Neidio i'r cynnwys

Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen/Rhagdraeth

Oddi ar Wicidestun
Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen Bywgraffiad y Parch Thos Richard Abergwaen

gan Edward Matthews

Cynwysiad

RHAGDRAETH.
PREGETHWYR A PHREGETHU CYMRU.

PREGETHWYR A PHREGETHU sydd eiriau bob dydd a braidd pob ymddyddan yn Nghymru. Siarad cyffredin tai ydyw pregethwyr a phregethu; ïe, dyna y prif bethau siaredir ar hen aelwydydd Cymru. Geiriau cysegredig ydynt gan y genedl; delir hwynt mewn parch goruwch-naturiol, a gwarogir iddynt pa bryd bynag eu clywir gan y mwyafrif. Nid yw hyn yn rhyfedd; canys y mae meddyliau y bobl wedi derbyn pethau mawrion trwy eu pregethwyr; ïe, wedi derbyn eu cwbl oll. Yma y cawsant eu cysuron penaf mewn gofidiau, eu dinas noddfa mewn peryglon, eu tŵr cadarn yn enw yr Arglwydd yn nhir y gelyn, a'u gobeithion am ddiangfa byth gan eu Barnwr y tu draw i'r byd presenol. Yn y pregethu y teimlodd y tlodion gyfoeth yn dyfod i'w rhan hwythau; ïe, anrhydedd a bywyd yn dragywydd. Yn yr amddifadrwydd o lawer o gysuron y byd hwn, ac heb obaith eu cyrhaedd byth, cawsant eu gwala a'u gweddill yn yr efengyl, nes "gorfoleddu mewn gorthrymderau," ïe, neidio yn aml "o dan obaith gogoniant Duw." Y. geiriau glywyd yn y pregethu, yr adnodau esboniwyd ac a weithiwyd trwy y pregethau at feddyliau y bobl, oedd y ceryg deimlasant o dan eu traed yn afon yr Iorddonen, nes bloeddio concwest yn nghanol y dyfroedd. Clywodd y ferch ei mam yn gorfoleddu yn angau wrth gofio adnod yn mhregeth y Parch. Ebenezer Morris, John Elias, Christmas Evans, Williams o'r Wern, y ddau Richard, a chanoedd gyda hwy; y mae yr hen adnod yn cydio yn hono, ac yn y bachgen sydd yn sefyll yn yr ymyl; ac y mae y pregethu barodd i'w mam orfoleddu yn yr afon yn myned yn dra chysegredig yn eu meddyliau, ac yn siarad teuluol trwy yr holl berthynasau. Peth cyffredin yn Nghymru yn y nos, yn y gauaf trymaidd, fydd siarad am yr hen bregethwyr, y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymanfaoedd er ys llawer dydd; pwy oedd yn pregethu ynddynt, eu testunau, rhanau o'r pregethau, y teimladau, a'r cynhyrfiadau o dan hwn a'r llall; a phwy ddaeth at grefydd wedi y Gymanfa hono. Byddai y tad yn aml yn dechreu son am ryw Gymanfa, yn twymno wrth siarad ac wrth gofio, nes y byddai y gwrandawiad mwyaf astud yn y teulu; pawb fel pe baent ar eu heithaf yn ceisio dal. Elai gwr y tŷ yn y blaen yn ddoniol dros ben, gan gyfeirio at amser cynaliad y Gymanfa, y lle, y pregethwyr, y gynulleidfa, yr effeithiau yn y gwahanol odfaon, a pha beth fu y canlyniadau. Byddai gwr y tŷ yn cyfeirio yn awr ac eilwaith at y wraig pan y byddai eisiau help i gofio, neu ynte am ei chydsyniad â'r hyn a ddywedai. "Mari," meddai,

a wyt ti yn cofio am y Gymanfa hono yn Llangeithio, pan oedd Jones, Edeyrn; Thomas Jones, Dinbych; John Elias, a Richard, Abergwaen, yn pregethu yno. Yr oedd Richard y nos gyntaf, os wyt yn cofio, gyda gwr dyeithr o'r Gogledd?" "Cofio!" ebe Mari, "ydwyf yn burion; yr wyf yn cofio cystal a doe, a mi gofiaf byth hefyd; tua chwech mis ar ol geni Margaret oedd hi, wyth mlynedd ar ugain i'r haf hwn. Nid oedd Mr. Richard ond llanc ieuane y pryd hwnw, main a theneu, a'i ddau lygad mawr yn serenu yn ei ben; yr oedd golwg brydferth iawn arno. Yr oedd llawer yn cydymdeimlo ag ef yn y Gymanfa hono wrth ei weled mor ieuanc, a chymaint o'r hen ychain cryfion o'i gwmpas; ond cymerodd yn destun, 'A gwaed y taenelliad;' ac yn mhen tipyn dyma hi yn dod, nes oedd yr holl le yn floeddiadau o ben bwy gilydd. O ryfedd! Dyna'r peth mwyaf a welais erioed. Yr oedd yno filoedd yn neidio ac yn gorfoleddu, heb wybod yn y byd yn mha le yr oeddynt. Yr wyf yn cofio gweled pedwar dyn mawr yn y cornel uchaf o'r cae yn gorfoleddu, nes iddynt gwympo yn deg, dan ganu y gair hwnw

'Gwaed y groes sy'n codi fyny
'R eiddil yn goncwerwr mawr;
Gwaed y groes sydd yn darostwng
Cewri cedyrn fyrdd i lawr;
Gâd im' deimlo
Awel o Galfaria fryn.'


A bregethodd y gwr hwnw o'r Gogledd wedi'n, nid wyf fi ya cofio dim yn y byd am hyny." "Do, do, fe bregethodd yn sicr; yr wyf yn cofio ei destun yn burion; yr oedd yn pregethu yn nghylch y blaguryn yn y Prophwyd Zechariah. Pregethwr neillduol ydoedd hefyd; ond aeth Richard â'r hwyl i gyd o'i flaen ef. Yr wyf yn cofio yn burion iddo droi oddiwrth y bobl ag oedd yn yr hwyliau, ac aeth y lleill o'i flaen, gan adael y gorfoleddu ryw ychydig i'r cefn. Yr oedd hi yn bregeth fuddiol, ond yr oedd y gwynt wedi myned." "Dyn anwyl, Thomas bach, nid wyf fi yn cofio un tipyn erioed am yna." "Am na; pa fodd y gelli di gofio, Mari fach? oblegyd yr oeddit ti c'uwch dy gloch a neb; a thyna lle y buasit eto, am wn i, oni fuasai i mi dy gario i'r pentref. Cwrdd da iawn hefyd oedd cwrdd chwech y boreu, o dan yr hen Ishmael Jones; yr oedd yr hen ddyn yn dân poeth, a bu gryn orfoleddu yr odfa hono. Am ddeg, pregethodd John Elias; nid wyf yn cofio yn iawn pwy oedd gydag ef, os nad Thomas Jones Caerfyrddin. Beth bynag, y mae yn gofus genyf am yr odfa hono, a mi gofiaf byth, yr wyf yn meddwl. Yr oeddwn yn meddwl fod ei wyneb yn dysgleirio; yr oedd y bobl yn cwympo fel derw o'i flaen; a'r pregethwyr yn wylo ac yn llefain fel plant ar ben y stage. Yr oedd Mr. Ebenezer Morris yno, a Mr. Richard, Tregaron; yr oeddynt yn wylo fel y gallasech eu golchi â dagrau. O ryfedd! y fath olwg oedd ar y dorf fawr; yr wyf yn meddwl fy mod yn eu gweled y fynyd hon. Yr oedd yno filoedd wedi annghofio eu ciniaw, a'r cyfarfod dau yn dechreu cyn bod y llall yn dybenu. Pregethodd John Roberts o'r Gogledd, a William Morris am ddau; ac yr oedd yn gwella o hyd; parhaodd y gorfoleddu hyd nos; torodd diwygiad allan wedi y Gymanfa hon, a cherddodd drwy yr holl wlad. Daeth miloedd at grefydd yn y tymhor hwnw; llawer o honynt sydd wedi myned i'r nefoedd yn eu cariad cyntaf, ac y mae canoedd yn aelodau hardd drwy yr holl eglwysi. Diwygiad rhyfedd oedd hwnw hefyd; welais i erioed bethau mor nerthol."

Byddai y wraig yn gofyn aml gwestiwn, y plant hwythau yn holi yn nghylch y pregethwyr, pwy oeddynt, a ydynt yn fyw yn awr, a llawer o bethau eraill, nes yr arweiniai hyny at ymddyddan diddarfod yn mron. Byddai y plant mor gydnabyddus ag enwau yr hen bregethwyr a'u hanes a phe magesid hwynt yn eu plith. Byddent yn siarad am danynt fel rhan o'u heiddo, neu fel rhai yn dal yr undeb agosaf a hwy. Ië, pregethwyr a phregethu yn Nghymru sydd yn siarad tŷ, yn ymddyddanion aelwydydd, yn ymrafaelion weithiau, yn heddwch a mwynhad brydiau eraill; yn ddadleuon creulon, yn gytundeb hapus, yn llafur a lludded gwŷr a gwragedd, ac yn chwareu plant. Yr oedd pregethu yn aml yn myned yn destum dadl mor boeth, nes y codai ymrafael gwyllt o hono; ond wed'yn yr oeddynt yn dyfod i gytundeb yn yr un man. Llawer o fechgyn wedi codi fyny gyda chrefydd, ond wedi troi yn wyllt, pe clywsent ryw rai yn taflu dirmyg ar eu pregethwyr hoff, byddent yn barod i golli eu gwaed mewn moment. Nid peth annghyffredin fyddai ffrae lled boeth rhwng gwr a gwraig yn nghylch talentau a doniau pregethwyr; ond darfyddai y ffrae yn fuan mewn cytundeb hapus o dan deimlad o effeithiau cysurol y weinidogaeth ar eu meddyliau. "Wel," meddai y wraig, "nid oes genyf fi ddim i ddyweyd ond hyn: mi deimlais i fy meichiau i gyd yn myned i lawr, y rhai oedd yn pwyso arnaf fel mynyddoedd o blwm cyn y cwrdd." "Ië, ïe," ebe y gwr, "dyna'r cwbl, ferch, yw hyny yn y diwedd, cael y fraint o deimlo y weinidogaeth yn ein cynorthwyo i fyned drwy y byd, ac i obeithio am fywyd tragywyddol; y mae hyn yn well na 'miloedd o aur ac arian." Fel hyn chwi welwch fod yr ymrafaelion yn nghylch y pregethu yn wahanol i lawer peth; y maent yn ymdoddi i hapusrwydd tawel yn y teimlad o'u rhinwedd. Llafur penaf llawer gwr a gwraig dduwiol yw cael lle cysurus i'r pregethwyr, gan eu lletya fel angylion. Y maent yn llafurio gyda'r byd yn ddiwyd, er mwyn cael peth i gyfranu, er gwneyd achos crefydd yn brydferth a llwyddianus yn eu teuluoedd a'u hardaloedd. Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, fyddo gydag ysbrydoedd y cyfryw, ac a'u cadwo i fywyd tragywyddol. Yn ddiddadl y mae genym lawer o'r cyfryw heddyw, er bod dynion yn barod i feddwl mai wedi myned heibio y mae pob peth da. Na; o drugaredd mae lluoedd eto heb blygu eu gliniau i Baal, y rhai sydd yn gwasanaethu Duw yn eu cyrph ac yn eu hysbrydoedd, yn gorfoleddu yn Nghrist, heb ymddiried yn y cnawd.

Pan y bydd peth mewn bri uchel mewn gwlad, fe welir y plant o bob oedran yn ymaflyd ynddo. Gwelsom chwareu bando yn flodeuog; y pryd hwnw gwelsech y dynion ieuainc yn pentyru at eu gilydd i'r caeau, i chwareu o foreu hyd nos; yr hogiau hwythau mewn man arall yn chwareu am fywyd; y plant hefyd, y rhai sydd heb fod yn gallu gwneyd nemawr ond cerdded, oedd yn gwneyd pob ymdrech i ymaflyd mewn bando, a chwareu gymaint y medrent. Ymddengys fod rhyw ysbryd yn perthyn i wahanol bethau, ac y mae hwnw yn cymeryd pawb ar amserau, fel y maent yn gweithio am fywyd o dan ei ddylanwad. Bid a fyno, gellir deall cyn hir beth sydd mewn bri mawr yn y wlad wrth weled y genedl yn ymgymeryd yn fywiog ag ef, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf. Nid peth annghyffredin yw gweled pregethu yn chwareu plant yn Nghymru, yr hyn sydd yn myned yn mhell i egluro mai un o brif bethau Cymru yw eu pregethwyr a'u pregethu. Gwelir plant canoedd o deuluoedd, eu prif chwareu yw chwareu cyrddau bach. Byddant yn ymgrynhoi at eu gilydd, a'u llyfrau ganddynt; un yn rhoi hymn allan, yn dechreu canu, yn darllen, yn myned ar eu gliniau, pawb mor ddystaw a'r bedd; yn codi, yn canu eilwaith, un o honynt yn myned i ben ystol, yn pregethu yn ei lwybr ef, tra y byddai yr holl blant yn ddystaw a defosiynol iawn eu hymddangosiad. Efallai ar ddiwedd y cyfarfod y byddai rhyw un yn codi ac yn cyhoeddi rhyw bregethwr adnabyddus i fod yn pregethu y Sabbath nesaf. Y maent yn gwneyd pob peth fel y gwneir yn y capel; ac y mae y pregethwr a'r pregethu mewn bri uchel ganddynt. Pan yr elo rhyw beth yn chwareu plant mewn gwlad, y mae yn sicr fod cryn fri ar hwnw gan y rhieni, canys cynhyrfir y plant gan yr hyn a glywant yn cael ei siarad gartref. Llawer iawn o bregethwyr enwog Cymru sydd wedi bod yn chwareu pregethu yn blant, wedi dal yr ysbryd hwnw er eu cof cyntaf, ac y mae heb ymadael byth. Elai y tad a'r fam yn mhell i wrando pregethu, trwy lawer o lafur a lludded, a'r plant hwythau yn chwareu pregethu o gwmpas y tŷ; a pha beth a wyddom ni na ddaliodd llawer o honynt ysbryd pregethu o'r amser hyny, ac y bu rhyw neillduaeth arnynt o'u mebyd at waith y weinidogaeth?

