Neidio i'r cynnwys

Caneuon Mynyddog/Ffrwd fawr y Pennant

Oddi ar Wicidestun
Adgofion Plentynaidd Caneuon Mynyddog

gan Richard Davies (Mynyddog)

Ni wn i p'run am hyny

"FFRWD FAWR Y PENNANT."

HEN ddernyn llawn addurniant—rhuadwyllt
Yw "Ffrwd fawr y Pennant;"
Anian yn ei gogoniant
Ro'i fy Ner yn nhwrf y nant.

Dros grib y daneddog glogwyn—i'w daith
Ymdeifl y dwfr brigwyn;
E roes Ior mewn rhaiadr syn
Fawredd yn mhob dyferyn.

Mae'n disgyn i lyn aflonydd—eilwaith,
Gan ymrolio beunydd;
Yn y bar trochioni bydd,—
O ruadwy ferwedydd!


A haul anian melynwawr,—a lawen
Dryliwia'r ffrwd erfawr
Yn rhyw enfys eirianfawr,
Groga fyth dros y graig fawr.


Nodiadau

[golygu]