Can Coffadwriaethol Tanymarian
| ← | Can Coffadwriaethol Tanymarian gan John Henry Hughes (Ieuan o Leyn) |
→ |
Can Goffadwriaethol
AM Y DIWEDDAR
TANYMARIAN.
(Allan o'r "Genedl" am Awst 5, 1885.)
Y MAE cysgod tywyll angeu
Ar ein llwybrau yn mhob lle,
Teimlir ei ddylanwad pruddaidd,
Yn y Gogledd fel y De;
Dan ei effaith gwywa'r blodau
A'r rhosynau teg eu gwedd,
A gyr hefyd feib athrylith
Ar fyr rybudd i oer fedd.
Wele eto un yn rhagor
O ddefnyddiol weision Duw,
Wedi cael ei roi i huno
Yn y bedd, o dir y byw;
"Tanymarian" wedi marw!
Y brawd anwyl yn y glyn!
Fe wna meddwl ei fod yno
Wneyd ein llygaid heddyw'n llyn.
Teimlo'r y'm fel plant amddifaid
Wedi colli tyner dad;
Un fu'n uchel yn yr eglwys,
Un fu'n anwyl gan ei wlad;
Un fu'n ffyddlon fel gweinidog,
Un ddyrchafai Crist a'i Groes;
Un er marw a lefara
Dros ei Dduw, am lawer oes.
Er nad allai ef ymffrostio
Mewn uchel-waed cestyll clyd,
Cysylltiadau henafiaethol
A fawr berchir gan y byd;
Fe dderbyniodd well trysorau
Mwy parhaol, gan y nef—
Meddwl bywiog, llawn athrylith,
Teimlad dwfn, ac awen gref.
"Tanymarian" oedd prif gerddor
Cymru dawel, gwlad y gân;
Cyfansoddodd dônau swynol,
Llawn o fywyd, llawn o dân;
Handel oedd yn mysg ei frodyr,
Ac a berchid ar bob awr;
Eto teimlai'n ostyngedig
Fel pe'n amheu'i fod yn fawr.
O! mor llawn o swyn trydanol
Fyddai pan y canai'i hun.
Treiddiai'i lais toddedig grymus
At deimladau dyfnaf dyn;
Wrth ei glywed braidd na thybiem
Mai rhyw angel cryf oedd ef,
Gyda'i odlau yn dyrchafu
Ein heneidiau tua'r nef.
Beirniad craffus, llawn medrusrwydd,
Manwl a diwyrni oedd,
Fel y cyfryw aeth ei enw
Drwy ein brodir oll ar g'oedd;
Fel Astrea daliai'r glorian
Yn ei law'n ofalus iawn;
A gwnai gyda'r cystadleuwyr
Yn mhob lle gyfiawnder llawn.
Ac ar lwyfan yr Eisteddfod
O mor hynod fedrus fu!
Gyda swyn ei wir arabedd
Fe arweiniai ddirfawr lu;
Gwnai ei ffraethder greu dyddordeb
A thawelau'r chwyddawg don;
Dan ddylanwad ei ffraethineb
Teimlai'r lluaws oll yn llon.
Meddai awen bardd naturiol
Canai fel y Salmydd gynt;
Hoffai rodio'n mysg y blodau,
Carai glywed cerdd y gwynt;
"Tafla'i enaid bywiog cynhes
I linellau tlws ei gân,
A gwnai swyn ei eiriau yru
Y darllenyddoer ar dân.
Hefyd, megys efengylydd
Safai'n uchel gan ei wlad,
Teimlai'n ddedwydd wrth gyhoeddi
Llawnder trefn maddeuant rhad;
Carai son am Aberth Iesu,
Teimlai gartref wrth ei Groes—
Wylai'r dorf, ac wylai yntau,
Fel pe'n teimlo'i ing a'i loes,
Nid anghofir byth gan filoedd
O'i gydwladwyr, 'nawr sydd drist,
Y dwfn deimlad a gynyrchai
Pan ddarluniai angeu Crist ;
Syml ac addysgiadol oeddynt
Ei bregethau yn mhob lle,
Ac fe deimlid fod pob brawddeg
Dan eneiniad gwlith y ne'.
Ond mae'r cyfaill a fawr garem
'N awr yn farw yn ei fedd;
Ni chawn yma'i fwyn gymdeithas,
Oedd lawn hoffder a llawn hedd;
Mae y cerddor medrus, swynol
Wedi cyrhaedd pen ei daith;
Darfod wnaeth ei “wythnos” yntau,
A rhoes heibio ei hoff waith.
Mwy ni chlywir ei bereidd-lais
Yn gwefreiddio'r dyrfa fawr;
Mwy ni welir ei fwyn wenau
Oedd i ni fel toriad gwawr;
Mwy ni chawn y fraint o'i glywed
Yn gwahodd i'r Ddwyfol wledd;
Huno mae yn ddystaw heddyw
Yn ystafell oer y bedd.
Yn y bedd! O! na nid yno
Y mae'r oll o hono ef,
Nid oes yma ond y marwol
Y mae Stephen yn y nef;
Uno wnaeth â chôr y gwynfyd
A'r folianus dyrfa fawr;
Cana heddyw yn felusach
Nag y canodd ar y llawr.
Boed i'w deulu hoff sy'n wylo,
A'r eglwysi sydd yn brudd,
Edrych arno gyda'i Arglwydd
Heb un deigryn ar ei rudd;
Fe wna hyn eu cynorthwyo
I foddloni i drefn y nef,
Nes cael eto adnewyddu
Y gymdeithas gydag ef.
Bellach, rhaid i mi derfynu
Fy "ngalargerdd" uwch ei fedd,
Sychu'm dagrau, ymfoddloni
I drefn ddoeth y Ddwyfol sedd;
Ond an-hawdd yw peidio wylo
Uwch ben bedd fath gyfaill cun;
Ond rhaid gwneyd gan ddweyd fy nheimlad
Yn ei eiriau ef ei hun:—
"Ni waeth imi heb ffarwelio,
Deuaf atat yn y man,
I fwynhau'r orphwysfa hono
A bwrcaswyd ar ein rhan;
Mae fy wythnos inau'n darfod,
Wythnos dra helbulus yw,
Fy nos Sadwrn sydd yn dyfod—
Yna henffych Sabboth Duw."
IEUAN O LEYN.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.