Fel gwlad orchfygedig, ac yn ddarostyngedig i lywodraeth estronol mewn cymhariaeth, dyoddefodd Cymru lawer o gam a cholled am oesoedd; ac amddifadwyd hi o ragorfreintiau y dylasai fwynhau fel rhanau eraill o'r Deyrnas Gyfunol. Nid yw y llywodraeth wedi gwneyd yn deg å Chymru; nid ydyw wedi cael y sylw priodol gyda golwg ar addysg; y mae yn haeddu university, a llawer o bethau eraill, lawn cystal a'r Iwerddon, 'does posibl, os nid ychydig yn well; ond wedi ei hesgeuluso y mae yn ddirfawr, a hyny i fesur helaeth gan ei meibion ei hunan. Eithr yn yr amddifadrwydd o lawer o ragorfreintiau a fwynheir gan genedloedd eraill, y mae Cymru wedi ei breintio a'i bendithio â phregethu mwy pur, mwy tanbaid, ac efengylaidd, er gwneyd i fyny am yr holl golledion hyn, ïe, a mil mwy. Yr oedd y Brenin tragywyddol, Brenin y breninoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yn codi, yn donio, ac yn cymhwyso dynion i bregethu yr efengyl, nad oedd neb ond ei hunan allasai wneyd y cyfryw. Gwaith y Duw Goruchaf, a gweision y Duw Goruchaf, oedd y dynion hyn, y rhai a neillduwyd i'r unig bwrpas, i fynegi i'w cydgenedl ffordd iachawdwriaeth. Taflodd yr Arglwydd lygad tosturiol ar ein gwlad dlawd, yr hon oedd yn ymdrybaeddu yn ei gwaed, a dywedodd, "Yn dy waed bydd fyw." Cododd iddi athrawon wrth fodd ei galon, ac wrth fodd ei chalon hithau hefyd, y rhai oedd iddi fel cân cariad yn canu yn dda. Llafuriodd y dynion anwyl hyn ar eu traul eu hunain, trwy lawer o dlodi ac erledigaethau, i bregethu yr efengyl a chodi Ysgolion Sabbathol, er gwareiddiad ac efengyleiddiad y genedl. Llwyddodd Duw eu llafur caled; ac er na feddent ryw lawer o ddysg na nemawr o aur, gwnawd hwynt yn allu mawr er daioni yn y dalaeth; ac erbyn heddyw y mae Cymru yn dechreu dyweyd wrth y byd fod yma fywyd eto.

Yr oedd pregethwyr Cymru yn ol urdd Melchisedec, yr urdd nad oedd dim dyn yn cyfryngu rhwng Duw a hwy; yr oeddent yn derbyn eu swyddau drwy alwad uniongyrchol oddiwrtho; ac argraff ddwyfol oedd ar ei gweinyddiad. Dyma oedd yn gwneyd Cymru yn uchel, hyn oedd yn gwneyd ei heddwch fel yr afon, a dyma y peth oedd yn ei dal i fyny yn ei gorthrymderau, ac yn peri iddi orfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Do, do, gwelodd ein Harglwydd yn dda i fendithio Cymru a phregethu heb fod yn ail i un wlad dan haul. Eu llwch sydd yn gysegredig yn meddwl y genedl; ac y mae hi yn falch o'i meibion sydd heddyw yn chwythu yn yr udgorn, gan alw byddinoedd y Duw byw yn nghyd. Yr ydym yn gwybod y gall gwledydd eraill ymffrostio yn eu hathronwyr, eu hareithwyr hyawdl a dysgedig, eu hastronomyddion, eu cyfreithwyr, eu deddfroddwyr, eu gwladeiddwyr, eu llenorion, a'u celfyddydwyr, yn fwy na Chymru; a hyny o herwydd y manteision helaeth a fwynheir ganddynt uwchlaw Cymru. Nid ydynt yn rhagori o ran galluoedd gwreiddiol; canys yr ydym yn gweled pan y bydd y Cymro yn cael yr un manteision a'r Sais neu ryw genedl arall, ei fod yn gyffredin yn rhagori ar ei gymydogion. Cedwch hyny yn ddystaw hefyd, peidiwch a gadael iddo fyned allan; nid oes eisiau canu y gloch uwchben pob peth; y mae rhyw bethau o'r goreu rhyngoch chwi a ninau, na fyddent yn edrych cystal pe baent yn myned rhwng pawb. Y mae ambell beth yn ddigon cysurus rhyngom ni a'n gilydd mewn ffordd o gyfeillach a mwynhad, heb yn wybod iddynt hwy; canys digon cyfiawn i ninau, fel pawb eraill, gael rhyw bethau ar ein penau ein hunain weithiau, er mwyn bod yn gyfeillgar, a chael tipyn o gymydogaeth dda.

Wedi yr holl ganiatau a wnaethom o herwydd manteision, nid ydym wrth hyny yn rhoi fyny y cwbl oll. Y mae gyda ni ein hathronwyr, ein hieithwyr, ein hastronomyddion, ein cyfreithwyr, ein gwladeiddwyr, ein llenorion, ein celfyddydwyr, y rhai sydd yn alluog i gystadlu â'n cymydogion, yn enwedig os cawsant yr un manteision a hwythau; eithr am ein pregethwyr, yr ydym yn barod i herio yr holl greadigaeth. Nid ydym yn diystyru am foment Athen a'i hathronwyr a'i beirdd, na Rhufain a'i chadfridogion a'i cherfwyr; yr ydym yn eu parchu, ac yn edmygu eu heneidiau mawrion; eithr yr ydym yn dal allan Gymru a'i phregethwyr yn ngoleu haul a llygad goleuni, heb gywilyddio eu dangos hyd derfynau eithaf y ddaear. Pa fodd y gall hyn fod? oblegyd darllenir y traethodau mwyaf dysgedig a champus, ac argreffir hwynt yn gyfrolau teilwng o astudiaeth yr efrydwr dyfnaf. Y mae hyn oll yn wir; ac yn hyn nis gallasai pregethwyr Cymru gystadlu a hwy; eithr y mae rhyw beth mewn pregethu heblaw darllen traethawd dysgedig; ac yn hyn yn gyffredin y bydd pobl yn ymddyrysu ac yn ymrwystro. Dynion annysgedig yw poblogaeth y byd, y werin; ac y mae y nefoedd wedi darpar yr efengyl i achub dyn; nid dyn dysgedig, eithr dyn fel y cyfryw. Yn gymaint, gan hyny, fod yr efengyl yn drefniant i'r dyben hwnw, yr oedd yn angenrheidiol fod y datguddiad dwyfol mewn ffurf mor syml fel y gallai yr annysgedig ei ddeall, a chael lles drwyddo i fywyd tragywyddol. Felly y mae. Er yn guddiedig oddiwrth y doethion a'r deallus yn aml, y mae yn amlwg ac yn ddealladwy i rai bychain, y rhai sydd yn ei dderbyn ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth lawer. Yr ydym yn teimlo anhawsder mawr i ddyweyd beth yw pregethu yr efengyl; ond y mae yn ddigon amlwg mai nid darllen lecture ddysgedig ar ryw ran o dduwinyddiaeth; y mae y rhai hyny yn fuddiol i ryw ddosbarth eu darllen; ond nid oes nemawr o rinwedd ynddynt fel pregethau i'r dyben o achub dyn rhag colledigaeth, nerthu y gwan, cysuro y galarus, a dwyn heddwch i gydwybod yr euog. Na, rhaid cael rhyw beth heb y Bampton Lectures at hyn. Dywedwch a fynoch am bregethu fel proffesiwn ddysgedig, ymddengys fod rhyw beth gwahanol ynddi i broffes o'r gyfraith neu physigwriaeth; yr ydym yn rhwym o feddwl fod rhyw beth dwyfol uniongyrchol yn cymhwyso y meddwl at ei phregethu, a goruchwyliaethau trymion beunydd ar y meddwl, er mwyn cadw dyn o dan argraff briodol i'w phregethu. Nid traethodwr mawr oedd Whitfield, ond pregethwr mawr; nid ydyw ei bregethau argraffedig ond y pethau symlaf; ond yr oedd rhyw beth yn ei bregethu ag oedd yn peri i wallt areithwyr a ffug-chwareuwyr penaf Llundain sefyll ar eu penau yn syth. Yr oedd Duw fel yn llenwi ei enaid â theimlad yr efengyl a bregethai, nes oedd geiriau yn codi yn naturiol allan o'r cynhyrfiad hyny, ac yn disgyn fel tân poeth ar feddyliau y gwrandawyr, nes cynyrchu teimlad nad oedd neb yn gallu ei effeithio ond Duw ei hun. Duw yn unig all wneyd pregethwr mawr. Pe gosodech ddeng mil o ddynion o flaen y Bampton Lecturer, ni wnaent gymaint a gwrando arno; ond gosodwch John Elias, yr hen Gristmas, Ebenezer Morris, neu un o'r Richards o'u blaen, dacw allu! dacw effeithiau! Y mae rhyw beth yn myned, ys dywed y bobl; rhyw wynt nerthol fel yn cerdded trwy yr eneidiau; yn eu hysgwyd hyd eu gwraidd; a'u cyrph yn cael eu hysgwyd o'u penau i'w traed hefyd. Beth ydyw? Goruwch natur ydyw, goruwch dysgeidiaeth ddynol; ïe, goruwch pob peth ag sydd yn y byd hwn. Dynion ydyw y rhai yna wedi eu gwneyd gan Dduw i bregethu yr efengyl i'r werin er eu hachubiaeth; dynion ydynt o dan oruchwyliaeth Ysbryd Duw yn gyson, er mwyn eu cadw o dan argraff briodol i'w phregethu; a dynion o dan ddylanwad dwyfol yn traddodi; a'u hunig amcan yn eu llafur oll, ïe, yn mhob pregeth, i droi rhyw rai o gyfeiliorni eu ffyrdd, a chadw eneidiau rhag angau.

Dyweyd fel y mae y cwestiwn duwinyddol yn sefyll, gyda golwg ar ei hanesyddiaeth, a'i athroniaeth, a llawer o bethau cyffelyb, y mae y Bampton Lecturer; ond siarad â'r eneidiau y mae y weinidogaeth yna; cario cenadwri uniongyrchol o orsedd Duw i eneidiau mewn gwlad bell; ymaflyd ynddynt a'u gosod i sefyll o flaen y Barnwr; yn trin eu hachos yno, yn eu condemnio byth yn eu pechodau, yn eu trosglwyddo i gosp dragywyddol, ac yn cloi y carchar arnynt byth. Y mae y dynion yn teimlo hyn oll yn myned yn y blaen yn eu heneidiau; yn gwaeddi allan am drugaredd, ac yn gweddio am ddiangfa; gyda hyny dyma genadwri o faddeuant pechodau yn gyfeiriol at yr eneidiau hyny sydd yn teimlo eu colledigaeth, ac yn cael ei harllwys i mewn fel balm i'w calonau drylliedig. Duw ysbrydoedd pob cnawd sydd yn teyrnasu yn y byd ysbrydol, ac yn cynyrchu effeithiau ysbrydol drwy ei Ysbryd; nid yn unig y mae yno hollalluawgrwydd yn gweithio, ond hollwybodaeth hefyd, canys canfyddir y teimlad pell a dwfn yn y galon, a chyfeirir cenadwri at hyny.

"Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno; a thi a glywi ei swn ef; ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned; felly y mae pob un a'r a aned o'r Ysbryd." Nid yw y gwynt yn ymddibynu ar ewyllys dyn, nac wrth ei ewyllys; oblegyd ef, fe chwyth lle y myno. Eithr y mae ewyllys, serch hyny, yn uwch nag ef, ar yr hwn y mae yn ymddibynu, ac yn ol yr hwn rhaid iddo chwythu; canys y mae efe yn ei ddal yn ei ddwrn; ei swn ef a'i effeithiau glywir ac a welir; efe ei hun sydd yn guddiedig. Dacw y coed draw yn rhwygo fel dellt; ïe, lluaws o honynt yn cwympo i'r llawr o flaen yr ystorm gref; ond pwy all ei alw i gyfrif? Yr ydych yn gweled y coedydd yn rhwygo; eithr nid ydych yn gweled yr achos; nid ydych yn clywed dim ond swn. Rhaid yw fod peth felly yn ngoruchwyliaeth yr efengyl; nid oes amheuaeth nad yw Duw yn wir yn y pethau hyn, mewn ffordd o ddylanwad uniongyrchol ar feddyliau. Goruchwyliaeth yr Ysbryd ydyw; ysbryd a bywyd yw y geiriau; byd ysbrydol yw byd y meddwl, lle y bydd Duw yn eistedd, ac yn goruchwyliaethu. Y mae rhyw ddynion yn mhob oes wedi bod o dan ddylanwad Duw mor fawr, a than ei gyfarwyddiadau anffaeledig, fel ag y maent yn cael ffordd i ymerodraeth y meddwl, a'r agoriadau ganddynt, yn agor y drysau, ac yn myned i mewn i'r celloedd tywyllaf. Y maent yn eu gweinidogaeth yn gallu myned i mewn, a gwysio y troseddwr ger bron Duw, yn ei gondemnio i gosp dragywyddol; ac ar ei edifeirwch eilwaith yn myned i mewn â llonaid cawg eu gweinidogaeth o waed y taenelliad, yn cyhoeddi y troseddwr yn rhydd, ac yn glanhau yr aflan oddiwrth ei holl aflendid. Wel, y mae llawer o swn i bethau fel hyn weithiau; bydd y cyffroadau anweledig yn y byd ysbrydol neu feddyliol yn ysgwyd y corph bron yn chwilfriw, fel y bydd y gwynt yn ysgwyd y dderwen gref. Nid yw y dderwen gryfaf ond fel brwynen neu gorsen ysig o flaen y gwynt nerthol yn chwythu; a phan y delo Ysbryd Duw gyda gweinidogaeth yr efengyl, nid gwiw siarad am weddeidd-dra a boneddigeiddrwydd, a rhyw res o eiriau gardd-flodau y cnawd; yn chwilfriw yr å y cwbl o'i flaen yn anwrthwynebol. Yr ydym yn ofni mai aflwyddianus y byddwn wedi ein holl drafferth, i roi rhyw lawer i ddeall yr hyn yr ydym yn amcanu; pwnc tywyll ydyw i'r cyffredin.

