Caneuon Mynyddog/Ewch i'r Ysgol
Gwedd
| ← Cartre'r Bardd | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
'R oedd 'Deryn bach unwaith → |
EWCH I'R YSGOL SUL.
ALAW:—"The Hazel Dell."
GWELAIS Johnny bach yn myn'd i'r Ysgol
Pan yn bedair oed,
Clywais ef yn dweud y geiriau Dwyfol
Yn ei ddwylaw roed;
Gwelais ef o flwydd i flwydd yn tyfu
Gyda gruddiau iach,
Sylwais arno'n dilyn llwybrau'r Iesu
Pan yn blentyn bach:
D'wedai'r byd yr ai yn uchel
Ar y ddaear hon,
Ond dywedai'r Nef mai coron angel
Oedd yn disgwyl John.
Gwelais John yn gorwedd ar ei elor
Pan yn ddeuddeg oed,
Gwelais feddrod bach yn cael ei agor
Yntau ynddo roed;
Tad a mam a wylent eu calonau
Am eu bachgen llon,
Tra'r oedd engyl gyda mwyn delynau
Yn croesawi John:
Dyma lais y bachgen duwiol
Draw o'r beddrod cul,
"Ymhyfrydwch yn y geiriau dwyfol,—
Ewch i'r Ysgol Sul."