Neidio i'r cynnwys

Caneuon Mynyddog/Cymru, Cymro, Cymraeg

Oddi ar Wicidestun
Ni wn i p'run am hyny Caneuon Mynyddog

gan Richard Davies (Mynyddog)

Cartre'r Bardd

CYMRU, CYMRO, CYMRAEG.
ALAW:—"The good Rhine Wine."

AWYR hen fynyddoedd Cymru iach
Yw'r awyr buraf brofais,
A swn ei nentydd bywiog, bach,
Yw'r swn pereiddia' 'rioed a glywais;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch, eled Cymru wen.

Penderfynu sefyll fel y dur
Dros ei iawnderau'n mhobman,
Ac esgyn grisiau rhinwedd pur
Fo nod pob Cymro 'gwaed coch cyfan;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch, eled Gymru wen.

Oes y byd i'r iaith Gymraeg, a chân,
A thelyn anwyl Cymru,
A'r hen alawon llawn o dân
O oes i oes fo'n cael eu canu;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch, eled Cymru wen.


Nodiadau

[golygu]