Bydd llawer yn deall fod gwahaniaeth annghyffredin rhwng gwir bregethu yr efengyl a darllen traethawd dysgedig, ond nid ydynt yn gallu cyfrif am y peth mewn modd yn y byd. Yr unig ffordd y maent hwy yn deall, yw y gwahaniaeth annhraethol yn eu teimladau o dan y naill a'r llall. Y mae y traethawd yn darllen yn dda, yn ffrwyth ymchwiliad mawr, ac yn ymborth i'r deall, ond yn rhyw fodd nid ydyw yn cydio yn yr enaid, a'i ysgwyd ger bron Duw, yn ei rwymo, yn ei gondemnio, yn ei ollwng yn rhydd, yn cyhoeddi maddeuant, nes ei godi o ddyfnderoedd i'r lan. Gweinidogaeth yn gwneyd hyny yw dirgelwch y peth. Gall fod pregeth o'r cyfansoddiad goreu, yn unol a'r rheolau goreu; yn llawn synwyr cyffredin, a synwyr Biblaidd, a beirniadaeth ysgrythyrol fuddiol, ac yn cael ei darllen neu ei thraddodi yn weddus ac mewn trefn; pob pen yn daclus, a'r holl gasgliadau ar flaen y gynffon yn drefnus; eto corph heb enaid ydyw. Nid ydym yn amcanu dysgu nad oes eisiau y pethau uchod, eithr ymdrechu yr ydym i ddangos fod rhyw beth ag sydd yn fwy a thu hwnt i hyny mewn gwir bregethu.

Nid mawredd pregeth Luther, fel cyfansoddiad ysgolheigaidd, oedd yn ei wneuthur y pregethwr ofnadwy ag oedd yn cydio yn ngyddfau ymerawdwyr, a'u hysgwyd fel plant; yn peri i Harri yr Wythfed edrych fel ffwl, ac ysgwyd gorsedd Prydain o dano; yn cydio yn ngwallt y pab, ei dynu yma ac acw wrth ei gudyn, yn lluchio hetiau y cardinaliaid am draws eu gilydd, ac yn peri i'r offeiriaid waeddi allan yn groch, Beth ddaw o'n Diana ni? Yr oedd gweinidogaeth Luther yn bwrw cestyll i'r llawr, yn lluchio dychymygion i'r pedwar gwynt, yn tynu y bobl ar ei ol, ac yn eu hachub oddiwrth eu pechodau. Nid penau pregeth, nid tlysni cyfansoddiad, oedd yn gwneyd hyn, ond ysbryd gweinidogaeth yn cael ei chynaliaeth mewn cymdeithas a Duw, ac yn tori allan yn sel danllyd dros y Gwr fu farw, ac yn dosturi at eneidiau dynion. Rhai felly oedd ein tadau ni; hyn oedd eu prif enwogrwydd; ac y mae yn ddigon tebyg na fendithiwyd gwlad erioed â mwy cyflawnder o weinidogaeth ysbrydol na Chymru dlawd. O drugaredd y mae heb ymadael eto; y mae y peth hwnw heb ymatal; cyfrenir ef gan y Bod Goruchaf yn ein dyddiau ni fe allai gymaint yn Nghymru ag un wlad arall dan haul. Wel, a chymeryd pob peth o dan sylw, gall Cymru ymffrostio eto, er yn amddifad o lawer o bethau, mai ynddi hi y mae y pregethu goreu yn y byd; ac ynddi hi hefyd y lletya y teimlad cryfaf at wrando pregeth. Pa bethau bynag a gollir eto, cadwer hyn yn fyw yn mhlith ein cenedl ac yn ein gwlad hyd y dydd olaf.

Pan y teithir tiroedd Lloegr, yr ydym yn cyffesu yn rhwydd fod yno well tir, gwell tai, ac fe allai gwell bywioliaeth; ond a oes yno well pregethu? A ydyw tlodion Lloegr yn gwybod cymaint am yr efengyl a thlodion Cymru? A ydynt wedi eu dysgu fel yn Nghymru, i ddysgwyl cysuron cryf drwy yr efengyl? A ydynt yn pentyru i wrando pregethu, gan ddylyn pregethwr am ddiwrnodau? Ah, y mae hyn oll yn beth dyeithr iddynt hwy. Gwelir fod gwerin Lloegr, ar y cyfan, yn esgeulusedig, yn ymdroi mewn arferion isel, ac mewn cryn anwybodaeth o'r efengyl. Bwyta ac yfed yw eu prif efrydiaeth hwynt, a chael y Sabbath yn ddiwrnod ysbleddach a llonedigaeth. Y mae eisiau pwys o beef steak, a can of Burton, and recreation, beunydd arnynt hwy. Nefoedd bwyta, yfed, ac ymddifyru yn gnawdol, yw eu nefoedd hwynt. Am y Cymry tlodion, byddant yn foddlon i redeg a chrwstyn sych yn eu dwylaw heb yr un giniaw, yn hytrach na methu clywed rhai o'u pregethwyr mwyaf dewisol. Y maent hwy yn cael digon o recreation wrth deithio dwy a thair gwaith yr wythnos dwy a thair milldir o ffordd i foddion gras, ac yn cael iechyd corph ac ysbryd yn y canlyniad. Clywir y Sais yn siarad wythnos yn nghylch ciniaw dda, neu swper dda; ond am y Cymro, pregeth dda yw testun ei siarad ef. Fe gaiff y glwth Saesoneg y cwrw, y steaks, a'r recreation; a bydd y Cymro yn foddlon ar fwyd a diod gyffredin; ond bydd yn rhaid iddo gael pregethu annghyffredin. Os ydyw yn ymfoddloni yn weddol heb ddanteithion y byd, ni cheir ganddo fod yn dawel er dim heb ddanteithion goreu yr efengyl. O na, rhaid iddo gael "gwledd o basgedigion" yma, o "basgedigion breision, a gloyw win puredig." Wel, y mae miloedd yn Nghymru a gydsyniant â ni pan yn datgan ein boddlonrwydd iddynt gael gwell tir, gwell tai, gwell bwyd, ond yn unig i ni gael cadw gwell pregethu.

Fe ddichon y bydd rhai yn barod i ddyweyd mai rhyw sel ddall yw peth fel yna-nad oes dim ynddo mewn gwirionedd. Nid ydym am gablu y cyfryw; nid ydynt yn wrthddrychau i'w cablu, ond i dosturio wrthynt. Yr ydym yn ymryddhau yn llwyr oddiwrth bob teimlad cenedlaethol pan yn siarad fel hyn, oblegyd nid ydym yn rhoi y goreu i'n gwlad a'n hiaith mewn dim ond eu cysylltiadau â'r efengyl yn unig. Saesoneg yw iaith masnach ein gwlad, a iaith llysoedd ein gwlad, ïe, iaith yn agos pob peth ein gwlad; ac y mae yn un dda iawn hefyd; fe allai yn rhagori yn mhell; nid ydym yn dadleu dim ar y fath bwnc, am hyny gwelwch ein bod yn ddigon rhydd oddiwrth sel daleithiol; eithr barn deg, tebygem ni, yw dyweyd fod rhyw beth yn y Gymraeg fel iaith ag y mae yr efengyl a hithau yn ymdoddi i'w gilydd mor dyner, nes peri rhyw ragoriaeth, buom bron a dyweyd anfeidrol; beth bynag, cymaint o ragoriaeth fel y mae yn anhawdd ei ddesgrifio.

Pa brydferthion neu anmhrydferthion bynag ddichon fod yn yr iaith Gymraeg, nid ydym yn ewyllysio ymwneyd dim â hyny; eithr dywedyd yr ydym fod pregethu yr efengyl ynddi yn rhyw brydferthwch a gallu annghydmarol; a bod yn werth y drafferth o'i dysgu er mwynhau hyny. Y mae digon o ddynion i gael ag sydd yn gwybod Saesoneg lawn gystal a Chymraeg, a gwell am hyny; eithr nis gallent gael yr un teimlad hyfryd wrth wrando pregeth Saesoneg ag un Gymraeg. Clywsom amryw o'r fath yn dywedyd, "Y mae yn well gyda ni Saesoneg at bob peth ag sydd yn y byd, ac y mae yn well gyda ni ddarllen Saesoneg; eithr y mae yn hyfrytach genym wrando un o brif bregethwyr Cymru yn pregethu yn Gymraeg nag ugain o Saeson." "Wel, hawyr, rhyw beth digrif dros ben yw peth fel hyn, onide?" Ië, gellir galw y peth yn ddigrif, am ddim a wyddom ni, ac eto yn wirionedd hollol. "Yr un peth yw pregethu Crist yn mhob iaith, onide?” Yr un peth yw athrawiaeth y groes yn Gymraeg ag yn Saesoneg; a rhyw beth o'r un natur yw credu yn hyny hefyd, tebygem. Ië, felly y mae; nid oes dim i ddyweyd yn erbyn y gwirionedd yna, canys yr un yw Crist, yr un yw angau y groes, a'r un yw credu ynddo, yn Gymraeg a Saesoneg; ac eto, wedi y cwbl, y mae pregethu yr efengyl yn Gymraeg yn llawer mwy hapus a mwy effeithiol nag yn Saesoneg. Gellid meddwl fod yr iaith, bywiogrwydd y genedl, hynodion y cymeriad Cymroaidd, wedi cael bod i ddybenion efengyl; y maent yn rhyw fodd yn taro eu gilydd, ac yn dra chydnawsol. Y pethau hyny a edrychid arnynt yn gywilyddus yn Saesoneg mewn cysylltiad â phregethu yr efengyl, sydd yn ogoneddus yn y Gymraeg. Dyma y llais, y donaeth, ag sydd yn swyno Cymry y ffordd y mae yn cerdded, a ystyrid yn farbariaeth perffaith mewn cysylltiad a phregethu Saesoneg. Ac fe fyddai hefyd; oblegyd peth perthynol i bregethu Cymraeg ydyw; a phan ceisir ei gario i un iaith arall, barbariaeth yw. Nid oes gan y Saeson un drychfeddwl am seiniadaeth (intonation) y Gymraeg; ac y mae yn anmhosibl iddynt ffurfio drychfeddwl cywir ond trwy ddysgu yr iaith a gwrando pregethu ynddi. Pan toddai ysbryd Richard, pan tynai ei law dros y cap du oedd ar ei ben, a'i thaflu allan bob yn ail, pan ymddyrehafai ei lais o dan y teimladau toddedig hyn, ac y gollyngai allan ei floeddiadau melusber, dan gario y cwbl o'i flaen yn deg, nid oedd yr un Cymro, bydded yn ddysgedig neu yn annysgedig, a gyfrifai hyny yn farbariaeth. Ah, na, cân cariad ydoedd i'w clustiau a'u calonau, yn eu swyno ac yn codi eu meddyliau yn mhell pell uwchlaw gwrthddrychau daear.

Bydd rhai dynion yn meddwl mai rhyw beth yn perthyn i'r oesoedd tywyll oedd peth felly; a phan y delo dynion i sefyllfa uwch o ddiwylliant, y bydd yn farbariaeth yn eu barn. Nid ydym yn meddwl hyny. Yr ydym yn cyffesu fod llawer yn gwneyd eu hunain yn ffyliaid, ac yn gwneyd eraill yn annghysurus wrth wneyd ystumiau annaturiol, a lleisiau ansoniarus ac annymunol. Byddai llawer dylluan dwl, wrth geisio efelychu per-acenion yr eos, yn myned yn fwy dylluanaidd byth; eithr nid am y cyfryw yr ydym yn dywedyd. Yr oedd Cymry dysgedig yn gwrando Elias, Richard, a Jones Talsarn, ac yn edmygu eu talentau; ïe, yn myned fel plant o dan eu gweinidogaeth. Pwy fuasai yn anturio dyweyd, sydd yn deall Cymraeg, mai rhyw beth yn perthyn i'r oesoedd tywyll oedd bloeddiadau treiddgar Jones Talsarn, pan gynhyrfid ef gan wir deimlad yr efengyl? Pan y bydd diffyg teimlad, pan na fydd dim ond adroddiad sych, a dibrisdod o wirioneddau yr efengyl, y mae yno ffurfioldeb i'r pen; ymddengys y dyn fel pe bai wedi ei osod yn dyn mewn cadwynau gan ddiafol a chnawd. Dyna lle y bydd yn bwyta ei eiriau, yn gwneyd ystumiau, a bron hollti o falchder a hunanoldeb; bydd peth felly yn atgas. Ond dyna, fe gaiff rhyw un felly bregethu iddo ei hun, oddieithr iddo ddarpar ciniaw dda Nadolig i ychydig o hen wragedd a phlant.

Edrychwch ar Jones Talsarn, yn dechreu gwresogi yn yr ysbryd; edrychwch arno yn ysgwyd yr hen bwlpud, nes ydoedd mewn perygl o ddyfod yn ganddryll; clywch ei floeddiadau yn treiddio drwy y dorf, nes oedd eneidiau gwreng a boneddig megys yn ymddolenu weithiau, yn llamu brydiau eraill, yn curo dwylaw, ac yn gorfoleddu, ac yn fynych ddim yn deall eu hunain beth i wneyd, na pha beth yr oeddent yn ei ddweyd ar y pryd. Chwychwi sydd yn gwybod Saesoneg gystal a Chymraeg, dywedwch yn awr, a glywsoch chwi bregethu yn Llundain ag oedd yn effeithio arnoch fel hyny? Pell yw hen floeddiadau Jones Talsarn, oddiwrth fod yn farbariaeth. Ond caniatewch fod yr un dynion yn gystal Saeson a Chymry, a phregethu yr un bregeth ac yn yr un dull yn Saesoneg ag y maent yn Gymraeg, a fyddai hyny yn boblog i'r Saeson? Y mae yn ddigon tebyg na fyddai; ni oddef y Saesoneg ddullwedd na theimlad y Gymraeg; dyna sydd yn gosod y fath gymhwysder yn y Gymraeg at bregethu yr efengyl. Digon tebyg, pe anturiai rhyw un i gario allan holl hynodion y Gymraeg yn Saesoneg, y meddyliai y Saeson am ei osod i lawr mewn sefyllfa o orphwylldra, ac y danfonent yn uniongyrchol at ei berthynasau agosaf yn Nghymru i edrych ato. Yn wir, dan gofio hefyd, y mae pregethu Cymraeg mewn dull a threfn Saesoneg yn lled ddiflas. Nid yw yn edrych nemawr gwell na "modrwy aur yn nhrwyn hwch." Ymddengys fod yn rhaid gwneyd pob peth yn ei drefn ei hun cyn y bydd rhyw lawer o lewyrch arno.

