Caneuon Mynyddog/Dirwest
| ← Y Tegan Enbyd | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Prydferthwch y Greadigaeth → |
DIRWEST.
ALAW:—"Y Deryn Pur."
LLEDAENER dirwest dros y byd,
Estyner hyd ei hedyn,
A gwasged yn ei thyner gôl
Bob ffol anfuddiol feddwyn;
Iachus oriau a chysuron.
A helaeth daena yn mhlith dynion,
Egyr ddorau hen garcharau
Lle cadwynwyd meibion gwaeau,
Gan ddwyn y rhai'n i awyr iach
Anwylach yn eu holau:
Perlau anwyl pur lawenydd
A eres gluda dros y gwledydd,
Gwena'n dirion ar y meddwon,
Nes diflana 'u anghysuron,
Brenhines bendith yw mewn gwlad,
A chariad yw ei choron.
Derbyniwch feddwon tref a gwlad
Ei galwad a'i hymgeledd,
Addurna eich aneddau mad
A chariad yn lle chwerwedd;
Dewch o feddwon dan ei baner,
Ufuddhewch i'w galwad tyner;
Gwelwch fel mae 'i phlant yn gwenu,
Wrth eich gwa'dd yn un o'r teulu,
A chwithau, druain, heb un wên
Trwy angen bron yn trengu:
Dirwest leinw nythod newyn,
Dirwest esmwythä y coryn,
Anedwyddwch nos o dristwch,
Dry yn ddydd o wir hyfrydwch,
A than ei nawdd gofidiau gant
A doddant yn ddedwyddwch.