Caniadau (T. Gwynn Jones)/Argoed
| ← Madog | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Y Gynneddf Goll → |
ARGOED
I
Argoed, Argoed y mannau dirgel . . .
Ble'r oedd dy fryniau, dy hafnau dyfnion,
Dy drofâu tywyll, dy drefi tawel?
Tawel dy fyd nes dyfod dy dynged
Hyd na welid o'i hôl ond anialwch
Du o ludw lle bu Argoed lydan.
Argoed lydan . . . Er dy ddiflannu,
Ai sibrwd mwyn dy ysbryd, am ennyd,
O ddyfnder angof a ddaw pan wrandawer
Pan fud wrandawer di-air leferydd
Y don o hiraeth yn d'enw a erys,
Argoed, Argoed y mannau dirgel?
II
Yn neutu Gâl a'i gogoniant a'i golud
Enwog oedd ddirgel unigeddau Argoed;
Yno, gynt, y ceid awen ac antur,
A gwir y doethion mewn geiriau dethol;
Ffyddlon ydoedd ei chalon; ni chiliai
O gof fyth yno gyfoeth ei hanes,
A pheraidd yno a phur oedd heniaith
A hen arferion ei chynnar fore.
Yno y byddai dawel ddirgelwch
Dan gwsg oediog ei duon gysgodau;
Ei derw a'i masarn a mud rym oesoedd,
Gwawl a gwres haul a glaw grisialaidd,
Rhamant y rhod a miragl tymhorau,
Yn gweithio'n ir yn eu gwythi aneirif,
A'u hanes hen fel yn nawsio ohonynt
Yn arogleuon, yn grugau o liwiau,
Yn suon mân, nes eu huno a'u myned
Megis yn ysbryd bywyd pob awen;
Yn nwyf a rydd ei frithgof i freuddwyd,
A'i ddelw i'r hyn a feddylio'r awenydd,
O'i aros yn hir ym merw y synhwyrau.
O dir Gâl pan giliai y gaeaf,
Ac yno'n ôl ddyfod gwanwyn eilwaith,
Yn nistaw ddirgel fforestydd Argoed
Bywhai hen wyrth ddiwrthwyneb ei nerthoedd;
Yno, dan guriad ei adain, agorai
Yn araf lygaid aneirif flagur
Drwy y bau, ac ymdorrai bywyd
Yn llanw o liwiau a lluniau lawer,
Onid âi ei nwyf drwy waed anifail,
A'i dreiglo'n dân drwy galonnau dynion;
Rhyw newydd ynni o rinwedd anian
A'i nerth yn prifio, er syrthni profiad,
Edwa, heneiddia, ond adnewyddir,—
Y fflam anniffodd honno a rodded
I orfod ar ing a chryfder angau.
A theg oedd Argoed pryd, dros y coedydd,
Y lledai'r Hydref holl hud ei rodres,
Ei liwiau dirif, a'i gysglyd oriau,
Oriau ei ddigynnwrf ddigonedd,
Ddiofid oriau, fel aeddfed aeron
Ar geinciau amser, a'i ysblanderau
A'i gwsg a'i hedd wedi'u gwasgu iddynt,
Fel y dyry'r haf ei loywder a'i ryfig
A'i rin yn nodd aeron y winwydden.
Yno ynghanol ei derw canghennog
A'i llwyni gwyros, 'r oedd llain agored,
A gwe lathr o wawn a gwlith ar honno,
Bid ha' neu wanwyn, bid aea'n unwedd;
A than y wawr, byddai'r gwlith aneirif
Oll i gyd fel pe baent yn llygadau,
Yn cynneu ennyd, yna cau'n union
O flaen yr haul a'i felynaur olau,
Fel ewyn môr wrth ymdaflu yn marw,
Neu wreichion gefail wrth ddyrchu'n gwyfo;
A'r dre ar y llain ar odre'r llwyni,
Lle er cyn cof yr oedd Plant Arofan
Yn bwrw eu byd yno'n bur heb ado
Y bywyd dedwydd a wybu eu tadau-
Hela, bugeilio, fel y bai galwad,
Dioddef a byw yn ôl deddfau bywyd,
Heb ofni methiant, heb ofyn moethau,
Heb fynnu trais a heb ofni treisiwr ;
Magu o do i do yn dawel
Feibion nerth a merched prydferthwch;
Adrodd hanesion dewredd hen oesau,
Bod yn astud a gwybod iawn ystyr
Geiriau y doethion a'r gwŷr da hwythau,
A dirgel feddwl eu mydr gelfyddyd;
Gwrando ar addysg rin y Derwyddon,
Hwy, a adwaenai'r duwiau eu hunain,
O do i do a gadwai'n y deall
Y ddysg ryfeddod nad gwiw ei dodi
Ar faen na choed mewn ysgrifen i'w chadw.
O! ddiddaned y dyddiau oedd yno,
Yn nistaw ddirgel fforestydd Argoed!
Ni wyddai hi, yn ei hen ddyhewyd,
Dynnu Gâl o dan wadnau ei gelyn,
Edwino eisoes fri ei dinasoedd,
A dyfod ystryw a defod estron
I ddofi ei hynni, i ddifa heniaith
A hen arferion ei chynnar fore.
Argoed, Argoed y mannau dirgel . . .
Onid yno y ganed awenydd,
Hwnnw a ganodd ei hen ogoniant,
A drodd hanesion dewredd hen oesau,
Geiriau y doethion a'r gwŷr da hwythau,
A dirgel foddau eu mydr gelfyddyd,
Yn newydd gân a gynyddai ogoniant
Ei wlad a'i hanes, a chlod ei heniaith?
