Caneuon Mynyddog/Fry, Fry
Gwedd
| ← Gweno Fwyn | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Marwnad Jack y Lantern → |
FRY, FRY.
ALAW:—"Home."
FRY, fry,
Mae fy nghyfeiriad,
Uwch pob
Gofid a phla;
Myn'd fry
Yw fy nymuniad,
Fry ceir
Pobpeth yn dda;
Fry mae
Engyl yn byw,
Fry mae
Nefoedd fy Nuw.
Fry mae
Pob rhyw anrhydedd,
Fry, fry,
Gwynfyd a gawn,
Fry mae'r
Teulu a'u bysedd
Ar dant
Anwyl yr Iawn;
Fry mae
Palmwydd a gwledd,
Fry mae
Moroedd o hedd.
Fry, fry,
Mae ein cyfeillion,
Heb un
Trallod na loes;
Fry, fry,
Gwisgir y goron
Gan bawb
Gariodd y groes;
Fry mae
Iesu fy Nuw,
Fry af
Finau i fyw.