Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Breuddwydion

Oddi ar Wicidestun
Hydref (1906) Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Unwaith daw eto Wanwyn

BREUDDWYDION
I T.O.J.

Mi glywaf o'm ystafell
Ofid calon beiston bell
Yn wylo oesol alaeth
Ar wyw, drist, ddigysur draeth,
Heno, a mi fy hunan,
O hiraeth tost wrth y tân,
Yn ôl yn olrhain helynt
Dau oedd gu, y dyddiau gynt.

Ai mwyn hun Menai heno,
Ai ton greg sy'n tynnu gro
I'w maith hwrdd anesmwyth hi,—
Storm oer drist o'r môr drosti?
Neu a ddaw maith floedd y môr
I'th anfon dithau, Wynfor,
Er edrych lle bu rywdro
Rywun fu ran o'r hen fro?

A glywi uchel helynt
Tyrrau'r gaer yn torri'r gwynt

Onid yw ei erwin dôn
Mal llais brad mall ysbrydion?
A ddaw'r glaw'n gynddeiriog li
○ oror oer Eryri,
Yn ddŵr glas trwy ddôr y glyn,
Lle mae'r gwyll ym mro Gwellyn?
Neu a hyrddir ei harddwch
Heno i lawr, fel arian lwch,
A'i ronynnau draw'n ennyn
Uwch brig coed, fflach barrug gwyn?

Neu a hun anian heno
Heb na thrwst uwch ben, na thro
Awel unwaith drwy lwyni
I beri un sŵn byrr na si?
A gyfyd tarth rhag afon
Er gwisgo tir? A gwsg ton?
A rydd llewych hardd lleuad
Arian lif ar hun y wlad?
A huna'r byd un awr bach
I roi'i le i'r awr loywach,-
Y breuddwyd na bu roddi,
Ar ddihun awr, oedd i ni
Mor bêr-tra bo ddim o'r byd,
Honno biau hoen bywyd !
Byd na bo ydyw'n bywyd,
Bywyd na bo ydyw'n byd!


Dithau, fy nghymrawd, weithion,
A glywi di lef y don
Yn dywedyd ein didol,
Na ddaw ein hen ddyddiau'n ôl,
Namyn yn llwyd freuddwydion?-
A! dristed wyd, drwst y don!


Nodiadau

[golygu]