Caneuon Mynyddog/Einioes
| ← Heddwch | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Rho'i Troed goreu 'mlaen → |
EINIOES.
O WANED ydyw einioes!
Ail yw i niwl: olwyn oes,
A'i throad erch wthia 'r dyn
O'r byd fel rhyw abwydyn:
Gyda bod ei gyfnod gwael
Y' myd, mae yn ymadael.
Fy awr red, mor frau yw oes
Edef fain ydyw f' einioes;
Afiechyd enyd fechan
A dŷr y wyw ede' wan.
Ar eu hynt cyflym y rhed
Yr oriau ar i waered,
Hyd riniog pen draw einioes,
Lle derfydd hwyrddydd ein hoes.
Cadwen fain a'n ceidw 'n fyw,—
Dyma'n dydd, dim ond heddyw;
Yr oed sy 'n cyflym redeg,—
Ah! ddoe nid oedd y wen deg,
Y foru eto 'n farwol;—
O Dduw Ner! beth fydd yn ol
I'r enaid wedi'r einioes?
P'le bydd ei le mewn ail oes?
O! na ddoem i chwilio 'n ddwys,
Ai cam, ai ynte cymwys
Y rhodiwn tra byddwn byw,—
Adeg dra phwysig ydyw.
Bore einioes, byw rhinwedd,
Tua'r nawn sy 'n troi yn hedd;
A draen yn hydre' einioes,
Yw wario rhan orau 'r oes.