eglur. Danfonodd Duw ei Fab i lanw amser i fyny. Ni ddaeth gyda holl angylion gogoniant i'n hachub. Na; ni chawsai efe y gogoniant felly; a buasem ni yn rhedeg oddiwrtho, fel y gwnaeth Adda, ac nid rhedeg ato. Eithr efe a gymerodd ein natur ni, fel y gallai ddyfod yn agos atom, a chymeryd gafael arnom. Yr oedd yn mhell oddiwrthym yn ei ogoniant; nis gallasai byth fod yn fwy santaidd nag ydoedd; ac yr oeddem ninau yn mhell oddiwrtho yntau mewn pechod; nis gallasai y diafol a phechod byth ein gwneyd yn waeth nag oeddem. A ddanfonodd rhyw un ato i ofyn iddo am ddyfod i'n hachub? Naddo; yr oeddem gynddrwg a'r cythreuliaid wrth natur. Beth, a ydych am ein gwneyd cynddrwg a'r diaflaid aflan? Ydwyf: nid oes gwaeth defnyddiau yn uffern nag sydd yn ein calonau ni. Yr ydym yn darllen yn llyfr Duw fod calon dyn yn "elyniaeth yn erbyn Duw." Yn mha le yn uffern y gellwch gael gwaeth na hyn? ond, er ein bod mor druenus, fe garodd Duw ni; clywch ef yn dyweyd, Nis gallaf lai na'u caru; danfonaf fy Mab i'r byd i golli pob dyferyn o waed er eu hachub; ac y mae wedi selio ei gariad â gwaed. Pan yr enwaedwyd ef yr wythfed dydd, collodd ychydig ddafnau y pryd hwnw, fel y gwyddoch; ac yr oedd yn dywedyd yn ei iaith y pryd hwnw, Os nad yw hyn yn ddigon, mi ollyngaf fy ngwaed oll; ond mynaf eu hachub hwynt; collaf bob dafn, ond mynaf weled eu dyled hwy wedi ei thalu. Y mae y pechadur wedi ei daflu i garchar; gadewch iddo aros yno nes y mae yn pydru. Na; y mae Crist yn foddlon i dalu ei ddyled. Pan y daeth Crist yn y blaen i'w fachnio, clywaf gyfiawnder a'r gyfraith yn dywedyd, Gollyngwch y pechadur yn rhydd yn awr; gadewch i'r cardotyn tlawd fyned; nid oes ganddo ddim i dalu, ni fyddwn geiniog yn well o'i gadw ef.

Gwnawd Crist yn felldith drosom; ac mae wedi ein llwyr brynu. Nid gwiw i chwi feddwl cael eich hachub drwy eich gweithredoedd; ni dderbyn y gyfraith ddim ond cyflawn daledigaeth. Ni chymer y gyfraith bedwar swllt ar bymtheg ac un geiniog ar ddeg a dimai y bunt; na, ni chymer un ddimai yn fyr. Ond y mae yn dda genyf trwy Grist allu edrych i mewn i'r gyfraith santaidd, a'r ddyled bob hatling wedi ei thalu; y mae un yn fwy galluog na nyni wedi talu y cwbl. Y mae efe wedi talu yr holl ddyled, ac wedi prynu etifeddiaeth dragywyddolini. Beth, a ydym yn cael ein galw i etifeddiaeth o'r hen ysgubor yma? Ydym, ac o leoedd gwaeth o lawer na'r hen ysgubor; gelwir ni oddiar domen y cythraul, lle yr oeddem oll wrth natur. Gofynodd dyn i mi unwaith, "Beth, a ydych yn gwneyd dyn yn beiriant?" Ydwyf, meddwn wrtho, a gwaeth na pheiriant; canys y mae yn symud o chwith, y mae ei olwynion yn troi nid tuag at Dduw, eithr oddiwrtho. Pan edrychwyf i fy nghalon fy hun, yr ydwyf yn cywilyddio wrth feddwl am feddianu teyrnas; ond pan edrychwyf i Grist, a gweled ei bod yn etifeddiaeth brynedig, yna yr wyf yn dechreu codi fy mhen. Pan y byddo eich ffydd yn gwanhau, meddyliwch fod y nefoedd yn feddiant prynedig, yna y bydd hyder. Yr ydym, fy nghyfeillion, yn ymylu y tir dymunol; yr wyf yn meddwl fy mod yn nghymydogaeth y ddinas santaidd. Oh am fod yn barod. Gobeithio y cewch well cynhauaf yma heddyw yn yr hen ysgubor, na phe buasech yn gweithio gyda'r cynhauaf gartref o'r boreu hyd yr hwyr. Chwi weithiwch yn well yfory; cewch fyned adref yn fuan, dros y caeau a'r anialwch gyda llawenydd, gan feddwl am eich etifeddiaeth dragywyddol."

Dyna eiriau Jones Llangan mewn hen ysgubor, a ysgrifenwyd gan Mrs. Richard pan yn ferch ieuanc. Gallem feddwl ei bod yn treulio llawer o amser mewn myfyrio ac ysgrifenu, ac y mae y cwbl yn dangos chwaeth uchel a choethedig. Bu farw mewn tangnefedd, gan bwyso ar Iesu. Aeth o'r blaen ryw ychydig, megys i barotoi y ffordd, a gwneyd yr ystafell yn drefnus i dderbyn ei phriod anwyl, yr hwn oedd i'w dylyn yn mhen ychydig amser.

Nodiadau

[golygu]