Clywsom ambell un wedi iddo fod yn yr ysgol am flwyddyn neu ddwy, ac wedi cwympo mewn serch a chariad â'r Saeson, yn pregethu yn Nghymraeg mewn dullwedd Saesoneg: a dyna un o'r pethau mwyaf atgas ac annyoddefol a glywsom yn ein bywyd erioed. Yr ydym wedi clywed ysgrechfeydd adar ysglyfaethus yn oriau trymaidd tywyllwch y nos, yr ydym wedi clywed moch yn tuchan yn y twle, ac wedi dychrynu yn ddirfawr wrth glywed eu lleisiau ansoniarus pan y byddai y gyllell yn eu cegau; yr ydym wedi clywed oernadau echrydus asynod; eto wrth ymdrech gallwn gyd-ddwyn a hwy yn weddol; canys er fod yno seiniau digon annymunol, nid ydynt yn annaturiol. Na, y maent yn perthyn i ryw ran o'r greadigaeth isod; ac fe ddichon yn rhyw gymaint o ddaioni ynddi. Nid ydys, fel y gwyddoch, yn dysgwyl dim oddiwrth fochyn ond y peth sydd yn fochynaidd; nid ydys yn dysgwyl lleisiau soniarus na cherddoriaeth felus oddiwrth asynod; oernadau asynaidd a ddysgwylir; a phan y bydd yn rhoi allan ei lais, ac yn canu yn ei udgorn, ei lais ei hun a'i udgorn ei hun ydyw; felly y bydd pawb yn dysgwyl iddo fod, fel nad oes neb yn cael eu siomi. Ond pan y bydd Cymro yn pregethu yn Gymraeg yn nullwedd Saesoneg, bobl anwyl, y mae yn anferth! Nid oes yr un mochyn yn y byd yn haner mor fochynaidd; nid oes yr un asyn yn debyg mor asynaidd; nid oes o fewn y greadigaeth faith ddim i'w gydmaru ag ef am anferthwch; nid oes dim genym i ddyweyd ond fod ei annymunoldeb yn annhraethadwy.

Edrychwch yn awr; y mae efe yn sefyll o'ch blaen yn syth, fel haner gwr boneddig; ei wallt fel gwrŷch mochyn cynhyrfiedig, ei wyneb yn chwerw-ddefosiynol, heb yr arwydd leiaf o wylder; ei got wedi ei botymio i fyny hyd y gwddf yn y modd mwyaf testlus, a'i lais yn iach ac yn orchymynol, heb yr arwydd leiaf o deimlad yn ei doddi i ffurf yr efengyl, a'i holl agweddiad yn benderfynol a beiddgar. Wel, dyna y gwalch; beth feddyliech am hwnw, Thomas Jones? "Y mae ei olwg yn ddigon i mi," meddai Thomas; "nid oes arnaf eisiau clywed un gair byth o enau hwna; yr wyf yn meddwl fod gweled hwna yn ddigon heb glywed un gair; pregethu ei hunan ydyw ei waith ef, nid pregethu Crist." Y mae yn un go bert yn sicr; gellir meddwl ei fod yn llawer o'r ladies' man, ys dywed y Sais; ac ymddengys hefyd ei fod mewn heddwch a chariad mawr ag ef ei hun. Gellir meddwl wrth ei darawiad ei fod yn edmygu ei hun yn fawr; efe yw y tecaf o feibion dynion yn ei farn ef; nid yw yn gweled neb o'r cyffelyb feddwl na'r cyffelyb gorph; y mae wrth fodd ei galon ei hun. Y prif beth sydd yn flinderus iddo yw na bai pawb eraill yn gweled lygad yn llygad ag ef yn y materion hyn. Yn rhyw fodd, nid ydyw y bobl ac yntau yn gallu cydfarnu, am hyny yn myned bob un i'w ffordd ei hun, ac yn aml iawn y ffyrdd hyny yn myned am draws eu gilydd, ac yn peri blinder beunydd. Beth bynag, byddai cystal i chwi, gan i chwi ddyfod i'r fan a'r lle, aros i gael ei glywed yn pregethu, canys bydd genych ddwy siawns i'w farnu wed'yn—wrth yr olwg ac wrth y clywed. Nis gellwch ddyweyd eto ond "yr hyn a welsom;" ond ar ol ei glywed gellwch ychwanegu "a'r hyn a glywsom;" bydd y dystiolaeth yn gryfach o lawer iawn.

Dan gofio, dywedir wrthym am beidio barnu "wrth yr olwg, eithr barnu barn gyfiawn." Gall dyn, digon tebyg, gael ei dwyllo wrth yr olwg weithiau; canys bydd ambell beth yn troi allan yn well na'r olwg, a'r llall yn waeth. Da iawn yw arfer pwyll, a cheisio barnu barn gyfiawn. Wel, dacw ef yn dechreu ymlwybro at ein hanerch, Thomas; y mae wedi carthu ei geg ddwywaith, ac wedi myned drwy y seremoni o chwythu ei drwyn deirgwaith yn y neisied boced wen. Beth sydd ar gymalau ei gefn? Gellid meddwl eu bod wedi colli eu holew, canys nid yw yn plygu yn fwy na pholyn; nid yw yn symud y naill ffordd na'r llall, mwy na phe bai wedi ei hoelio wrth y llawr. Mor ddystaw y mae yn siarad, yn union fel pe bai yn dyweyd cwnsel wrth ryw rai, ac yn dymuno arnynt er mwyn pob peth na ddywedent wrth neb. Syndod! a oes rhyw un yn clywed diwedd y brawddegau yna? Heblaw ei hun, nid ydym yn deall fod neb yn eu clywed, gan mor ddystaw, mor syw, ac mor foneddigaidd y bydd yn ymadroddi. Wel, y mae yn wr boneddig! Y mae yn rhyw fodd, ys dywed y dynion, yn bwyta ei eiriau cyn eu bod yn dyfod o'i enau. Ydyw, felly y mae; efe ac nid neb arall sydd yn eu bwyta; ymddengys ei fod ef yn cael blas arnynt; am bawb eraill, y maent yn lled ddigonol. Hi fydd weithiau fel hyny; dyn yn cael blas mawr arno ei hunan, a phawb arall yn ei chwydu allan; a phrydiau eraill pawb yn cael blas, a phawb yn gwledda, a'r dyn ei hunan yn methu cael dim blas arno ei hun, eithr yn "ffieiddio ei hun mewn llwch a lludw." Help mawr, serch hyny, i ddyn fyned yn y blaen yw ei fod yn meddwl yn uchel am dano ei hun, ac yn cael blas mawr arno ei hun; y mae yn naturiol iawn iddo ef feddwl fod pawb yn meddwl am dano fel y bydd ef yn meddwl am dano ei hun. Cynorthwyir ef, gan hyny, i fyned rhagddo yn galonog o dan ddylanwad teimlad felly; a chan fwynhau ei hun yn ddirfawr, gan dybied ei fod yn well na neb arall, â rhagddo dan ganu yn fuddugoliaethus. Bydd ef, druan, yn troi mewn byd o'i greadigaeth ddychymygol ei hun, wedi cael allan bob meddwl ond ei feddwl hunan-ddiwylliedig.

Am ba beth ydym yn siarad? yr ydym bron wedi myned y tu hwnt i ni ein hunain, neu wedi ymgolli mewn anialwch gwag erchyll. Wel yn wir, erbyn cofio, nid rhyfedd ychwaith, canys yr hynt hon sydd yn un lled ddyrys; canys yr ydym yn erlid creadur trwy y coedydd a'r dyrysni, gan geisio ei ddal a'i ddyfetha, ond methu yr ydym yn rhyw fodd. "Pa greadur?" Ond Cymro gwyllt yn nghroen Sais, fel pe tai dyn yn ceisio pregethu Cymraeg yn nullwedd Saesoneg; creadur dyeithr i'r dalaeth ydyw; blaidd sydd yn difa y defaid ydyw; ïe, anghenfil sydd yn ddychryn i'r holl braidd. Pan y gwelwch Gymro yn siarad yn null Sais, Cymro gwladaidd yn Saesonegeiddio y Gymraeg, y mae yn debyg i ddyn tlawd wedi cael cot ddu a choler melfed wedi haner ei threulio ar ol rhyw wr boneddig. Bydd pawb yn gwybod mai nid ei got ef ydyw, mai dyn tlawd wedi cael cardod yw y dyn sydd yn ei gwisgo yn bresenol. Trueni annhraethol fyddai gweled creadur tlawd mor ddwl a myned yn falch a thrwyn-uchel, gan dybio ei hun yn wr boneddig, wedi cael gafael ar hen got seimlyd a choler melfed arni. Ië yn wir, byddai yn wrthddrych teilwng iawn o dosturi, ac yn berson cymhwys dros ben i wneyd gwallgofdy yn artref. Wedi y cwbl, ar ol defnyddio pob cydmariaethau, y mae pob peth yn syrthio yn fyr i weithio allan anferthwch y Cymro mewn dillad Sais yn pregethu yr efengyl. Y mae yn syn i'r pen gweled dyn yn ddylach na phawb wrth geisio bod yn gall. Gwneir pob math o luniau, o ystumiau, o leisiau, ac o wynebau, er mwyn bod yn Seisnigaidd; ac yn y diwedd y Sais a'r Cymro yn myned i golli yn yr anghenfil.

Edrychwch, clywch; os nad ydych wedi cael digon ar y gwrthddrych eisoes, ac os nad yw wedi myned yn rhy ffiaidd i chwi allu aros yn hwy yn ei bresenoldeb. Aroswch dipyn er mwyn cywreinrwydd, ac er ychwanegu gwybodaeth hefyd, canys goreu gyd ein bod yn deall pethau, er eu bod yn fynych yn ddigon atgas ac annymunol. Anogir ni i wneyd rhai pethau er "mwyn cydwybod;" ac y mae llawer o bethau eraill yn ddiau, er nad ydynt yn flasus yn y byd, eto y maent yn dda eu gwybod, canys dygwydd na fyddant o ddefnydd mewn rhyw amgylchiad yn y byd. Wel, gwrandewch; dacw y dyn yn dechreu siarad eto. Mor fun-sych, mor fun-sur, onide? A glywsoch chwi beth mor fwngleraidd o'r blaen? Wel, y mae yn greadur rhyfedd yn ceisio ymlwybro yn y blaen, onid ydyw? Gallem ni feddwl ei fod ef ei hun yn bur annedwydd ac annyddan, heblaw ei fod yn gwneyd pawb eraill felly ag sydd wedi bod mor anffortunus a syrthio o dan y gospedigaeth i orfod gwrando arno. Gadewch iddo; "codwn ac awn oddiyma," a diolchwn lawer am ryddid cydwybod, ein bod yn gallu troi ein cefnau arno, a myned lle y mynom.

Gobeithiwn na fydd neb mor fyrbwyll a meddwl ein bod yn ceisio taflu dirmyg ar y Saeson, a'u hiaith enwog; pell iawn ydym ni oddiwrth ddim o'r fath; yr ydym ni yn caru y Sais a'r Saesoneg, ond cael Sais a Saesoneg, cofiwch; nid Cymro yn gwisgo hen ddillad llaprog Sais: gwaeth na hyny, yn ceisio clytio Cymraeg a Saesoneg yn nghyd, nes colli rhagoriaethau y naill a'r llall. Eithaf peth yw Saesoneg, fel Saesoneg; ond peth tlawd iawn yw Saesoneg yn nullwedd Gymraeg, ac y mae Cymraeg yr un mor dloted yn nullwedd Saesoneg; pob peth yn ei drefn ei hun sydd oreu. Pan y byddis yn rhoi delweddau Saesoneg ar y Gymraeg, nid yw nemawr gwell na rhoi "gwin newydd mewn hen fotelau, neu lain o frethyn newydd ar hen ddilledyn;" fe dyr y gwin newydd y potelau, ac fe â i golli, ac fe rwyga y brethyn newydd yr hen ddilledyn, ac felly y rhwyg a wneir yn waeth. Y mae y fath gysylltiadau rhwng iaith a phob peth cenedl, fel y mae yn rhan o honi ei hun. Nid yw yn bosibl rhwygo y naill oddiwrth y llall heb ddinystrio y cwbl; rhaid trawsnewid y genedl, a'i suddo i mewn yn raddoli genedl arall, fel ag i gymeryd yn llwyr holl elfenau ac arferion y genedl hono. Y mae yr iaith yn gyfrwng y teimladau cenedlaethol, yn trosglwyddo yr awgrymiadau cenedlaethol yn hapus ac yn arwyddocaol: mewn gair, y mae holl hanfodion a theimladau cenedlaethol yn ymweithio drwyddi, ac yn gymhlethedig ynddi. Mae y genedl a'r iaith wedi tyfu yn nghyd, wedi ymgymysgu yn eu gilydd a thrwy eu gilydd, wedi eu cydwau wrth gael eu magu yn nghyd, ac wedi ymgordeddu y naill yn y llall. Tebyg ydynt i'r ddaear a thyfiant, y naill sydd yn ymwreiddio yn y llall, fel y mae y ddau yn un, yn hollol naturiol, heb na thrais na gorchest. Trais na gorchest yn siwr! na, yn hollol wahanol; bydd yr hen ddaear yn arllwys maeth a rhinwedd o honi ei hun i'r gwreiddiau mân, hwythau yn sugno bronau yr hen fam dyner a chymwynasgar, nes ffrwythloni ar ei gwyneb, a'i gwisgo â phrydferthion ieuenctyd bob blwyddyn. Ah! y maent yn gorfoleddu yn nghyd; nid oes dim grwgnach na thuchan; nid oes dim gorchestion tuag at newid gwyneb prydferth natur, na'i hiaith ardderchog i ffurf rhyw blaned arall. Na; gadawer hi fel y mae; harddwch a phrydferthwch annghydmarol ydyw; ei lleferydd hefyd sydd yn "hyfrydlais," ac yn iaith ddealladwy i holl drigolion y byd. Mae y bobl yn deall ei hiaith, ac yn deall ei hawgrymiadau, ac yn curo dwylaw yn llon gyda holl goedydd y maes. Iaith yr hen Gymry, eu mynyddoedd cribog, certh, a mawreddus, sydd yn gymhlethedig drwy eu gilydd; y maent wedi eu cydfagu, ac yn caru eu gilydd fel rhieni a phlant.

