Caneuon Mynyddog/O na bawn yn Afon
| ← Bu farw'r Eneth | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Rhywbeth mwy → |
O NA BAWN YN AFON!
ALAW:"Rosalie the Prairie Flower."
MYN'D ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Rhwng y dolydd lle mae blodau fyrdd;
Chwerthin mae am ben y 'Deryn du a'i gân,
Byngcia ar y cangau gwyrdd:
Myn'd ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Nid yw'n hidio rhwystrau bach na mawr;
Myn'd ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Myn'd ymlaen i lawr, i lawr:
Rhwng ei cheulanau araf yr ä,
Gwenu yn llon ar bobpeth a wna,
Siarad dwyfol iaith yn mysg y graian mân
Mae yr afon loew, lân.
O na bawn i'n afon loew, loew, lân,
Unrhyw ofid dwys na phoen ni chawn;
Treulio f' oes ynghanol blodau tlws a chân,—
Fel yr afon, O na bawn!
O na bawn i'n afon loew, loew, lân,
Fel y gallwn beidio hidio'r byd,
Chwerthin ar flinderau'r ddaear fawr a mân,
Myn'd ymlaen, ymlaen o hyd:
Teithio yn ddiwyd i de fy nhad,
Tynu o hyd tua môr cariad rhad;
Treiglo tuag eigion gwynfyd pur a chân,
Fel yr afon loew lân.