Caniadau (T. Gwynn Jones)/Ar y Ffordd
Gwedd
| ← Gwenoliaid | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Eryri Wen → |
AR Y FFORDD
(Yn Iwerddon)
Bore da, syr, a roech chwi flewyn
O faco i greadur tlawd:—
Mae o'n dda at dorri newyn
Pan fo dyn yn ddrwg ei ffawd.
Diolch yn fawr, syr; pe bawn i
Yn clywed eich holi, ddydd brawd,
Mi dystiwn, yn wir, pe cawn i—
Rhoes faco i greadur tlawd.