Dacw y bardd ieuanc yn dechreu cael ei wefru wrth draed y bryn draw, sydd yn codi i fyny ac yn cuddio ei ben yn y nefoedd fry. Enaid y bardd sydd yn codi yn raddol gydag ef, yn ei ddringo yn araf, ond yn benderfynol, nes ymgodi o hono i'r nefoedd uchod, a chyrhaedd yr ystafell lle y mae y mynydd tywysogaidd yn golchi ei wyneb â'r gwlith boreuol. Oddiyno, gyda'r bardd Dyer ar fryn Grongar, y mae mil a mwy o ddrychfeddyliau yn ymgodi yn yr enaid, y rhai sydd yn dyrchafu yn uwch na'r bryn y sefir arno, y rhai sydd yn cynyrchu iaith goeth, ac yn ei henyn â than seraphaidd. Ar fryn y Grongar, yn Nyffryn Towy, yr eisteddai y bardd Dyer yn nyddiau ei ieuenctyd, yn edrych ar fryn yn codi uwchlaw bryn, dan saethu y tu cefn i'w gilydd i'r cymylau ar un llaw,

"Silent Nymph, with curious eye,
Who the purple evening lie,
On the mountain's lonely van,
Beyond the noise of busy man,
Painting fair the form of things,
While the yellow linnet sings;
Or the tuneful nightingale
Charms the forest with her tale;
Come with all their various hues,
Come and aid thy sister Muse;
Now while Phœbus riding high
Gives lustre to the land and sky!
Grongar Hill invites my song,
Draw the landscape bright and strong;
Grongar, in whose mossy cells
Sweetly musing quiet dwells;
Grongar, in whose silent shade
For the modest muses made;
So oft I have, the evening still
At the fountain of a rill,
Sate upon a flowery bed,
With my hand beneath my head;
While stray'd my eyes o'er Towy's flood,
Over mead and over wood,
From house to house, from hill to hill,
'Til contemplation had her fill.
About his chequer'd sides I wind,
And leave his brooks and meads behind,
And groves and grottoes where I lay,
And vistas shooting beams of day:
Wide and wider spreads the vale
As circles on a smooth canal;
The mountains round (unhappy fate)!
Sooner or later, of all height,
Withdrew their summits from the skies,
And lessen as the others rise;
Still the prospect wider spreads,
Adds a thousand woods and meads;

a dyffryn prydferth Towy o dano ar y llaw arall, a'r afon droellog, brydferth yn llifo i lawr drwyddo, gydag awdurdod breninol, i ddyfrhau ac i adloni y baradwys ardderchog. Eisteddodd Dyer ieuanc ganoedd o oriau ar y Grongar, i edmygu y golygfeydd mawreddus a phrydferth hyn, nes i'w enaid ymgolli yn fynych ynddynt, a'r awen yn cymeryd tân oddiwrth y gallestr nes gwreichioni a fflamio hyd entrych nen, Wele engraifft yn y ddwy iaith, ar gyfer eu gilydd:

"Ah! Eigren fud a'th gywraint drem,
Borphora'r nawn â gwridog hem,
Ar lonydd gôb unigol fryn,
Uwch cyrhaedd 'stwr ffwdanus ddyn;
Arliwi wedd pob peth yn dêr,
Tra cathla'r felen linos bêr;
Neu'r eos fwyn yn eiliaw cerdd
A swyna'r oll o'r goedwig werdd,
Dwyrea a'th amryfal sain
I gynorthwyo'r Awen gain;
Tra'r huan claer o'i orsedd fry
Fantella'r nef a'r llawr mewn bri!
Hardd fryn y Grongar huda'm cerdd,
I dynu'r dirwedd lwys a gwerdd;
Yn dy fwswog gelloedd cu
Llonyddwch mewn pêr fyfyr sy';
Ac yn dy gysgod fwyna'i nawd,
Llys addas i'r awenau wnawd;
mynych yn nhawelwch nawn
At ffrwd arianliw'th ffynon awn,
Gan orwedd ar flodeuog len,
A'm llaw yn esmwyth dan fy mhen;
Tra tremio wnawn ar Dywi deg,
Ar elltydd llawn, a broydd chweg;
O dŷ i dy, o fryn i fryn,
Gwledd i fyfyrdod byth oedd hyn.
Ei ddringo wnaf, gan adael dôl,
A'r neint trydanol ar fy ol,
A'r ffauau dail, lle awn yn rhydd,
Rhag poeth belydrau teyrn y dydd;
Eanga gwyneb glwys y glyn,
Fel cylch y don ar dawel lyn;
Y bryniau gylch (annedwydd ffawd)!
Eu cobau o bob uchder wnawd,
Sarheir eu balchder, draw fe gwyd
Rhai'u penau'n uwch i'r asur glwyd;
Y drem eanga yn fwy taen,
Gan amlu coed a broydd cain;


Still it widens—widens still,
And sinks the newly-risen hill;
Now I gain the mountain's brow—
What a landscape lies below!
No clouds, no vapours intervene,
But the gay, the open scene,
Does the face of nature show
In all the hues of heaven's bow!
And, swelling to embrace the light,
Spreads around beneath the sight."


Ni a welwn yn y llinellau uchod fod Saesoneg Dyer yn dda, a Chymraeg y Bardd Teilo yn dda a phrydferth; ond y peth yr ydym yn ceisio ei ddangos ydyw, anferthwch yr arferiad o bregethu Cymraeg mewn dullwedd Saesoneg. Y mae y Gymraeg mor hapus i bregethu yr efengyl ynddi, fel mai trueni yw ei therfysgu trwy daflu am ei thraws ryw elfen elynol. Y mae ei heddwch gyda'r efengyl fel yr afon; a bydded barn cydwybod ar bwy bynag a derfysgo yr heddwch hwn. Mor dawel y mae yr hen iaith yn gorwedd ac yn ymestyn ar lechweddau y bryniau, yn chwerthin ar wylltineb y golygfeydd gyferbyn, yn chwareu â'r awen megys â'i chyntafanedig, ac yn canu yn y cysgod, yn nhrigle dystawrwydd. Y mae yn anhawdd iawn i neb ddeall ei llais ond ei defaid ei hun. Fe ddichon y gellir dywedyd fel hyn am lawer cenedl; ond gellid meddwl fod y Saesoneg yn un o'r eithriadau mwyaf; canys ymddengys mai rhyw gaboliad celfydd ydyw o wahanol ieithoedd, a cheisio gwneyd rhyw un o lawer, er mwyn cyfleusdra a dyben masnachol. Iaith masnach yn benaf yw iaith y Sais; iaith efengyl yw iaith y Cymro. Oni bai yr efengyl, yr ydym yn petruso yn fawr, ac ystyried pob peth, a fyddai yn werth cymeryd trafferth wrthi i'w chadw o dan amgylchiadau presenol. Ond er mwyn yr efengyl y mae o werth ei charu a'i chadw; canys y mae rhyw beth ynddi mewn cysylltiad â'r efengyl na cheir ddim o hono o fewn holl derfynau y Saesoneg; gellid meddwl weithiau ei bod yn gysegredig, ac wedi ei chadw yn ofalus gan Ragluniaeth i ddybenion yr efengyl. Y mae llawer o ddynion mwyaf y byd mewn pregethu wedi eu codi yn Nghymru, heb

Ymledu wna yn dêl a ffraw,
Nes una fel â'r gorwel draw;
Cyrhaeddais grib y bryn heb ludd—
Fath orwemp dirwedd danaf sydd!
Ni lwyd gyfrynga niwl—darth dwys
Rhyngwyf a'r deg olygfalwys;
Ymddengys gwyneb anian gref
Yn nhlysion liwiau enfys nef!
Ymewydda i gofleidio'r gwawl,
A daen o gylch ei fri didawl."


fod yn gwybod nemawr ond yr iaith Gymraeg; ac y mae yn amheus genym a fuasai hyny yn beth posibl yn Saesoneg. Nid yw yr iaith a'r rheolau caethion yn rhyw fodd yn gallu goddef rhyw lawer o deimlad, o ddawn, ac athrylith naturiol, heb fyned yn chwilfriw; a thanau gant mewn moment yn rhedeg, ac yn gwaeddi, Peidiwch a lladd yr iaith, hawyr; peidiwch a gwneyd cam â Saesoneg ei Mawrhydi.

Gofal am y Saesoneg yn benaf sydd gan y Sais, nid am y meddyliau mawrion sydd fel afon gref yn llifo allan, yn treiglo i lawr, yn cwympo yn ogoneddus heb drefn drwy y creigiau certh a llafraidd, gan ymuno â'r byd dyfrllyd islaw, lle y preswylia ac y llonydda. Na, y Saesoneg yw ei gwbl ef; gofalwch am y Saesoneg, beth bynag ddaw o Grist ac eneidiau dynion. Os dygwyddodd i chwi glywed Saeson yn siarad wedi dyfod o gyfarfod crefyddol, nid siarad am y bregeth, yr athrylith, yr effeithioldeb, neu y meddyliau mawrion y maent, ond am y Saesoneg. Yr oedd y Saesoneg yn dda neu yn ddrwg, yn ardderchog neu yn wael, yn farddonol neu yn sâl, yn hedegog neu yn domenaidd. Ychydig iawn sydd gan lawer o honynt ond Saesoneg y cwrdd. Y Saesoneg, nid y meddwl, yw eu bwyd; y maent yn bwyta Saesoneg, ac yn gadael Iesu Grist. Pobl o archwaeth ryfedd ydynt; yn tynu y plisgyn Seisnig sydd o gwmpas pob peth, ac yn bwyta hwnw, ac yn gadael y cynwysiad, serch ei fod yn fêl, i bwy bynag a ewyllysio ei gymeryd. Byw sal iawn yw byw ar Saesoneg, bydded cystal ag y byddo. Y mae yn ddigon tebyg mai rhyw archwaeth fel hyn sydd wedi dwyn yr efengyl i ffurf yn Lloegr, fel y mae uwchlaw y werin, ac felly y tlodion wedi myned i golli iddo. Nid yw gwerin Lloegr ond y peth nesaf at baganiaid, mewn cydmariaeth i werin Cymru; nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am ddim ond am eu gwaith, a bwyta ac yfed. Pan yr ydym yn son am baganiaeth, dealler mai mewn cysylltiad â'r efengyl yr ydym yn siarad, canys nid ydym yn trin dim ond yhi. Fe ddichon fod Lloegr, ar y cwbl, o flaen Cymru ryw gant neu ddau o flynyddoedd; y mae ei manteision hi wedi bod yn fawr pan yr oedd Cymru yn esgeulusedig, heb ysgolion na mantais i ddysgu dim. Y mae ganddynt fwy o wybodaeth gyffredinol; y maent yn fwy cydnabyddus â'r byd yn gyffredinol, â masnach, â chelfyddydau, ac â llenyddiaeth. Y mae yn rhaid i bob math o Sais yn mron ar brydnawn Sadwrn i gael a can of beer and the "News of the World." Ond beth yw eu gwybodaeth am yr efengyl? pa beth a wyddant am dduwinyddiaeth? Beth yw eu gwybodaeth am y Bibl a'i hanes? Mor sier ag yr ydych yn fyw, y mae y werin Saesoneg yn baganiaid yn ymyl y Cymry yn y materion hyn. Y pregethwr Saesoneg sydd yn astudio ac yn siarad iaith glasurol nad ydyw y bobl yn deall; ac felly siarad â'r ysgolheigion y bydd y pregethwr, nid â'r tlodion; ceisio dangos Saesoneg ogoneddus yn y bregeth, nid Crist gogoneddus. Ond am y pregethwyr Cymreig, yr oeddynt yn siarad iaith y bobl, yr oeddynt yn eu canol—yn eu teimladau, yn eu calonau, ac yn dyfod ag efengyl Crist i gyffyrddiad â'u teimladau bob dydd, fel yr oeddynt yn ei mwynhau, yn ei chofleidio, ac yn derbyn eu cysuron a'u gobeithion penaf oddiwrthi. Goddefai y Gymraeg ei hestyn allan gyda theimlad ac athrylith y pregethwr; yr oedd yn ymeangu, nid yn tori, i dderbyn llifogydd mawrion ar ol y gwlaw taranau; yr oedd yn ystwytho ac yn ymestyn gyda phob cynhyrfiad. Nid oedd y bobl yn meddwl nemawr am yr iaith, ond yn ei gadael hi i ofalu am dani ei hun, gan dderbyn ei chynwysiad i'w heneidiau, o dan ddylanwad pa un y gorfoleddent dan obaith gogoniant Duw.

Byddai y pregethwyr hyn yn codi yn uchel iawn mewn areithyddiaeth efengylaidd, ac yn cario y cwbl o'u blaen heb yn wybod iddynt eu hunain. Byddent weithiau fel y rhaiadr, yn disgyn yn ofnadwy, nes boddi pob swn arall; weithiau fel yr afon ddofn, yn araf, ond yn gryf ac yn brydferth; weithiau fel y cornant wedi cael cawod o wlaw y tu cefn iddi, yn ffrochwyllt yn rhedeg i lawr i'r glyn, nes ymarllwys i ddwr mwy llonydd a gloyw. Byddai eu pregethu yn ofnadwy weithiau, a phechaduriaid fel yn ymollwng o'u blaen; yn fwyneidd—dra efengylaidd brydiau eraill, nes denu y meddwl allan o bob peth at hynawsedd Crist; ac er yn ffrochwyllt ar ryw amserau, eto yn terfynu mewn dyfroedd tawel yn nghyflawnder y Duwdod yn Nghrist Iesu. Ah, fe gofir Ebenezer Morris gan y rhai a'i clywsant tra y byddont byw; pregethai nes y byddai cynulleidfa o ddeng mil yn ymgolli yn eu teimladau, fel plant yn ymwylltu, heb wybod i ba le i fyned am noddfa. Ebe cyfaill wrthym unwaith, "Yr oeddwn yn ei wrando yn nghapel Aberteifi; gallaswn gymeryd fy llw fod y planciau o dan fy nhraed yn myned yn ddellt." Efengylai eilwaith nes codi yr holl deimladau cythryblus yn dawel at Iesu, ac yno yn eu gadael yn ei fynwes i ymesmwythau. Nid yw yn debyg fod mwy pregethwyr wedi bod mewn un wlad erioed na'r dosbarth hyn o bregethwyr Cymru; yn wir, y maent yn sefyll ger ein bron fel gwyrthiau dwyfol. Yr ydym wedi bod yn dyweyd fod rhyw beth yn yr iaith yn fanteisiol, ac yr ydym yn caniatau iddynt yr holl fanteision sydd yn hyny; ond ar yr un pryd, cofier mai nid hyny oedd y cwbl hefyd. Dymunem roi gwerth ar hyny, a llawn werth hefyd; ond dymunem beidio rhoi rhagor na'i werth. Yr ydym am edrych arni fel cyfrwng da, os nid y goreu, i drosglwyddo yr efengyl yn ei theimladau a'i phrydferthion; eithr y mae rhyw allu a chymhwysder y tu cefn i hyny, onide ni buasai y dynion hyny byth y peth oeddynt. Gwelwn fod yr iaith yn cael ei siarad y dyddiau hyn gan ganoedd, mewn llwybr o bregethu, ac eto y pregethwyr mor ddirmygedig ag mae yn ddichonadwy i un creadur fod. Nid oes na phryd na thegwch ynddo; a gwaeth na'r cwbl, y mae yn anafu y pethau ag y mae pryd a thegwch ynddynt, wrth roi ei fysedd duon ac annghelfydd arnynt. Bid a fyno, ni adawn hwn, canys nid oes ond y peth nesaf i ddim o bleser i siarad am dano, i edrych ychydig ar y lleill.

