Caniadau'r Allt/Pleser Plant

Oddi ar Wicidestun
Erddygan Hun y Bardd Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Pethau Tlws




VI. CANIADAU'R PLANT



—————————————

PLESER PLANT.

Dewch i chwarae
Yn y coed—
Dyna bleser
Plant erioed.

Ni gawn eistedd
Bob yn ail
Rhwng y blodau
Mân a'r dail.

A dod adre
Cyn yr hwyr
Wedi blino,
Mam a ŵyr.

Byr yw diwrnod
Plentyn bach;
Rhaid yw chwarae
Os yn iach.

Nodiadau[golygu]