Caneuon Mynyddog/Safle'r Rheilffordd
| ← Bedd Lewys Morus | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Rhwyfa dy Gwch dy hun → |
SAFLE'R RHEILFFORDD,[1]
I Safle'r Rheilffordd af am dro yn awr,
Y fan mae bywyd masnach yn cartrefu,
O'm blaen y gwelaf yr adeilad mawr
Fel pen yr adeiladau'n ymddyrchafu.
Ei do grisialaidd sy'n cofleidio'r dydd,
A'r awyr, yma, wêl ei delw beunydd,
A'r nen y Safle hoff gelfyddyd sydd
A natur megys yn cofleidio 'u gilydd.
Ond oddifewn, mae natur fawr yn rhoi
Y gorau i gelfyddyd, gan ei pharchu;
Mae 'i holl elfenau megys yn cyd droi
O amgylch llaw y dyn i'w wasanaethu.
Os hoffit weled mawredd meddwl dyn,
A natur a'i helfenau iddo'n osgordd,
Yn cyd ymgrymu iddo ef bob un,
Tyr'd gyda ni am dro i Safle'r Rheilffordd
Bywiogrwydd welir yma ar bob llaw,
A gweision a swyddogion mewn prysurdeb
Yn gwibio trwy eu gilydd yma' thraw,
Ac arwydd "myn'd" i'w ganfod ar bob wyneb;
Ac ambell hoglangc yma sydd mewn swydd
Yn teimlo 'i hun yn fwy na llon'd ei wasgod,
A theimla gan ei falchder ffrom a'i chwydd
Fel pe bae llyw y byd dan ei awdurdod.
Cyn hir ymdyra dynion gyda ffrwst,
Pob un a chob neu rywbeth ar ei freichiau,
A cherbyd ar ol cerbyd, gyda thrwst,
Arllwysa eu cynwysiad wrth y drysau.
Ac fel mae'r dyrfa'n chwyddo'n fwy o hyd,
Mae'r brys a'r cynhwrf hefyd, yn cynyddu,
Ac engraifft bron o holl deuluoedd byd
Yn safle'r Rheilffordd geir yn ymgymysgu.
A rhai i geisio tocyn gyda brys,
A'r lleill yn ymdrafferthu gyda choffrau;
Daw'r lleill i mewn yn gagal, ac yn chwys,
A golwg wyllt, a'u hanadl "yn eu dyrnau":
Ond yn y cynhwrf, dyna swn y gloch,
A chwiban "teyrn y ffyrdd" yn ateb hono;
A rhuad ei besychiad dwfn a chroch,
A sigla'r ddaear tra'r ysguba heibio.
Yr adeg i gychwyn yn awr sydd gerllaw,
Ac anhawdd yw tynu darluniad.
O gymaint o ddwndwr, a chymaint o fraw,
A chymaint o ferw a siarad;
Mae rhai gan wylltineb, a phryder, a braw,
O gerbyd i gerbyd yn rhedeg,
A'r lleill yn ymddyddan yn dawel gerllaw
Mor oer a digyffro a'r gareg.
Fan acw mae mintai yn cychwyn i'r wlad
I yfed awelon y moelydd,
Yn ysgafn eu calon y sugnant fwynhad
Yn nifyr gymdeithas eu gilydd;
Gadawant y dref a'i thrafferthion yn awr,
Rho'nt heibio bob gofal masnachol,
A rhed eu meddyliau'n gyflymach na'r wawr,
I benau'r mynyddau iachusol.
Yn ymyl, mae mam yn ymaflyd yn llaw
Ei bachgen ymunodd â'r fyddin,
Rhaid myn'd, dyna'r swyddog yn galw'n ddi daw
Rhaid myn'd tuag India'r Gorllewin;
Ac O! fel mae cariad, a hiraeth, ac ofn,
O lygaid y fam yn ymsaethu,
Mae 'i thafod yn fud, ac ochenaid ddofn, ddofn
I wyneb ei mab mae'n anadlu.
Fan acw mae rhian brydweddol a hardd
Yn pwyso ar fraich ei hanwylyd,
Mae'n ysgafn ei bron a hapusrwydd a chwardd
Trwy'r wên sydd yn toi ei hwynebpryd;
Rhoi awgrym o'i hanes y mae'r faneg wen
Sy'n cuddio y fodrwy aur newydd,
Fel hyn y cychwyna Llewelyn a Gwen
I'w taith briodasol yn ddedwydd.
Yn ymyl y pâr priodasol mae dyn
Yn llamu i'r cerbyd yn frysiog,
Ond ar yr amrantiad mae'n teimlo ei hun
Dan law awdurdodol y swyddog;
Mae grym ei euogrwydd yn ysgwyd ei fron,
A'i galon yn suddo'n ei fynwes,
A'r gwaed yn ymdaflu yn dòn ar ol tòn
I'w wyneb i adrodd ei hanes.
Canfyddaf eneth lwyd ei boch
Yn gwthio 'i hun i'r cerbyd,
Aeth trallod cas a'r rhosyn coch
Addurnai ei hwynebpryd,
Ni ddywed air, eistedda' lawr,—
Ond ah! yn nghil ei llygad
Sylldremia'r deigryn gloew mawr,
Mae hwnw'n mynu siarad.
