Neidio i'r cynnwys

Caneuon Mynyddog/Y Wawr

Oddi ar Wicidestun
Edward a Huw Caneuon Mynyddog

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Caethwas

Y WAWR.—CANIG.
Y Miwsig gan Mr. J. D. Jones, A.R.C.P.

YMEGYR dorau'r dwyrain draw
Gan dywallt golau ar bob llaw;
O forau teg! mae llaw'r wawr dlos
Yn ysgwyd llaw â llaw ddu'r nos:

Yr adar a chwery gân,
Gan edrych i'r dwyrain glaer,
Chwarddant am ben yr haul yn codi
Fry o'i wely aur:

Yr awel chwery rhwng y dail,
Yn araf a thyner y chwyth;
A dawnsia llon belydrau'r haul
Ar fynwes pob defnyn o wlith.


Nodiadau

[golygu]