Edrychwch ar Christmas Evans, yr hen Gristmas anwyl; dyna ddyn wrth ychydig o addurniadau dysgeidiaeth, ond fel y darfu iddo lafurio a diwyllio ei feddwl ei hun; gwnaeth lawer o hyny, fel nad oedd yn sefyll yn annghyfrifol yn mysg llawer ag oedd wedi cael manteision gwell; ond edrychwch arno fel pregethwr, a dangoswch ryw un yn ngwlad y Sais yn gyffelyb iddo. Hawyr! ni thyfodd un o'r fath erioed yno. Tebyg iawn fod Kent ac Essex yn wledydd da iawn i dyfu gwenith, nid gwiw i'n gwlad dlawd ni gystadlu a hwynt yn hyny; ond ni thyfodd yr un Christmas erioed yn y tir hwnw. Hen Gymru sydd yn tyfu Christmasiaid; yhi sydd wedi magu y pregethwyr mwyaf gwreiddiol, talentog, athrylithgar, a nerthol o wledydd y byd. Wrth gofio anfanteision Christmas Evans, ac edrych arno yn anerch deng mil ar ddydd y Gymanfa, y mae yn sefyll o'ch blaen y peth nesaf at wyrth. Y dyn aew wrth un llygad, ond un llygad rhyfedd ydyw, y mae fel y seren ddydd, yn dysgleirio ac yn llewyrchu fel pe byddai yn barod i gymeryd tân, ac i roi y byd ar dân mewn eiliad. Yr un llygad yna sydd yn treiddio i bob peth, yn edrych dyn yn ei wyneb gyda'r fath awdurdod nes y mae yn barod i lesmeirio ger ei fron. Yr un llygad yna sydd yn fwy tarawiadol ac arwyddocaol na deng mil o lygaid ag sydd yn edrych arno. Y mae rhyw beth mawr y tu cefn i'r llygad yna; nid ydyw ond fel rhyw arwydd o beth yn yr ystafelloedd mawrion y tu draw. Nid yw y llygad treiddgar ond rhyw ddangoseg o feddwl treiddgar a goleuedig. Pan yn pregethu, teflir y meddwl hwnw allan gydag effeithioldeb annghydmarol, yn mhob lliw, ac yn holl ffurfiau y byd naturiol a dychymygol. Arglwyddiaethai ar bob teimlad yn y natur ddynol, a byddai dynion yn llai na phlant yn ei law. Cyffyrddai â'r gydwybod trwy bortreadu dychrynfeydd uffern mewn lliwiau dychrynllyd, nes y byddai pawb yn brudd, yn sobr, yn ofnus, a dychrynedig. Cyffyrddai eilwaith â'r serchiadau, nes y byddai pawb yn ymdoddi, ac yn wylo fel plant, ada neu yn bloeddio cân a gorfoleddu yn ddiarbed. Taflai y bobl

i chwerthin mewn moment trwy ryw ddesgrifiad bywiog a anw gwreiddiol; taflai hwynt y foment nesaf i ryw bangfeydd o Onde wylo; felly o deimlad i deimlad yr arweiniai hwynt, trwy mae olygfeydd newyddion a phrydferth, nes y byddai amser yn cael ei lwyr annghofio. Dywedir fod dynion wedi eu dwyn che i mewn i gylch y tylwyth teg, a dawnsio am bythefnos cyfan, a phan yn dychwelyd adref, yn meddwl mai rhyw le o gwmpas pum mynyd yr oeddynt wedi bod o gartref. Yr oedd gan dnt Christmas Evans ryw gylch tra swynol; ac unwaith yr âi dyn at i mewn, gallai fod yno dro; weithiau yn llefain, weithiau yn chwerthin ei oreu, weithiau yn neidio, weithiau yn llesmeirio, wed weithiau yn canu, weithiau yn dawnsio; ac yn y cwbl mor lith ddedwydd fel nad oedd cyfrif amser. Yr oedd y gallu annhraethol i gynyrchu y gwahanol deimladau hyn yn cael ei droi yn gwbl at wasanaeth yr efengyl; cysegrwyd y cwbl i'r weinidogaeth fawr, fel y bu yn allu er bendith i ganoedd a edi miloedd yn Nghymru.

Dyna Elias o Fon yn dyfod drosodd i'r Ynys o Sir Gaerdar narfon, pryd oedd y campau yn eu grym a'u gogoniant; yr eth ymladd ceiliogod a chŵn, gyrfaoedd ceffylau, a rhedegfeydd dynion, yn nghyda'r bando a'r bêl mewn bri ac anrhydedd mawr, a phawb yn rhedeg ar eu hol. Mae efe yn codi ei lais fel udgorn yn erbyn yr holl bethau hyn, nes oedd y cestyll yn crynu ger ei fron, ac yn dyfod yn ganddryll i'r llawr. Ei bregethu sydd yn tynu y wlad allan i'w wrando a'i ddylyn o gwmpas o fan i fan, gan adael y campau annuwiol. Nid oedd dim arall yn y byd fuasai yn cynyrchu y fath effeithiau, ac nid oedd dim pregethu allasai ei wneyd ond pregethu o'r fath hyny. Yr oedd y dyn mewn cymundeb a Duw yn ei weinidogaeth, a thrwy hyny yn dyfod i gymundeb â dynion; ac felly yn sefyll rhwng Duw a dynion yn siarad oddiwrth un at y llall. Yr oedd ei ddylanwad yn annhraethol, gan hyny; yr oedd Ysbryd Duw arno; ac yr oedd yn ddifrifol yn ei orchwyl; ei ddyben unigol oedd achub pechaduriaid, a chodi Iesu Grist i fri ac anrhydedd yn meddyliau dynion. Yr oedd gweinidogaeth fel hyn, ag oedd yn llosgi fel tân yn enaid y gweinidog, yn rhwym o losgi yn nghydwybodau y gwrandawyr hefyd. Byddai llawer yn darllen pregethau yn yr amser hwnw bob Sabbath yn gyson, a phregethau digon iachus hefyd fe ddichon; ond pawb yn meddwi, yn chwareu pêl, yn rhedeg ceffylau, ac yn byw yn annuwiol, yn ddirwystr. Ond byddai gweinidogaeth aruthrol Elias yn tynu teyrnas Satan yn ganddryll i'r llawr; yr oedd yn anmhosibl byw yn ei swn hi, a byw yn ddigywilydd mewn pechod.

Yr oedd un o wyl-mabsantau penaf y wlad yn Llanbedr ar fynydd, yn Sir Forganwg; bu am oesau yn cynyddu fwyfwy, nes ydoedd yn dipyn o bob peth-yn ffair, yn farchnad, yn siopau, a thafarndai. Byddent ar ddydd Sul y mabsant yn llanw y mynydd, a masnach y crymanau, y bladuriau, y cwrw, y dawnsio, yn nghyda phob rhialtwch yn myned yn y blaen yn hwylus. Yr oedd nid yn unig yr holl fynydd, ond yr holl wlad hefyd yn meddiant y cythraul. Yr oedd darllen pregethau bob dydd Sul yn yr amser hwnw; ond nid oedd yn effeithio dim ar y mabsant, na neb yn amcanu gwneyd hyny ychwaith, am ddim a wyddom ni. Yn yr amser annuwiol hyn, pan yr oedd Satan yn teyrnasu yn ddirwystr, daeth dyn ieuanc yn offeiriad i Langan, yr hwn oedd o dan eneiniad Ysbryd Duw, ac wedi ei wisgo yn brydferth â chymhwysderau gweinidogaethol; y mae efe yn dechreu codi ei lais yn erbyn llygredigaethau yr oes, ac fe glywir y llais hwnw yn treiddio i galon lygredig yr oes. Ei weinidogaeth sydd yn dyfod i gyffyrddiad â chydwybodau y werin; y maent yn sefyll yn sydyn, ac yn ymwrando. Yr eglwys sydd yn llanw o wrandawyr; ac yn fuan gwelir ef yn myned allan i'r prif ffyrdd a'r caeau, i'w cymhell i ddyfod at Iesu Grist. Ar Sul gwyl mabsant Llanbedr, penderfyna i fyned yno i bregethu i ganol y campau, i ben y mynydd. Yr oedd yn gryn anturiaeth; ond waeth beth a fo, bydd y dynion ag y mae Ysbryd Duw arnynt yn teimlo eu hunain y peth nesaf at fod yn hollalluog pan yn ymroddi i'w wasanaethu ef, o dan deimlad o gydwybodolrwydd, a pherffeithrwydd dybenion. Beth bynag, i ben y mynydd yr aeth, a safodd yn eu canol ar gareg fawr ag oedd yn dygwydd bod yno, yr hon oedd yn ateb y pwrpas i'r dim; ac atebodd y pwrpas am flynyddau wed'yn, oblegyd efe a gyrchai yno ar Sul gwyl mabsant yn gyson hyd y parhaodd. Cafodd y gareg yr enw anrhydeddus, "Pwlpud Jones, Llangan." Oddiar y gareg hon y dechreuodd bregethu i'r dorf annuwiol hyn, yn nghanol gwawd, chwerthin, tafod drwg, ac ymddygiadau anweddus miloedd. Yr oedd y pregethwr yn teimlo ei hun yn gryf ac yn ddedwydd, serch hyny; a byddai ei ddull serchog, a'i floeddiadau tyner a melusber, yn mynu gwrandawiad, er gwaethaf penderfyniadau calonau llygredig. Yn mhen ychydig, enillodd pregethu Jones y werin oddiwrth y campau; aeth y mabsant lai-lai, a'r gwrandawyr fwyfwy, nes i'r mabsant ddarfod yn llwyr, a throwyd hi yn gwrdd pregethu. Dyna ddyn wedi ei wneyd gan Dduw i bregethu yr efengyl; a phwy all ddatgan byth werth un dyn felly mewn gwlad? canys nid yn unig y mae yn werth yn ei oes, ond y mae gwaith ei oes yn effeithio ac yn gweithredu ar oesoedd dyfodol, fe allai hyd ddiwedd y byd. Yr oedd hwn yn un o'r pregethwyr nad oes neb ond Duw yn gallu eu gwneyd; am hyny yr oedd efe trwy Dduw yn gallu gwneyd pethau anhygoel yn y weinidogaeth.

Coffadwriaeth y diweddar Barch. John Jones, Talsarn, sydd yn awr yn newydd ar feddyliau miloedd, ac y maent yn cofio y gallu annhraethol oedd yn y dyn hwnw i bregethu yr efengyl. Yr oedd yn ddiffygiol mewn llawer o bethau ag sydd yn dda eu meddianu; ni chafodd fanteision addysg foreuol; yr oedd digon o ddynion bach yn gwybod mwy nag ef mewn gwybodaeth gyffredinol; ond dewch at dduwinyddiaeth, lle yr oedd ef yn canolbwyntio ei feddwl, yr oedd yn gyf. rifol, ïe, yn rhagori. A dewch at bregethu, ac yna yr ydych yn ymgolli mewn syndod. Gosodwch y dynion yna sydd yn gyfrifus mewn gwybodaeth o herwydd manteision boreuol yn ei ymyl gerllaw y pwlpud; hawyr! dyna rai pitw bach; nid yw deng mil o honynt yn werth un Jones, Talysarn. Nid llawer o'r fath y bydd y Nefoedd yn greu; un yn awr ac eilwaith sydd yn ymweled â'r ddaear; y maent fel ymweliadau angel, few and far between. Yr oedd natur a gras wedi gweinyddu eu doniau a'u rhagoriaethau yn afradus ar y dyn hwn, nes nad oedd yr un diffyg yn y golwg. Pa ddiffygion bynag allasai fod o herwydd anfanteision, yr oedd natur a gras wedi penderfynu eu cuddio yn llwyr, trwy roi helaethrwydd o'u doniau digymhar hwy. Yr ydym ni, beth bynag, yn dawel iawn yn ein meddyliau na fu gwell pregethwyr yn y byd erioed na phrif bregethwyr Cymru. Fe ddichon hefyd fod yn Nghymru rai mor saled ag sydd yn y byd; nid ydym yn amheu yn y mesur lleiaf; eithr nid am y rhai hyny yr ydym ni yn dywedyd.

Yr oedd Whitfield yn ddyn mawr; hyny yw, yn bregethwr mawr; yr oedd llaw Duw arno, ac y mae yn ddigon tebyg na fu yn Lloegr erioed bregethwr y gallesid ei gystadlu ag ef, Yr oedd yn ardderchog, yn hyawdl, yn ddoniol, yn areithyddol. fel yr oedd hyd yn oed Garrick, a lluaws eraill yn yr un dosbarth, yn colli hunan-feddiant wrth ei wrando; yn codi yn sydyn ar eu traed yn anwybyddus iddynt eu hunain, ac yn dywedyd, "That is super-human." Wel, peth super-human, neu oruwch-ddynol, ydoedd hefyd. Yr oedd Whitfield yn ardderchog o ran cymhwysderau naturiol; ond pan y cymerai ei areithyddiaeth dân oddiwrth gariad Crist yn cymhell, a phan fflamiai hwnw i uchder nefoedd, nes tywyllu yr haul, gan losgi a goleuo i ddyfnder calon pechadur, yr oedd yno deimladau cymysgedig o edmygiad ac arswyd, nad oedd dim tebyg iddo o fewn y greadigaeth. Fe ddichon fod Garrick y chwareuyddwr, a rhai o'i gyfeillion, yn gymaint mewn doniau naturiol ag yntau; a gallasent wneyd pethau rhyfedd ar y teimladau dynol; eithr dynol oedd y cwbl; nid oedd dim super-human yn eu hareithyddiaeth hwynt. Ond dyna sydd yn ardderchog, nid yn unig fod olew natur yn llosgi yn fywiog ac yn glir, ond fod Ysbryd Duw yn tywallt olew gras a gweinidogaeth, nes fflamio deng mil uwch nag y gall fflamiau natur gyrhaedd. Y peth goruwch-ddynol yma sydd yn codi at Dduw i'r nefoedd. Yr ydym yn tueddu i feddwl, er holl ardderchawgrwydd a gallu Whitfield, pe buasai yn Gymro, a phregethu yn yr iaith oedd yn gymaint yn fwy cydnawsol a'i ysbryd tanllyd a'i fater na'r Saesoneg, y buasai yn uwch ac yn fwy gwresog nag ydoedd; ac y buasai yn llawn cymaint os nid yn fwy na'n pregethwyr goreu ni. Yr oedd ei ysgolheigdod mewn cysylltiad a natur yn beth mawr er mwyhau cylch ei ddefnyddioldeb, ac ychwanegu at ei ddylanwad; ond fel pregethwr yn unig nid oedd yn fwy, os cymaint, a'n rhai ni.

