Caneuon Mynyddog/Mae'r Nos yn dod
Gwedd
| ← Beth sydd ddewr | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Y "Nhw" → |
"MAE'R NOS YN DOD."
Geiriau ar y GLEE,—"Ye spotted snakes."
MAE'r nos yn dod,—holl natur fawi
Blyga 'i phen i orwedd lawr,
Cryma'r Lili hardd pryd hyn
Fel angyles yn ei gwyn,
Dywed wrth y rhosyn iach
"Cysga, cysga'n ddistaw bach."
Cefnu'n brudd
Mae golau'r dydd;
Hithau'r awel dyner, iach,
Dd'wed "nos da" yn ddystaw bach.
Dacw'r sêr aneirif lu,
Draw ar fron yr wybren fry;
Heirdd ffenestri'r nefoedd wiw,
Wedi'r nos yn dangos Duw:
Hithau'r awel dyner, iach,
Dd'wed "Nos da" yn ddystaw, ddystaw bach.