Caniadau (T. Gwynn Jones)/Anatiomaros
| ← Broseliawnd | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Madog → |
ANATIOMAROS
Seilir y caniad hwn ar bethau oedd yn ddefod ymhlith yr hen Geltiaid ar y Cyfandir. Enw Brythanig yev Anatiomaros. Ni ddaeth i'r Gymraeg fel en priod, ond daeth ei elfennau. Ei ystyr yw Eneidfawr. Y mae Gwernyfed yn enw lle yng Nghymru. Yr oedd hefyd yng ngwlad Gal.
I
Ym mro Wernyfed, daeth pryd aeddfedu,
Ar ddôl, ar ffrith y trodd liwiau'r ffrwythau;
Ei wineu rwysg oedd yng ngrawn yr ysgaw,
Aeddfed chwarddai ar wyddfid a cherddin;
Troes ei ruddfelyn tros wyrdd afalau
Ag aeron haf perllennydd Gwernyfed.
Ynghŷd y galwed holl Blant y Cedyrn,
A gwrid y wawr ar gymylgaer y dwyrain;
Y da a'r menni, o dir y mynydd,
Yn araf hwyliant i'r Hendref eilwaith,
A gado'r Hafod, gwedi hir ryfig
Aneirif roddion yr haf a'i ryddid;
Sŵn cŵn yn cyfarth a bref y gwartheg
Yn toddi eisoes i'r hyntoedd isod,
A thonnau hoywon o chwerthin ieuanc
Yn neidio i'r entyrch, o nwyd yr antur;
A thân anniffodd y duwiau'n oddaith
A gariai dwylaw rhai gwyry, dihalog,
Y tân a arhoes ar hyd yr oesau
I gynneu fyth heb ddiffyg neu fethu.
Cyrraedd yr Hendref; yna, wrth ddefod
Y cenedlaethau, bu cynnadl weithion,
O dan y Dderwen hen a changhennog
A welsai eisoes liaws o oesau
O dir anwybod yn dirwyn heibio
I dir anwybod, drwy wae neu obaith.
Yno, er adrodd cyfraith yr Hydref,
A pheri'n ufudd goffau'r hynafiaid,
Y daeth henuriaid a doethion eraill
A hwythau raddau y doeth Dderwyddon
Yn ôl eu braint, yn ei lwybyr yntau
Athro hen eu gwybodaeth a'u rhiniau,
Efô, rhag angen, fu orau'i gyngor,
A nawdd ei dylwyth yn nyddiau dolur,
Efô o'i gariad a fu gywiraf
O'u tu ym mherygl, Anatiomaros.
Canwaith a mwy, gwelsai ef hendrefa,
A hen aeafau ym Mro Wernyfed;
Llywethau ei ben megis llwyth y banadl
Unwaith a fu yng nghyfoeth ei fywyd,
Ac ef, er hyn, nis cofiai yr hynaf
Onid a'i wallt megis manod elltydd;
Efô, a wyddiad a fu, a fyddai,
A dawn nid oedd na gwybod nad eiddo;
O dramwy eraill i Dir y Meirwon,
O Fro Wernyfed, dros ferw aur Neifion,—
Yng nghanol ei long, ni alwai Angau
Anatiomaros ar hynt y meirwon!
A dawnsiodd y meibion a'r glân rianedd
Yn llwyn y derw yn llawen dyrrau;
Eu cnawd cyn wynned a'r ôd cyn nodi
Ei wynder iraidd gan oed yr oriau;
Ceinaf o lun, a'u gwallt cyn felynned—
Dalm Mai liwdeg,—â'r banadl ym mlodau;
A glas liw eigion yn eu glwys lygaid,
Neu lesni nef, liw nos ym Mehefin,
A sêr y nef wedi ysu'r nifwl
Sy'n troi a gweu am lesni tragywydd
Maes dilafar y didymestl ofod.
Newydd a hen y gyfannedd honno,
Mwyn dychwelyd a myned i'w chwilio,
Dymuniad gŵr ydyw mynd ag aros,
A hynny, hoen yw, bydd hen yn newydd,
A newydd yn hen, ni ddihoena hynny;
Lle buwyd unwaith, gall bywyd yno
Ado rhin ei ysblander ei hunan.
Glasfwg yr allor yn araf dyrchafai
Yn fain aerwyau i fyny i'r awyr
O'r tân a burai; tewyn o berwydd
A gariai dwylaw rhai gwyry, dihalog,
O annedd i annedd eto i ennyn
Yno eilwaith ar bob hen aelwyd
Anniflan dân y duwiau eu hunain;
A rhag ei loywed, a'i arogleuon,
Y gyrrai hwnt y drygau a'r heintiau.
Yntau am oriau, Anatiomaros,
A borthai dân yr aberth a dynnai
Lu ei dylwyth o afael dialedd.
Ag adain nos yn bargodi'n isel,
A darnau dydd ar y dŵr yn diweddu,
Efo'r hen Dderwydd ei hun yn unig
Gwyliai'r nefoedd am goel i Wernyfed,
Y goel a ddôi o'r gwagleoedd eang,
O wynfa'r haul a'r rhai anfarwolion.
