Neidio i'r cynnwys

Caneuon Mynyddog/Priodas Huw ac Ann

Oddi ar Wicidestun
Yr Eneth ar y bedd Caneuon Mynyddog

gan Richard Davies (Mynyddog)

Adgofion Plentynaidd

PRIODAS HUW AC ANN.

MAE ambell un wrth geisio gwraig
Yn ceisio bod yn gryn 'sgylaig,
Ond llawer un a'i cafodd hi
Heb fedru countio "Rule of Three."

Peth diflas iawn gan bob rhyw ferch
Yw son am rywbeth heblaw serch;
Addition yw eu cownts i gyd,
Sef addio un ac un yn nghyd.

Fe ddarfu Huw a'i anwyl fun
Gyd ddysgu addio un at un,
Ond mewn addition mab a merch,
Mae'r ddau yn un yn nghwlwm serch!

'R y'ch chwithau'n un, er bod yn ddau
Ac un y byddoch yn parhau;
Gweniadau siriol o bob man
Belydro byth ar Huw ac Ann.

Ar ol priodi, pawb heb feth
Sy'n dysgu multiplyo' peth;
A hwyrach yn mhen amser teg
Y multiplyir dau yn ddeg.

Beth bynag, boed i'ch yrfa hir
O dan weniadau awyr glir;
A phan ddiffodda'r anadl wan,
Y nef fo'n derbyn Huw ac Ann.


Nodiadau

[golygu]