Caneuon Mynyddog/Y Mab Afradlon
| ← Moel Fadian | Caneuon Mynyddog gan Richard Davies (Mynyddog) |
Merched y Flwyddyn → |
Y MAB AFRADLON.[1]
AR riniog tŷ ei fam a'i dad
Y safa bachgen glân a hoew,
Bwriada gefnu ar ei wlad,
A chysur pur y cartref hwnw.
Dirmyga erfyniadau ’i fam,
Ac ymbil tad sydd lawn o deimlad;
A ymaith heb un rheswm pa'm
Heblaw mai—dyna 'i benderfyniad.
Disgyna heilltion ddagrau'r tad
Wrth ysgwyd llaw, ar law y bachgen,
Ond profa'r dagrau'n ddi leshad
Edrycha ef yn hyf a llawen.
Sibryda 'i fam,—"Bydd fachgen da,"
Mewn iaith doredig un yn teimlo,
Rhydd yntau ffarwel oer fel ia
Tra'n edrych ar ei fam yn wylo.
Mae'n cefnu yn ei fympwy ffol
Ar gartref lle na welodd gilwg,
A sylla 'i riaint ar ei ol
Nes llwyr ddiflana ef o'r golwg.
A phan ddaw y terfyngylch pell
I'w gau o olwg ei rieni,
Pan dry y ddau i'w hunig gell
Mae enw'r bachgen yn eu gweddi.
Mae ef a'i hyder ynddo 'i hun,
Ac yn y llogell lawn sydd ganddo; —
Ni ddaeth i'w feddwl ef fod Un
Sydd uwch na'r uwchaf wedi digio.
A'n mlaen, a phawb sydd iddo'n ffrynd,—
Gwna arian bawb yn ben cyfeillion;—
A'n mlaen, ond i ba le mae'n myn'd
With foddio awydd gwag ei galon?
Mewn cwmni difyr gyda'r gwin,
A'r ddawns, y cawn ei weled nesaf;
Wrth godi'r gwydrau at ei fin
Ei grechwen ef a glywir uwchaf.
Y tafod ddysgodd eiriau Duw
Dan ofal tad pryderus, duwiol,
Fwrlyma lwon o bob rhyw,
A heria ddigter yr Anfeidrol.
Ehed pob meddwl da o'i fron,
Mewn gloddest ffol mae'n ymddifyru;
Ac mewn awyrgylch megys hon
Mae annuwioldeb yn addfedu.
Mae anadl cwmni drwg fel hyn
Yn gwywo tuedd at ddaioni,
'R un fath ag effaith llwydrew gwyn
Yn lladd y blodau yn y gerddi.
A'r bachgen yn ei flaen o hyd
Gan ymhyfhau mewn drwg weithredoedd
Ac yfa wagedd ffol y byd
Fel ych neu farch yn yfed dyfroedd.
Ond er a yf, mae 'i chwant o hyd
Am ryw oferedd, yn cynyddu,
Mae gwagedd ffol yn ddiod ddrud,
A syched byth yn dilyn pechu.
Rhyw adgof byw o'i gartref gynt
O'i flaen rai prydiau sy'n ymrithio,
A thybia glywed gyda'r gwynt
Ochenaid mam sy'n teimlo drosto.
Cydwybod euog ambell dro
Sy'n chwerwi cwpan ei bleserau,
Tra bydd a'i bys ar len y co'
Yn tynu darlun o'i bechodau.
Ond er y cyfan, myn'd ymlaen
Mae'r llangc ar yrfa annuwioldeb;
Pentyra'n ddiwyd, haen ar haen,
Ddefnyddiau gwae am dragwyddoldeb.
Y mab a fagwyd gan ei dad
Yn anwyl, welir erbyn heddyw
Yn ddigon hyf i gael boddhad
Wrth wawdio'r nef ar drothwy distryw.
Ond nid yn hir mae llogell lawn
Yn dal yn llawn i langc fel yma,
Mewn afradlonedd, buan iawn
Y gwelir lliw y geiniog ola'.
Rhy wag yw cronfa cyfoeth drud
I borthi blys afradlon penrhydd;
O ran ei awydd gwariai fyd,
Ac wedi'r cyfan yn anedwydd.
Ond gyda i'r afradlon roi
Y geiniog olaf am oferedd,
Mae 'i holl gyfeillion pena'n ffoi
Heb gynyg iddo'r un drugaredd.
Fel hyn mae'r byd yn gwthio dyn
Ar oriwaered annuwioldeb,
A phan â'n d'lawd ca wel'd ei hun
 th'lodi'n tremio yn ei wyneb.
*****
Machluda'r haul tu hwnt i gymyl trwchus
Y rhai a yrir gan y gwynt ystormus
Fel prudd genhadon trwy yr wybren uchod,
I ddweud fod nos ddryghinog bron a dyfod.
