Caneuon Mynyddog/Wedi'r Nos yn Nghymru gynt
Gwedd
| ← Mae'r Oriau'n myn'd | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Rhyddid ein Gwlad → |
WEDI'R NOS YN NGHYRMU GYNT.
CANIG.—Y miwsig gan Mr. J. D. Jones.
FE weuai'r fam ei hosan ddu,
A'r tad oedd yn canu 'n fwyn;
A phwytho 'r oedd yr eneth gu,
A'r forwyn yn pilio brwyn:
'Roedd Huw yn gwneuthur clocs i'w frawd
Na bu eu bath,
A'r hogyn bach yn gwneuthur gwawd
O'r ci a'r gath;
Ac ar y tân y berwai'r uwd,
A Phegi 'n ei droi yn lew;
Ac ambell i 'sglodyn o glocsen Huw
Yn helpu ei wneud yn dew:
Ond er eu symledd a'u trwstanwch,
'Roedd yno gariad pur a heddwch;
A mwynhad na fedd y ddaear
Ond anfynych iawn ei gydmar.