Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Bywyd

Oddi ar Wicidestun
Gwennol Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Gwir a Gau

BYWYD

Da a bai ydyw bywyd,
Heb dda a bai ni bydd byd.

Pa beth ydyw byw a bod?
Nwyd ofer, yna difod.

Cywir hanes byd cryno
Fyth o raid yw twf a thro.

Ofered oedd y ferr daith—
Anwyled gael hon eilwaith!
Brwydro'n lew am ffydd newydd,
Ar hynny ffoi i'r hen ffydd.

Onid gwell un Pab bellach
Na degau o babau bach?

Difa o dafod bob defod,
A dyfod defod o dafod.

Cot ffwrr Cati a'i ffroc gwta—
Drysu dyn dirodres da.


Na thraetha'n lew dy newydd—
Onid oedd hen cyn dy ddydd?

Gwylied a ddywed ddeuair
Rhag ofn mai ofer rhoi gair.

Ba ddawn well, lle byddo, 'n wir,
Na'n gweled fel y'n gwelir?
Am unwaith pe caem honno,
Dyn ni fâi nad mudan fo.


Nodiadau

[golygu]