Dwfn rua'r corwynt yn nganghenau'r pinwydd
Wrth alw'n nghyd fyddinoedd yr ystormydd:
Y gweithiwr druan red i'w fwthyn bychan
Gan ddwys resymu wrth y sawl sydd allan;
Wrth wel'd y gwg ar guchiog ael y ddunos
Mae pawb trwy'r fro yn cyrchu i ryw ddyddos.
Tabyrdda'r gwynt ar furiau'r palas uchel
Tra mae'r preswylwyr oll yn eithaf tawel;
Mae'r goleu yn y ffenestr fel pe'n chwerthin
Am ben bygythion a rhuadau'r ddryghin:
Ond wele un tu ol i'r palas yna
O dan guriadau'r storm, yn wag ei gylla;
Mae'n ceisio llechu rhag rhuthriadau ffyrnig
Y corwynt blin, dan gysgod coeden dewfrig;
Ond O! ei changau llymion a wrthoda
Fod i'r newynog hwn yn unrhyw noddfa.
Ah! dyma'r llangc wrthododd holl gynghorion
Rhieni duwiol, a'u herfyniau taerion;
Hwn yw y llangc fu'n lluchio ei holl gyfoeth
I borthi blys a phob rhyw nwydau annoeth:
Hwn yw y llangc fu'n rhedeg i bob rhysedd
Yn awr yn rhwym yn rhwydau caeth anwiredd.
Hwn yw y llangc fu'n meddwi ar win pechod
Yn awr yn profi chwerw flas y gwaddod:
Ac yn y cyflwr hwn o ddarostyngiad,
Mae'n dweud yn nghlust y nos ei bruddaidd brofiad: —
"Gwae 'rioed imi gefnu ar gartref mor gu,
Lle chwarddai cysuron o'r nef ar bob tu;
Lle ni chyfarfyddais a gwg ar un ael,
A'r lle mae rhagluniaeth bob amser yn hael.
Digonedd o fara ga gweision fy nhad,
A minau yn marw yn mhell o fy ngwlad;
Cysuron a redant trwy nghartref fel lli'
Tra'r "cibau" yn fwyd gwaharddedig i mi.
'Rwy'n marw o newyn yn estron tylawd
O gyraedd tosturi rhieni a brawd;
Nid oes unrhyw galon a ystyr fy nghri,
Mae pawb yn dirmygu afradlon fel fi.
O na bai y corwynt sy'n rhynu fy nghnawd
Yn cludo am unwaith f' ochenaid dylawd,
I'r cartref adewais pan ddigiais y Nef,
'Rwy'n siwr y gwrandawai fy nhad ar fy llef.
Yn ngolau'r mellt fforchog mae'r storm yn gwneud gwawd
O'r wisg oer a thyllog ddarn guddia fy nghnawd;
Y curwlaw, a'r oerfel, a'm noethni y sydd
Yn uno i wneud fy sefyllfa'n fwy prudd.
Ac O! mae cydwybod yn gwanu fy mron,
Er ceisio ei hatal, llefaru fyn hon;
A'i bys ar fy meiau mae'n dweud yn fy nghlust
"Ple bynag yr ai, dof i'th erbyn yn dyst.'
Mae awyr fy ngobaith yn hynod o ddu,
Ni welaf er syllu ond un llecyn cu;
A chraffu ar hwnw sy'n rhoi im' foddhad,
Mae'r wawr olau'n union uwch ben tŷ fy nhad.
Mi godaf'n ol gweled goleuni'r wawr fwyn
Af at fy nhad tirion a d'wedaf fy nghwyn;
Efallai er imi ei ddigio cyhyd
Y todda ei galon yn gariad i gyd.
Addefaf fy mhechod, a chwympaf o'i flaen,
Mewn dwfn edifeirwch rho'f f' achos ar daen;
Pwy wyr wrth fy ngweled na chaiff ef foddhad,
Mi af dan ymddiried i gariad fy nhad."
*****
Pan oedd y gwynt yn chwythu
Ar nawn dryghinog du,
Yn ffenestr ei ystafell
Eisteddai henwr cu;
'R oedd olion bysedd gofid
Yn amlwg ar ei rudd,
A phryder a ganfyddid
Yn ngwraidd ei lygaid prudd.
Ehedai aml ochenaid
O'i fynwes brudd yn awr,
Y rhai'n yw tafod enaid
Fo wedi'i lethu' lawr;
Ei lygaid llawn gyfeiriodd
I'r gorwel du ei liw,
A gweddi daer anadlodd
I glust agored Duw.
Cyn hir y corwynt beiddgar,
(A siglai ddol a bryn,)
Oddiar ei wefus hawddgar
A gludai'r geiriau hyn;
"P'le mae fy machgen anwyl
Adawodd de ei dad,
Cael gwybod peth o'i hanes
Ro'i imi fawr foddhad.
'Rwy'n cofio wrth ffarwelio
Ei olwg falch a hyf,
Ond O! 'rwyf yn ei garu,—
Mae gafael serch mor gryf;
Mae dagrau hiraeth eto
Heb sychu ar fy ngrudd,
A'r adgof byw am dano
Yn gwanu' mynwes brudd.
