Neidio i'r cynnwys

Caneuon Mynyddog/Hoffder penaf Cymro

Oddi ar Wicidestun
Cywydd Diolchgarwch am Ffon Caneuon Mynyddog

gan Richard Davies (Mynyddog)

Un goeg oedd y Gneuen

HOFFDER PENAF CYMRO.
CANIG.

HOFFDER penaf Cymro yw
Gwlad ei dadau;
Dyna'r fan dymuna fyw
Hyd ei angau:
Chwareu ar ei bronydd,
Yfed o'i ffynonydd,
A gwrando cân, yr adar mân
Delorant yn ei gelltydd.

Clywed rhu ei nentydd gwylltion,
Ac yfed iechyd o'i hawelon,
Yw prif ddymuniad pena'i galon:
Mae golwg ar ei dolydd gwiwlwys,
Yn adlewyrchiad o baradwys,
Ac awyr iachus ei mynyddoedd
Yw'r awyr iachaf dan y nefoedd:
Mae'ngwlad a fy nghalon fel wedi ymglymu,
Yn uwch, yn uwch dyrchafer hen Gymru.


Nodiadau

[golygu]