Caneuon Mynyddog/Rhyddid
Gwedd
| ← O tyred y Gwanwyn | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Y Gwyliau → |
RHYDDID.
Geiriau ar y Glee "Here in Cool Grot."
DADBLYGER baner rhyddid cu
Uwchben cadwynau'r Ethiop du
Uwch anialdiroedd Affric fawr,
Cilied y nos o flaen y wawr;
Daw, daw amser gwell, mae'r dysglaer ddydd
Yn nesu, nesu ar ol dunos brudd:
Lle clywid trwst y gadwyn gref
Cyhoeddir geiriau pur y Nef;
Newidir swn y fflangell lem
Am fwyn newyddion Bethlehem:
Caniadau rhyddid fydd ryw bryd
Yn adsain dros derfynau'r byd.