Caneuon Mynyddog/Heddwch
Gwedd
| ← Marwnad Jack y Lantern | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Einioes → |
HEDDWCH.
ARWYDDAIR amser heddwch—yw cariad,
Ac eirian dawelwch;
Darfu trwst arfau tristwch,
O tan draed rhydant yn drwch.
Heddwch, hoff heddwch ddiffodda—gynen,
A'r gwanaf gyfoda;
O'i flaen, llèn brudd ymdaena,—
Rhyw ail Nef ar ei ol wna.