Caneuon Mynyddog/Ust, gorwynt
Gwedd
| ← 'R oedd 'Deryn bach unwaith | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Gair o Gyngor → |
UST, GORWYNT.
Y Miwsig yn y "Gyfres Gerddorol," Rhan XV., gan Mr. J. D. Jones.
UST, gorwynt erchyll, ust!
Ystormydd cysgwch bellach;
Disgynodd ar fy nghlust
Ryw seiniau llawer mwynach;
Fe ddaeth y gwanwn gwych
A'i felus beroriaeth i'n lloni;
Ymloewa'r nefoedd megys drych
I natur wisgo am dani.
Mae'r nefoedd a'r ddaear yn ateb eu gilydd,
Mewn cân gymysgedig o fawl a llawenydd.