Caniadau (T. Gwynn Jones)/Chwalu
Gwedd
| ← Breuddwyd Dafydd Rhys | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Pelydryn → |
CHWALU
Mae'r nos yn drom a distaw,
A phentwr o waith ar y bwrdd;
Paham na fedrwn i weithio?—
Aeth rhywun, a rhywbeth, i ffwrdd.
Blinodd a phallodd fy llygaid,
Peidiodd pob peth â'i dwrdd;
Paham na fedrwn i gysgu?—
Aeth rhywun, a rhywbeth, i ffwrdd.
Daw thywun yn ôl dro eto,
Nid hir na chawn eilwaith gwrdd;
Paham na bawn megis y byddwn?—
Aeth rhywbeth, am byth, i ffwrdd.