Nid oes genym fwriad i fyned i mewn i gymeriadau yr enwogion a enwasom, ond yn unig gwneyd cyffyrddiad megys ag ymylon eu gwisgoedd, er mwyn esiamplau. Gobeithio ein bod trwy hyny wedi bod yn alluog i egluro rhyw gymaint ar bwne tywyll. Ein gorchwyl ni yn awr yw neillduo un o bregethwyr mawr Cymru, ac ymdrech goreu y gallom i gyfrif am nerth a mawredd hwnw.

Wrth edrych gyda manylwch dros hanes Richard, Abergwaen, o'i febyd, a chanfod mor ychydig mewn cymhariaeth oedd ei fanteision, nis gellir lai na synu wrth ei gymhwysderau at y pwlpud a holl waith yr Arglwydd; ei rym aruthrol, ei dalentau annghyffredinol, ei ddoniau helaeth, a'i athrylith ryfeddol. Yn ddiau yr oedd y dyn hwn, yn mysg llawer eraill, yn un o wyrthiau ei oes. Barn gyffredinol pob gwlad yn Nghymru yw fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei oes. Nid ydym yn caru byth gwneyd dyn yn dduw, a myned i'w addoli; ac ni charem ddyweyd mai efe oedd y pregethwr mwyaf yn ei oes; byddai peth felly yn blentynaidd. Dywedyd yr ydym, ac y mae hyny yn sicr o fod yn wir, fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei oes. Mewn gwirionedd, yr oedd mor fawr fel nad oedd yn bosibl gwneyd dyn bach o hono. Nid ceisio bod yn fawr, cofiwch; bydd rhai felly yn bur aml yma a thraw ar hyd y greadigaeth yma; nid ydynt yn guddiedig chwaith rhag llygaid y craffus; ac yn wir, y maent yn gweithio eu hunain i'r amlwg o flaen pawb yn fuan; canys nid yw peth felly yn para yn hir byth. Un o'r pethau ydyw sydd "dros amser," eithr yn gwywo yn fuan; y troion cyntaf oedd y goreu. Gwelir pregethwyr mawr yn oychwyn, ac yn myned lai-lai bob tro. Ymddangosant fel pe baent wedi cychwyn oddiwrth y "gamp uchel," ac yn tynu cymaint ag y gallant tua'r isel. Y maent fel dynion yn rhedeg cymaint byth y gallant, ac wedi colli y pwynt.

Fe ddichon y gall fod cryn lawer o ffolineb yn ngwahanol gylchoedd cymdeithas yn y byd yma; ond ar y cwbl nid mor ffoled ag y bydd llawer coegddyn yn lled-dybio; nid yw mor hawdd eu twyllo ag y mae efe wedi meddwl; bydd yn rhaid cael gwell peth at eu twyllo na'i ûs ef. Rhaid iddynt gael profion gweddol gryf cyn rhoi cydsyniad i honiadau dynion. Nid yw y cwbl ag y bydd pob quack yn roi ar y bill yn cael ei gredu gan y cyffredin. Os oes ambell un dwl yn credu y gall wella pob dolur ag sydd îs y nefoedd â'r un bilsen, nid yw pawb yn meddwl fel hyny; ond yn dra gwahanol. Ond pan y byddo ffeithiau digonol er profi, a phob peth mewn amser yn egluro gwirionedd unrhyw beth, a hyny yn naturiol a diorchest wedi enill ffydd a chrediniaeth ynddo, bydd yn anhawdd iawn dadwneyd hyny. Gwelwn fod cymdeithas yn wydn iawn i annghredu y peth y mae wedi ei gredu unwaith; rhaid cael pethau cryfion i droi hyny yn ol.

Yr ydym yn meddwl fod Mr. Richard fel pregethwr wedi argyhoeddi Cymru yn llwyr a hollol ei fod yn bregethwr mawr; yr oedd y pwnc hwn wedi ei benderfynu yn meddwl y cyffredin, ac fel llawer o bethau o'r fath, wedi ei roi heibio yn dawel yn hen gist y pethau penderfynedig, nad oedd dim eisiau ail droi mwy yn eu cylch. Bydd pethau yn cael eu hamheu am dro, eu hail edrych, eu dadleu, a dynion yn methu cydweled am dymhor hir; y mae y rhai hyn, cyn cael eu cadw o dan ystyriaeth felly, heb eu penderfynu; ond unwaith y daw peth uwchlaw amheuaeth, penderfynir arno, troir ef y naill ochr i'r gist, ac yno yr erys, oddieithr i ryw beth annghyffredin gymeryd lle, fel y bydd yn rhaid chwilio yr hen bapyrau o'r newydd. Yr ydym yn meddwl nad oedd dim dadl mewn unrhyw gylch cymdeithasol am Mr. Richard fel pregethwr; byddai pawb yn ddiwahan yn ei ystyried yn bregethwr mawr; yr oedd hyny wedi ei benderfynu drwy gydsyniad cyffredinol, ac wedi ei droi i blith y papyrau annadleuol. Beth bynag yn y byd y buasai cenfigen, atgasrwydd, neu ryw beth arall yn dewis ddyweyd am dano, nid oeddent yn beiddio, ar berygl erledigaeth gyffredinol, i daflu cymaint ag awgrymiad allan nad oedd yn bregethwr mawr. Byddai pobl, o dan wahanol deimladau, yn dyweyd braidd pob peth am dano; dywedai rhai ei fod yn rhy chwerw, eraill ei fod yn rhy benstiff, yn rhy dra-arglwyddaidd, ac yn rhy Doriaidd, yn nghyda llawer o bethau eraill anhawdd i'w cofio a'u cyfrif; ond ni feiddient ddywedyd nad oedd yn bregethwr mawr. Nid ydym yn cofio, yn wir, yn mysg yr holl bethau a glywsom siarad am dano, i ni glywed neb yn ceisio dyweyd ei fod yn bregethwr bach. Buasai yn bosibl, fe ddichon, rhoi y byd i gredu y gallasai fod rhyw gymaint o wir yn y cyhuddiadau uchod; ond buasai yn anmhosibl cael ganddo i gredu un iot na thipyn, pe cyhuddid ef o fod yn bregethwr bach. Beth pe anturiai rhyw ffwl i ddyweyd nad oedd yn bregethwr mawr -mai pregethwr bach ydoedd, a dyn bach hefyd yn mhob ystyr; pa beth fyddai tynged hwnw? Pa beth a ddeuai o hono? I ba le yr elai am noddfa? I bwy y gadawai ei ogoniant? Pa gysgod fyddai o fewn y greadigaeth i'r penwan dwl? Tynai y coedydd tewfrig eu cysgod oddiwrtho, gan ei fygwth â gwyneb sarug; rhedai pob anifail rhagddo, a byddai cywilydd ar afresymoliaid daear ei arddel fel aelod o'r frawdoliaeth. I ba le, ynte, yr âi am gynorthwy? Nid oes yr un lle i gael; byddai pawb a phob peth mewn arfau angeuol uwchben hwn, ac yn gwaeddi yn groch, Os nad ydyw Richard yn bregethwr mawr, pwy ydyw, dywed? Pa fodd y gellir ei osod yn mhlith y pregethwyr bach? pa fodd yr ymddangosai yn y fan hono? A fyddai y fath le yn ei weddu? A fyddai efe yn gweddu y fath sefyllfa? "Clyw, y dyhiryn, y ti sydd yn fach, ac yn anfeidrol fach, cyn y gallesit ddyweyd y fath beth." Yn ddiddadl byddai yn berygl bywyd i ddyn ddyweyd y fath ffolineb a bod Mr. Richard yn bregethwr bach; ni wnai ddim ond codi gwaed cymdeithas i'w wyneb, a'i gyru yn wallgof mewn ffyrnigrwydd. Dyweyd y cyfryw beth hefyd fyddai y moddion effeithiolaf i ddyn wneyd ei hun yn fach yn ngolwg pawb. Rhaid yw cyfaddef ei fod yn bregethwr mawr; ei fod yn mhlith y rhai mwyaf ei oes, ac yn sefyll yn anrhydeddus yno hefyd. Do, do; fe ddarfu iddo guddio gwaeledd Cymanfa y Methodistiaid lawer gwaith; boed coffa da am dano.

Nid yn unig yr oedd Mr. Richard yn bregethwr mawr plaid, ond hefyd yn bregethwr mawr gwlad; nid oedd yn gyfyngedig i sect, canys pregethwr cenedl ydoedd. Mae pregethwyr mawr pleidiau i'w cael; nid ydynt yn codi mor fawr nes hollti holl rwymau cyfundebol, a throi allan yn ddynion cenedl. Bydd y bobl hyn yn ddefnyddiol yn eu cylch, a'u brodyr yn edrych i fyny atynt; eithr y mae tywod mân y cyfundeb yn ddeddf dragywyddol iddynt, ac yn dywedyd wrthynt, "Hyd yma yr âi, ac nid yn mhellach." Yr oedd Richard yn tori dros y tywod oedd yn ffin cyfundebol, yn ymledu drwy holl gymdeithas, crefyddol ac annghrefyddol, bach a mawr, tlawd a chyfoethog-yn bregethwr cenedl, nid yn bregethwr sect. Byddai pob sect yn ei wrando ef, yn saint ac yn bechaduriaid; a phawb yn ddiwahan yn ei roi i lawr yn bregethwr mawr; canys nis gallent, er chwilio, gael un man arall i'w osod.

Bydd dynion weithiau yn ffurfio rhyw fath o undeb, er ceisio myned yn fawr, amcanu twyllo y byd i gredu eu bod yn fawr; ond yn rhyw fodd, peth anhawdd iawn yw gwneyd dim yn fawr yn ngolwg y byd, os na fydd felly mewn gwirionedd. Bydd William yn canmol Dafydd, a Dafydd yn canmol William; er hyny oll nid yw y byd yn awchus i dderbyn eu tystiolaeth am eu gilydd. Y mae yn rhaid i William wrth dystiolaeth fwy na Dafydd, a Dafydd wrth dystiolaeth fwy na William, cyn y bydd yn debygol y derbynir y dystiolaeth. Yr ydym yn darllen am "dystiolaeth ynddo ei hun;" a digon tebyg fod. yn rhaid cael rhyw beth cyffelyb yn y mater hwn. Nid yw bod dynion yn cosi cefnau eu gilydd yn myned yn mhell bellach; rhaid cael rhyw beth fyddo yn cyrhaedd cydwybodau, ac yn gwneyd ei hun yn hysbys yno. Cyn bod yn wir fawr rhaid bod yn alluog i wneyd pethau mawrion; canys gweithredoedd sydd yn cyfiawnhau, ys dywed Iago. A phan y byddo yn gwneyd gweithredoedd mawrion, nid yw holl siarad y byd yn gallu gwneyd hwnw yn fach.

Yr oedd Paul yn gwneyd ei hun yn "hysbys yn nghydwybodau dynion. Yr oedd Mr. Richard hefyd yn bregethwr mawr yn nghydwybodau y werin; yr oedd y cwestiwn wedi ei benderfynu a'i sefydlu mewn llys pwysig iawn, y llys uchaf ar y ddaear, y llys nad oes dim posibl ag apelio oddiwrtho ond at Farnwr pawb. Byddai yr afael ag oedd gan ei weinidogaeth ar y wlad yn cael ei egluro yn amlwg yn maint y cynulleidfaoedd a godai i'w gwrando. Byddai y wlad pan y delai drwyddi yn codi yn bur lwyr i'w wrando; ac yn gyffredin byddai rhyw les yn dylyn hyny. Yr oedd peth mwy yn Mr. Richard na gallu codi cynulleidfa wrth fyned unwaith neu ddwy drwy y wlad; yr oedd efe yn gallu eu cadw. Cadw rhyw beth wedi ei gael yw y prawf o fawredd, yn enwedig cadw y cynulleidfaoedd. Gwelwyd ambell un yn codi cynulleidfaoedd am dro, ond yn methu eu cadw, daethant o herwydd rhyw swn, eithr ni ddaethant wedi hyny; cawsant eu siomi, eu twyllo, a'u diflasu. "Unwaith am byth yn ddigon," meddent; ac ymaith a hwy, un i'w "faes, ac arall i'w fasnach;" ac yr oedd yn rhaid cael rhyw un heblaw efe i'w cyrchu oddiyno eilwaith. Eithr am Mr. Richard, nid codi cynulleidfaoedd i'w siomi wnaeth efe, ond i'w cadw. Cadwodd hwy nes i'w nerth ballu; a chadwodd hwy yn ddifyr hefyd. Bydd ambell un yn burion os bydd hwyl, ond yn druenus heb hyny; eithr am Mr. Richard, hwyl neu beidio, yr oedd yn ddigon galluog i ddysgu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi, a rhoi digon o foddlonrwydd i bawb am eu trafferth, fel, pan y deuai eilwaith, byddent yn ei ddysgwyl yn serchog, gan obeithio cael rhyw beth ganddo. Ië, "hwy a wrandawent arno, ac a ddysgwylient; dystawent wrth ei gynghor; a'i ymadrodd a ddyferai arnynt hwy. A hwy a ddysgwylient am dano fel am y gwlaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-wlaw." Gwell yw peidio udganu yn yr udgorn o flaen dynion, gadewch iddynt ganu eu hunain nes y byddo y bobl yn clywed, onide byddant yn sicr o gael eu siomi. Cenir udgorn o flaen ambell un nes y bydd yr holl wlad yn codi; ac erbyn y delo y pregethwr, dacw y bobl yn troi eu cefnau yn siomedig, ac yn gosod y pregethwr i lawr yn mhlith yr allanolion. Pe codai un oddiwrth y meirw i geisio perswadio dynion fod rhyw un yn bregethwr mawr, ni chredant, oddieithr ei fod ef ei hun yn gallu gwneyd hyny yn ei weinidogaeth. Nid oedd eisiau un cymwynaswr i chwythu yn yr udgorn pan y deuai Mr. Richard; yr oedd yn llawn digon i ddyweyd yn araf a dystaw; byddai y bobl yn sicr o fod yno yn ei ddysgwyl.

