Neidio i'r cynnwys

Caneuon Mynyddog/Yr Arian

Oddi ar Wicidestun
Colliant y Royal Charter Caneuon Mynyddog

gan Richard Davies (Mynyddog)

O tyred y Gwanwyn

YR ARIAN.

MAE 'r testyn yn boblogaidd
Beth bynag fydd y gân,
Mae fel tae swyn gyfaredd
Yn nglyn a'r darnau mân;
O'r anwyl! mae nhw 'n anwyl,
Mae pawb yn caru 'r rhai'n;
Os na fydd gwr ag arian
A'i barch i le lled fain.

Yn grynion gwneir yr arian
Er mwyn eu treiglo'n rhydd;
Ond dyna sydd yn rhyfedd,
Er cymaint treiglo sydd.
Ni welais i'r un ddimai
Yn treiglo 'rioed i'm cwrdd,
Ond gwelais lawer ceiniog
Yn treiglo 'n syth i ffwrdd.

Mae tuedd yn y darnau
I ddiangc rhag y t’lawd,
A rhedeg i'r palasau
I goffrau meibion ffawd;
Mae aur yn treiglo 'fynu
Yn lle yn treiglo i lawr,
Peth od fod aur a chopor
Yn adwaen pobl fawr.

Fel hyn mae'r byd a'i ffafrau
Yn rhedeg nerth ei goes,
Os gwel dylawd mewn eisiau,
Pe'r doethaf yn ei oes;
Os nad oes rhyw wahaniaeth
'Nol croesi i'r ail fyd;
Siawns wael fydd i'r tylodion
Am nefoedd dawel, glyd.


Peth ffol yw son am arian
I lenwi rheidiau bol,
A gwneuthur tŷ o arian,
Mae hyny'n berffaith lol;
A gwisgo côt o arian
Sydd waeth na'r ddau yn nghyd,
Ac eto rhaid cael arian
I gael y rhai'n i gyd

Mae'r byd, 'run fath a gofaint,
Yn gyru darn o ddur,
Yn gyru aur yn synwyr
I dalcen hurtyn pur;
Ac felly mae'r boneddwyr
Yn ddynion call, wrth gwrs,
Os na fydd synwyr coryn
Bydd synwyr yn y pwrs.

Mae ambell ŵr arianog
Sy 'n hynod fawr ei wangc,
A'i barch mewn cist o haiarn
A'i synwyr yn y bangc;
Mae hwnw 'n fawr ei helynt
O foreu hyd brydnawn,
I lenwi coffrau'r bangcwr,
A'i ben ddim haner llawn.

Y cybydd yw 'r pencampwr
Am hela aur yn nghyd,
Mae ef yn tynu arian
O bobpeth yn y byd;
Ei Alpha a'i Omega
Yw aur yn mhob ysgwrs,
Mae'i enaid yn ei boced,
A'i galon yn ei bwrs.


Ond wedi ail ystyried,
Gwahaniaeth bychan sydd
Rhwng cybydd wrth gynilo
A'r dyn gwastraffus, rhydd;
Mae un yn hela arian
Er mwyn cael cadw punt,
A'r llall yn hela arian
I'w lluchio hefo'r gwynt.

Gall cybydd ac oferddyn
"Gyd rwbio gefn y'nghefn,"
Mae'r ddau yn trafod arian,
Ond nid yw'r ddau'r un drefn;
Mae'r naill yn cloi ei hunan
Yn nghyd a'i aur i gyd,
Mae'r llall yn llyngcu'i hunan,—
Pe gallai, llyngcai 'r byd!

'Ran hyny nid oes undyn,
Boed ef yn ffol neu gall,
Yn mhwngc yr aur a'r arian,
All ddannod fawr i'r llall;
Mae'r byd wrth hyn fel pobpeth,
Yn fyd amrywiog iawn,
Mae pawb a'i ffordd a'i ddyben,
Ond nid yw pawb 'run ddawn.

Er hyn i gyd mae rhywbeth
Yn eisiau ar y dyn,
Er tyru aur o'i gwmpas
Mae'i angen ef yr un;
Nid ydyw casglu cyfoeth
Yn ateb dyben oes,
Pe rhoech chwi fyd i'r galon
Mae hono 'n gwaeddi "Moes."


Nodiadau

[golygu]