Caniadau'r Allt/Gŵyl y Grôg

Oddi ar Wicidestun
Aeres y Wern Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Cadw Noswyl


GŴYL Y GRÔG.

Ers deufis neu ragor
Fe dawodd y gog;
Daeth mis y cynhaeaf.
A ffair ŵyl y Grôg:
A haul melyn tesog
A chwardd uwch y byd
Ar ddyddiau priodas
Ysgubau yr yd.

Ba waeth gan y plant
Os yw'r dydd yn byrhau?
Melysach yw'r mwyar,
Melynach yw'r cnau:
A'r grawn ar y meysydd
O amgylch a ddug
Y gwylain o'r feiston,
A'r petris o'r grug.

Mae'r hwsmon yn cywain
Ei faes cyn y glaw;
Os cadwodd ei gryman.
Mae'i wrym ar ei law:-
A'r lloer nawnos oleu
A chwardd uwch y byd
Ar ddyddiau priodas
Ysgubau yr yd.

Bydd llanciau y cwmwd
Yfory'n y ffair;
A daw eu cariadau,
Os cadwant eu gair:
Sawl calon a lonnir
Cyn gadael y dref,
Sawl calon a dorrir—
Ni wyr ond y nef.

Nodiadau[golygu]