Caneuon Mynyddog/Mae'r Oriau'n myn'd
| ← Ymson Hen Ferch | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Wedi'r Nos yn Nghymru gynt → |
MAE'R ORIAU'N MYN'D!
MAE'R oriau'n myn'd! yn myn'd o hyd,
A dyn yn myned gyda'r oriau;
Un awr mae 'n faban yn ei gryd,
A'r nesaf bron mae'r dyn yn angau.
Mae'r oriau'n myn'd! Pob awr a gawn
Sydd megys defnyn llawn sirioldeb;
Ond prin y ceir ei gwel'd yn llawn—
Dyfera'i hun i dragwyddoldeb.
Mae'r oriau'n myn'd! ac O! mae awr,
Er byred yw ei hoes, yn bwysig;
Mae 'n gwthio'r dyn i lawr i lawr
Ar oriwaered einioes lithrig.
Mae'r oriau'n myn'd! mae'n d'w'llwch prudd!
Oes awr imi yn y dyfodiant;
Ai yntau bysedd yr awr sydd
Fyn gau am byth fy marwol amrant?
Mae'r oriau'n myn'd! fel llif y nant,
Chwyrn deithia amser mewn prysurdeb,
O'i ynys fach mae'n gwthio 'i blant
I faith gyfandir tragwyddoldeb.
Mae'r oriau'n myn'd! ac mae pob awr
Yn dweud ein hanes yn y nefoedd;
A'u cyfri hwy'n y frawdle fawr
A selia 'n tynged yn oes oesoedd!