Yr oedd Shon o'r Scubor, hen bregethwr o ardal Llangeitho, wedi danfon cyhoeddiad drwy ryw wlad, a chlywodd fod y Parch. Ebenezer Morris yn myned y ffordd hono; dywedodd Shon wrth Mr. Morris, "Yr wyf yn clywed eich bod chwi yn myned trwy y wlad lle mae fy nghyhoeddiad i; er mwyn dyn, os dygwydd i chwi ei weled yn ymlusgo ar hyd ochr y cloddiau ar hyd y ffordd, gwnewch ei chwipio yn y blaen, canys yn lled anhwylus, fas-dygwydd y bydd yn trafaelu; am eich cyhoeddiad chwi, pe bai yn mhig y frân, y mae yn sicr o fyned. Peidiwch chwi a gofalu am eich cyhoeddiad eich hun; chwipiwch Shon o'r Scubor yn y blaen." Yr oedd llawer o wir yn ymadroddion yr hen Shon, ac yг oedd llawer o synwyr yn Shon, gan ei fod ef yn deall peth felly; canys mae llawer yn yr un sefyllfa a Shon, ond heb erioed wedi cael agoriad llygaid i weled hyny. Gellir dywedyd yr un fath am gyhoeddiad Mr. Richard ag oedd Shon yn dywedyd am yr eiddo Mr. Morris; byddai yn sicr o fyned yn gyflym, ac i'r pen draw; a chodai y wlad o unfryd calon ar ei ol. Fe allai fod cymaint a hyny o ddyweyd yn gystal ag ychwaneg, er mwyn dangos fod Mr. Richard yn un o bregethwyr mawr ei ddydd.

Bydd ambell bregethwr yn bregethwr mawr ei ddydd, ac yn addurn i'w oes, ond nis gellir dyweyd y buasai yn bregethwr mawr yr oes ddyfodol. Y mae ei fawredd, i fesur mawr iawn, i'w briodoli i anwybodaeth a thywyllwch yr oes yr oedd yn byw ynddi. Ymddengys y buasai Mr. Richard yn bregethwr mawr mewn unrhyw oes: yr oedd y Nefoedd wedi ei ddonio mor fawr â chymhwysderau gweinidogaethol, fel nad allasai gymeryd lle bach yn un man, nac un amser. Buasai yn bregethwr mawr yn awr yn Nghymru yn mhlith pob enwad; ïe, gyda'r mwyaf sydd ar y maes; ac yn bregethwr mawr yn yr oes nesaf hefyd, a'r un ar ol hono. Yr oedd wedi ei greu i fod yn fawr; nis gallasai fod yn ddim ond yn fawr, ac nis gallasai neb ei wneyd yn fach, er gwneyd eu heithaf at hyny. Pe buasech yn cyfarfod ag ef heb ei adnabod, buasech yn meddwl mewn moment ei fod yn rhyw un allan o'r cyffredin, a buasech yn sicr o ymholi yn ei gylch. Yr oedd ei lygaid mawrion, prydferth, arwyddocaol, yn peri i chwi edrych, a throi yn ol i edrych wed'yn; a byddai y galon yn sicr o sibrwd yn ddystaw, "Nid yw hwnw yn rhyw un cyffredin." Pe buasai Sais yn ei weled yn rhyw fan, er heb glywed son am dano erioed, buasai hwnw yn sicr o holi yn union, "Who is that gentleman?" Yr oedd yn anmhosibl peidio, canys ymddangosai fel tywysog mewn llu yn mhob man; a byddai ei olwg dywysogaidd yn tynu sylw unrhyw ddyn, bydded ef yn Sais neu yn Gymro, neu yn rhyw genedl arall ag sydd dan y nef. Yr oedd pob awgrym, pob symudiad, pob gair, a phob ystum, yn cynorthwyo y meddwl mewn moment i ffurfio y penderfyniad ei fod yn sicr o fod yn rhyw un mawr. Daeth Esgob Tyddewii'r penderfyniad hynar unwaith. Yr oedd cyfarfod offeiriadol, rhyw fath o ymweliad, pryd y cyfarfyddai yr esgob å holl offeiriaid ei esgobaeth, i'w cyfarch yn nghylch pethau perthynol i'w gweinidogaeth. Dygwyddodd Mr. Richard fod yn Nhyddewi ar y pryd, ac aeth i'r cyfarfod. Yr oedd yn barchus iawn o'r Eglwys Sefydledig; ni chlywid ef un amser yn siarad yn isel a dirmygus am dani fel y bydd llawer; ond yr oedd yn ddigon mawr i weled daioni yn yr Eglwys hono, ac yn y gwahanol enwadau Ymneillduol, ac hefyd i beidio edrych ar yr un o honynt wedi cyrhaedd perffeithrwydd. Yr ydym yn edmygu hyn ynddo yn fawr; ac y mae yn myned yn mhell iawn i brofi yr hyn y buom yn son er ys meityn-ei fod yn bregethwr ac yn ddyn mawr. Bydd ambell ddyn pitw bach yn dirmygu ac yn poeri ar bob peth nad yw o fewn terfynau y sect y mae efe gyda hi; bydd efe yn gweled anmherffeithrwydd yn mhob cyfundraeth grefyddol ond ei gyfundraeth Utopaidd ei hun; ac nid yn unig anmherffeithrwydd, ond cymaint o anmherffeithrwydd, fel nad ydyw yn ddichonadwy iddo ef gydnabod y gall eglwys i Dduw fodoli o gwbl yn y gyfundraeth hono. Druan! cylch bychan iawn yw yr un y bydd ei enaid ef yn troi ynddo: nid yw byth yn tori allan y tu hwnt i derfynau sect.

Yr oedd Mr. Richard yn Fethodist, fel y dywedir; ar yr un pryd ni welodd berffeithrwydd erioed mewn Methodistiaeth; eithr gwelodd lawer o ddaioni yno, fe allai fwy nag yn un man arall, onide buasai yn myned wrth gwrs i'r man y gwelai fwyaf o ddaioni. Nid oedd yn Annibynwr, yn Fedyddiwr, yn Wesleyad, nac yn Eglwyswr; eto yr oedd yn gweled daioni mawr yn mhob un o honynt, a pharchai hwynt am eu bod yn gydweithwyr Duw. Chwi welwch ei fod yn ddigon mawr i gymeryd i mewn egwyddorion haelfrydig fel yna; ac yn sicr bydd dyn felly yn llawer dedwyddach mewn cymdeithas na rhyw grebychyn diras a disynwyr. Ond yr oeddym yn dyweyd, yn gymaint a bod Mr. Richard yn Nhyddewi yn amser y cyfarfod, aeth yno i wrando yr esgob. Yr esgob a edrychai arno yn aml iawn; nis gallasai er dim beidio edrych tuag ato, er na wyddai yn y byd pwy ydoedd. Eisteddai ryw gymaint naill ochr, mewn eisteddfa wrtho ei hun, yn syml a difrifol, gan dalu y parch dyledus i'r gwasanaeth. Yr oedd yr esgob da yn methu deall pwy a pheth allasai fod; ond nid oedd yn gweled un dyn o fewn yr eglwys gadeiriol gyffelyb iddo mewn mawredd. Sylwai y prelad dysgedig ar ei dalcen uchel a lluniaidd, ei wynebpryd llewaidd a phenderfynol, yn cynwys llinellau o foneddigeiddrwydd prydferth, yn nghyda'i lygaid eryraidd a threiddgar, nes y daeth i'r penderfyniad yn y pwlpud ei fod yn sicr o fod yn rhyw un mawr. Sylwai y bobl fod llygaid yr esgob ar y bregeth ac ar wyneb Mr. Richard bob yn ail; yr oedd fel pe buasai yn darllen y ddau gyda difrifwch mawr. Aeth y cyfarfod heibio, a phawb yn dechreu ymwahanu, pryd y nesaodd yr esgob at ryw berson adnabyddus o'r wlad, a gofynodd, "Syr, a ellwch chwi ddyweyd wrthyf pwy oedd y gwr boneddig hwnw oedd yn eistedd naill ochr, a chap melfed ar ei ben?" Gwenodd yr offeiriad, a dywedodd, "Wel, fy arglwydd esgob, fel chwithau mae y gwr hwnw. Efe yw esgob y Methodistiaid Calfinaidd; mae efe, fel chwithau, wedi ordeinio llawer iawn at waith y weinidogaeth." "Wel," ebe yr esgob, "pwy bynag ydyw, y mae yn sicr o fod yn ddyn allan o'r cyffredin yn mhell; yr oedd mwy o fawredd i'w weled arno na neb ag oedd yn yr eglwys heddyw." Mewn gweinidogaeth yr eglurwyd y mawredd hyn; dyna'r gamlas trwy yr hon yr amcanodd y nefoedd egluro y talentau naturiol ac ysbrydol mawrion hyn. Yr oedd ei wisgo â chymaint o gymhwysderau gwreiddiol yn rhagbarotoad yn ddiau i'w alwedigaeth i fod yn bregethwr.

Nid dygwydd yw galwad i bregethu yr efengyl; fel pe bai Ysbryd Duw yn neillduo rhyw un ar y pryd, a rhoi pob cymhwysder iddo ar unwaith, naturiol ac ysbrydol. Na, na; y mae y pregethwr mewn amcan gan y Creawdwr; ac y mae efe wrth ei lunio, a gwneyd gwaith Creawdwr arno, yn ei ddarpar ar gyfer y gwaith a fwriedir iddo ei wneuthur. Creadigaeth barod a chymhwys y bydd yr Ysbryd Glân yn ei chymeryd i wneyd gwaith ysbrydol arni, er ei chymhwyso yn llestr etholedig i ddal ac i gario trysorau gras i bechaduriaid. Dacw y Creawdwr yn estyn y llestr i'r Gwaredwr; y Gwaredwr yn ei estyn i'r Santeiddydd, a'r Santeiddydd yn ei lanw a doniau y nef, a'i estyn at fyd o bechaduriaid. Dyma y trysor mewn "llestr pridd, fel y byddo godidawgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni;" ac fel yr efengylid yn mhlith y Cenedloedd, "anchwiliadwy olud Crist." Nid ydym yn cofio gweled erioed fwy o gymhwysder naturiol i bregethu yr efengyl nag oedd yn Mr. Richard; yr oedd braidd pob peth ag y gallesid dymuno ynddo. Nid oedd un man ond y pwlpud yn ei weddu; ni edrychai yn dda yn un lle arall. Pe buasech yn ei roi mewn siop, ymddangosai yn chwithig yno; ni byddai y siop ac yntau yn gydnawsol, nac yn gydrywiog ychwaith, tebygem; byddent yn lled debyg i ieuo ých ac asyn yn nghyd i aredig. Rhyw siopwr lledchwith iawn a wnelai; ond dyna, y mae yn fwy na thebyg na fuasent yn gallu cydfyned yn hir gyda'u gilydd; byddai yr asyn yn cicio yr ŷch, neu yr ŷch yn cornio yr asyn beunydd, nes y lladdai un y llall, a diane o un o honynt o gaethiwed. Pe baech yn meddwl am ei roi yn dafarnwr, gwaeth byth fyddai; ni wnaech dafarnwr yn oes oesoedd o hono, canys nid oedd ynddo weniaith; ni wyddai pa beth oedd hyny; ac yr oedd yn ei chasâu cymaint nes oedd yn tynu yn mhell at y terfynau i'r ochr arall. Ac y mae yn fwy na thebyg y byddai wrth y bobl o hyd yn nghylch yfed gormod, ac nid eu cymhell yn y blaen, gan ddangos mewn iaith ac ymarweddiad nad oes dim yn ein byd ni sydd gyffelyb i gwrw mewn rhinwedd. Ond ni raid myned y ffordd yna, canys ni chrewyd ef erioed at fod yn dafarnwr; nis gellid gwneyd tafarnwr o hono.

Y mae yn debyg, fel y gwelir yn y Bywgraffiad, iddo feddwl am fod yn ffermwr; ond rhyw ffermwr afler, digwmpas, difedr i'r pen ydoedd. Bu yn ffermu, eithr yn hytrach yn ymdrybaeddu, nes iddo bron myned dros ei ben a'i glustiau i'r "pridd tew a'r clai tomlyd." Nid oedd efe yn edrych yn dda yn un man ond yn y pwlpud; yr oedd fel tywysog yno; canys at hyny yn ddiau y neillduwyd ef o groth ei fam, ac y galwyd ef drwy ras. Pan y bydd pethau yn eu lle priodol, ymddangosant yn brydferth a hawddgar; eithr unwaith yr ant allan o'u lleoedd priodol, nid oes na phryd na thegwch ynddynt. Pan elo menyw yn wrywaidd, a chymeryd lle gwryw, neu wryw yn fenywaidd, a chymeryd lle menyw, у maent yn anmhrydferth ac yn annefnyddiol; ond pan y bydd pob un o honynt yn troi yn eu lle, yn eu cylchoedd cymdeithasol a phriodol, y maent yn brydferth, yn hardd, ac yn ddefnyddiol. Felly nid ydym yn meddwl fod yr un lle yn nghreadigaeth Duw y buasai Mr. Richard yn ymddangos yn brydferth ynddo ond y pwlpud. Yma yr oedd gartref; ac yma yr oedd pawb yn foddlon iddo gael bod; ac oni bai eu bod yn ofni temtio Duw, buasent yn gweddio am iddo gael bod yno dros ddyddiau y ddaear. Ond yn gymaint ag mai llestr pridd ydoedd fel ei holl frodyr, rhaid oedd iddo fyned o dan yr un dynged—cael ei ddryllio gan angau, a myned i'r briddell i orwedd. Eto o drugaredd nid yw y trysor oedd ynddo yn myned— yno; y mae hwnw yn cael ei osod mewn rhyw lestr darparedig arall; rhaid i'r weinidogaeth aros yn elfen anfarwol ar y ddaear hyd ddiwedd y byd, mewn llestri newyddion o genedlaeth i genedlaeth.

Nodiadau

[golygu]