A balch oedd Argoed fyned ei phrydydd
I lysoedd Gâl a seddau ei golud,
Yno er adrodd cadarn wrhydri
A moesau arwyr yr hen amseroedd,
Hen ogoniant a rhamant ei genedl
A hwythau'r duwiau yn rhodio daear.
Argoed, Argoed y mannau dirgel,
Dirfawr o ddydd fyddai'r dydd y dychwelai
Hwnnw yn ei ôl gan ddwyn ei wala
O roddion a bri, oedd iawn wobrwyon
Y newydd gân a luniodd i'w genedl
Yn nistaw ddirgel fforestydd Argoed,
Argoed, Argoed y mannau dirgel.
III
Un nos, o lys yn ninas Alesia,—
Y gaer a arafodd rwysg aerwyr Rhufain,
Yn nydd ei grym, pan na wyddai grymu
A throi i goledd llyffethair y gelyn—
Un nos, o lys yn ninas Alesia,
O ddiddanwch y gwledda oedd yno,
O ddwl dwrf y ddifeddwl dyrfa
O ferched llednoeth a meibion moethus
Y ddinas enwog, a ddawnsiai yno
A nwyd y gwin yn eu cnawd a'u gwenau,
O ymwasg fwll eu masw gyfeillach
A herw drachwant aml daer edrychiad,
I'r oer wyll y daeth rhyw ŵr allan
I awyr y nos; at y mur y nesai
Yn flin ei wedd ac fel un a wyddai
Ei waradwyddo'n lle'i anrhydeddu.
Am ennyd y safodd mewn dwys ofid,
Fel un a wynebo flin anobaith,
Canys yn ei galon y noswaith honno,
Yntau a wybu am byth fynd heibio
Hen ogoniant a rhamant ei genedl,—
Efô, a ganodd ei phrif ogoniant,
A drodd hanesion dewredd hen oesau,
Geiriau y doethion a'r gwŷr da hwythau,
A dirgel foddau eu mydr gelfyddyd,
Yn newydd gân a gynyddai ogoniant
Ei wlad a'i hanes a chlod ei heniaith—
Yn ofer aethai ei lafur weithion,
O dynnu Gâl dan wadnau ei gelyn,
A dyfod ystryw a defod estron
I ddofi ei hynni, i ddifa heniaith
A hen arferion ei chynnar fore;
Na'i ddull na'i iaith ni ddeallen' weithion,
Am ei ganiad ni chaffai amgenach
Na thaeog wên wrth ei chwith oganu
â di-raen lediaith o druan Ladin-
Yn ofer aethai ei lafur weithion!
Natur bod taeog yn daeog? Diau.
A wertho'i ran, eiddo'r gwarth... Er hynny. . .
A glywid yn Argoed freg Ladin ŵyrgam
Genau halog y taeog anheilwng?
A ddôi yno do na byddai'n dyall
Geiriau y doethion a'r gwŷr da hwythau?
A ddôi yno ben ar ddawn a bonedd
A moesau glân, rhag gormes gelynion?
A bregliach bas yn lle iaith urddasol,
A budron anwiw lle bu dewrion unwaith?
Yna yn loywgoch enynnu o'i lygaid,
A berwi o'i waed pan glybu, o'r adail,
Sŵn chwerthin taeog. A'i ben ar ogwydd,
Arhosodd ennyd. Petrusodd. Yna,
Fel un a welo o flaen ei olwg
Ddiwedd byth ar ddydd ei obeithion,
Gan ryw igian a llyncu ei anadl,
Chwarddodd yntau, a cherddodd i'w antur,
A'i lwybr a guddiwyd gan wlyb oer gaddug.
IV
A ched o Argoed a archwyd, deirgwaith,
A hithau, deirgwaith, a wrthyd Argoed,
Canys Argoed erioed ni roddes anrhydedd
I rymus dieithr na gormes daeog;
Ffyddlon ydoedd ei chalon; ni chiliai
O gof fyth yno gyfoeth ei hanes;
A salwaf un oedd y sawl a fynnai
Dderbyn iau gelyn heb ias o gywilydd
A noeth waradwydd heb unwaith wrido.
Cyn rhoi ced, cyneuer y coedydd,
A threnged yr olaf o Blant Arofan
Heb wawdio hanes, heb wadu heniaith
Na hen arferion eu cynnar fore!"
Hyd eithaf Argoed yr aeth heb oedi
Y gair, a dilys pob gŵr o'i deiliaid;
A farnwyd, barnwyd heb un a'i croesai,
A barwyd, beiddiwyd, heb un a rusodd, . . .
Ni chaed, er ystryw, na ched i'r estron,
Na da nac ysbail, na dyn i'w gosbi,
Yno ni welid ond un anialwch—
Rhyw wast o ludw lle bu fforest lydan.
Argoed, Argoed y mannau dirgel,
Ble'r oedd dy fryniau, dy hafnau dyfnion,
Dy drofâu tywyll, dy drefi tawel?
Tawel dy fyd nes dyfod dy dynged
Hyd na welid o'i hôl ond anialwch
Du o ludw lle bu Argoed lydan.
Argoed lydan... Er dy ddiflannu,
Ai sibrwd nerth dy ysbryd anorthrech
O ddyfnder angof a ddaw pan wrandawer...
Pan fud wrandawer di-air leferydd
Y don o hiraeth yn d'enw a erys,
Argoed, Argoed y mannau dirgel?