Caneuon Mynyddog/O tyred y Gwanwyn
| ← Yr Arian | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Rhyddid → |
O TYRED Y GWANWYN!
O! TYRED y Gwanwyn, cynhesa ein byd,
Trydana ei rewllyd wythenau;
Mae natur yn curo ei gliniau yn nghyd
Gan anwyd er's llawer o ddyddiau.
O! tyred y Gwanwyn, mae llygaid y byd
Yn disgwyl am weled dy wyneb;
Tyr'd, dangos i'r eira fu 'n aros cyhyd,
Y medri ei ladd â'th sirioldeb.
O! tyred y Gwanwyn, a chladda lwyd wedd
Y gauaf yn meddrod tymorau;
A chwyd gofadeilad i ddangos ei fedd,
O ddail, o friallu, a blodau.
O! tyred y Gwanwyn, mae natur yn fud,
A'i thanau i gyd wedi rhewi;
Cyweiria'r hen delyn fu'n ddistaw cyhyd,
A deffro beroriaeth y llwyni.
O! tyred y Gwanwyn, mae llygaid y dydd
Yn tyfu yn ol dy gerddediad;
Wrth deimlo tynerwch dy awel iach, rydd,
Y rhosyn a egyr ei lygad.
O! tyred y Gwanwyn, anadla yn llon,
Anadla ail fywyd i'n bröydd,
A gad i brydferthwch roi 'i phen ar dy fron
I wrando caniadau llawenydd.