Caniadau'r Allt/Calendr Serch

Oddi ar Wicidestun
Suo-gan Peredur Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Yn yr Ing


CALENDR SERCH.

Gwn y mis a'r dydd, Men,
Y'th gerais gynta' erioed;
Canu 'r oedd y gog, Men,
A glasu 'r oedd y coed;
Cerddem trwy yr allt, Men,
Hyd lawr o lygaid dydd;
Ond nid wy'n cofio dim, Men,
Ond lliw dy ieuanc rudd,
Ond gwyn a choch dy rudd.

Gwn y mis a'r dydd, Men.
Y daeth fy serch i'w oed;
Clych oedd ar y grug, Men,
Ac enfys ar y coed:
Minnau'n wyn fy myd, Men,
Fel petawn aer y llys;
Ond nid wy'n cofio dim, Men,
Ond beth oedd ar dy fys,
Yn felyn ar dy fys.

Gwn y mis a'r dydd, Men.
Y'th gerais, gynta' erioed;
Gwn y mis a'r dydd, Men,
Y daeth fy serch i'w oed:
Crin yw coed yr allt, Men,
A ninnau'n dau yn hŷn;
Ond nid wy'n cofio dim, Men.
Ond bod ein serch yr un,
Bob mis a dydd yr un.

Nodiadau[golygu]