O na chawn air o'i hanes,—
O na chawn wel'd ei wedd;
Os ydyw wedi marw,
Pa le mae 'i anwyl fedd?
Os marw wnaeth, bu farw
Heb dad i ddal ei ben,
Na llaw perthynas anwyl
I sychu 'i ddwyrudd wen."
Fel yna syn fyfyriai
Tad yr afradlon ffol,
Heb feddwl y dychwelai
Y bachgen byth yn ol;
Ond gyda hyn e welai
Ryw grwydryn wrtho 'i hun,
Adnabu ei gerddediad,—
Ei fachgen oedd y dyn.
Y bachgen a fu farw
Yn meddwl ei hoff dad,
Sydd eto'n gwel'd o'i gwmpas
Fynyddau ei hen wlad;
A mwy na'r cwbl, e welai
Ei dad ar lawr y ddol
Yn rhedeg i'w gyfarfod
I'w dderbyn yn ei ol.
O! dacw'r tad yn syrthio
Ar wddf y bachgen drwg,
Tra'r deigryn mawr yn treiglo
Ar hyd ei ael ddi wg;
O! dyma gyfarfyddiad
Na fu ei fath rhwng dau,—
Y bachgen drwg yn diolch,
A'r tad yn llawenhau.
O! fel yr wylai'r bachgen
Wrth rodio tua'r tŷ,
Tra rhuthrai i'w feddwl drylling
Adgofion dyddiau fu;
Y coed a'r ceryg hyny
Amgylchent de ei dad
Oedd erbyn heddyw'n harddach
Na pherlau estron wlad.
"Dygwch allan y wisg orau,"
Ebai'r tad, "mae 'm mab yn fyw
Do, atebwyd fy ngweddiau,
Bendigedig fyddo Duw!
O! 'rwy'n maddeu, wedi clywed
Swn ei edifeiriol lef,—
Pobpeth gorau fedd ei gartref
Sydd yn eiddo iddo ef."
Parotowch y llo pasgedig
Ac arlwywch lawen wledd,
Dyma'r bachgen a gollasid
Fel pe wedi dod o'i fedd;
Am gael gwneud cymwynas iddo,—
Am gael gwel'd fy mab yn fyw,
Boed ein cân yn ddiolchgarwch,—
Diolch i drugaredd Duw."
Mae gwers i bechadur oddiwrth yr afradlon,
Mae yntau 'n golledig a Duw yn anfoddlon:
Dirmygodd baradwys, ei chyfoeth, a'i breintiau,—
Newidiodd ddedwyddwch am ardal "cibau."
Mae 'n grwydryn di gysur, yn nod i bob aflwydd,
A'i fynwes yn uffern dan bwysau euogrwydd:
Nid oes gwag ddigrifwch nad yw wedi'i brofi,
Ond "Moes,” medd ei enaid mae heb ei ddigoni.
Ni ellir cael allan un gongl o'r cyfanfyd
Heb ol troed dynoliaeth yn chwilio am wynfyd.
Hi gefnodd ar gartref, a thad, a dedwyddwch
I chwilio am gysur mewn byd o anialwch;
Gadawodd afonydd grisialaidd a gloewon,
A chloddiodd bydewau toredig a gweigion:
Gwatwara alwadau tyneraf trugaredd,
Mae 'n treiglo i ddinystr fel maen ar y llechwedd.
Arafa bechadur rhyfygus, arafa!
Mae cefnfor o wae o dy flaen y ffordd yna:
O gwel! dacw fellten cyfiawnder yn fflachio,
A chlyw! dyna daran ar daran yn rhuo!
Byddinoedd digofaint sydd bron ag ymosod,
Mae dryghin yn ymyl, a thithau heb gysgod:
Ond clyw rhwng dwy daran mae llais o Galfaria
Yn sibrwd mor dyner,—"trugaredd a noddfa."
Tro adref, bechadur, o ffyrdd annuwioldeb,
Mae 'th dad yn hiraethu am weled dy wyneb:
Edrycha angylion dros ganllaw y gwynfyd,
Gan ddisgwyl a disgwyl dy wel'd yn dychwelyd:
Mae'r nefoedd mewn pryder o herwydd dy gyflwr,
Wyt beunydd yn destyn eiriolaeth Gwaredwr.
Y chwysu a'r gruddfan fu'n ngardd Gethsemane
Sy'n gwaeddi yn uchel "Bechadur tro adre;
Ac O! mae llef gwaed dy Waredwr mor anwyl,
Yn d'wedyd fod cartref a gwledd yn dy ddisgwyl;
Mae 'th dad yn hiraethu am roi iti delyn,
A gwisgoedd gogoniant sydd barod i'th dderbyn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nid oeddwn wedi bwriadu dodi yr un gân cyn feithed a hon yn y llyfr hwn o gwbl, ond "ar daer annogaeth lluaws o gyfeillion" (felly bydd yr awdwyr enwog yma yn dweud) dodir hi i mewn.