Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Breuddwyd Dafydd Rhys

Oddi ar Wicidestun
Eryri Wen Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Chwalu

BREUDDWYD DAFYDD RHYS

I

Un nos Nadolig gynt,
Drwy eira mawr a gwynt,
Y cerddai hen delynor dros y mynydd yn flin;
Y nef oedd ddu ac oer,
Heb seren fach na lloer,
Na hanes yn yr anial am na chysgod na ffin;
A'r esmwyth eira mân,
Mor oer, mor wyn a glân,
Yn disgyn o'r wybrennau,
Fel tynged o'r nennau
I fferu'r gwythiennau
Fu gynt yn llawn o dân
Yn nyddiau mwyn ieuenctid a gwynfyd y gwin.

II


A'i flinder ef yn fawr,
Gorweddodd ar y llawr,
A'i lygaid yn diffygio gan ryw syrthni mor synn;
A chlywai felys gân,
Fel pe bai'r eira mân,
Bob pluen wen yn canu yn y gwagle oer gwyn;

A mwyned oedd y gân,
Nid oer yr eira mân,
A swyn y gân a'i synnai,
A gwrando a fynnai,
A'r breuddwyd a'i tynnai
I ganlyn nwyf y gân,
I ddawnsio gyda'r eira yn y gwagle oer gwyn.

III


Daeth dros ei wyneb wên,
Ni theimlai mwy yn hen,
Anghofiodd bob blinderau a gofidiau, bryd hyn;
A'r esmwyth eira mân
Oedd drosto'n amdo lân,
Ac yntau yn breuddwydio wedi'i swyno yn synn;
Ni welai ddim o'r byd,
Fe aeth yn glyw i gyd,
A'r canu yn ei dynnu,
Ei swyno a'i synnu
I fyny, i fyny,
Mewn hoen o boen y byd,
I ddawnsio gyda'r eira yn y gwagle oer gwyn.


Nodiadau

[golygu]