Caneuon Mynyddog/Prydferthwch y Greadigaeth
| ← Dirwest | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Ein Tywysog a'n Tywysoges → |
PRYDFERTHWCH Y GREADIGAETH.
******
Y Greadigaeth sydd yn brydferth oll,
Edryched dyn i'r man y myno ef,
Prydferthwch saif o'i flaen. Ei ddelw sydd
I'w weled mewn tywodyn bach ar fin
Y môr, yn gystal ag ar wyneb haul.
Ei lais a glywir yn nghaniadau'r llwyn,
Yn gystal ag yn nghyngherdd mawr y 'storm,
Neu yn rhuadau dyfnion eigion blin.
Darlithio ar brydferthwch natur fawr
A wna y pistyll bach wrth ddrws y tŷ;
A'r un hyawdledd sydd yn ngenau hwn
Ag sydd gan raiadr y Niag'ra fawr.
Rhyw dlws yw'r cread roed ar bared mawr
Y gwagle anherfynol, di bendraw,
Yr hwn sydd ardeb hardd o'r Duw a'i gwnaeth:
Neu fel dwyfroneg lawn o feini byw,
A roed ar fynwes tragwyddoldeb maith,—
Pob maen a pherl yn cynnwys enw'r Ion.
******
Edrych, O! ddyn ar bobpeth o dy gylch,
Ymrithia yr Anfeidrol o dy flaen.
Pa fodd y meiddi wadu nad oes Duw,
Ag yntau'n siarad gyda thi bob dydd,
Yn mhobpeth welaist ti erioed.
******