Caneuon Mynyddog/Cartre'r Bardd
Gwedd
| ← Cymru, Cymro, Cymraeg | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Ewch i'r Ysgol → |
CARTRE'R BARDD.
CARTRE'R bardd caredig mwyn
Sydd dan y llwyn celynen,
Pwy a welodd lecyn bach
Siriolach is yr heulwen;
Dymunoldeb pur a'i todd
Mae'n lle wrth fodd yr awen.
Mynydd mawr tu cefn i'r tŷ
Ymgoda fry mewn mawredd,
Creigiau noethion ar ei war
Sydd goron arucheledd;
Ac ar gopa tal y bryn
Mae'r cwmwl gwyn yn eistedd.
O! mae'r ardd o flaen y drws
Yn arlun tlws o Eden,
Hawdd yw gwel'd oddeutu'r lle
Ei fod yn gartre'r awen;
Yn y gwrychoedd gylch y tŷ
Barddoniaeth sy'n mhob deilen.