Can Iar (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Can Iar yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- A glywaist ti
- Gan ein iar ni?–
- "Dodwy, dodwy 'rioed,
- Heb un esgid am fy nhroed;
- A phe bawn yn dodwy byth,
- Ni chawn ond UN wy yn fy nyth."
- "Taw'r ffolog," ebai'r ceiliog,
- "Wnaeth y crydd 'rioed esgid fforchog."