Calon Drom (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Brith y Fuches
Nesaf – Nos Da

Mae Calon Drom yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Mae'm calon i mor drymed
A'r march sy'n dringo'r rhiw,
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis medraf yn fy myw;
Mae'r esgid fach yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chwi,
A llawer gofid meddwl
Sy'n torri 'nghalon i.