Neidio i'r cynnwys

Caneuon Mynyddog/Y Dydd yn marw

Oddi ar Wicidestun
Cyflafan y Beirdd yn Nghastell Beaumaris Caneuon Mynyddog

gan Richard Davies (Mynyddog)

Edward a Huw

Y DYDD YN MARW.

EDRYCH mae'r cymylau 'n drymllyd
O gylch gwely angau'r dydd,
Yntau ar obenydd dyfrllyd
Yn tynu 'i anadl olaf sydd:
Dal eu hanadl mae perth'nasau
Yn ngwydd angau erch ei wedd,
Felly anian ddeil ei hanadl
Pan ymsudda'r dydd i'w fedd.

O! mor brydferth yw'r gorllewin,
Ond y mae 'n brydferthwch prudd,
Fel prydferthwch merch yn marw
Gyda rhosyn ar ei grudd;
Gwena'r eneth pan yn meddwl
Am yr adgyfodiad mawr,
Felly gwena'r Dydd wrth farw,
D'wed ei wên—"Daw borau wawr."


Nodiadau

[golygu]