Try hon ei hwyneb ar y wlad
Ond nid i ymddifyru,
Y dydd o'r blaen bu farw 'i thad,
Mae hithau'n myn'd i'w gladdu;
Er cymaint terfysg sydd o'i chylch
'D oes dim a dyn ei sylw,
Ei chadach gyda'i dagrau ylch
Gan hiraeth am y marw.
With gerbyd arall, dacw ferch
Yn edrych yn bryderus,
O'i llygaid byw rhed ffrwd o serch
I lygaid morwr nwyfus;
Mae gwasgiad llaw yr eneth ddel
Yn gyfrol fawr ar gariad,
A'i phwyslais ar y gair "ffarwel"
Yn ddarlun byw o deimlad.
Ond dyna dreiddgar swn y gloch
Yn nghlustiau pawb yn suo,
A dyma'r peiriant a'i bwff croch
Yn ateb adsain hono;
A'n mlaen, a sigla'r ddaear gref
O dan ei chwyrn olwynion,
Ac wrth ro'i ffarwel prudd i'r dref
Ysgydwa llawer calon.
Mae wedi myn'd! ond dyma frawd
A'i wyneb fel marworyn,
Yn holi'n nghanol 'storm o wawd
"Pa bryd mae'r trên yn cychwyn?"
Daeth ef mewn pryd i fod ar ol,
A gwarth orchuddia 'i wyneb,
Yn siomiant y creadur ffol
Cawn draethawd ar brydlondeb.
Trown yn awr i wel'd prysurdeb
Gweision bywiog y swyddfeydd,
Aci wel'd y byd o nwyddau
Sydd yn beichio'r ystorfeydd;
Dyma lle teyrnasa masnach
Gyda dwylaw llawn bob pryd,
Un sydd ganddi'n casglu beunydd,
Tra mae'r llall yn rhoi o hyd.
Wrth ei hystlys mae celfyddyd
Yn ymgrymu gyda pharch,
Dim ond iddi roddi awgrym
Dyna hono at ei harch;
Nid oes raid i'r dyn ond edrych,
Gyda sefyll wrth y llyw,―
Rhoddi awgrym i'w beirianau,—
Dweud y gair,—a digon yw.
Wele'n dod gerbydres anferth
Gyda nwyddau môr a thir,
Rhwygo dyfod mae y peiriant
Gyda 'i gynffon bwysig, hir;
Nid yw miloedd o dunelli
Ddim i hwn ond "plyf i wynt,"
Rhua farwnad pedrolfeni,
A hen droliau'r dyddiau gynt.
Dacw swyddfa y pellebyr
Mewn ystafell fechan draw,
Lle mae dyn a'r mellt ofnadwy
Fel teganau gylch ei law;
Yma, duwies hardd celfyddyd
Sydd yn plethu mellt y nen
Fel pe byddent wiail irion,
I'w rhoi'n dalaith am ei phen.
Rhyfedd gweled dyn yn gallu
Chwareu'n ddifyr gyda'r mellt,
A chadwyno'r gallu hwnw
Rwyga'r dderwen gref yn ddellt;
Dodi ffrwyn yn mhen y trydan,
Arwr gwyllt y 'stormydd ban,
D'wedyd wrtho, "Dos i neges,"
Yntau'n myned yn y fan.
Natur a chelfyddyd unant
I drosglwyddo meddwl dyn
Cyn gyflymed bron ag aden
Y dychymyg chwim ei hun;
Enfyn newydd,—caiff atebiad,
Dros gyfandir,—dan y dòn;
Saetha 'i eiriau ar amrantiad
I eithafoedd daear gron.
Ust! mae tingc y gloch yn suo
Yn fy nghlustiau,—Beth sy'n bod?
Ac mae'r lle yn ferw drwyddo,—
Y gerbydres sydd yn dod:
Chwyrnu'n ddigllon mae y peiriant,—
Lluchia fwg a thân o'i gol,
Ac mae'n tuchan fel pe byddai 'n
Llusgo'r ddaear ar ei ol!
Dyma'r dorau yn agoryd
Ac mae cynhwrf wrth bob dôr,
Rhuthra dynion o'r cerbydan
Fel llifeiriant llanw'r môr;
Tonau o wynebau dynol
Fel yn gwthio 'u gilydd sydd,
Megys diluw byth barhaol
Drwy y Safle nos a dydd.
Ar balmant llwfn y Safle
Y gwelir trefi mad,
Fel pe baent yn dod allan
I ysgwyd llaw a'r wlad;
Amrywiaeth amgylchiadau,—
Amrywiaeth rhyw ac oed,
A welir yn y Safle
Rifedi dail y coed.
Yr agerbeiriant nerthol
O fôr i fôr yr â,
Cyfandir â chyfandir
Fel dau gymydog wna:
A gwregys cyfeillgarwch
Gwregysa lwyna'r byd,
Ac a llinynau cariad
Cenhedloedd rwyma' nghyd.
Adseinio 'i bwff a'i beswch
Y mae clogwyni'r byd,
A'i chwiban cryf a eilw
Ddynoliaeth oll yn nghyd;
Ei ager a'i fwg torchog
Fo'n gorwedd ar bob glyn,
O begwn pell y Deau
I eitha'r Gogledd gwyn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Fe wel y cyfarwydd fod rhai o'r drychfeddyliau sydd yn y gân hon, wedi eu cymeryd o ddarlun dihafal Frith,—"The Railway Station."

William Powell Frith The Railway Station