Yno, naw dengwaith, noson y dynged,
Yn nhreigi ei oes yn hir y gwyliasai,
Ag eto unwaith, dros frig y tonnau,
Y gwyliai'r nef am goel i Wernyfed,
O awr i awr, a'i lygaid yn aros
Heb ŵyro un waith o wybren eithaf
Y maith orllewin, lle methai'r lliant;
Yno, tanodd i'r diflant hwnnw
Yr aethai yr haul dros wartha'r heli;
Rhyw iâs o wyn a arhosai yno,
A'r nos yn awr yn ei ysu'n araf;
Gwingodd, ymdonnodd, fel llygad unig,
Gloywodd, ag yna, treiglodd o'i ganol
Ryw gwlwm gwyn, megis briglam gwaneg;
A thrwy y nos, gan ei llathr wyniasu,
Union drywanodd y gwynder hwnnw
Hyd onis gwelid, yn osgo alarch,
Fry ar ei nawf uwch gwenfro Wernyfed,
Yn gannaid alarch, y gennad olaf.
Ac wrth yr allor pan ddaeth y bore,
Hun oedd oer oedd hun yr hen Dderwydd.
II
Hwyr oedd a'r haul oedd yn rhuddo'r heli
With agor lliwiog byrth y gorllewin,
A dur nen dawel dwyrain yn duo,
Dwyshau y tir yr oedd y distawrwydd,
A pharai osteg ar su'r fforestydd;
A llif yr afon yn llwfrhau hefyd
O flaen y llanw, a ddôi fel yn llinyn
O wreichion gemog am grychni gwymon,
Neu asen grom ar ei thraws yn gwrymio;
A heidiau'r gwylain yn gweu drwy'i gilydd
Uwch ben yr afon, a'u chwiban rhyfedd
Megis rhyw alwad, galwad dirgelwch,
Galwad o'r môr am Gluder y Meirwon.
A'r haul megis pelen rudd yn suddo,
Un dres oedd euraid drosodd a yrrodd,
Fel heol dân dros fil o welw donnau,
Onid ergydiodd ei blaen hyd i'r goedwig,
Fel rhaeadr ufel ar hyd yr afon;
A thraw i ganol ei lathr ogoniant,
O ddirgelwch y coedydd i'r golwg
Y daeth rhyw fad, a dieithraf ydoedd ;
Ei gafn oedd aruthr, o gyfan dderwen
Ar ddelw ederyn urddol a dorrwyd—
Y gannaid alarch, y gennad olaf;
A'i nawf yr un hoen â'r edn frenhinol,
Ymlaen yr âi ym melynaur ewyn
Y rhaeadr ufel ar hyd yr afon.
Hyd lan y môr o'r coed lwyni mawrion,
Daeth meibion cedyrn a glân rianedd;
Cerddent yno yn drist a distaw
Heb air dros wefus, heb rodres ofer;
Oni wybuant, ag ef mewn bywyd,
Na fynnai wylo rhag ofn neu alar?
Efô, rhag angen, fu orau'i gyngor,
Nad ofnai ingoedd na dyfyn Angau;
Y mawr ei enaid, y mwya'i rinwedd,
Draw y nofiai o dir ei hynafiaid,
A thân yn ei gylch a thonnau'n golchi,
I wynfa'r haul at yr anfarwolion.
Araf fudiad y bad a beidiai,
Yn safn y llanw y safai'n llonydd;
Yna'n y troad, a'r tonnau'n treio,
Cynt yr âi gan ysgeintio'r ewyn;
Ebrwydd o'i ganol, tarddai i'r golwg
Ryw egin tân; a'r eigion a'i tynnai,
Yn oddaith goch, nes gloywi o'r trochion
Fel ewyn tân ar flaenau y tonnau.
A llef a goded gan Blant y Cedyrn—
"Ar hynt y meirw, Anatiomaros!"
Suddodd yr haul; glasdduodd yr heli;
Yna'n waed ar y tonnau newidiodd
Yr hynt o aur. A'r bad yn ymado,
Ar lwybr yr haul heb ŵyro yr hwyliai,
A'i ferw eirias fel pedfai farworyn
O fron yr haul ar y dwfr yn rholio.
Gwywai'r lliw ym mhorth y gorllewin,
Dorau gwiw ei ysblander a gaewyd;
Duodd y môr, ac nid oedd mwy arwydd
O'r haul ei hun ar yr heli anial,
Onid bod draw ar eithaf yr awyr
Un eiliw tyner. Ar ganol y tonnau,
Un llygedyn o'r dwfn wyll a godai
O dro i dro ar drum y gwanegau.
A duai'r nos. Ar y dŵr yn isel,
E lamai y fflam, a phylai ymaith,
A chlywid olaf cri yn dyrchafu
Fry i'r nefoedd uwch gwenfro Wernyfed-
Anatiomaros, aeth at y meirwon!"